06/03/2009

Hiwmor yn erbyn yr ods!

Newydd siarad efo fy ffrind sy'n byw drws nesa. Roedd o'n flin ei fod o wedi gorfod treulio Dydd Gwyl Dewi - o naw o'r gloch y bore tan bump y prynhawn - yn siarad Saesneg.

Wedi cytuno i fynd ar gwrs Cymorth Cyntaf ar ran mudiad gwirfoddol lleol oedd o (pam fod y cwrs ar ddydd Sul, dwn i ddim), gan fod pob mudiad sy'n ymwneud â'r cyhoedd yn gorfod cael bobl cwaliffied mewn cymorth cyntaf yn eu rhengoedd, am wn i.

Ar y cwrs efo fo, oedd 6 person arall - o Fairbourne, Morfa Nefyn ac Abersoch. A'r cwbl, yn ogystal â'r instryctor, yn Saeson. Oedd, fel Cymro, roedd fy ffrind yn owtnymbyrd o 7 i 1.

O fewn dim, roedd o wedi cael llond bol o'r "we've got a summer home in Fairbourne" ac yn y blaen, ond mi sticiodd ati, chwarae teg, er mwyn gorffen y cwrs. Ond roedd rhaid iddo wneud rhywbeth i dorri ias, er mwyn gallu teimlo'n fwy cyfforddus ymysg yr estroniaid. Felly, pan orchmynnodd yr instryctor iddyn nhw fynd i mewn i'r ystafell nesaf "to look for the patient", mi welodd ei gyfle.

Wrth i'r chwech Sais glosio at y dymi oedd yn gorwedd efo sos coch drosto, ar y bwrdd, rhedodd fy mêt heibio iddyn nhw, gwneud fforward rôl, a sbringio i fyny i'w draed wrth ymyl y bwrdd, pwyntio yn ddramatig at y dymi, a gweiddi, "dyma fo!"

Chwarae teg!

05/03/2009

Achub y Sesiwn, ac achub ein hunanbarch

Wel, dyna ni. Dim Sesiwn Fawr eleni. Mae'r cyhoeddiad wedi ei wneud, ac mae gan Gymry Cymraeg ifanc sy'n 'dilyn cerddoriaeth' yng Ngwynedd a thu hwnt rwbath i siarad amdano pan fyddan nhw'n mynd allan y penwythnos yma i wario ffortiwn ar uchafbwynt nosweithiol y chwydfa fler, gyhoeddus ar y pafin.

Ia wir, sioc ydi hi iddyn nhw, na fydd gŵyl sydd wedi darparu amser bythgofiadwy - heb son am gyfleon diri i chwydu, malu tentia, a chwydu chydig mwy - iddyn nhw bob blwyddyn ers amser bellach, yn digwydd eleni. Ia wir. Falla wnaiff hâf heb y Sesiwn Fawr ddysgu iddyn nhw werthfawrogi'r ŵyl a'i chyfraniad i'w bywyd cymdeithasol a diwylliannol. Hynny yw, ei gwerthfawrogi hi ddigon i helpu i'w hachub o'i thrafferthion ariannol.

Er cynddrwg ein sefyllfa ddiwylliannol fregus, mae na genhedloedd bychain di-wladwriaeth a diwylliannau lleiafrifol eraill sydd mewn llawer gwaeth twll na ni'r Cymry Cymraeg. Ond does yna run ohonyn nhw, hyd y gwn i, sydd mor ddiog a difater â ni. Mae nhw i gyd yn llwyddo i gynnal gwyliau llwyddiannus yn flynyddol, a phob un yn ffrwyth cyd-dynnu a chydweithredu'r gymuned a chenedl/lleiafrif cyfan. Ac os oes unrhyw fygythiad ariannol i'r gwyliau hynny, mi ddaw'r bobol at ei gilydd a mi godan nhw'r pres sydd ei angen, a mi gan nhw hi yn ôl ar ei thraed ymhen dim.

Iawn, mae 'na elfen o wirionedd yn y ddadl fod sefyllfa cymharol iach diwylliant Cymraeg, o ran fod gennym ni sefydliadau cenedlaethol fel sianel deledu Gymraeg ac ati, yn golygu dirywiad ar lawr gwlad yn ein cymunedau, wrth i feddyliau annibynol a thalentau byrlymus gael eu llusgo naill ai i Gaerdydd neu i yrfaoedd efo cwmniau teledu lleol sy'n rhan o'r diwydiant cyfryngol. Dyna ydi ochr arall y geiniog o gael sefydliadau fel S4C, y Bwrdd Iaith a'r Cynulliad Cenedlaethol a.y.b. - gwaedlif talent, ymroddiad a gweledigaeth o'r ardaloedd Cymraeg yn gadael dim digon o drefnwyr a gweithredwyr cymunedol a diwylliannol ar ôl (yr un rhai sydd i'w gweld yn gneud bob dim, yn anochel, sylwch).

Mae'n wir i ddeud hefyd, fod gormes biwrocrataidd y Blaid Lafur, ynghyd a'u glyniant i fodelau ariannol Thatcher, yn golygu fod costau Iechyd a Diogelwch, a chydweithrediad yr heddlu, yn golygu ein bod o dan anfantais yma o'i gymharu â rhai o'r gwledydd bychain eraill.

Ond does 'na run o'r rhain yn esgus. Achos mi ddylan ni fod yn gryfach na hynny. Dylia bod ni'n gallu bod yn ddigon ymroddgar a chydwybodol - ac efo digon o dalent - i gynnal sefydliadau cenedlaethol (a bwydo'r diwydiant atodol) yn ogystal â chynnal y mentrau a digwyddiadau sy'n helpu i gynnal cymunedau a'u gwneud yn llefydd gwerth byw ynddyn nhw. Rhyngthon ni, mae gennym ni ddigon o ddoniau a sgiliau a chrefftau ac adnoddau i'w cyfrannu i wneud i ŵyl gerddorol dalu'i ffordd!

Efallai ein bod wedi'i chael hi'n rhy dda. Yn genedlaethol, rydan ni wedi dod i arfer efo handowts gan y wladwriaeth - da ni'n rhai da am ddisgwyl i Lundain roi petha i ni, ond yn da i ddim byd am sefyll ar ein traed ein hunain. Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein cymunedau, lle mae efallai gormod o grantiau wedi bod yn cael eu taflu o gwmpas, yn gyffredinol, dros y blynyddoedd dwytha. Mae o'n sicr yn cael ei adlewyrchu yn agwedd ein pobl. Mae gormod ohonom erbyn hyn yn disgwyl cael bob dim ar blat - popeth wedi'i goginio'n flasus ar eu cyfer gan yr un criw bach ymroddgar bob blwyddyn. Mae o'r un mor wir yn achos y Sesiwn ag ydio am Gwyl Car Gwyllt - fydd, mwya tebyg, ddim yn digwydd eleni chwaith, oherwydd diffyg ymateb i apel am fwy o aelodau i'r pwyllgor oedd eisoes wedi shrincio i 4 aelod (mewn tref o dros 4,000 o bobl!).

Yndi, mae'n hunanbarch ni ar all time low. Os nad oes ganddon ni ddiddordeb mewn cynnal ein diwylliant a'n gweithgareddau cymunedol ein hunain, yna sut allwn ni fod â hygrededd fel cenedl a phobl? Sut allwn ni fod â'r gwyneb i heidio i unrhyw weithgaredd mae'r wladwriaeth - yn y bôn - wedi dalu amdano, a heidio'n feddw o flaen camera teledu i ganmol y Sesiwn - a'r trefnwyr am roi cymaint o fwynhad i ni - ac i ddatgan mor bwysig ydi'r digwyddiad i'n calendr cymdeithasol ac i'n bywydau personol a chenedlaethol, yna, pan mae'n dod i'r crynsh, ffwc o neb onan ni'n barod i helpu, heb son am roi ein dwylo yn ein pocedi?

Felly, be amdani? Be am i bawb sydd wedi mynychu'r Sesiwn Fawr dros y blynyddoedd diwethaf ddangos ein bod hi'n werth mwy i ni na wicend o feddwi'n gacan ar y Marian bob blwyddyn? Be am i ni gyd gyfrannu cyfran o'r arian fyddan ni'n ei wario fel arfar yn y Sesiwn Fawr bob blwyddyn, i'r apêl i godi arian i'w hachub hi? Tasa ni i gyd ond yn rhoi deg punt yr un, hyd yn oed, fysa fo'n sicrhau ei bod yn werth ei chynnal hi y flwyddyn nesa, a tasa ni'n rhoi pymtheg, neu ugain punt, fysa hi'n saff. Be uffarn ydi hynny o'i gymharu a gwario hannar can punt ar nos Sadwrn yn yr un hen dafarnau da ni'n arfar mynd iddyn nhw, i bwmpio'n stumogau allan ar y pafin ar ddiwadd nos? Rois i £20 i Comic Relief heddiw. Rois i £30 i apêl Gaza yn ddiweddar. A dw i ddim yn ennill cyflog. Be dwi di neud ydi sdopio mynd i pybs ar wicend i biso pres prin yn erbyn y wal.

Ffordd dwi'n sbio arni, os na achubwn ni'r Sesiwn Fawr fydd o'n all-time low yn hanes dirywiad ein cydwybod cymdeithasol, traddodiad cydweithredol, ysbryd cymunedol, hygrededd a hunanbarch fel Cymry Cymraeg. Ond os wnawn ni ei hachub, meddyliwch gymaint cyfoethocach yn ysbrydol a chymaint yn fwy hyderus yn ein galluoedd ein hunain y byddwn ni wedyn! Mae pres yn gallu prynu cwrw a cur pen bora wedyn, ond mae chydig o bres yn y lle iawn yn gallu prynu rwbath llawar llawar gwell. Mae'r teimlad o gyflawni rhywbeth efo'n gilydd yn rhywbeth amhrisiadwy. Y teimlad yna ein bod ni wedi dangos ein bod ni isio gweld y Sesiwn yn parhau, a'n bod ni - ia ni, y bobol - isio ei hachub, ein bod ni'n barod i drio'i hachub, ac ein bod ni YN MYND i'w hachub. Yna datgan i'r byd - yn falch ac efo cydwybod clir - ein bod ni WEDI EI HACHUB!

Rhowch o fel hyn - mi fysa'n well gen i roi hannar canpunt i achub y Sesiwn na talu ffeifar bob wythnos o'r flwyddyn am rifau loteri, er mwyn talu am Olympics Llundain yn 2012. Ac ar ddiwadd y dydd, mae rhoi cyfraniad ariannol i'r Sesiwn Fawr yn fuddsoddiad diwylliannol a chymdeithasol gwerth ei wneud os ydio'n golygu fod yr ŵyl yn parhau am ddeng mlynadd arall, ac y bydd hi'n dal yn fflio mynd pan fydd fy mhlant innau yn chwydu ar bafinoedd ac yn malu tentia!

03/03/2009

Y Gyfraith Foesol yn fyw o hyd

Ddoe, fe gyhoeddodd y Department of Transport y byddant yn diddymu'r gwaharddiad ar arddangos baner y Ddraig Goch ar blatiau rhifau cofrestru ceir. Bydd hyn yn digwydd ddiwedd mis Ebrill - saith mlynedd wedi iddynt addo ailedrych ar y rheol.

Ond be sy'n ddifyr ydi fod degau o filoedd o Gymry wedi bod yn arddangos y Ddraig Goch ar eu platiau ers blynyddoedd bellach, er eu bod yn ymwybodol eu bod yn torri'r gyfraith ac yn risgio dirwy o £60 am wneud hynny.

Mae hyn yn engraifft berffaith o bobl yn dewis anwybyddu - a thorri - cyfraith gwlad os ydyn nhw'n teimlo ei bod yn anheg, anghyfiawn neu'n anfoesol, ac yn dewis dilyn yr hyn mae haneswyr wedi ei henwi yn 'gyfraith foesol' - cyfraith annysgrifenedig sydd yn cadw at chwarae teg a chyfiawnder, ac y mae trwch y boblogaeth yn credu ei bod yn iawn torri cyfraith gwlad er mwyn ei dilyn. Os oedd cyfraith gwlad yn un amlwg anheg yng ngolwg y rhan fwyaf o'r boblogaeth, yna doedd dim ofn gan neb ei thorri hi, yn gwbl agored a chyhoeddus. A doedd dim stigma ynghlwm â hynny chwaith. Doedd pobl ddim yn cyfri eu hunain yn griminals am dorri'r gyfraith anghyfiawn, a doedd pobl ddim yn edrych arnyn nhw fel criminals chwaith. Yn wir, fyddai y rhan fwyaf o'r bobl oedd yn torri'r cyfreithiau anghyfiawn byth yn meiddio torri cyfreithiau eraill a herio'r drefn mewn unrhyw ffordd, dan amgylchiadau naturiol. Yn syml, roedd 'na rai cyfreithiau gwlad hynod anheg ac roedd pobl yn fodlon gwneud safiad, a chyn belled nad oedd neb diniwed yn cael niwed, doedd y gyfraith foesol heb ei thramgwyddo.

Os oes un peth sydd yn drech na chyfraith gwlad, felly, y gyfraith foesol yw honno. Yn hanesyddol, dilyn y gyfraith foesol a herio cyfraith gwlad oedd y terfysgwyr ŷd yn y 18ed a 19ed ganrif, wrth ymosod ar stordai ŷd oedd yn cadw'r ŷd oddi ar y bobl er mwyn ei werthu am grocbris, ar adegau o gynhaeafau sal a phrinder bwyd. Y gyfraith foesol oedd yn gyrru Rhyfel y Degwm yn erbyn hawl yr Eglwys i gymeryd degfed rhan o ennillion a chynnyrch ffermwyr a thenantiaid tlawd y tirfeddianwyr Anglicanaidd cefnog, er mai capelwyr Anghydffurfiol oeddynt. Y gyfraith foesol oedd yn arwain y terfysgoedd yn erbyn cau'r tiroedd comin. Y gyfraith foesol oedd yn cyfrif am y gefnogaeth - a chydweithrediad - poblogaidd i smyglo, oherwydd y trethi a thollau anghyfiawn o uchel oedd ar nwyddau fel tybaco, gwirod, tê, siwgr, sebon a sidan - a myrdd o bethau eraill.

Ac yn un o'r engraifftiau mwyaf amlwg yng Nghymru - y gyfraith foesol oedd sylfaen moesol Merched Beca wrth iddyn nhw dorri cyfraith gwlad wrth ymosod ar y tollbyrth noson ar ôl noson yn yr 1830au a 40au.

Yn rhyngwladol, edrychwch yn ôl i flynyddoedd Prohibition yn yr UDA, pryd oedd rhan fwyaf y genedl yn torri cyfraith gwlad yn ddyddiol oherwydd fod y gyfraith honno yn mynd yn groes i foesoldeb trwy wahardd arferiad mor naturiol â mwynhau ychydig bach o alcohol!

Yn y cyfnod modern, rydan ni wedi gweld miloedd o bobl yn ymwrthod â chyfraith gwlad anfoesol y Poll Tax trwy dorri cyfraith gwlad a pheidio ei dalu (neu gymeryd rhan mewn terfysgoedd yn ei erbyn). Rydym wedi gweld blynyddoedd o gefnogaeth boblogaidd i'r farchnad ddu mewn tybaco a gwirod duty free oherwydd fod pobl yn teimlo fod trethiant gormodol ar gwrw a ffags yn anghyfiawn. Does fawr neb yn edrych ar rywun sy'n gwerthu chydig o faco, neu dafarnwr sy'n gwerthu ambell botel o fodca diwti ffri, fel troseddwr y dylid ei lusgo o flaen ei well. Tydi pobl ddim yn edrych ar werthwyr copiau peirat o DVDs a CDs mor ddifridol a mae'r awdurdodau yn edrych arnynt. Yn llygaid y bobl, sydd yn gwybod beth yw pris cynhyrchu'r disgiau, maent yn gwneud cymwynas â nhw drwy ddarparu cynnyrch am bris rhad.

Does neb chwaith yn gweld unrhyw beth yn anfoesol mewn cadw arian rhag dwylo'r Dyn Treth Incwm! Mae'n iawn, yng ngolwg cymdeithas, i rywun werthu samons neu bysgod môr, neu goed tân, am arian parod, a does neb yn rhedeg at yr awdurdodau i grassio rhywun i fyny am wneud diwrnod o waith am arian parod ar benwythnos. Eto, mae'r gweithredoedd yma, yng ngolwg cyfraith gwlad, yn anghyfreithlon - fel y mae fandaliaeth, dwyn a llofruddiaeth yn anghyfreithlon. A fyddai neb yn fodlon troi llygad i ffwrdd o'r gweithgareddau hynny! Gwelwn yr un egwyddor ar waith gyda defnyddwyr cannabis. Yn eu barn nhw mae cyfraith gwlad ar y cyffur yn gwbl anghyfiawn, felly mae nhw'n fwy na pharod i dorri'r gyfraith honno er na fyddai'r rhan fwyaf ohonynt yn meiddio torri cyfreithiau eraill, ac ddim yn cyfri eu hunain yn 'criminals' mewn unrhyw ffurf.

Ac wrth gwrs, faint ohonom sydd yn credu fod gyrru car dros 60 milltir yr awr ar ffordd syth, agored heb draffig, yn rhywbeth drwg neu anfoesol i'w wneud?

Ydi, mae'r Gyfraith Foesol yn fyw o hyd, diolch byth. Ac engraifft arall o hynny - pobl yn fodlon torri cyfraith gwlad ar raddfa eang a phoblogaidd, a hollol dderbyniadwy yng ngolwg gweddill cymdeithas - ydi'r ffaith fod degau o filoedd o Gymry wedi bod yn gosod y dreigiau cochion ar eu platiau cofrestru dros y blynyddoedd dwytha 'ma.

Hir oes i'r gyfraith foesol!

Y Rhufeiniaid ar S4C. Ond......

Digwydd clywed darn o sgwrs rhwng Nia Roberts a Rhun ap Iorwerth ar y radio funud yn ôl. Bydd Rhun yn cyflwyno tair rhaglen ar hanes y Rhufeiniaid yng Nghymru, ar S4C, fydd yn dechrau ar y 10ed o'r mis yma.

Mae'n swnio'n gyfres gyffrous, ond mae gen i un pryder yn barod! Soniodd Rhun ap Iorwerth am deithio ar y ffordd (yr A470) heibio Trawsfynydd, a chanmol y Rhufeiniaid am ei gwneud hi mor syth, gan ofyn, yn ysgafn, pam na fysan nhw wedi gwneud rhai o ffyrdd y de mor syth â hon.

Y broblem sydd gen i ydi, nad y Rhufeiniaid adeiladodd y ffordd yma rhwng Trawsfynydd a Dolgellau (hynny yw, nid ar lwybr ffordd Rufeinig yr adeiladwyd yr A470 yn fan hyn)! Mae'r ffordd Rufeinig o Domen y Mur (i'r gogledd o Drawsfynydd) i Brithdir, yn rhedeg chwarter milltir i'r dwyrain o'r ffordd fodern yma, yn esgyn rai cannoedd o droedfeddi i fyny'r bryniau wrth fynd am y de o Drawsfynydd! Dyma Sarn Helen - ffaith sydd wedi ei gadarnhau gan archeolegwyr a haneswyr (fe'i gelwir hynny ar y mapiau), ac mae hi'n rhedeg yn ei blaen o Domen y Mur, ar draws Cwm Cynfal ac yn ei blaen i Gaerhun.

Deud y gwir, tydi'r ffordd Rufeinig ddim yn cyffwrdd â'r A470 yn unlle ym mhlwyf Traws - er ei bod yn dod o fewn canllath iddi rhwng y pentref a'r Atomfa. Yng nghyfnod y Rhufeiniaid roedd y tir y mae'r A470 syth, i'r de o Traws, yn goedwig ar ymyl tir corsiog go eang.

Tydi'r ffordd fawr rhwng Traws a Dolgellau (yr A470 bellach) ddim yn hen iawn. Roedd yr hen ffordd yn rhedeg yn weddol gyfochrog â Sarn Helen i Benstryd (uwchben Rhiwgoch, Bronaber), cyn ymuno â'r Sarn ar Ffridd Tyddyn Du ger Craig Penmaen, ac yn ei blaen am Ddolgellau wedyn. Mae'r hen gerrig milltir yn dal i sefyll ar ei hydddi - rhai wedi eu hailgodi yn ddiweddar, fel rhan o brosiect lleol.

Digwydd bod - os y gwelwch fy nhweets ar Twitter - mi fuas i'n cerdded Sarn Helen ddydd Sadwrn a ddydd Sul dwytha, ac mi fydda i'n postio'r hanes a'r lluniau i fyny ar y blog 'ma cyn hir. Mae posib dilyn y Sarn yr holl ffordd o ardal pont Dolgefeiliau (rhwng Ganllwyd a Thrawsfynydd) i Tomen y Mur, ble mae ffyrdd Rhufeinig eraill yn cyfarfod - un o Segontiwm, un arall o Gaergai (Llanuwchllyn) via Cwm Prysor a gwersylloedd Hiraethlyn, Dolddinas a Dolbelydr, ac un arall nas gŵyr neb yn union lle mae hi'n mynd. Mae posib dilyn y Sarn o Domen y Mur i lawr i Gwm Cynfal, ac i fyny heibio hen gaer Frythonig Bryn Castell uwchben Llan Ffestiniog, ac ymlaen i Gaerhun.

Dwi'n gobeithio nad yw faux pas Rhun ap Iorwerth yn rhan o ymchwil y rhaglen, ond yn hytrach yn gamgymeriad o'i ben ei hun wrth sgwrsio ar y radio heddiw. Byddai camgymeriadau o'r fath yn tanseilio hygrededd yr holl gyfres, ac yn sbwylio fy mwynhad ohoni wedyn.

02/03/2009

£48m dan fatras Cyngor Gwynedd (ond gadael eu gwlau fydd henoed Bryn Llewelyn)

Daeth i'r amlwg heddiw - diolch i ymholiad dan y Ddeddf Gwybodaeth Cyhoeddus gan BBC Cymru - fod gan Gyngor Gwynedd bron i £48 miliwn o bunnoedd wedi ei stashio i ffwrdd i'w gadw. Mae hynna'n bron i chwarter (24%) o gylllid y cyngor o £198miliwn o bunnau am flwyddyn.

Ia, dyna chi - y cyngor driodd (ac a fethodd) gau dwsinau o ysgolion bach gwledig oherwydd diffyg arian, y cyngor a driodd (ac a fethodd) gau dwsinau o doiledau cyhoeddus y sir oherwydd diffyg arian, y cyngor sydd yn trio (ond yn sicr o fethu) cael ysgolion cynradd y sir i gyfrannu £1,000 o'u cyllid blynyddol i gyflogi athrawon er mwyn lleihau maint dosbarthiadau mewn llond dwrn o ysgolion, y cyngor sydd wedi cydnabod yn gyson ac agored fod canran mawr o'i dai cyngor mewn angen dirfawr am waith cynnal a chadw pwysig ond nad oes ganddyn nhw'r cyllid i wneud hynny (ac na fydd ganddyn nhw tan ar ôl 2012), a'r cyngor sydd newydd bleidleisio i gau Cartref Henoed Bryn Llewelyn, yn Llan Ffestiniog, er mwyn - ia, dyna chi - "diffyg arian".

Byddai ffracsiwn o'r £48 miliwn yn talu am greu lle i hanner dwsin yn fwy o wlâu ym Mryn Llewelyn - fyddai'n dod a chostau-fesul-gwely rhedeg y cartref i lawr i'r pris mae nhw'n ddeisyfu, ac a fyddai'n sicrhau dyfodol swyddi'r gofalwyr yno, a sicrhau bod yr henoed sydd yno yn cael aros yn y lle mae nhw'n ei gyfrif fel eu cartref.

Dyna ydi'r parch sydd gan Gyngor Gwynedd at blant, athrawon, teuluoedd a henoed y sir yma! Torri gwasanaethau, cosbi ariannol, colli swyddi, gadael pobl yn byw mewn tai is-safonnol, cau cartrefi - tra'n eistedd ar fwy o gash na'r Euromillions Rollover. "Stwffio chi i gyd, gewch chi ddiodda. Ond cofiwch dalu'ch treth cyngor flwyddyn nesaf - fydd yn cynnwys y codiad blynyddol arferol fydd wedi'i gynnwys 'oherwydd gwasgfa cyllidol' o lywodraeth ganolog!"

Alla i ddim galw hyn yn sgandal, gan fod celcio pres fel hyn yn arferiad y mae'r cynghorau i gyd yn ei wneud (yn dawel, heb adael i ni'r trethdalwyr wybod), ers blynyddoedd mae'n debyg. Ond mi ddyweda i hyn - mae o yn gywilyddus, yn enwedig wedi blwyddyn o ddim byd ond torri, a cheisio thorri, gwasanaethau.

01/03/2009

"Grrrrrrrrr!!!" - Mr Angry, Ffestiniog

Clywed mod i'n cael fy nisgrifio fel 'angry' yn yr Herald wsnos yma. Llun o'no fi hefyd. Basdads. Jysd bo nhw'n rhan o Trinity Mirror mae nhw'n bihafio fel tabloid.

Son am y bwriad i gasglu sbwriel bob pythefnos yng Ngwynedd mae'r erthygl. Ffoniodd riportar fi dros bythefnos yn ôl, yn chwilio am farn bobol yr ardal am y bwriad. "First I heard of it," medda fi. "Well what do you think people's reactions would be?" "Probably pissed off," medda fi, "and worried about rats," gan ychwanegu ei bod yn anodd rhoi sylw call hyd nes gwybod y manylion llawn.

Wythnos yn ddiweddarach daeth y manylion gan y Cyngor (gweler isod). Tydi'r cynllun ddim yn rhy ddrwg, yn enwedig o weld fod y ddarpariaeth ailgylchu'n cael ei ehangu. Fel dwi wedi ei ddweud eisoes, mae'r cynllun yn haeddu cyfle.

Ond wele, yr Herald yr wythnos hon yn gwneud erthygl allan o'r sylwad wnes i dros y ffon - fy mod i wedi gwylltio am y cynllun! Dwi ddim yn hapus. A dwi'n mynd i sgwennu llythyr cas. Os ydyn nhw isio 'angry' mi gawn nw ffycin 'angry'!

25/02/2009

Trosglwyddo stoc dai cyngor Gwynedd - pryderon hirdymor

Dw i mewn tiroedd peryglus! Dw i wedi bod yn sgwennu am faterion sydd o bwys i drethdalwyr Gwynedd! O ganlyniad, mae'r blog 'ma wedi denu sylw awduron blogiau gwleidyddol trymion sy'n ymwneud â llywodraeth leol yn y sir! Och a gwae! Y peth olaf oeddwn eisiau oedd i'r blog 'ma fod yn llith mor ddiflas â'r adran Materion Cyfoes ar Maes-e! Felly, dwi am ymatal rhag son am faterion o bwys, a mynd yn ôl i son am bethau trifial fel y tywydd, fy hoff anifail anwes, a fy llenyddiaeth.

Cyn gwneud hynny, fodd bynnag, mae gen i rwbath arall sy'n berthnasol i Gyngor Gwynedd, yr ydw i isio ei wyntyllu. Sylwer y pwyslais ar y gair 'perthnasol' uchod - lle bod mwy o wleidyddion lleol yn neidio i mewn i amddiffyn y sefydliad rhag ymosodiad dan din arall! Dw i am ailadrodd hefyd, gan fy mod i'n ddyn amyneddgar(!), mai holl sefydliad ac adrannau a chyfrifoldebau, dyletswyddau, gweinyddiad, pwyllgorau a gweithredoedd Cyngor Gwynedd ydw i'n ei olygu wrth ddefnyddio'r geiriau 'y cyngor' neu 'Cyngor Gwynedd', nid y Siambr etholedig ar ben ei hun. A i ddim mor bell a defnyddio'r gair croendenau, ond dydw i ddim isio ypsetio unrhyw un drwy wneud iddyn nhw deimlo mod i'n cyfeirio'n uniongyrchol at ein cynghorwyr cydwybodol annwyl (er, mae'n dda o beth gweld rhai yn derbyn i'r fath raddau mai nhw sydd, ar ddiwedd y dydd, yn atebol am weithgaredd 'y Cyngor')!

Ailadroddaf hefyd, petae gennyf gyllell i'w thwistio yn ystlys Cyngor Gwynedd, y cwbwl fyddai rhaid i mi wneud fyddai cyhoeddi pob manylyn am fater personol diweddar ar y blog yma, ynghyd â'r fideos a'r ffotograffau i gyd. Ond dw i ddim yn berson maleisus. Contyn digon cegog, efallai, ond dim dyn maleisus!

Dw i isio rhannu efo chi fy marn, fel tenant i Gyngor Gwynedd, ar ambell agwedd o'r bwriad i drosgwlyddo'r stoc dai i gwmni Tai Cymunedol Gwynedd. Dwi'n dewis y gair 'bwriad' yn bwrpasol, er y gwn y bydd hynny'n ysgogi rhywun i ymateb trwy nodi mai 'ymgynghoriad' efo'r tenantiaid ynglyn â'r cynllun ydi'r gair swyddogol am y stêj yma o'r cynllun trosglwyddo arfaethedig. Ond, fel y gŵyr pawb, gobaith ac amcan y cyngor ydi trosglwyddo'r stoc dai, a bwriad y cyngor ydi perswadio'r tenantiaid mai da o beth fydd y symudiad, ac iddynt bleidleisio dros y trosglwyddo i'r cwmni preifat-elusennol hwn pan ddaw'r amser i fwrw'r bleidlais.

Tydw i ddim am eiliad yn beio'r cyngor am fod isio cael gwared o'r tai. Mae gwaith cannoedd o filiynnau o bunnoedd angen ei wneud arnyn nhw er mwyn eu cael i fyny i'r ansawdd safonnol a osodwyd gan y Cynulliad. Mewn geiriau plaen, mae golwg y ffwc ar y tai yn rhan fwyaf y stadau. Ond mae'r wasgfa ar gyllid llywodraeth leol yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn uffernol, fel y gwyddom - cymaint felly nes fod rhai cynghorau'n gorfod cymryd camau eithaf drastig, fel diffodd traean o'u goleuadau stryd, er mwyn arbed arian. Ond bwriad Cyngor Gwynedd ydi trosglwyddo'r stoc, achos mae nhw wedi gwario degau o filoedd (o leiaf, fyswn i'n ei ddweud) o bunnau ar eu hymgyrch i berswadio'r tenantiaid i bleidleisio 'ie'.

Dwn i ddim os ydi'r arian ar gyfer yr ymgyrch gyhoeddusrwydd hon wedi dod yn uniongyrchol o'r Cynulliad, ar ben cyllid normal y Cyngor. Ond be alla i ddweud ydi ein bod ni fel tenantiaid wedi derbyn chwech postiad efo gwybodaeth ar y mater. Un llythyr, un taflen fechan llawn lliw, un postiad taflen fawr mwy nag A4 llawn lliw pedair tudalen, un postiad o'r un daflen ond ei bod yn ddwy dudalen, un postiad o ddau (un i bob oedolyn yn y tŷ) lyfr 170 tudalen, maint A4, llawn lliw, ac un postiad o DVD efo'r un gwybodaeth arni. Yn ogystal, mae'r cyngor wedi cyflogi cwmni ymchwil Beaufort i ffonio pob un tenant i ofyn cwestiynnau am eu barn, ac mae nhw hefyd wedi gyrru pobl (un ai staff y cyngor neu gwmni allanol) i gnocio drws pob tenant efo holiadur. Wnaeth y pedair prif blaid wleidyddol efo'i gilydd ddim cymaint o ymdrech â hyn yn ystod yr etholiadau cyffredinol diwethaf!

Os nad yw hyn yn arwydd o beth yw barn a bwriad y cyngor, ystyriwch hefyd gynnwys y pamffledi. Does dim ynddynt ond propaganda - hynod effeithiol - yn hyrwyddo'r holl fanteision fydd yn dod i denantiaid yn sgil trosgwlyddo'r tai, ynghyd â manylion yr holl gannoedd o filynnau o bunnoedd fydd yn cael ei ryddhau i wella safon y tai, a hefyd y stadau eu hunain. Ac mae'r manteision hyn yn rhai anferth a hollol amlwg - mor anferth ac amlwg fel ei bod yn anorfod y bydd mwyafrif llethol yn pleidleisio tros y cynllun er gwaetha eu daliadau egwyddorol tros gadw'r stoc dai yn gadarn yn nwylo'r sector gyhoeddus. Yr unig beth nad yw'r 'pamffledi egluro' hyn yn ei wneud ydi datgan yn blwmp ac yn blaen 'Pleidleisiwch Ie'!

Mae'n debyg nad oes dewis ond dilyn y trywydd 'ie', achos ni fydd yr arian i wneud y gwelliannau angenrheidiol ar gael fel arall. Deud gwir, er nad oes gan y cyngor fawr o ddewis eu hunain chwaith, mae'r holl fater bron fel rhyw fath o flacmêl neu lwgrwobryo tenantiaid i bleidleisio dros y newid. Dwi'm yn deud mai dyna ydi'r bwriad canolog, ond yn sicr dyna ydi realaeth y sefyllfa. Ond dyna ni, mae'r cyngor mewn ffics ariannol, mae'r tai a'r stadau angen gwelliannau brys, ac mae tenantiaid angen gwell cartrefi ac amodau byw. Felly mae'r holl beth yn mynd i ddigwydd.

Iawn, mae'n mynd i ddigwydd, felly. Rydan ni i gyd yn mynd i gael tai safonnol, cynnes braf. Tydi'r cwmni newydd 'ma - Tai Cymunedol Gwynedd - ddim run fath â chwmni preifat go iawn. Mae o'n gwmni cyhoeddus-breifat-elusennol o ryw fath, na fydd yn gwneud elw, ac fe fydd yr arian rhent i gyd yn mynd i'r cwmni yn hytrach na bod 30% yn mynd i lywodraeth ganolog, fel sy'n digwydd ar y funud. Ac mae'r cyngor yn mynd i gael golchi ei ddwylo o'r pwysau i ffendio pres i ddarparu cartrefi safonnol i'w denantiaid - fydd yn rhyddhau arian iddyn nhw ddelio efo'r maes lle mae rhan fwyaf eu cyllid cymdeithasol yn mynd y dyddiau hyn - teuluoedd o stadau mawrion dinasoedd Lloegr sydd yn symud yma a dod â'u problemau cymdeithasol dybryd efo nhw.

Ennill, ennill, ennill, felly. Yn y tymor byr a chanol.

Ond tybed a yw hyn yn wir yn yr hirdymor? Cymerwch y rhenti. Mae nhw'n mynd i godi'n sylweddol, ac er nad yw'r codiadau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol agos yn rhan uniongyrchol o'r cynllun trosglwyddo, mae'n gwbl glir o le mae rhan sylweddol o'r cannoedd o filiynnau fydd yn cael ei ryddhau i wella'r tai yn dod o - o bocedi'r tenantiaid. Dyma'r ffigyrrau:-

Ar hyn o bryd, mae'n rhent ni yn £51.62 yr wythnos - oedd, pan gododd i'r ffigwr yma, yn godiad o dros 25% mewn pedair mlynedd (£40.48 y/w oedd o pan symudom i mewn yn mis Mawrth 2004).

Ym mis Ebrill, bydd y rhent wythnosol yn codi i £57.08 am y flwyddyn 2009/10.

Am 2010/11 bydd yn codi i £63.03

2011/12 - £69.28

2012/13 - £75.51

2013/14 - £78.18

Yn ôl geiriad y llythyr mae'r codiadau hyn oherwydd y "dynodwyd eich heiddo yn 3 llofft ar gyfer 5 person, 83.88 metr sgwar, tŷ par gyda tharged rhent newydd o £62.19 (ar y funud)." Dyma ffigyrrau oer, heb archwiliad corfforol, sydd ddim yn ystyried safon cywilyddus y tai. A cyn i neb ymateb i ddweud mai'r Cynulliad sydd wedi gorfodi hyn ar y Cyngor, yndi, mae hynny'n wir, ond y "Cyngor" sydd "wedi cwblhau adolygiad o'r rhenti ar gyfer pob math o dai Cyngor" a "cyfrifwyd rhagamcaniad eich rhent i'r dyfodol trwy ddefnyddio'r cynnydd a ddisgwylir yn y Canllaw Rhent a osodir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ogystal â'r fformiwla a gytunwyd gan y Cyngor, er mwyn i'ch rhent gyrraedd y targed rhent newydd."

Geiriau Cyngor Gwynedd, dim fi.

Dyna fo - er fod o ddim yn uniongyrchol i'w wneud efo'r cynllun trosglwyddo, cwmni newydd Tai Cymunedol Gwynedd fydd yn derbyn yr arian rhent yma i gyd, felly dyma o le fydd rhan mawr o'r 'miliynnau fydd yn cael ei ryddhau' i wario ar y tai yn dod.

Dyna ydi un pryder sydd gennyf am y trosglwyddiad arfaethedig. Yr ail ydi'r wybodaeth canlynol, sydd wedi dod gan Gynghorydd Sir ar Gyngor Gwynedd (Plaid Cymru, gyda llaw) a ddywedodd hefyd fod y cynghorwyr wedi cael gorchymun i beidio datgelu'r wybodaeth yn gyhoeddus: -

er y bydd cwmni Tai Cymunedol Gwynedd yn gwmni hanner-preifat elusennol, di-elw, does dim byd yn y cynllun trosglwyddo sydd yn rhwystro'r cwmni rhag gwerthu'r holl stoc dai i gwmni preifat - o Gymru neu Birmingham neu unrhyw le arall.

Felly dyna chi, fy sylw olaf am y tro ar faterion llywodraeth leol yng Ngwynedd. Sydd yn bechod, achos roedd gen i bethau positif i ddweud yn y ciw, hefyd, yn ogystal ag achosion o glymu dwylo'r Cyngor mewn achosion cynllunio, addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Ond dyna fo, fydda i'n nôl efo rhywbeth ysgafnach i chi yn go fuan. Dwi'n siwr fod 'na frid o lyffantod dan fygythiad yn rhywle heb fod ymhell. Yn y cyfamser, croeso i chi adael sylwadau - a mae hynny'n cynnwys Mistar Blogmanai, rwan mod i wedi maddau iddo am alw fy mhost dwytha yn 'wirion'! ;-)

24/02/2009

Dwyn gan Jac i dalu Wil

Yn y newyddion yn ddiweddar bu'r cynlluniau i gau Ysgol Croesor ac Ysgol Rhydyclafdy - y ddwy heb ddisgyblion o gwbl bellach - yng Ngwynedd, a defnyddio'r pres a arbedir i gyflogi mwy o athrawon er mwyn lleihau niferoedd mewn dosbarthiadau mewn ysgolion ar draws y sir.

Mae hyn yn gwneud synnwyr, wrth gwrs. Ond be sydd ddim yn gwneud synnwyr ydi ymgais y cyngor i wneud i bob ysgol gynradd yn y sir (boed â dosbarthiadau rhy fawr neu beidio) gyfrannu £1,000 yr un tuag at ariannu'r strategaeth (cyflogi mwy o athrawon i leihau maint dosbarthiadau yn yr ysgolion hynny sydd gan ddosbarthiadau rhy fawr).

Mae gofyn i bob ysgol, waeth pa mor fach neu fawr a waeth be bynnag yw maint eu cyllid a'u balans banc, gyfrannu'r un faint o arian i'r pot, yn hytrach na chanran, yn afresymol. Mae cyllid a chyfrif banc ysgol sydd efo 400 o blant yn llawer llawer mwy na chyllid ysgol efo 50.

Mae ysgolion eisoes wedi cytuno i gyfrannu'r llogau ar eu cyfrifon banc i'r pot hwn - sydd yn system decach, fyddwn i'n teimlo, gan fod gan rai o'r ysgolion mwyaf symiau sylweddol o gyfalaf yn y banc - yn enwedig o'i gymharu â'r ychydig gannoedd sydd gan yr ysgolion bychan.

'Hunger'

Gwyliais y ffilm Hunger neithiwr, ar DVD. Roeddwn wedi edrych ymlaen yn eiddgar i'w gweld hi, byth ers clywed yr adolygiad cyntaf ohoni pan oedd hi ar fin cael ei rhyddhau. Roedd hi'n ennill gwobrau sy'n cyfri go iawn (h.y. dim y ffycin Oscars a'r Baftas), ac roedd hi'n cael ei thipio i beidio ennill yr un o'r gwobrau mainstream hynny, er fod ei sinematograffi, sgrînple, prif actor, golygu a chyfarwyddo yn sicr yn haeddu enwebiadau. Roedd ei phortread cignoeth o ddioddefaint ac aberth Bobby Sands a gweddill carcharorion Long Kesh, a'i hymdriniaeth ddwys a phwerus o egwyddor a moesoldeb eu safiad eithaf yng ngoleuni eu sefyllfa, yn un oedd yn mynd i ypsetio'r awdurdodau Prydeinig (am ei fod o'n rhy agos at y gwir), felly roedd hi'n argoeli ac ymddangos fel ffilm oedd yn werth ei gwylio. Ches i ddim fy siomi.

Mae hi'n ffilm ysgytwol. Hollol, hollol ysgytwol. Hyd yn oed i'r sawl ohonom sy'n fwy cyfarwydd â'r stori nag eraill. Mae hi hefyd yn brydferth, gan fod gwir gelfyddyd a gwreiddioldeb ym mhob agwedd o'r cynhyrchiad - o'r tawelwch am rannau helaeth o'r hanner cyntaf, i'r golygu a chyfarwyddo a sgript effeithiol (gweler yr olygfa wefreiddiol rhwng Sands a'r offeiriad, yn enwedig), ac i'r sinematograffi sy'n rhoi naws arbennig i'r ffilm ac amlygu tywyllwch y portread i raddau celfyddydol gwefreiddiol. Ategir hyn i gyd gan berfformiadau swynol a phwerus gan y cast i gyd, yn enwedig Michael Fassbender fel Bobby Sands.

Ond nid yw'r clyfrwch yn gyfyngedig i hyn i gyd. Cyfrinach y ffilm ydi ei bod yn cadw i ffwrdd o'r gwleidyddiaeth bron yn gyfangwbl. O ganlyniad mae hi'n ddeg gwaith mwy pwerus.

Be sydd gennym yw'r darlun dynol. Ond nid o safbwynt arti-ffarti rhyddfrydol 'human interest' bondigrybwyll. Yn hytrach, mae'r darlun dynol yn dod o safbwynt athronyddol a moesol llawer llawer dyfnach wrth archwilio pa mor bell o normalrwydd y gall yr ysbryd ddynol ddadgysylltu ei hun wrth ddygymod â dioddefaint, creulondeb ac amodau erchyll. A sut mae protest yn gallu cynnal rhywun pan fo dim arall ar ôl heblaw corff ac ysbryd.

Rydan ni i gyd yn gyfarwydd i raddau gwahanol â'r gwleidyddiaeth a'r sefyllfa ar y tu allan yn ystod y brotest yn y Kesh, a'r ympryd enwog. Mae rhai ohonom hefyd wedi darllen llyfrau am yr hyn oedd yn digwydd ar y tu mewn, a rhai ohonom wedi cwrdd â rhai fu'n garcharorion yno. Ond dydan ni ddim wedi cael darlun mor gignoeth ac ysgytwol â hyn ar sgrin ffilm fawr o'r blaen. Mae'n erchyll, cwbl erchyll. A dyna ydi'r pwynt - mae'n darlunio'r brotest (y brotest flanced, y brotest fudr, yna'r ymrydio) a'r creulondeb corfforol, o safbwynt y carcharorion. Roedd eu safiad yn wleidyddol, oedd, ond roedd o hefyd yn eu cynnal nhw yn bersonol, fel pobl. Yno, yn eu byd cyfyngedig nhw, allan o olwg y byd, ynghanol creulondeb, budreddi a hunan-aberth, roedd yr ymgyrch weriniaethol wedi ei chodi i lefel llawer llawer mwy dwys. Roedd ymgyrch y carcharorion yn cymeryd drosodd eu holl reswm dros fodoli. Yn hytrach na bod yn estyniad o'r rhyfel, roedd y rhyfel ond yn gefndir i'w hymgyrch nhw. Dyna be mae'r ffilm yma yn archwilio, wrth adrodd rhan o stori'r carcharorion dewr hyn o'u safbwynt nhw - a nid y mudiad oeddan nhw'n rhan ohono - yn unig.

Mae'r ffilm hefyd yn dangos parodrwydd Sands, a'i strategaeth chwyldroadol, i aberthu popeth er mwyn dyfodol yr ymgyrch weriniaethol. Roedd y mudiad mewn cul de sac - yng ngeiriau'r offeiriad (portread gwych gan Liam Cunningham) yn "ofni troi at heddwch" am ei fod yn syniad diarth iddynt bellach) - yn troi mewn cylchoedd ac ar ei liniau yn wyneb gwrthwynebydd mor gadarn a phenderfynol â Thatcher. Gwyddai Sands y byddai eu marwolaeth (roeddynt yn gwybod mai marw fyddai canlyniad tebygol eu hympryd) yn ysgogi cenhedlaeth newydd i ymuno â'r ymgyrch chwyldroadol. Roedd hyn yn benderfyniad gwleidyddol strategol bwriadol gan y carcharorion (gwirfoddolodd 75 ohonynt i ymprydio) ac mae'n dangos fod eu hamgylchiadau nhw "ar y ffrynt lein" yn rhoi iddynt ffocws dyfnach a mwy treiddgar o'r strategaeth oedd ei angen ar yr ymgyrch.

I'r Arweinyddiaeth ar y tu allan (oedd yn gadarn yn erbyn yr ympryd), roedd y sefyllfa'n anobeithiol. Gwyddent nad oedd gobaith ennill statws gwleidyddol yn ôl, gan fod Thatcher yn amlwg yn mynd i adael i'r hogia farw. Roeddent hyd yn oed yn barod i gyfaddawdu er mwyn dod a'r brotest fudr i ben. Ond gwelai Sands a'i gyd-garcharorion ymhellach, oherwydd y meddylfryd a'r ffocws oeddent yn meddu arno o ganlyniad i'w protestio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Wedi eu stripio o bob urddas - a'u parodrwydd i ddioddef hynny a gwaeth - doedd dim byd ar ôl ond yr achos, a phrotest, a dim distracshiyns i bylu gweledigaeth chwyldroadol. "Out of the ashes," medda Sands, i edliw slogan y Provisionals. A Sands a'i gyd-ymprydwyr fyddai'r gwreichion i godi'r Ffenics gweriniaethol o'r lludw unwaith eto.

Byddai rhai yn galw hyn yn tunnel vision - eu bod yn ddall i'r sefyllfa ehangach ac anobeithdra'r ymgyrch ar y tu allan, oherwydd intensiti eu hymgyrch ar y tu mewn. Byddai eraill yn ei alw'n weledigaeth chwyldroadol dreiddgar iawn (roeddan nhw yn ymwybodol iawn o ddatblygiadau, os nad y mŵd). Roedd o'n sicr yn benderfyniad dewr. Roeddan nhw wedi trio ymprydio o'r blaen, a'r brotest heb lwyddo oherwydd eu bod i gyd wedi dechrau ymrydio ar yr un adeg, ac felly'n rhoi i fyny er mwyn atal dioddefaint y cyntaf ohonynt i droi'n beryglus o wael. Y tro yma, er mwyn sicrhau ympryd i'r ethaf, roeddan nhw pob un yn dechrau ymprydio bythefnos ar ôl ei gilydd. Roeddan nhw'n benderfynol o farw, os oedd rhaid. Ar ba bynnag ochr i'r ffens ydach chi'n sefyll, mae hunanaberth fel hyn wastad yn safiad clodwiw.

'Safiad ofer' oedd barn mewnol arweinyddiaeth y mudiad gweriniaethol, fodd bynnag. Colli bywydau aelodau yn ofer (er, buan y daeth llawer i weld nad oedd hynny'n wir yn yr hirdymor). Ond mae'r ffilm yn gwneud pwynt cryfach am oferedd yr holl sefyllfa. Drwy ddilyn un swyddog carchar (creulon yn y carchar, addfwyn tu allan) ar brydiau, cawn gipolwg ar fywydau'r pawns ar ochr yr awdurdodau i'r frwydr, ac mae hynny'n galluogi rhoi'r darlun crwn ar ddiwedd y ffilm, pan y datgelir y ffeithiau canlynol am yr ymgyrch dros statws gwleidyddol: bu farw 10 ymprydiwr, a lladdwyd 16 swyddog carchar gan yr IRA, ac ar ddiwedd y cwbl, cyfaddawdodd y llywodraeth Prydeinig a'r IRA a derbyn pob un elfen oddifewn i gais y dynion am ailsefydlu statws gwleidyddol (gwisgo dillad eu hunain, dim gorfodaeth i wneud gwaith carchar, cymdeithasu rhydd a.y.b) - ond heb y teitl swyddogol 'statws gwleidyddol'.

Ond o ran yr ymryson ehangach rhwng yr IRA a Phrydain ac o ran ymgyrch ehangach y mudiad gweriniaethol, profodd hanes mai gweledigaeth a strategaeth Sands yn wyneb diffyg gweledigaeth strategaeth styfnig a chalon galed Thatcher a enillodd y dydd. Ond doedd dim rhaid i'r ffilm ymdrin yn uniongyrchol â hynny. Roedd hynny'n dod drosodd yn naturiol, diolch i'w chlyfrwch. Ac mae ffilm sy'n ddigon deallus i ddeall fod gan wylwyr y gallu i feddwl, yn rhywbeth sydd i'w chroesawu llawer iawn mwy na 'llwyddiant' arwynebol a phlastig Kate Winslet yn Hollywood.

23/02/2009

Rhyfedd o sir!

Dw i newydd ennill brwydr 4 mlynedd oed efo Cyngor Gwynedd, yn y dyddiau dwytha 'ma, felly dw i ddim isio dod drosodd fel fod gen i gyllell yn y cyngor (achos, er gwaetha'r triniaeth gwarthus - os nad anghyfreithlon - gafodd fy nheulu a finna yn ystod y frwydr, tydw i ddim yn berson chwerw, a tydw i ddim yn licio clochdar chwaith - os di petha wedi'u sortio allan yn foddhaol, be di'r pwynt?).

Ond mae rhaid i mi ddweud mod i wedi synnu i gael ar ddallt y dydd o'r blaen, fod Cyngor Gwynedd wedi penderfynu y bydd unrhyw gontract adeiladu/peirianneg sifil sy'n werth mwy na hanner miliwn o bunnau yn mynd, yn awtomatig, i gwmniau mawr (fel, er engraifft, Carillion). Mae hyn yn golygu fod cwmniau adeiladu bach a chanolig, lleol - gan gynnwys rhai sydd wedi bod yn gwneud gwaith safonnol i'r cyngor ers blynyddoedd lawer - yn colli allan ar lot fawr o gytundebau prosiectau adeiladu a chynnal ffyrdd fu'n fara menyn iddyn nhw a'u gweithlu dros y blynyddoedd.

Gwn am un cwmni tebyg, o Drawsfynydd, sydd wedi gorfod diswyddo nifer o weithwyr yn ddiweddar oherwydd hyn. Cwmni fu'n cyflogi criw o ddynion lleol, oedd yn galluogi i deuluoedd Cymraeg aros ym mro eu mebyd. Mae'r cwmni wedi ceisio cymorth gan nifer o lefydd, gan gynnwys yr Aelod Seneddol dros Feirionnydd Nant Conwy, Elfyn Llwyd, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, does dim byd y gellir ei wneud i wyrdroi y penderfyniad hwn - sydd yn achosi colli swyddi yng Ngwynedd, achosi caledi ychwanegol diangen mewn cyfnod o ddirwasgiad economaidd, ac sydd hefyd yn tanseilio hyfywedd yr iaith Gymraeg yn ei chadarnle eithaf.

A hyn gan Gyngor sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru, gydag ail blaid (llawn cenedlaetholwyr amlwg) sydd i fod i gynrychioli 'llais pobl y sir'! Rhyfedd o fyd - neu, rhyfedd o sir!

18/02/2009

Manylion casglu sbwriel bob pythefnos wedi cyrraedd - mewn 'pot piso' bach brown

Fel y soniais yn y blog 'ma rai dyddiau yn ôl mae'n fwriad gan Gyngor Gwynedd i ddechrau casglu sbwriel bob pythefnos. Addewais y buaswn yn rhannu mwy o fanylion efo chi unwaith y byddwn yn derbyn mwy o wybodaeth. Wel, a minnau newydd orffen gwneud cyrri ar gyfer heno, ac wedi'i adael i stiwio ar y stôf, allan a fi i'r ardd am ffag. Be welis i, yn hongian ar giat agored yr ardd, ond rhyw fath o fwced bach plastig brown, efo caead arno. Rhywbeth tebyg i focs picnic, ond fod o'n llawer llai - dal bwyd i ddau berson, falla.

Yn meddwl fod plant wedi ei adael yno, dyma fi draw ato, a gweld fod 'na sgwennu, a logo Cyngor Gwynedd ar yr ochr arall iddo. 'Cadi Cegin/Kithcen Caddy Gwastraff Bwyd yn Unig/Food Waste Only' oedd y geiriau arno, felly dyma agor y caead a gweld fod 'na lythyr tu mewn - llythyr gan Gyngor Gwynedd. Ac wele, fe wawriodd be yn union oedd y bocs picnic bach brown...

Yn ôl y llythyr, dyma be fyddan ni'n ei ddefnyddio i gario wâst bwyd o'r gegin i'r biniau brown mwy, fydd yn cael eu dosbarthu cyn i'r drefn newydd ddechrau ym mis Mai. Gadewch i mi egluro be mae'r llythyr yn ei ddweud - a dim ond egluro wna i, yn hytrach na dechra diawlio, achos er gwaetha ambell broblem sy'n bosib y gellir codi efo'r biniau brown, mae'r cynllun arfaethedig i weld - ar hyn o bryd, beth bynnag - yn un sydd yn haeddu cyfle, o leiaf.

Cadarnhaodd y llythyr y bydd y casgliadau bins gwyrdd yn newid i bob pythefnos yn ystod mis Mai. Cadarnhaodd hefyd y bydd casgliadau ailgylchu (bocsus glas) yn digwydd yn wythnosol o hynny ymlaen, ac mi fyddan nhw'n derbyn poteli plastig a chardfwrdd, yn ogystal a'r deunyddiau presennol (papur, gwydr, tiniau bwyd a diod, aerosols, ffoil a batris tŷ). Mi fyddan nhw'n sdopio casglu dillad - sydd ddim yn ormod o broblem achos bydd siopau elusen yn elwa o hynny.

O ran y biniau brown newydd 'ma, byddwn yn gwagio'n wast bwyd i mewn iddyn nhw, yn ogystal â wast o'r ardd, er mwyn iddo gael ei gludo i ffwrdd i gael ei gompostio. Rhwng hynny â'r ailgylchu wythnosol, mae posib na fydd cymaint o broblem â hynny efo cael lle i bythefnos o sbwriel mewn bin olwyn gwyrdd. Cawn weld. Yr unig broblem dwi'n ragweld ar hyn o bryd ydi'r ffaith mai bob pythefnos y bydd y biniau mawr brown yma yn cael eu casglu. Mae hogla bwyd wedi sefyll am ddiwrnod yn gallu bod yn ddrwg (yn enwedig yn yr haf, pan mae pawb yn stryd ni yn byta mecryll!), heb son am bythefnos, a gan mai yn uniongyrchol i'r bin y bydd y bwyd yn mynd - fel bin slops cantîn ysgol, neu wersyll yr Urdd yn Glanllyn, ersdalwm - bydd yr arogleuon ar y stryd ddim y peth neisia i hitio trwyn rhywun wrth iddo ddod adra o'i waith, bron a llwgu, ar ddiwadd diwrnod calad o waith! Ond mi fydd o'n hogla fel hogla siop jips - neu'r cyrri 'ma sy'n hitio'n ffroena fi ar y funud - i lygod mawr...

Dwn i ddim sut mae nhw'n mynd i wneud yn siwr fod pobl ddim yn rhoi wâst bwyd yn eu bin bags du yn y biniau olwyn gwyrdd, chwaith. Fel o'n i'n ei ddweud, mae'r system yn haeddu cyfle i weld os y gweithith hi - er, dwi'm yn meddwl mai rhywbeth dros dro ydi hwn, achos does dim yn y llythyr i awgrymu mai arbrawf ydi o. Ond os na fydd pethau'n dderbyniol - o ran hogla a llygod mawr, yn bennaf - dwi'n gweld y Cadi Cegins bach 'ma'n cael eu defnyddio i bethau gwahanol iawn i'r hyn fwriadwyd. Bocs picnic, bocs sgota, bocs bara (mi ddalith dorth hanner) neu hyd yn oed bot piso (erbyn meddwl, mae o'n fy atgoffa o fwcad piso carchar Walton 'fyd!)!

Ta waeth, cawn weld, ia? Mae'n braf, ac mae'r adar bach yn canu nerth eu penna bach tlws. Dwi'n mynd am dro.

17/02/2009

Slogiadur

Peth da di'r Blogiadur. Diolch iddo mae gan flogwyr Cymraeg dudalen feed sy'n dangos eu pyst diweddaraf fel mae nhw'n eu sgwennu, ac mae gan ddarllenwyr a dilynwyr blogiau Cymraeg dudalen y gallant fynd iddi i weld os oes rhywbeth diddorol wedi ei sgwennu, er mwyn mynd yno i ddarllen. Mae'r Blogiadur, felly, yn darparu gwasanaeth hwylus ac effeithiol iawn.

Neu, mae o yn pan mae o'n gweithio'n iawn. Yn anffodus, dydi o ddim yn ddiweddar. Dydi o ddim heddiw, er engraifft. Mae o'n uffernol o araf. Does ond un cofnod blog o heddiw wedi cyrraedd ei dudalennau, a mae hi wedi troi hanner awr wedi dau y prynhawn.

Be di'r broblem? Dw i ddim yn gwybod, achos dw i ddim yn dallt y petha 'ma. Ond os yw ei berfformiadau diweddar yn unrhyw beth i gymryd i ystyriaeth, yna dylid ei ailenwi fo yn 'Slogiadur'.

Hawliau dynol: Mary Robinson, Stella a fi!

Ers ychydig ddyddiau ar ôl erchylltra'r Twin Towers dw i wedi bod yn 'hefru' am y ffaith fod yr Unol Daleithiau a Phrydain yn defnyddio'r bygythiad o derfysgaeth fel esgus i'n dychryn i dderbyn cyfyngu sylweddol ar ein hawliau sifil a dynol sylfaenol, ac i'n arwain, yn cwsg-gerdded, i Police State.

Dros y blynyddoedd, dw i wedi traethu am y peth ar y radio a'r teledu, wedi sgwennu cerddi a'u darllen yn gyhoeddus ac ar y radio, wedi sgwennu caneuon (a'u perfformio a recordio) am y peth, dw i wedi sgwennu erthyglau ac eitemau ar fy hen flog, MadarchEithafol, am y peth, wedi sgwennu amdano ar Maes-e (heb fawr o ymateb), ac wedi paldaruo am y peth mewn tafarndai a digwyddiadau 'Cymraeg'.

Ond - heblaw am un cyfansoddwr a gweithredwr ieithyddol Cymraeg yr wy'n gwybod ei fod yn lledu ei ymwybyddiaeth gwleidyddol y tu hwnt i'r 'frwydr iaith' - un o'r teimladau cryfaf ydw i wedi ei gael ydi fy mod i wedi bod ar ben fy hun yn llwyr yn y 'sîn' ddiwylliannol/gyhoeddus/wleidyddol ('w' fach) Gymraeg.

Hyd y gwn i, doedd yr un bardd arall, yr un cerddor/cyfansoddwr arall, yr un ysgrifennwr arall - heb son am genedlaetholwr, ymgyrchydd iaith, gwleidydd na ffigwr amlwg celfyddydol - sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, hyd yn oed yn dangos unrhyw arwyddion eu bod hyd yn oed yn ymwybodol o'r mater, heb son am gefnogi'r achos yma yr ydw i wedi bod yn gyson 'rantio' amdano.

Hwyrach fod 'na ambell i artist cerddorol wedi dechrau sgwennu ambell i rap sydd yn cyffwrdd ar y materion yma yn ddiweddar (dwi'n siwr mod i wedi clywed rhywbeth ar Myspace, ond ddim yn cofio'n iawn), ond yn sicr ddigon, mi alla i ddweud â'm llaw ar fy nghalon mod i wedi bod ar ben fy hun, ar y 'sîn Gymraeg', efo fy rhybuddion. Oes, mae 'na bobol o'r gynulleidfa wedi cytuno ar ôl clywed cerdd mewn sioe dafarn, ac oes mae 'na gerddorion ar y sîn danddaearol wedi rhyw fath o gydnabod fod gen i bwynt. Ond does neb hyd y gwn i wedi meddwl am y peth am fwy nag am ychydig eiliadau, heb son am godi'r ffagl a lledu'r gair yn eu cynnyrch. Neb.

Ymddengys bellach fod yr International Commission of Jurists - a Stella Rimington, cyn-bennaeth MI5 (a dynes sydd mwyaf tebyg wedi gweld ffeil arnaf yn syllu arni o'i desg!) - wedi cwblhau adroddiad sydd - air am air, bron - yn datgan yr union yr un pryderon a chondemniadau â'r hyn ydw i wedi bod yn eu mynegi dros y blynyddoedd dwytha.

Yn benodol, dw i wedi sgwennu cerddi (a chân) am Jean Charles De Menezez, wedi sgwennu cerddi (a chynhyrchu bathodynnau yn erbyn) am gardiau ID, wedi sgwennu cerddi am ymgeisiau y llywodraeth i garcharu pobl am 3 mis cyn cael eu cyhuddo, dwi wedi sgwennu cerddi am gamerau cylch cyfyng, ac yn y blaen ac yn y blaen, heb son am sgwennu cerddi a llenyddiaeth mwy cyffredinol am yr holl gyfyngu ar hawliau dynol a sifil trwy ein dychryn am y bygythiad terfysgol. Dwi hefyd wedi sgwennu am rendition, Guantanamo a llofruddiaeth Dr Kelly, ac mi ydw i wedi sgwennu cerddi am y deddfau sy'n cyfyngu ar hawliau rhyddid barn a free speech, sy'n caniatau i brotestwyr, beirdd, artistiaid a llenorion gael eu carcharu (ac mae rhai wedi) am ysgrifennu unrhyw beth y mae'r wladwriaeth yn ei ddehongli fel 'annog trais a/neu derfysgaeth'.

Ac ynglyn â'r materion uchod i gyd, dwi wedi eu codi nhw ar fforymau wê Cymraeg, ar y radio Cymraeg, ar y teledu Cymraeg, mewn cyfarfodydd Cymraeg - a dw i hyd yn oed yn cyfeirio atyn nhw yn fy nofelau. Ond heblaw am leisiau o du mudiadau a beirdd radical 'Prydeinig' a/neu ryngwladol, yr ICJ dan gadeiryddiaeth cyn-lywydd Gweriniaeth Iwerddon Mary Robinson, a Stella R ydi'r unig leisiau eraill yr ydw i wedi eu clywed yn siarad allan yn gyhoeddus am yr union bethau hyn!

Cwmni llewyrchus, felly! Ond byddai'n lot gwell gennyf petai'r cwmni hwnnw yn rhai o fy nghyd-Gymry!

Boi cyffredin o Feirionnydd ydw i, jesd boi efo cydwybod cymdeithasol. Dw i'n chydig o fardd gwlad a meddyliwr, ac o'r herwydd dwi'n licio codi llais a rhoi sylw i faterion egwyddorol a moesol (ac yndw, dwi yn gweithio dros fy nghymuned yn lleol hefyd - cyn i unrhyw un adael sylw yn deud mai dyn dweud-nid-gwneud ydw i).

Ond dyn cyffredin ydw i, dyna ydi fy mhwynt. Felly lle mae'r ffigyrau amlwg Cymraeg? Lle mae'r bobol sy'n rhan o'r diwylliant cyhoeddus Cymraeg? Lle mae'r beirdd a llenorion sydd i fod i ddweud pethau? Lle mae'r wasg sydd i fod i ddweud rhywbeth? Y pethau hyn, y bobl hyn, ydi lleisiau pob goleuad a phob chwyldro - i fod. Ydy hi mor ddrwg ar y genedl Gymreig fel bod hyd yn oed ein annibyniaeth barn a'n radicaliaeth wedi ei wasgu - neu ei brynu - o'n diwylliant llenyddol?

A lle mae'r ymgyrchwyr gwleidyddol Cymraeg? Oes 'na ffasiwn beth, bellach? Neu dim ond ymgyrchwyr iaith a chenedlaetholdeb diwylliannol sydd ar ôl yn y Gymru Gymraeg? Ai dim ond hynny sy'n bwysig i (rai ohonom) ni?

Dwi'n gefnogol i Ddeddf Iaith newydd i orfodi cwmniau mawrion i weithredu'n ddwyieithog (er, tueddu i gytuno efo'r hyn y mae Dyfrig Jones yn ei ddweud yn ei erthygl olygyddol yn Barn ydw i, o ran yr LCO arfaethedig). Ond, pan mae'n dod i'r sector breifat mae fy nghefnogaeth i i'r mesur yn deillio o fy nghenedlaetholdeb gweriniaethol ac economaidd, a rôl ganolog yr iaith wrth gynnal huaniaeth genedlaethol, yn hytrach nag unrhyw ymdeimlad ei bod yn 'hawl dynol' i gael prynu pwys o datws trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi'n Gymro Cymraeg, felly'n berson dwyieithog. Tra'n ystyried derbyn gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng fy mamiath fel hawl sifil, tydw i ddim yn ei weld yn un o fy hawliau dynol i gael Facebook yn Gymraeg, er engraifft. Felly tydi o ddim yn taro cord efo fi pan dwi'n clywed a gweld rhai o'n hymgyrchwyr iaith cyfforddus-ddosbarth canol yn mynd ymlaen am "hawliau dynol Cymry Cymraeg" i gael prisiau tatws yn Gymraeg yn Tescos Caerdydd.

Mae hawliau dynol go iawn miliynnau o bobl dros y byd yn cael eu sathru yn gwbl agored (a does dim un o'r grwpiau gweithredu sy'n casglu arian a nwyddau i Gaza, a sefydlwyd dros y DU yn ddiweddar, yn dod o Gymru, gyda llaw). Ond yn berthnasol i'n bywydau ni - hawliau dynol ydi'r hawl i ryddid barn ac i leisio'r farn honno, rhyddid i symud o gwmpas y wlad a'r byd heb gyfyngiadau, hawl i drefnu digwyddiadau cerddorol yn y gymuned, hawl i brotestio, rhyddid i fodoli heb fod y wladwriaeth yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch a'ch gwylio drwy'r adeg, a'r hawl i fod yn ddi-euog nes profir fel arall ac yn y blaen. Ac os ydym ni'r Cymry yn credu yn yr hawliau dynol hyn, pam nad ydym yn codi'n llais i'w hamddiffyn?

12/02/2009

Casglu sbwriel bob pythefnos yng Ngwynedd

Mae Cyngor Gwynedd am ddechrau casglu sbwriel bob pythefnos yn ardal Stiniog. Mae nhw wedi pasio'r cynnig (heddiw, dwi'n meddwl) ac mi fydd pob tŷ yn yr ardal yn cael llythyr yn fuan i egluro. Dwi'm yn siwr os mai peilot dros dro ydi'r cynllun, ta ydio'n mynd i ddechrau'n barhaol.

Yn ôl be ddudodd newyddiadurwr wrtha i heddiw, bydd y gwagio wheelie bins yn mynd yn bythefnosol, a'r casgliadau ailgylchu bocs glas yn mynd yn wythnosol, ac mi fydd y gwasanaeth ailgylchu'n derbyn bocsus cardbord (a photeli plastig a ballu, gobeithio). Mae'r rhan olaf o'r cynllun - yr ailgylchu - yn iawn, ond mae gadael wheelie bins i ddrewi am bythefnos yn mynd i wneud y broblem llygod mawr sydd gennym, ar y stâd 'ma, yn waeth.

Oni fyddai casglu'r biniau bob wythnos a gwneud casgliadau ailgylchu sy'n cynnwys cardbord, plastig, ac yn y blaen, yn bythefnosol, yn syniad llawer gwell? Wedi'r cwbl - wast bwyd a napis a ballu sy'n mynd i ddrewi ac achosi risg i iechyd, nid papur, tiniau cwrw a photeli gwag.

Dwi'n gweld gwrthwynebiad chwyrn i hyn yn lleol, felly gwyliwch y gofod hwn!

Job i rywun efo brwsh a dystpan

Pan o'n i'n hogyn bach, yn dechrau yn yr ysgol yn nosbarth Babannod Mrs Jones Penstryd, dwi'n cofio Mrs Jones yn gofyn be o'n i isio bod pan o'n i'n fawr. Roedd fy ateb yn bendant, yn glir a phenderfynol. Astronot.

Er ei bod hi'n wir mod i wedi treulio rhannau o fy mywyd efo 'mhen yn y cymylau, ac fy mod i hefyd, yn aml yn ymddangos fel nad ydw i ar y blaned yma, teg fyddai dweud fod y llong honno wedi hen adael y launch pad bellach. Mae fy mreuddwyd o edrych ar y Ddaear fel bylb llachar ynghanol cefnfor o dduwch, a fy ysfa arallfydol i neidio o gwmpas ar y lleuad, bellach yn lwch sêr ar y gwynt solar.

Neu, dyna o'n i'n feddwl. Achos fe ymddengys fod 'na obaith eto. Mae 'na ddwy loeren wedi crashio i mewn i'w gilydd yn orbit ac wedi gadael chydig o lanast yn fflôtio o gwmpas yno. Rwan mae'r Americanwyr, oedd bia un lloeren, a'r Rwsiaid, oedd bia'r llall (dewch yn eich blaenau consbirasi theorists!) yn monitro'r sefyllfa, er mwyn gweld os fydd y llanast 'ma'n difrodi lloerenau eraill. Ond o feddwl faint o'r contrapshiyns 'ma sy'n dyrnu mynd rownd y Ddaear ar filoedd o filltiroedd yr awr, bob dydd, fyswn i'm yn betio'n erbyn. Hwyrach fyddan ni i gyd heb deledu cyn hir, bobol (a bydd hynny'n ffycin ddiddorol!).

Gwell o lawar, fyswn i'n ddeud, na gwneud ffyc ol ond aros i weld be ddigwyddith a gobeithio am y gorau, fysa gyrru rhywun i fyny 'na i glirio'r ffycin peth. Sgubo'r cwbwl lot o' ffordd 'de, binio'r ffycin thing. Di o'm yn anodd nacdi? Dim yn rocet saiyns... Wel, yndi mae o, ond. Ta waeth, mae gen i frwsh, mae gen i ddystpan, a mae gen i Dystysgrif Glanweidd-dra Bwyd o HMP Walton, 1992. Fi di'r boi i'r job, a mae fy llythyr cais, CV a gair o gefnogaeth gan ddau ganolwr (fy anti Mabel a'r boi sy'n byw yn yr êring cypyrd) yn y post ers pnawn 'ma.

Dwi'n hyderus. Deud gwir, mi alla i rannu dipyn o gyfrinach efo chi. Pan ebostiais NASA i gael y cyfeiriad i yrru fy llythyr, mi wnaethon nhw fistec wrth fy ateb, ac atodi ffeil Top Sîcret efo'r ebost. Yn naturiol, roedd rhaid i mi gael golwg arni jesd rhag ofn fod yr Anti-Virys wedi methu trojan gan y CIA neu rwbath, a mi oedd cynnwys y ffeil yn ddiddorol iawn (consbirasi theorists, dewch yma rwan!).

Gan mai lloerennau Americanaidd a Rwsiaidd oedd y ddwy mae mwy nag un pâr o aeliau wedi codi ac mae gwasanaethau cudd y ddwy wlad wedi bod yn edrych i mewn i'r posibilrwydd fod rhywbeth amheus yn mynd ymlaen. Ac ar y funud, mae bysedd pawb yn pwyntio at y dihiryn yma.

Pŵl a pocer yn y Pafiliwn?

Mae'n bryd i geidwaid hunan-apwyntiedig ein diwylliant sylweddoli mai eu mewnblygrwydd unllygeidiog nhw yw'r bygythiad mwyaf, ar ôl y mewnlifiad, i'r iaith Gymraeg fel iaith fyw. Mae eu snobyddrwydd cymdeithasol ynghlwm yn eu snobyddrwydd diwylliannol, ac fel arall rownd. Mae nhw'n methu gweld na chydnabod diwylliant poblogaidd y mwyafrif fel diwylliant Cymraeg sy'n werth ei gynnal. Trwy hynny, mae nhw'n methu gweld bywydau, diddordebau a dyheadau y mwyafrif fel rhai Cymraeg gan 'bobl Cymraeg da'. Dydyn nhw ddim yn cyfri.

Be sydd yn cyfri iddyn nhw ydi'r diwylliant 'pur' capelaidd-eisteddfodol Cymraeg hwnnw sy'n marw ar ei draed oherwydd ei fethiant i gofleidio diwylliant poblogaidd (rhyngwladol a chynhenid) Cymraeg. Be sydd yn cyfri iddyn nhw, felly, ydi'r Gymru 'bur,' ramantus-wladaidd honno sy'n shrincio fel y sbotyn gwyn hwnnw ar yr hen setiau teledu, oherwydd ei amharodrwydd i wau elfennau mwy cyfoes, perthnasol a phoblogaidd i’r brethyn.

Y Cymry ceidwadol sy’n cyfri i’r ‘Daily Mailers’ Cymraeg 'ma – y bobol ‘neis’ sy’n anwybyddu’r barbariaid tu allan waliau’r winllan, tra’n coleddu esgyrn sychion ac yn cynnal y Drefn trwy eu bod-yn-neis-rwydd ffugbarchus, peidio-pechu-yn-gyhoeddus, cyllell-yn-y-cefn nhw. Ac er eu bod nhw'n lleiafrif tu fewn i leiafrif, a ddim hyd yn oed yn cynrychioli barn mwyafrif cefnogwyr selocaf eisteddfodau a thalyrnau llawr gwlad, a phethau eraill y mae nhw'n eu cyfrif yn 'wir ddiwylliant Gymraeg', mae nhw'n dal yn uchel eu cloch ac yn dal i gael eu gweld mewn swyddi dylanwadol, neu ar bwyllgorau a chynghorau, gan roi'r argraff mai rhyw ddosbarth diwylliannol 'diarth' ydi'r 'ruling class' Cymraeg, ac mai diwylliant diarth ac amherthnasol ydi'r diwylliant - ac, felly, yr iaith - Cymraeg.

Mae angen i'r Eisteddfod Gendlaethol roi arweiniad ar hyn, a denu cynulleidfa newydd trwy gofleidio cystadleuthau diwylliant poblogaidd – boed yn arferion cynhenid fel canu baledi, codi pwysau, tynnu rhaff, llifio coed, reslo, coits, cnapan, neu yn arferion rhyngwladol (ond cynhenid bellach) fel canu pop, hip hop, reggae, canu gwlad, ffilmiau byrion, barddoniaeth poblogaidd, llenyddiaeth boblogaidd, darts, snwcer, pel-droed.

Pam ddim? Pan mae'r Basgwyr yn trefnu gwyliau diwylliannol trwy gyfrwng y Fasgeg yn unig (ac yn denu torfeydd o 100,000 ar y diwrnod) mae nhw'n darparu rhywbeth i bawb. Waeth i neb drio deud wrtha fi fod yr Eisteddfod yn methu addasu. Mae hi wedi addasu gymaint ers dyddiau Iolo Morganwg, ac mae sgôp ei gweithgaredd mor bell o'r traddodiad eisteddfodol gwreiddiol ag ydi Apollo 9 i ap Iolo Goch. Felly be amdani? Pool a poker yn y pafiliwn, pawb? ;-)

09/02/2009

Culni digri ond difrifol

Mae'r penderfyniad i godi carchar newydd ar hen safle Ferodo ger Caernarfon y newyddion gorau mae Gwynedd - ac Ynys Môn hefyd - wedi'i glywed ers talwm iawn, dduda i. Mae angen llongyfarch Aelod Seneddol Caernarfon, Hywel Williams, a phawb arall fu'n gweithio'n galed i sicrhau'r datblygiad.

Mae nhw'n deud fydd 'na 800 o swyddi yn cael eu creu wrth godi'r lle, a mil o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yn cael eu creu pan fydd o'n agored. Mi fydd y contractwyr uniongyrchol yn recriwtio gweithwyr drwy'r Jobcentre Plus lleol, ac mi fydd hefyd amod Gymraeg ynghlwm â'r swyddi oddi fewn i'r carchar, fydd yn help mawr wrth sicrhau swyddi i bobl lleol. Dipyn gwell goblygiadau cynnaliadwy-ddiwylliannol na'r cynlluniau fu ar un adeg i godi gwesty a thai moethus ar y safle.

Mae 'na alw mawr am garchar yng ngogledd Cymru, gan mai cosbi (ac ail-habiliteiddio - be di'r gair Cymraeg iawn 'dwch?) troseddwyr yw diben carchar, nid cosbi teuluoedd y troseddwyr. Gwn o brofiad faint o galed (o ran teithio ac arian) ydi i deuluoedd o ogledd Cymru - yn enwedig o Wynedd a Môn - fynd i ymweld â charcharorion yn ninasoedd Lloegr.

Dydi hi ond yn iawn, hefyd, i garcharorion gael eu carcharu yn eu gwlad eu hunain, gyda staff carchar sy'n siarad yr un iaith â nhw. Treuliais 14 mis yng Ngharchar Walton yn Lerpwl yn 1992 a 1993. Roedd y carchar wedi gwneud archwiliad o ethnigrwydd y carcharoion, a chael eu syfrdannu o weld mai'r Cymry oedd y lleiafrif mwyaf yn y carchar. Dwi'm yn cofio'r ffigwr yn iawn, ond roedd un ai 1,300 neu 1,500 o garcharorion yn y carchar. Ond dwi'n cofio fod traean ohonyn nhw'n Gymry, a thraean o'r rheiny wedyn yn Gymry Cymraeg.

Bu hynny'n sbardun i ni ddechrau ymgyrch a deiseb dros gael gwasanaeth teledu Cymraeg ar gyfer 'association' (pan oedd pawb yn cael gwylio ffilm ar y landing isaf), mwy o lyfrau Cymraeg i'r llyfrgell, a gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Wnaethom ni ddim ennill yr un o'r pethau yma, ond roedd o'n rwbath oedd yn helpu i basio'r amsar. Roedd o'n ddifyr hefyd, achos roedd y Sgowsars yn arwyddo'r ddeiseb hefyd - yn rhannol am eu bod nhw'n cytuno efo'r egwyddor, ac yn rhannol am eu bod isio gwylio Sgorio, ac y byddai modd iddyn nhw gael cyfnod 'association' ychwanegol os fyddan nhw'n deud eu bod nhw'n gallu siarad neu ddeall Cymraeg!).

Ond yn ôl at y carchar yng Nghaernarfon. Roedd y drafodaeth ar Taro'r Post ddydd Gwener ddwytha'n eithaf hilêriys, a deud y gwir. Mae'n eironig fod rhai o fy ebychiadau diweddara ar y blog 'ma yn amddiffyn y Cymry Cymraeg rhag y cyhuddiad eu bod i gyd yn gul, achos byddai gwrandawyr yn ei chael hi'n anodd credu nad haid o betha mewnblyg ydan ni i gyd, wrth wrando ar rai o'r dadleuon adweithiol, anwybodus a phlentynaidd a gyflwynwyd gan wrthwynebwyr.

Ond wrth gwrs, lleiafrif ydi'r rhain - ein fersiwn Cymraeg ni o ddarllenwyr y Daily Mail, yr un math o bobl dosbarth canol, cul a hunanbwysig sydd i'w clywed ar phone-ins Jeremy Vine ar Radio 2 yn cynrychioli 'moesau' y genedl. Achos fel y dywedodd perchennog siop gwallt yng Nghaernarfon ar y rhaglen, mae pawb o'r werin bobl yn y dref yn croesawu'r datblygiad.

Ac felly ydi hi ar lawr gwlad yma'n Stiniog a llefydd eraill hefyd. I bobl go iawn, sy'n stryglo ar gyflogau bychain mewn swyddi bregus ac yn poeni am y dyfodol, mae'r newyddion yma'n un sy'n dod a gobaith efo fo. Gaiff y bobl cyfforddus, canol oed a hŷn, sydd un ai mewn swyddi diogel neu wedi ymddeol a thalu am eu tai, draethu ymlaen am ddiwylliant, cyfraith a threfn, pris eiddo a'r olygfa, hynny lician nhw. Dio'n golygu affliw o ddim i deuluoedd ifanc Gwynedd pan mae gwaith a chartrefi - a dyfodol eu plant - yn y fantol.

Roedd y sgwarnogod a godwyd gan y gwrthwynebwyr yn rhai digri. Mi soniodd rhai am yr olygfa - y byddai carchar yn beth hyll i'w godi ar lannau'r Fenai. Ond anwybodaeth llwyr oedd hynny, gan bobl oedd yn gwybod dim am be oeddan nhw'n son am. Yn amlwg dydyn nhw heb weld unrhyw garchar cymharol newydd, ac mai eu syniad nhw o garchar yw'r carchardai Fictorianaidd uchel a hyll megis Walton, Strangeways a Caerdydd, a llwyth o rai eraill sy'n dal i fod mewn defnydd dros Brydain, y maen nhw wedi'u gweld ar y newyddion a ffilmiau arswyd tebyg dros y blynyddoedd.

Dwi'm yn deud fod y carchardai newydd yn bethau del, ond mae nhw'n llawer iawn llai trawiadol i'r llygad, ac yn blendio i mewn i'r amgylchfyd o'u cwmpas yn weddol ddi-drafferth. Tydyn nhw ddim yn adeiladu hen Wings mawr tal efo pump landing ddim mwy, ond yn hytrach adeiladau un neu ddau lawr. Prin fo'r adeiladau yma i'w gweld o gwbl y tu ôl i'r waliau allanol - sydd eu hunain ddim mor uchel â waliau mawr hyll yr hen garchardai. Roedd un ddynes fach o Fôn yn ei chael hi mor anodd amgyffred y datblygiad fel fod y llun oedd ganddi yn ei phen yn un dryslyd iawn, iawn. Cwynodd am yr olygfa tuag at Eryri yn cael ei sbwylio gan 'hen beth hyll' (fel y gwnaeth aml i Fonwysyn ganrifoedd yn ôl wrth wylio Edward yn codi'i gastell wrth geg y Seiont, am wn i), a'r mynyddoedd yn cael eu cuddio gan y waliau uchel 'ma - cyn dweud yn y frawddeg nesaf un, y byddai'r carcharorion yn cael mwynhau'r olygfa fendigedig o Eryri o'u celloedd, tra fod golygfa pobl gall a gonest y tu allan yn cael ei sbwylio! Wel, Musus bach! Os di'r waliau mor uchel a hynny, 'da chi'm yn meddwl y bydda hi'n anodd i weld allan yn ogystal ag i mewn? Be ydyn nhw am fod, see through mirrors?

Ynghanol y rhethreg adweithiol am thygs yn denu thygs (am deuluoedd anffortunus yn ymweld â'u hannwyliaid!) roedd yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio fel esgus hefyd - un ffoniwr hyd yn oed yn honni y byddai'r carcharorion a'u teuluoedd yn setlo yma ar ôl gweld ardal mor braf, ac y byddai'n "ddiwedd ar yr iaith Gymraeg!" Ffyc mî, anghofwch am raglenni teledu fel Location, Location yn hybu'r mewnlifiad. Codwch garchar yng Nghaernarfon a fyddan nhw'i gyd isio symud 'ma! Dwi'n siwr fod Dafydd Hardy a Berresford Adams yn rhwbio'u dwylo'n awchus!

Ond roedd 'na sylwadau 'callach' - er yr un mor anwybodus - yn cael eu gwneud o ran y Gymraeg. Honnai rhai y byddai codi tai fforddiadwy ar y safle yn beth callach. Ond, i ddechrau, di'm yn bosib codi tai yno, gan fod 'na asbestos ar y safle, a'r unig ffordd i wneud asbestos yn ddiogel ydi un ai ei gario fo o'na - sydd yn amhosib yn yr achos hwn - neu ei adael yn lle mae o a'i selio fo i mewn. Achos wrth symud asbestos mae o'n malurio ac yn gollwng gronynnau mân i'r awyr - a dyna pryd mae asbestos yn lladd pobol, pan mae'n cael ei anadlu i mewn i'r ysgyfaint. Ac o ran 'tai fforddiadwy', gallwch godi hynny liciwch chi ohonyn nhw a fyddan nhw'n da i ddim byd os nad ydi'r gwaith ar gael i bobl lleol allu eu fforddio nhw! Dydio'm yn rocket science, nacdi?

Dim ond bobol gul, ddosbarth canol gyfforddus sydd mor allan o tytsh efo realiti i fethu gweld fod diffyg gwaith - yn enwedig gwaith efo cyflog a sefydlogrwydd digonnol - yn un o'r problemau mwyaf yn y Gymru wledig.

Ac ydi 'tai fforddiadwy' yn fforddiadwy go iawn? Wel, pe tae'r bobol 'ma'n tynnu'u sbectols tywyll am funud ac yn edrych ar y byd go iawn, mi fyddan nhw'n gweld fod 'tai fforddiadwy' yn cael eu gwerthu am £160,000, sydd yn bell o gyrraedd pobl leol - hyd yn oed rhai efo dau gyflog yn dod i mewn i'r cartref. Con llwyr ydi'r busnas 'tai fforddiadwy' 'ma, a dim arall. Canran bach o bob datblygiad sy'n cael ei osod fel tai fforddiadwy, a chael eu gwerthu i bobl o ffwrdd mae nhw yn y diwedd. Ffaith.

Ond dyna fo. Tydi teuluoedd ifanc a gwerin-bobl Cymraeg eu iaith ddim angen swyddi, siwr! Onid ydi pob Cymro Cymraeg yn berchen ei dŷ semi, tri llawr yn swbwrbia, yn yfad te a darllen Golwg, a mynd i capal ar y Sul - a gwrando ar Radio Cymru am weddill yr wythnos?

Lol! Y werin ydi trwch siaradwyr Cymraeg, a nhw ydi ei dyfodol. Er gwaetha ymdrechion clodwiw y werin ddiwylliedig i gynnal diwylliant cynhenid, ac er gwaetha rhagfarnau a snobyddiaeth y dosbarth canol proffesiynol a'u pwyslais rhagrithiol ar ddiwylliant-cyn-cymdeithas, y werin wyllt a'r werin datws achubith yr iaith Gymraeg drwy fyw a gweithio yn ei chadarnleoedd, yn yfad, cwffio a charu tra'n magu teuluoedd trwy gyfrwng y Gymraeg, a chadw'r ysgolion bach trefol i fynd. Dyna pam fod gwaith yn hanfodol bwysig i unrhyw barhad diwylliannol yng Ngwynedd. A dyna pam dwi'n croesawu'r newyddion o Gaernarfon.

06/02/2009

Cyfryngau di-asgwrn cefn yn gadael Rhys Williams wingo oddi ar y bachyn

Teithiais i lawr i Lanfair-ym-Muallt ac yn ôl heddiw, a gwrando ar Radio Cymru yr holl ffordd. Adroddodd y bwletin 1 o'r gloch fod Rhys 'Coco y Clown' Williams, darpar ymgeisydd seneddol Llafur yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn cadw at yr hyn a ddywedodd mewn ymosodiad anhygoel ar y Cymry Cymraeg yng nghylchgrawn Barn. Yn ôl y bwletin, roedd yr erthygl yn honni fod rhai Cymry Cymraeg yn defnyddio'r iaith i wneud siaradwyr Saesneg yn ddinasyddion eilradd, ac yn beio pawb arall am dranc yr iaith tra mai'r Cymry Cymraeg eu hunain oedd yn peidio siarad yr iaith efo'u plant.

I ddechrau, dim 'rhai Cymry Cymraeg' oedd o dan ei lach, ond 'y Cymry Cymraeg.' Yn ail, wnaeth o ddim beirniadu'r Cymry Cymraeg am beidio traddodi'r iaith i'w plant o gwbl (a dim o safbwynt y broblem yma oedd ei erthygl yn dod). Yr unig grybwyll o'r duedd yma ymysg rhai rhieni oedd wrth ymosod ar Keith Davies, Cyfarwyddwr y Bagloriaeth Cymreig, am fynegi tristwch ynghylch y ffaith fod hynny'n digwydd yng Nghwm Gwendraeth. Yn wir, roedd Rhys Williams hefyd yn ffieiddio Cynog Dafis am fynegi yr un fath o ddryswch a siom ynghylch cwpwl o engreifftiau iddo ddod ar eu traws yn ystod ei fywyd. Ymfalchio oedd Rhys Williams fod pobl yn peidio siarad Cymraeg, a bychanu ac ymosod ar Gwynfor Evans am fynegi siom fod Cymro Cymraeg o'r Bala wedi gwrthod siarad Cymraeg ag o am nad oedd ganddo'r amynedd i helpu rhywun ymarfer ei iaith!

Ac yn drydydd, byrdwn ei lith - a theitl ei erthygl - oedd "Dwi'n casau'r Cymry Cymraeg..." Onid dyna be ddylai ein cyfryngau cachlud Cymreig ni fod yn ei adrodd/ganolbwyntio arno? Darpar wleidydd o blaid y llywodraeth yn bytheirio am ei gasineb tuag at y Cymry Cymraeg yn gyffredinol? Sut ar wyneb daear y llwyddodd i grynodeb o fyrdwn ei neges newid cyn gymaint erbyn cyrraedd y tonfeddi, felly?

Ychwanegodd y bwletin y byddai'r dyn ei hun yn cyfrannu i raglen 'Dau o'r Bae' "yn syth ar ol y newyddion." A be gafwyd? Trafodaeth oedd yn ymddangos fel petaent yn trafod erthygl hollol wahanol. Yn wir, roedd y rhaglen fel petai wedi cytuno i gydfynd â strategaeth Rhys Williams o roi fersiwn hollol wahanol o'r hyn oedd wedi ei sgwennu, ac i ehangu (wel, symud, a deud y gwir) y drafodaeth i drafod pwyntiau na wnaeth o yn yr erthygl o gwbl - a hynny mewn ffordd a roddai'r argraff mai'r pwyntiau newydd hyn a ddywedwyd - gan anwybyddu be ddudodd o go iawn, yn llwyr!

O ganlyniad, bu dim rhaid iddo ymateb i'w ddatganiad gwarthus ei fod yn "casau'r Cymry Cymraeg" ac yn "casau cefn gwlad" o'r herwydd. Bu dim rhaid iddo amddiffyn ei honiadau uniongyrchol fod y "Cymry Cymraeg yn gul", yn rhannu meddylfryd y "Seiri Rhyddion", na chynnig tystiolaeth i gefnogi'r honiadau hynny, ac eraill. A ni fu rhaid iddo amddiffyn ei honiadau fod y "Cymry Cymraeg" yn "gyfundrefnol hiliol." (Rhaid dweud yma, imi golli cwpwl o funudau cyntaf y drafodaeth, gan i mi stopio i dynnu chydig o luniau o Lyn Clywedog yn yr eira, felly mae'n bosib i un neu ddau o'r pwyntiau yma gael eu codi wrth agor y sgwrs - ond doedd hi ddim yn edrych yn debyg iawn i fi, o weld ynghylch be oedd y sgwrs yn tindroi o'i gwmpas am weddill y drafodaeth).

Yn hytrach na'r pwyntiau yma, roedd y panelwyr yn trafod honiadau newydd Rhys Williams am "dueddiadau asgell dde" y Cymry Cymraeg (rhywbeth oedd o ei hun yn rhoi'r argraff mai dyna oedd un o negeseuon ei erthygl - ond nad oedd, mewn gwirionedd, yn rhywbeth a ddywedodd o gwbl), a'r 'ffaith' eu bod nhw'n disgwyl i bob Cymro arall fod o'r un farn â nhw am bopeth Cymraeg a thu hwnt, a'r 'ffaith' eu bod nhw'n edrych i lawr ar bobl fel Rhys Williams fel "hanner Cymro" (am nad oedd o'n aelod o Blaid Cymru, ei fod yn dod o dde-ddwyrain Cymru ac wedi ei fagu ar aelwyd ddwyieithog a.y.y.b.).

Mae'n siwr fod 'na rai Cymry Cymraeg yn meddwl felly, fel y mae rhai Cymry di-Gymraeg yn meddwl fod unrhyw un sy'n siarad Cymraeg yn llai Cymro/Cymraes na nhw - a llai human hefyd, fel y mae sawl criw o Gymry Cymraeg sydd wedi eu bygwth am weiddi "Cymru" yn lle "Way-uls" mewn gêm rygbi, neu wedi dioddef trais am siarad Cymraeg yn nhrefi mawr arfordir y gogledd neu ddinasoedd y de - neu'r boi bach 'na gafodd ei lofruddio mewn siop jips yng Nghaerdydd rai blynyddoedd yn ôl, am siarad "that Welsh shit in our fuckin town." I raddau llai eithafol na hynny, onid oes 'na unigolion, o unrhyw garfan, sy'n credu i raddau eidiolegol mewn achos penodol yn tueddu i gyfri rhai sydd ddim o'r un farn â nhw, fel 'pobl rhyfedd', neu 'elynion' hyd yn oed?

Ond nid dilysrwydd, ai peidio, y ddadl orddeallusol a selff-indyljent hon sy'n bwysig. Be sy'n bwysig ydi mai nid dyma oedd Rhys Williams yn ddweud yn ei erthygl o gwbl, waeth sut mae o'n trio sleifio allan ohoni erbyn hyn! (gyda llaw, mae teitl yr erthygl arlein ychydig yn wahanol i'r un yn y cylchgrawn, am rhyw reswm rhyfedd). Yr hyn ddwedodd o oedd ei fod yn casau'r Cymry Cymraeg am eu bod nhw'n gul, yn byw yng nghefn gwlad, yn defnyddio'r Gymraeg i gadw pobl allan ac i droi eraill yn ddinasyddion eilradd, yn Seiri Rhyddion, ac yn gyfundrefnol hiliol.

Pam fod golygyddion rhaglenni materion cyfoes y BBC - sy'n darparu bron pob rhaglen newyddion a gwleidyddiaeth - wastad yn anwybyddu'r gwir yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac yn mynnu glynnu at agenda eu meistri Brit-Welsh yng Nhaerdydd a Llundain? Gafodd sylwadau Seimon Glyn am y mewnlifiad Seisnig sy'n trawsnewid diwylliant a hunaniaeth ardaloedd Cymraeg eu iaith, rhyw saith mlynedd yn ôl, ddim eu trin mor ysgafn na'u sgubo o dan y carped - a fydden nhw ddim heddiw chwaith.

Does 'na ddim gwasg na chyfryngau rhydd yng Nghymru. Mae holl staff y BBC yn gorfod arwyddo rhyw gytundeb i beidio tynnu'n groes i'r lein olygyddol, ac adloniant a rhaglenni human interest arwynebol ydi blaenoriaeth y cwmniau annibynnol. O ran y papurau newydd, does 'na ddim newyddiadurwr na newyddiadurwraig sydd yn edrych y tu hwnt i'w pacad pae ar ddiwedd y mis, ac os fysan nhw'n troi eu trwynau tuag at y gwir straeon a sgandalu melltigedig sy'n mynd ymlaen ar lawr gwlad y dyddiau hyn, buan iawn y byddai'r pacad pae hwnnw yr un olaf iddyn nhw'i agor.

A'r cylchgronnau Cymraeg? Mae nhw'n dibynnu ar grantiau gan y gwleidyddion, felly maen nhw o dan anfantais cyn dechrau, ac yn tueddu i gadw at ddarpariaeth uchelael a diogel (Barn), neu, yn achos Golwg, yn amrywio o sebon sunday-supplementaidd ac ailadroddiadau arwynebol o ddatganiadau gwasg y pleidiau a'r cynghorau, i dross gwirioneddol echrydus gan unigolion diddychymyg sydd o leiaf - hyd yn hyn - efo digon o ostyngeiddrwydd i beidio galw'u hunain yn ysgrifennwyr, ond sydd dal efo'r hyfdra i ddigrifio'u hunain fel colofnwyr. (Ac, yn rhyfedd reit - ac yn eironig ar ben hynny - yr un rhai yw'r rhain sydd mor uchel eu cloch yn ei condemniad o'r syniad o sefydlu papur dyddiol safonnol Cymraeg!)

Mae'r hen ystrydeb honno am fadarch - cadwch nhw yn y twllwch a bwydwch gachu iddyn nhw, a mi dyfant yn fadarch bach da - mor ffycin wir!

A son am hynny, edrychwch mewn difri calon ar y cachu mae pobol fel Rhys Williams ac eraill tebyg iddo fo yn y Blaid Lafur Gymreig yn ei fwydo i'w dilynnwyr bach ufudd! A'r cwbl er mwyn mantais gwleidyddol. Achos bwydo'r 'madarch' efo'r cachu yma fod y boblogaeth Gymraeg ei iaith yn ganlyniad prosiect gennynol gan natsis, mewn ogof o dan yr Wyddfa, i gynhyrchu byddinoedd cenedlaetholgar fydd yn byrstio i mewn i gartrefi pob Cymro di-Gymraeg a stwffio copiau o Feibl yr Esgob William Morgan i lawr corn cwac pob un, cyn eu martsio i ffwrdd i'r brainwash camps mewn hen bentrefi meirwon ym Mhen Llŷn, yw'r unig ffordd y mae nhw'n mynd i gadw gwladgarwch greddfol a hunaniaeth cenedlaethol Cymreig y Cymoedd rhag mynegi ei hun yn wleidyddol (fel y gwelwyd yn y Rhondda yn 1999).

Pam da chi'n meddwl fod Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant, mor ffiaidd o wrth-Gymraeg ei fod o'n colli cwsg dros gyhoeddiadau Cymraeg ar blatfforms gorsafoedd trên? Pam da chi'n meddwl fod yr AC, Leighton Andrews, yn hoff o ymosod ar "grachach y Taffia Cymraeg eu iaith" sy'n "gorfodi Cymraeg ar y mwyafrif di-Gymraeg", er ei fod o, mewn gwirionedd, yn briod â'r arch-Taffia-Cymraeg-ei-hiaith, Ann Beynon, ac mor gefnogol i'r Gymraeg fel ei fod o wedi ei dysgu yn ddigon da i fod yn rhugl.

Rhethreg a thactegau gwleidyddol ydi o i gyd. Tydyn nhw'u hunain ddim yn coelio'r rwtsh sy'n dod o'u cegau, ond mae o'n ddigon da i'r 'plebs' mae nhw'n ei fwydo fo iddyn nhw.

"Independence? No, wouldn't work, I mean, look at the place, there's nothing here is there?"

Dyna oedd ymateb person o Bontypridd i gwestiwn gan ohebydd newyddion, ar y teledu. Dyma'r math o feddylfryd mae 'The Party' wedi ei feithrin. Dim annibyniaeth barn o gwbl. Ddaru'r person yma ddim meddwl, am eiliad, pam nad oedd 'na ddim byd yma. Ddaru nhw ddim meddwl, 'hold on - canlyniad canrifoedd o ecsploetio Prydeinig ydi fod dim byd yma'.

Cynnal y caethiwed dall yma yw diben Llafur. Politics budr ydi o. Troi Cymry yn erbyn eu cyd-Gymry, er mwyn cadw'r genedl yn rhanedig, a chadw 'bwgan mawr' cenedlaetholdeb rhag agor llygadau a deffro'r werin. Achos mae unrhyw beth y mae'r "Nationalists" yn ei ddweud yn "evil".

Cynnal y status quo yw nod y gwleidyddion Llafur - sydd wedi taflu eu hegwyddorion sosialaidd a dyngarol o'r neilltu er mwyn hunanoneldeb - achos o dan y status quo mae gan y gwleidyddion 'ma yrfa ddiogel a sicrwydd economaidd iddyn nhw eu hunain. Stwffio pawb arall. Dim bwys os ydi Prydain wedi rheibio Cymru o adnoddau cyn dympio'i gweithwyr ar y domen sgrap. Dim bwys os ydi Prydeindod wedi cipio pob gronyn o hunanbarch ac urddas oddi arnom. Ein amddifadu o wybodaeth - dydan ni ddim yn cael dysgu ein hanes, a ddim yn cael y gwirionedd gan y cyfryngau. Yn hytrach, rydan ni'n cael ein bwydo efo propaganda am y Teulu Brenhinol a'n 'hogia ni' yn y rhyfel - yr unig ddau beth sy'n cynnal Prydeindod: y Roials a rhyfel.

Y broblem i'r Llafuriaid gwrth-hunaniaeth Gymreig 'ma ydi fod 'na Gymry sydd o hyd yn gallu meddwl dros eu hunain a gweld trwy'r smocsgrîn. Ac mae gan y neges y gallen nhw'i gyfleu - o'i gyfleu yn effeithiol - y potensial i ryddhau meddyliau'r masses sydd wedi eu indoctrineiddio efo propaganda'r unoliaethwyr. A'r unig ffordd o stopio'r neges honno mewn gwladwriaeth ddemocrataidd ydi trwy bardduo, enllibio, codi bwganod a chreu rhaniadau - ynysu'r neges a'i chadw mor bell â phosib o galonnau'r mwyafrif. Gwneud i'r syniad ymddangos mor ffiaidd a phosib, ac yn fygythiad i fodolaeth - i Gymreictod - y mwyafrif di-Gymraeg.

Yr unig bobl sy'n defnyddio'r iaith fel arf, felly, yw'r gwleidyddion budr yma. Yr unig bobl sy'n ei defnyddio i gadw pobl yn eu lle, yw'r gwleidyddion yma - a chadw eu pobl eu hunain yn eu lle! Yr unig bobl sy'n defnyddio'r iaith i greu dinasyddion eilradd yw'r gwleidyddion yma. Dinasyddion eilradd o'r Cymry Cymraeg (chaiff yr ardaloedd Cymraeg eu iaith ddim yr hawl i osod rhywfaint o'r farchnad dai newydd i bobl sydd wedi byw yn yr ardal am hyn a hyn o flynyddoedd, fel mae nhw'n ei wneud mewn rhannau o Loegr, a hynny oherwydd ein bod yn siarad iaith wahanol - sydd yn handi i Llafur ddefnyddio'r cerdyn ieithyddol i waldio Plaid Cymru efo hi yn y maes cynllunio a thai - felly rhaid i ni'r Cymry Cymraeg jysd symud allan neu sticio i'n hofeli bach tamp a thywyll) a'r di-Gymraeg gan mai cadw'r di-Gymraeg yn pleidleisio dros gadw'r status quo fydd yn eu cadw nhw mewn cylchdro ffiaidd o dlodi ac anobaith ar waelod y domen sgrap Brydeinig yw eu nod. Dinasyddion eilradd yw'r Cymry i gyd.

Dydi hi ddim yn gyd-ddigwyddiad fod Rhys Williams wedi codi hyn rwan, fel mae cynnwys yr LCO Iaith yn cael ei drafod. Mae nhw'n gwybod fod 'na garfan helaeth o bobl y Cymoedd sydd wedi byw eu bywydau yn 'The Party' ac sy'n mynd i lyncu popeth mae 'The Party' yn ddweud wrthyn nhw. Os yw Rhys Williams yn credu fod Cymry Cymraeg y Gymru Wledig yn gul ac unllygeidiog, o leia mae gennym ni annibyniaeth barn. Wedi'r cwbl, yng nhefn gwlad mae pobl yn dweud wrth y mul be i wneud a mae o'n ei wneud o, tra yn y cadarnleoedd Llafur ymddengys mai'r mulod sy'n rhoi yr ordors.

Achos mewn difri calon, petai unrhyw un yn meddwl yn rhesymegol am y peth, fyddai unrhyw un yn credu'r holl ofergoeliaeth sy'n cael ei bedlo gan y mulod 'ma? Jysd fod pobol yn digwydd bod yn siarad iaith wahanol, mae nhw'n rhyw fath o fygythiad, yn elitists, ac i fyny i bob math o ddichell a chynllwyn i ddwyn swyddi ac eneidiau pawb yn y wlad. Ond dyna fo, mae unrhyw beth yn bosib pan da chi wedi amddifadu pobl o'u hanes, ac yn rheoli'r newyddion mae nhw'n ei dderbyn.

Fel mae'r Unoliaethwyr yn chwe sir gogledd Iwerddon yn fwy Prydeinig na fu'r Saeson erioed, yma yng Nghymru mae gennym garfan fawr o'r boblogaeth sy'n fwy imperialaidd, anoddefgar a 'Seisnig', tuag at ddiwylliant lleiafrifol na fu'r rhan fwyaf o Saeson ers amser maith bellach. Does 'na ddim lleiafrif yn y D.U. sy'n cael ei drin fel cocyn hitio heb unrhyw reswm cyfiawn gan wleidyddion ac aelodau blaenllaw eraill o'r Sefydliad, na'r lleiafrif Cymraeg ei iaith. Mae'r gormes yn llai eithafol, ond mae'r tactegau a rhethreg gwleidyddol yn debyg iawn i'r rhai ddefnyddiwyd yn erbyn y mudiad hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau yn y 60au. Cyhuddo, pardduo, lledu celwyddau a sibrydion er mwyn bwydo rhagfarnau a chynnal rhwygiadau cymdeithasol, lledu casineb ac anoddefgarwch er mwyn troi'r mwyafrif yn erbyn y lleiafrif - a thrwy hynny dwyn llais democrataidd y lleiafrif - er mwyn eu hynysu ddigon i allu eu trin nhw fel y mynnent heb wich o gondemniad gan y mwyafrif.

Mae'n anhygoel credu, a ninnau yn cyrraedd diwedd degawd gyntaf yr unfed ganrif ar hugain, mewn oes o gyfryngau torfol sy'n ein rhoi mewn cysylltiad â phob math o ddiwylliannau o dros y byd, fod y ffaith fod 'na gymunedau Cymraeg naturiol - dwyieithog a chynhenid - yng Nghymru, yn achosi'r ffasiwn ddrama!

03/02/2009

Eira'n cuddio popeth: y ffyrdd, y caeau, y credit crynsh a Gaza

Diddorol. Am 1 o'r gloch bore ddoe adroddodd newyddion World Service y BBC fod Israel wedi dechrau ymosod ar Gaza eto, yn dilyn ymosodiadau rocedi gan Hamas (os y gellir credu unrhyw beth mae'r BBC yn ei ddweud y dyddiau hyn). Ond ar ôl iddi wawrio, y cwbl gafwyd ar bob rhaglen a bwletin newyddion, o fore gwyn tan nos, bron, oedd stori'r Eira Mawr. Dim smic am y gwaed oedd yn cael ei golli eto, draw yn Gaza, heb son am y credit crynsh. A mae hi run fath heddiw.

Da ni wedi arfar efo'r hysteria cyfryngol bob tro mae 'na chydig o ffyrdd yn cau oherwydd y stwff gwyn, erbyn hyn, a rydan ni'n licio wfftio'r holl beth efo, "be sy'n bod ar y wlad 'ma, mymryn o eira a mae hi'n drychineb cenedlaethol!" ac "doedd 'na'm ffys fel hyn ersdalwm, ac oedd eira ersdalwm yn fwy, yn dewach, yn oerach, yn wynnach ac oedd yn para am byth!"

Ond dim ond ddoe nes i ddechra meddwl am hyn yn iawn. Mi oedd 'na fwy o eira ersdalwm, ac mi oedd o'n fwy a thewach, ac yn para am dipyn mwy na cwpwl o ddyddia. Dydi'r ychydig rydan ni'n gael y dyddia yma'n ddim byd o'i gymharu. Felly dydan ni ddim yn llai abl i ddelio efo'r peth erbyn heddiw, a dydi o ddim yn achosi problemau nad ydan ni wedi delio efo nhw o'r blaen.

Felly pam yr holl ffys? Ai'r cyfryngau sy'n creu'r ffys - ac yn cymryd mantais o dechnoleg newydd, live feeds, a'r ffaith fod gan bawb gamera ar eu mobeil ffôns, wrth greu'r ffys hynny - er mwyn claddu newyddion drwg ar ran y llywodraeth?

Mae o'n ddigon posib.

Ond be sy'n bendant ydi fod ymdriniaeth sensasiynnol y cyfryngau o bob storm eira, yn bwydo'r 'panig' cyhoeddus, mewn ffordd nid anhebyg i'r panig mae'r llywodraeth yn ei ledu am derfysgwyr Islamaidd yn llechu yn ein mysg, er mwyn dychryn pawb i dderbyn cardiau ID y Big Brother State.

Achos y peth ydi, o ran perthansedd i nifer y boblogaeth, nifer y ffyrdd, niferoedd cartrefi a ffactoriau, a nifer y ceir ar y ffyrdd, mae'r lefelau o ddamweiniau, ffyrdd a gweithleoedd yn cau, ac ati, yn llai pan fo eira heddiw nag erstalwm. Y gwahaniaeth heddiw ydi'r holl dechnoleg yn bwydo'r cyfryngau efo lluniau a ffilmiau o'r llanast.

Y canlyniad ydi y wlad yn dod i standstill. Neu, felly ydi'r argraff mae rhywun yn ei gael. Mae'r ffaith fod pob ysgol yn cau wrth weld chydig o blu'n disgyn yn ddigon i greu'r argraff hynny, ac os oes strategaeth o du'r Sefydliad i hybu'r hysteria, yna mae'r ffaith fod yr ysgolion yn cau yn siwr o fod yn fel ar eu bysedd nhw.

Y 'ffycin Americans' (sori, ddarllenwyr o wlad y rhydd) ydi'r bai am yr ysgolion yn cau, wrth gwrs. Nhw a'u suing culture - hwnnw sydd wedi croesi'r dŵr mawr a llenwi'n sgriniau teledu efo cawodydd o hysbysebion gan gwmniau 'where there's blame there's a claim'. Mae awdurdodau addysg bellach yn gweld perygl o anaf a gwŷs gyfreithiol ymhob twll a chornel o'r iard. Mae nhw hyd yn oed wedi gwahardd concyrs, ffor ffyc's sêcs! Rwan, mae'r obsesiwn yma efo Iechyd a Diogelwch, ynghyd â natur famol y wladwriaeth fwyaf biwrocrataidd yn y byd, yn golygu fod rhaid i staff gau'r ysgolion ar y golwg cyntaf o rew neu bluen eira.

Pan oeddan ni'n yr ysgol ersdalwm - os oedd y bws yn llwyddo i'n cael ni yno, ar ôl sglefrio i lawr rhiwiau'r ardal (I kid you not!) - roeddan ni'n cael rhwydd hynt i sglefrio i lawr rhiwiau'r iard, ar yr eira oeddan ni wedi'i wasgu'n galed i wneud rhew. Mae hynny wedi ei wahardd erbyn heddiw, a rhwng hynny a'r gwaharddiad ar goncyrs, waeth i'r ysgolion gau o Orffennaf i Ebrill beth bynnag achos does 'na ddim uchafbwynt arall yn nhymorau'r hydref a gaeaf.

Be sy'n mynd ar fy nhethi swmpus, fodd bynnag, ydi fod pob rhaglen radio yn y bore yn gwneud dim byd ond rhestru enwau pob ysgol sydd wedi cau, drosodd a throsodd a throsodd hyd syrffed. Dau gant a hannar o'nyn nw bora 'ma ar Radio Cymru! Roeddan nhw'n dal i ddarllan rhestrau am hannar awr wedi naw! Siawns fod pawb yn gwybod fod yr ysgol wedi cau erbyn hynny, ar ôl cyrraedd cyn naw o'r gloch a gweld efo'u llygaid eu hunain!

Be sy'n mater efo cael yr athrawon i ffonio'r rhieni i fyny? Mae ganddyn nhw rifau ffôn pob un. Fysa fo'm yn cymryd llawer, hyd yn oed os fysan nhw'n gorfod ffonio pob un yn unigol. Be arall mae'r athrawon yn mynd i wneud, heb fod 'na blant i'w dysgu?

Wedi deud hynny, efallai fod gwrando ar y rhestrau diddiwedd o enwau ysgolion yn fwy difyr na gwrando ar y ddarpariaeth wreiddiol.

02/02/2009

Lemon i arwain ymgyrch chwerw

Daeth yn amlwg, y dydd o'r blaen, sut fath o ymgyrch y mae'r Blaid Lafur am ei hymladd yn eu 'sêt targed' Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn yr Etholiad Cyffredinol Prydeinig nesaf. Chwarae'r cerdyn iaith unwaith eto yw eu bwriad - yr hen dacteg fudr a chwbl gywilyddus honno sy'n fwriadol greu rhwygiadau, a chasineb o du siaradwyr Saesneg tuag at eu cyd-Gymry Cymraeg-iaith-gyntaf. Hybu celwyddau, mythau ac ofergoeledd er mwyn rhannu cenedl a creu anoddefgarwch, a throi pobl yn erbyn ei gilydd er mwyn dim mwy na mantais gwleidyddol hunanol: y math o beth mae pennaethiaid llwythi a charfannau'r byd annatblygiedig yn ei wneud yn feunyddiol.

Ydyn, mae'r Blaid Lafur yn amlwg yn hollol ddesbret. Mae nhw'n gwybod fod talcen caled ganddyn nhw i guro Adam Price, Plaid Cymru, mewn cwffas deg felly mae nhw'n troi at eu strategaeth diegwyddor o fwydo ar ragfarnau'r anwybodus, a lledu gwenwyn - y tactegau y mae ganddyn nhw gymaint o brofiad o'i defnyddio (yn llwyddiannus iawn mewn rhai ardaloedd yng nghymoedd diwydiannol y de-ddwyrain).

Desbret, ia. Achos pwy mae nhw wedi'i ddewis i arwain yr ymgyrch chwerw hon? Neb llai na'r lemon mwyaf y gallan nhw'i ffendio. Ia, lemon - yn yr ystyr ei fod o'n sur a chwerw ac, yn fwy na hynny, yn yr ystyr ei fod o'n rêl clown. Oherwydd, eu hymgeisydd fydd Rhys Williams, gŵr sydd, o weld ei ymgais bathetig i gig-startio'r ddadl ieithyddol yn y rhifyn cyfredol o Barn, yn dod drosodd fel rhywun nad yw'n ffit i lenwi swydd mewn syrcas heb son am sefyll fel cynrychiolydd cyhoeddus. A deud y gwir, mae ei rant yn nhudalennau'r cylchgrawn yn gwneud i rywun amau fod ganddo broblemau deallusol a meddyliol dwfn a difrifol, ac fod ganddo ddiffyg mawr mewn synnwyr cyffredin a rhesymeg.

Iaaabwwww!

"Dwi'n casau'r Cymry Cymraeg," meddai Rhys 'Coco' Williams. Gosodiad rhagfarnllyd digon peryglus ynddo'i hun (dychmygwch rhywun yn datgan ei fod yn casau Saeson, er engraifft), heb son am un cyffredinol, ymosodol ac atgas. Y rheswm am hyn, meddai, yw am fod y Cymry Cymraeg mor gul eu meddyliau. Dwn i ddim os ydi o'n cyfri ei hun yn hynny o beth, er, mae'n trio egluro mai aelwyd a magwraeth dwyieithog gafodd o (sydd, os ydych yn meddwl am y peth y tu hwnt i 'un rhiant iaith Gymraeg ac un iaith Saesneg', yn rhywbeth y mae pob Cymro Cymraeg yn ei gael o ystyried ein bod yn cael addysg Saesneg o bedair oed ymlaen), fel pe tae hynny'n ei wneud yn berson mwy goleuedig na Chymry Cymraeg a gafodd Saesneg wedi'i stwffio i lawr eu gyddfau fel ail iaith orfodol.

Go brin ei fod o'n berson goleuedig, fodd bynnag, os yw o ddifri efo'r hyn mae'n geisio'i ddweud. Mae ei rant yn un o'r engreifftiau mwyaf o gulni bigotted a ddarllena unrhyw un yn y Gymraeg - ben ac ysgwydd uwchben unrhyw engraifft chwerthinllyd o fregus o gulni y mae'n mynnu sy'n bla ymysg y Cymry Cymraeg.

Mae'n arwydd o'r diffyg cysondeb, rhesymeg a hygrededd ei ddadl (heb son am ddiffyg deallusedd o realiti demograffyddol yr iaith) pan fo'n trio cyplysu'r Cymry Cymraeg - a'u culni - efo cefn gwlad (achos mae'n casau cefn gwlad, meddai, gan ei fod yn llawn o Gymry Cymraeg cul). Anghofiwn am ei gymhelliad gwleidyddol i droi pobl y dref ddiwydiannol 'iaith Saesneg' yn erbyn 'hambôns Cymraeg', am funud, ac edrychwn ar y pwynt penodol y mae'n honni - sef bod y Cymry Cymraeg cefn gwlad (yr ardaloedd Cymraeg) yn bobl gul a mewblyg.

Mae 'na fewnblygrwydd ymhob carfan o'r boblogaeth, boed wledig Gymraeg neu drefol 'Saesneg'. Gan amlaf mae'r mewnblygrwydd hwnnw'n ganlyniad anwybodaeth digon diniwed, yn enwedig yn rhai o'r ardaloedd mwyaf ynysig, a phrin iawn yw'r engreifftiau o'r 'culni' yma n berwi drosodd i anoddefgarwch fel y gwelwn yn yr ardaloedd trefol yn ddyddiol. Yno, cawn ragfarnau llawer mwy eithafol ac ymosodol - rhagfarnau sydd yn aml wedi eu lledu a'u hybu gan rai o'r gwleidyddion mwyaf cul ac anoddefgar ar y ddaear. Ond mae dweud fod y Cymry Cymraeg yn fwy cul nag unrhyw garfan arall yn osodiad hollol anaeddfed, a phlentynaidd o anwybodus.

Dwn i'm os ydi Rhys Williams yn ymwybodol fod 'na drefi ac ardaloedd diwydiannol a threfol iawn eu naws yn y Gymru Gymraeg, ond mi ddylai o fod. Dylai hefyd wybod fod rhan fwyaf o'r Gymru wledig bellach yn ardaloedd Saesneg eu hiaith - a llawer ohonyn nhw wedi bod felly ers cenhedlaethau. Dylai ddeall hefyd fod Cymry Cymraeg yn cyfrannu i bob maes diwylliannol, academaidd, amgylcheddol, dyngarol a rhyngwladol dan haul - o bosib yn llawer mwy, fesul maint y boblogaeth, nag unrhyw garfan arall o gymdeithas ym Mhrydain. Mae dylanwad y capeli, hefyd, yn gryfach yng nghefn gwlad heddiw, ac mae'r ddysgeidiaeth o oddefgarwch a charu cyd-ddyn yn elfennau canolog yn natur diwylliant cynhenid yr ardaloedd hynny. Na, tydi'r genhedlaeth iau ddim wedi'u dylanwadu cymaint gan y capeli, ond mae'r genhedlaeth iau yn eangfrydig eu meddylfryd diolch i ddylanwad cyfryngau torfol a diwylliant poblogaidd rhyngwladol, a'r colegau y mae nhw'n fynychu yn eu miloedd. Mae'r genhedlaeth iau hefyd, yn symud allan o'u cynefin yn eu miloedd - i Gaerdydd neu ddinasoedd Lloegr, i Ewrop a thu hwnt (does ond rhaid cael cipolwg sydyn ar Facebook i gael cadarnhad o hynny). Go brin fod hyn yn arferion carfan o bobl sydd o gefndir cul eu meddwl! Yn wir, mae'r agweddau anoddefgar a rhagfarnllyd sydd yn treiddio i mewn i feddylfryd rhai o bobl yr ardaloedd gwledig Cymraeg yn dod trwy gyfrwng yr ochr dywyll i gyfryngau torfol a diwylliant poblogaidd rhyngwladol. Fel y mae ymysg cymunedau Saesneg eu iaith, boed yn wledig neu beidio.

Ond anghofiwn be mae Rhys Williams yn, neu ddim, yn ymwybodol ohono. Awn yn ôl at be mae o'n ddweud yn Barn. Achos, arwydd pellach o ddiffyg hygrededd ei safbwynt ydi'r 'engreifftiau' y mae'n eu cyflwyno i gefnogi ei osodiad fod y Cymry Cymraeg yn gul, mewnblyg ac anoddefgar. Yn wir, o'u darllen, mae rhywun bron a theimlo piti dros y clown.

Rasbri

Y cyntaf yw cyfeiriad at sylwadau y mae Cynog Dafis yn ei wneud yn ei hunangofiant, Mab y Pregethwr. Wrth drafod effeithiau prosesau cymdeithasol ar yr iaith Gymraeg (yng ngoleuni ei fagwraeth ac, am wn i, wrth egluro ei ddeffroad gwleidyddol fel cenedlaetholwr diwylliannol), mae Cynog Dafis yn son iddo fynd i aros efo ffrindiau teuluol yn Aberaeron (y bastiwn o Seisnigrwydd ag oedd y lle yng nghanol y ganrif ddwytha, cofiwch!) pan yn bymtheg i un ar bymtheg oed. Sonia wedyn, am ei syndod o weld fod y ffrindiau teuluol hynny - un Cymraeg ac un Saesneg ei iaith - yn magu'u plentyn yn uniaith Saesneg, am fod y tad Cymraeg ei iath yn credu y byddai'r plentyn yn pigo'r Gymraeg i fyny yn y stryd a'r ysgol, fel y pigodd ef y Saesneg i fyny. Pwynt Cynog Dafis oedd mai nid felly y bu, gan nid felly mae pethau'n gweithio pan mae iaith leiafrifol, o statws answyddogol yn cystadlu yn erbyn iaith wladwriaethol ryngwladol fel Saesneg. A'r awdur yn ei flaen i fynegi ei syndod at agweddau rhannau eraill o'r wlad tuag at ddefnydd y Gymraeg, wrth son am ddechrau gweithio fel athro yng Nghwm Tawe, pryd oedd athro arall o gefndir Cymraeg, oedd wedi priodi merch ddi-Gymraeg o Gaerdydd, yn cael 'poenau cydwybod' am ei fod yn magu'i blant yn uniaith Saesneg.

Ymateb a sylwadau digon naturiol person dwyieithog o gefndir Cymraeg (Cynog Dafis) i weld pobl yn gollwng un iaith yn gyfangwbl, ddwedwn i. Doedd dim beirniadaeth yn agos i'r hyn sgwennodd o - yn wir, mae o'n enwi'r pobl yma i gyd, fel ffrindiau. Ac o gofio fod Cynog Dafis o bawb yn ddyn â meddwl craff sy'n ymwybodol o'r prosesau cymdeithasol hanesyddol sy'n achosi'r agweddau yma tuag at y Gymraeg, gellir derbyn fod ganddo berffaith hawl i sylwebu a defnyddio profiadau personol wrth wneud hynny. Hunangofiant oedd y llyfr, wedi'r cwbwl!

Fflabalabaloba

Mae'r ail engraifft mae Rhys Williams yn ei gynnig i ni yn boenus o embarasing. Cyfeiria at gofnod byr mewn llyfr arall - cofiant Gwynfor Evans gan Rhys Evans - cofnod y mae'n ei ddisgrifio fel "campwaith gwirioneddol ddoniol". Cyfeiria at fynegiant siom Gwynfor (y symbol mwyaf o anoddefgarwch ers Hitlar, cofiwch!) o gyrraedd Aberystwyth i fynychu'r brifysgol, wedi edrych ymlaen i gael ymarfer ei Gymraeg - gan mai gŵr o'r Barri oedd Gwynfor, gyda llaw, nid o gefn gwlad y Gymru Gymraeg - a chael ei dywysydd o Gymro Cymraeg a hannai o'r Bala yn gwrthod siarad Cymraeg efo fo am nad oedd ganddo amynedd i helpu rhywun ymarfer ei Gymraeg.

Ew, ia. Rhag dy gywilydd di Gwynfor, y natsi!

"Chwarae teg i'r hogyn di-flewyn-ar-dafod o'r Bala," medd Rhys Williams. "Doedd dim 'poenau cydwybod' yn ei bigo ef."

Fflobalobalob

Chwarae teg, mae Coco wedi pori drwy hanes mwy diweddar i gael ei drydedd engraifft o gulni'r Cymry Cymraeg. 2006 yw'r flwyddyn, a Keith Davies, Cyfarwyddwr y Bagloriaeth Cymreig yw'r cocyn hitio, am iddo ddigwydd cyfeirio, ar raglen Taro 9, at y sefyllfa drist (achos trist yw colli unrhyw iaith, heb son am ei lladd gan ei siaradwyr ei hun) fod rhieni Cymraeg eu iaith Cwm Gwendraeth yn magu eu plant yn Saesneg - sefyllfa sydd, yn anffodus, yn wir yn rhai o drefi mwyaf Gwynedd, hyd yn oed. Dylet fod o flaen dy well yn yr Hague, Mr Davies!

Cabejis

Y bedwaredd engraifft sydd gan y clown diweddaraf i dywyllu llwyfan gwleidyddiaeth hunanfflangellol ein gwlad fach wallgo, yw un o 2008 (mae Coco bellach wedi cyrraedd y presennol - bron iawn). Grupenfuhrer Caryl Parry Jones, yr arch gefngwladwraig gul (sy'n byw yn nyfnderedd mynyddig Caerdydd, ers blynyddoedd maith) sy'n ei chael hi, a hynny am godi cwestiynnau am safon Cymraeg plant yn yr ardaloedd traddodiadol Cymraeg. Fel y gŵyr pob rhiant yn yr ardaloedd hynny - yn fy nghynnwys innau a fy ngwraig - a phob athro ac athrawes, mae hyn yn un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r Gymraeg fyw. Mae'r safon yn ymylu ar ddirywio i fratiaith mewn sawl ardal - wedi mynd y tu hwnt i iaith lafar, gan wneud i ffwrdd â threiglo'n gyfangwbl ac yn cynnwys geiriau Saesneg am bethau mor gyffredin a 'bys', 'bawd' a 'brawddeg'! Mae'n sefyllfa drist, wir, ddifrifol, ac un y gellir ei hosgoi. Beth sydd mor gul mewn codi'r mater, duw yn unig ŵyr. Ond efallai fod hyn yn rhywbeth sy'n ddigri, neu od, ym myd bach gwyrdroedig y bonwr Williams. Druan o addysg yn Sir Gâr os enilla'r llwdwn yma'r etholiad - sy'n codi cwestiynnau dybryd am ei allu a'r gymhwyster i lenwi swydd gyhoeddus.

Slepjan!

A'r ffwlbri rhagrithiol yn ei flaen, gyda'n lemon annymunol yn rantio am athrawon Cymraeg yn "trio Cymreigio plant bach amrwd y de a'r gogledd-ddwyrain" - fel tasa pawb yn nghefn gwlad y Gymru Gymraeg yn bobol barchus, breintiedig a chyfforddus, dosbarth canol efo digon o amser ar eu dwylo i loddesta ar eu purdeb diwylliannol. Druan ag o, yn ceisio mentro i fyd gwleidyddiaeth heb y gronyn lleiaf o ddealltwriaeth o natur y wlad y mae'n byw ynddi. Ac ydi, mae o'n codi'r hen swejan honno am y Cymry Cymraeg yn 'defnyddio'u iaith i gadw pobol allan'. Yn union fel y Ffrancwyr a'r Eidalwyr, efallai, neu'r Saeson eu hunain?

Pan fo Sais yn dweud pethau hurt fel hyn - fel yr hen sgwarnog honno am y Cymry'n troi i siarad Cymraeg pan mae'n cerdded i mewn i dafarn - mae'n cael ei ddilorni a'i watwar am fod mor sarhaus-anwybodus a haerllug. Ac wele, Gymro Cymraeg yn gwneud yr union run peth! Welodd unrhyw un y fath bathetigrwydd, a'r fath ymdrech druenus i sgorio pwyntiau gwleidyddol erioed? Hyd yn oed yn ôl safonnau'r Blaid Lafur!

Sblat!

"Yn wir, mewn llawer cymuned Gymraeg mae ethos y Seiri Rhyddion yn rhemp trwy'r gymdeithas drwyddi draw," meddai Coco wrth ddatgan yn hyderus fod Cymry Cymraeg yn defnyddio'r iaith i gadw pobol "yn eu priod le." A'r lle hwnnw, "wrth reswm," medda fo, ydi "sawl gris yn is na nhw!" Anwybyddwn y ffaith i Coco fod yn agos iawn at greu cynghanedd yn y frawddeg olaf 'na, gan y gallwn fod yn eitha sicr mai damwain oedd hynny. Ond tra bod y Seiri Rhyddion a'u tebyg yn ffenomen fyd eang, a chyn gryfed yn y dinasoedd ac y mae nhw yng nghefn gwlad, neu'r darn bach o dir lle mae'r Cymry Cymraeg yn y mwyafrif, annoeth ac anheg fyddai ceisio dweud fod mwy ohonynt fesul nifer y boblogaeth yn y Gymru Gymraeg. Oherwydd, yn gyntaf, byddai rhywun yn meddwl fod ardaloedd tenau eu poblogaeth efo llai o ffynniant economaidd, fel cefn gwlad, yn tueddu i fod â llai o wŷr busnes ac uchel-swyddogion llywodraeth leol a chyfreithiol nag ardaloedd mwy llewyrchus a dwys eu poblogaeth. Ac yn ail, mae'r Seiri Rhyddion yn sefydliad gudd, felly pwy all ddweud un ffordd neu'r llall? A phe bynnag fyddo'r gwir, holl ethos y Seiri ydi edrych ar ôl y lleiafrif o'r boblogaeth sydd yn gyd-aelodau. Sut felly, all y Cymry Cymraeg i gyd fod yn rhan o'r 'cynllun mawr' yma?

Doh!

Aiff yr un ymosodiad o'r fath hon o du'r giwed gywilyddus yma oddi fewn i Lafur heibio heb gyplysu'r 'cadw pobl allan' ac 'yn eu lle' hyn â hiliaeth - waeth pa mor fregus yw'r cysylltiad. Ond prin iawn ydan ni'n gweld ymdrechion mor dila â'r berl nesaf gan Coco Williams, pan nad oes unrhyw fath o gysylltiad o gwbl: "Yn adroddiad Macpherson ar lofruddiaeth Stephen Lawrence, cafodd Heddlu'r Met yn Llundain eu cyhuddo o hiliaeth gyfundrefnol - hynny yw, roedd yr hiliaeth mor gynhenid a dwfn fel nad oedd y sefydliad yn ymwybodol o'i fodolaeth."

Mae 'na fewnblygrwydd ymhob cymuned, fel y dwedais yn gynharach, a mae hwnnw wastad yn fewnblygrwydd cyfundrefnol (o ddilyn y diffiniad a gynigir o'r term, uchod). Ond tra y gellir derbyn fod 'na ambell i deulu go anghyffredin yn trigo yn nyfnderoedd Ceredigion, Meirionnydd, Pen Llŷn neu Sir Fôn, mae'n mynd gam yn rhy bell i ddisgrifio pobl cefn gwlad fel hil arwahan!

Cyfeiliorni

Ydi, mae'n anodd credu fod darpar ymgeisydd seneddol yn gallu arddangos diffyg dealltwriaeth mor sylfaenol o realiti. Hyd yn oed yng ngwyneb eithafiaeth gwrth-Gymraeg rhai o'i gyd-aelodau yn y Blaid Lafur, mae diffygion proffesiynol Rhys Williams yn syfrdannol. Yn wir, mi fyddai rhai yn amau ei iechyd meddyliol yn gyfangwbl.

"Darllen llyfrau Cynog Dafis a Rhys Evans, a gwrando ar Keith Davies ar y teledu" a roddodd iddo'r "prawf gwrthrychol bod sail i'r farn roeddwn i'n ei choleddu am gefn gwlad. Cyn hynny ofnwn fy mod yn cyfeiliorni."

Sori, Coco, does dim byd wedi newid. Ti'n dal yn ffycin boncyrs.

Paranoid seicosus?

Efallai na ddylien ni chwerthin ar ebychiadau'r ffŵl yma. Efallai fod ganddo nam ar ei feddwl, wedi'r cwbl. Mae'n mynnu fod "Cymry Cymraeg cefn gwlad yn defnyddio'r iaith Gymraeg fel arf," (drwy ddigwydd bod wedi eu geni a'u magu yn ei siarad, am wn i) a hynny "naill ai i gau pobl allan neu er mwyn eu gwneud nhw'n ddinasyddion eilradd."

Mae'r realiti'n dra gwahanol, achos y profiad mwyaf cyffredin yn y Gymru Gymraeg ydi fod y Cymry'n plygu drosodd fel stwffwls i blesio unrhyw fewnfudwyr unieithog sy'n ymuno a'r gymdeithas, sefydliad, pwyllgor, cyngor, grwp gweu neu beth bynnag lleol. Sydd dipyn yn wahanol i bolisi plaid Rhys Williams o orfodi mewnfudwyr (sydd ond yn lleiafrif pitw o'r boblogaeth) i Brydain i ddysgu Saesneg. Ym myd ffantasi Rhys Williams, mae'r Gymru Gymraeg yn cael ei llywodraethu gan juntas Cymraeg eu iaith holl-bwerus sydd â rheolaeth dros bob agwedd o fywyd.

Y gwir ydi fod unrhyw arf yn da i ddim byd heb y gallu neu'r grym i'w ddefnyddio. Mae'n anodd credu, unwaith eto, fod darpar ymgeisydd seneddol yn credu y gall lleiafrif diwylliannol difreintiedig, di-lais a di-rym oddi fewn i leiafrif bach iawn mewn unrhyw wladwriaeth, wneud y mwyafrif ymrymedig yn ddinasyddion eilradd! Y mwyafrif hwnnw sy'n siarad iaith swyddogol y wladwriaeth, yn mwynhau rhyddid diwylliannol ac economaidd, heb orfod gwynebu unrhyw fygythiad cymdeithasol na diwylliannol i'w hunaniaeth na bodolaeth fel carfan o gymdeithas.

Complecs

Yn ddwfn yng nghrombil rant Coco Williams mae cliw bach i allu deall y casineb yma mae'n deimlo tuag at Gymry Cymraeg cefn gwlad. Wedi egluro ei fod wedi byw, erbyn hyn, yng ngorllewin Cymru am chwarter canrif, mae'n datgan mai'r peth olaf fyddai'n licio bod ydi "bachan cefen gwlad," ac â yn ei flaen i esbonio mai o gefndir cefn gwlad oedd ei rieni, er iddo gael ei fagu yn Ynys-y-bwl yn ne-ddwyrain Cymru. Ai rhyw fath o gomplecs sydd ganddo felly, yn codi o berthynas cymhleth rhyngddo a'i dad? Dwi'm yn trio bod yn bersonol, dim ond dyfalu, achos mae'r berthynas love/hate honno rhwng tad a mab yn ffenomen digon cyffredin yn ein cymdeithas.

Yn sicr mae ei gasineb at Gymry Cymraeg cefn gwlad yn ddi-sail ac afresymol. Cymaint felly, fel y gofynnodd ei dad iddo, pan oedd yn hogyn ifanc yn Ynys-y-bwl, de-ddwyrain Cymru, "pam oedd o mor gas pan mae'n son am gefn gwlad?"

Hwyrach fod rhywun - dim ei dad, gobeithio - wedi ei orfodi fo i fyta cachu dafad rhywbryd, wrth fynd am bicnic mewn parc yn y cymoedd? Duw â wyr. Ond, i roi heibio'r jocian am funud, mae'r ffaith i'w dad o ofyn y cwestiwn - a Rhys bach, bryd hynny, heb fod yn byw yng nghefn gwlad - yn awgrymu'n gryf fod ei gasineb at gefn gwlad yn un oedd yn seiliedig ar ragfarn llwyr, yn hytrach na phrofiad.

Os felly, Rhys Williams - y lemon newydd ar y bloc - yw'r unig berson yn y ddadl hon y gellir dweud yn sicr fod culni yn rhan canolog o'i wneuthuriad.

Os bydd Coco yn dal yn ymgeisydd pan ddaw'r etholiad heibio, yna alla i ddim ond edrych ymlaen i weld Adam Price yn rhoi trwyn coch iawn i'r clown.