Yn sicr, mae o'n newyddion da i fi, gan fod i'r nofel hon elfennau tywyllach - tra'n cadw at yr un naws a hiwmor â'i dwy rhagflaenydd. Mae 'na blot cryfach ynddi hefyd. Calondid oedd clywed fod y datblygiadau hyn nid yn unig wedi gweithio, ond wedi bod yn gaffaeliad.
Dal i ddysgu'r grefft o sgwennu nofelau ydw i, wrth gwrs. Credaf fod pob nofelydd yn altro wrth fynd yn ei flaen, wrth ddarganfod ei arddull, a'r niche, neu be bynnag. Mae cael ar wybod fod y gwelliannau dwi'n weld yn fy hun, yn rhai a gadarnheir gan unigolion profiadol yn y maes. Dwi'n hapus iawn, iawn, felly.
Yr hyn sydd ar ôl i'w brofi nawr, ydi a fydd hi mor boblogaidd a'r ddwy arall, ac a fydd dilynwyr y gyfres yn cytuno â'r farn broffesiynol. Mi fydd rhaid aros tan ddiwedd Hydref/ddechrau Tachwedd, i weld beth fydd yr ateb. Dwi'n edrych ymlaen yn arw at hynny, ac yn gobeithio y bydd Crawia'n gwneud i chi chwerthin yn uchel, a chanu clychau yn eich pennau ar yr un pryd.
3 comments:
Prysgodyn, diolch am alw heibio i'm blog. Sori mod i ddim wedi sylwi dy sylw cyn hyn. Pob llwyddiant ar dy nofelau.
"Mae 'na blot cryfach ynddi hefyd."
Mae yna blot felly. :P
diffinia 'plot' ;P
Post a Comment