27/08/2008

'Crawia': fy nhrydedd nofel

Gorffennais sgwennu'r drafft cyntaf o fy nhrydedd nofel, 'Crawia', ddechrau'r mis 'ma. Mae hi bellach yn nwylo fy ngolygydd, ac rwy'n aros yn eiddgar am ei sylwadau. Unwaith y caf y feedback cyntaf yma, mi af ati i addasu yn unol â'r sylwadau - os y cydsyniaf â hwy - ac yna bydd y gwaith ail-ddrafftio a phrawf-ddarllen yn dechrau o ddifri.

Fel y gŵyr rhai ohonoch, mae 'Crawia' yn ddilyniant i 'Madarch', oedd yn ei thro yn ddilyniant i fy nofel gyntaf, 'Brithyll'. Gan mai 'Crawia' fydd y drydedd - a'r olaf - yn y drioleg, fy mwriad yw cyflwyno rhywbeth ychydig yn wahanol i'r ddwy gyntaf, gan gadw at y naws a'r hiwmor oedd yn ei dwy rhagflaenydd. Nofelydd cymharol newydd ydw i o hyd, ac un sydd i raddau yn dal i 'ddysgu'r' grefft, ac sy'n dal i ddarganfod fy mlas a chyfeiriad creadigol fy hun. Wrth sgwennu dwi'n fwyfwy ymwybodol o'r safonnau uwch yr wyf wedi eu gosod i mi fy hun, ac mae'r dair nofel yma wedi bod yn ffordd o ddarganfod - ac arwain yn naturiol tuag at - yr arddull, gwrthrych a genre wyf am weithio drwyddynt.

Tra'n cadw at natur y ddwy gyntaf, mae 'Crawia' hefyd yn arwain fy ysgrifennu yn agosach at yr hun wyf am ysgrifennu yn y dyfodol - llenyddiaeth tywyll-ond-llawn-hiwmor, am fywydau bob dydd pobl gyffredin, a'r problemau personol a chymdeithasol sy'n eu hwynebu ac yn eu hachosi i ymateb mewn ffyrdd gwahanol, straeon efo neges ac islais gwleidyddol 'g' fach cryf. Working class culture ydi'r agosaf peth iddo - fel stwff John King, Irvine Welsh a Niall Griffiths, efo hiwmor iach Cymreig Celtaidd, am wn i. Roedd 'Brithyll' yn romp o chwerthin a direidi. Roedd 'Madarch' yn romp telynegol - efo mwy nag awgrym o ffars gomediol - ond efo islais gwleidyddol pendant iddi. Mae 'Crawia', yn bendant, yn llawer tywyllach na'r ddwy - tra hefyd yn cadw'r elfennau o romp, hiwmor gwallgo a gwleidyddiaeth. Mewn ffordd, mae 'Brithyll' a 'Madarch' yn plethu'n berffaith efo tywyllwch 'Crawia' i greu y cyfeiriad 'newydd' y byddaf yn sgwennu yn y dyfodol. A thra dwi'n rhagweld y bydd y nofel yn un ddadleuol (hyd yn oed fwy na'r ddwy arall - ond am y rhesymau cywir!) dwi'n sicr yn meddwl ei bod yn gweithio, a bod lle i'r math hyn o lenyddiaeth yn y Gymraeg.

Mi fydd y controfyrsi y tro yma yn dipyn dyfnach na'r rwtsh arwynebol a hunangyfiawn am "ieithwedd" a "gwrthrych" y ddwy ragflaenydd. Dwi'n gobeithio y bydd y dadlau ynghylch materion cymdeithasol o bwys a rôl llenyddiaeth wrth eu hadlewyrchu. Dwi hefyd yn gobeithio y caiff y nofel dderbyniad yr un mor wresog a'r ddwy gyntaf.

Dwi wedi gweld cynllun bras o'r clawr, sydd eto yn cael ei wneud gan yr arlunydd talentog, Ian Phillips, o Gorris. Fo wnaeth gloriau trawiadol 'Brithyll' a 'Madarch', wrth gwrs, a rwy'n hapus iawn efo'i waith. Fel gyda'r ddwy nofel gyntaf, fi wnaeth y sgets wreiddiol o'r hun oeddwn eisiau fel clawr, ond y tro yma, rwyf hefyd wedi gallu trafod efo'r artist wrth iddo ddatblygu'r syniad. Dwi'n edrych ymlaen yn arw i gael gweld y llun terfynol.

Mi fydd 'Crawia' allan erbyn y Nadolig, a gobeithir ei lansio ganol neu ddiwedd Tachwedd eleni.

No comments: