26/08/2008

Positif: Hunaniaeth Cymreig yn llamu ymlaen

Pan o'n i'n gweithio yng Nghanolfan Treftadaeth Llys Ednowain, yn Traws, chydig flynyddoedd yn ôl, ddois i ar draws lluniau du a gwyn o garnifal Trawsfynydd yn y 1960au, a sylwi fod baner Jac yr Undeb i'w gweld yn chwifio ymysg y dyrfa a'r orymdaith.

Dwi wedi ymddiddori yn, ac wedi astudio, hunaniaeth, a mae datblygiad, rôl a dirwyiad Prydeindod wedi bod yn elfen bwysig o'r astudiaethau hynny. Hawdd oedd deall sut bod Jac yr Undeb i'w gweld yn gyson yng Nghymru yn hanner gyntaf yr 20ed ganrif, ac wedyn, ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Cymharer hynny efo heddiw, gyda'r Ddraig Goch bellach i'w gweld ymhob man, a baner yr Undeb yn olygfa digon prin.

Ond roedd gweld y llun hwn o hanner olaf y 60au, yn Nhrawsfynydd, yn dystiolaeth o faint mor gryf oedd Prydeindod ac Unolyddiaeth yng Nghymru cwta genhedlaeth neu ddau yn ôl. Yn 1967 ges i fy ngeni - cyfnod pan oedd deffroad cenedlaethol yng Nghymru. Ac wrth edrych yn ôl dros hanes cymdeithasol - megis tystiolaeth ffotograffau a llenyddol (cofnodion cyhoeddus uniaith Saesneg a chanu God Save the Queen, a.y.y.b.), mae rhywun yn gweld o ddifri be oedd gwir extent y deffroad cenedlaethol hwnnw. Pan da chi'n gweld faint mor gryf a chyffredin oedd Prydeindod yn y chwedegau, gallwch werthfawrogi maint y newid tuag at Gymreictod a ddilynodd.

Pentra 'hannar hannar' oedd Traws pan o'n i'n tyfu i fyny yn y 1970au. Un cynghorydd Llafur, un cynghorydd Plaid, a'r ddau yng ngyddfau'i gilydd byth a beunydd. Yn y lleiafrif oeddan ni, deuluoedd cenedlaetholgar, ac fel Blaenau Ffestiniog, ein tref, roedd Llafur yn rym gwrth-Gymraeg cryf yn y gymuned, ar y pryd. Dwi'n cofio 1977, a'r Jiwbili bondigrybwyll, a'r Llafurwyr yn trefnu partis stryd i blant y pentref. Aeth fy mam â ni'r plant i Ynys Byr, oddiar Ddinbych y Pysgod, i osgoi'r jamborî. Yn tynnu at fy 10 oed, roeddwn i'n ddigon hen i ddeall pam. A mi ges i fynd i mewn i'r mynachdy, at y mynachod, efo fy ewythr - ac yno, yn nistawrwydd eu byd pellenig y treulias i brynhawn dathliadau brenhines Lloegr.

1977 felly - Trawsfynydd yn dal yn weddol Brydeinig. Ond erbyn heddiw, fyddai neb yn meiddio chwifio Jac yr Undeb yn y pentref o gwbwl. Mae o allan o ffasiwn ymysg y Llafurwyr prin sydd ar ôl! Mae twf Cymreictod ar draul Prydeindod wedi bod yn aruthrol - ac mae'n cael ei adlewyrchu drwy gydol y wlad. Mae llawer o ffactorau wrth wraidd hyn, wrth gwrs - deffroad cenedlaethol, twf addysg Gymraeg, llwyddiant rygbi a chwaraeon eraill, twf diwylliant poblogaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, cynydd mewn cyfryngau Cymraeg, datganoli, amherthnasedd Prydeindod yn absenoldeb rhyfel, i enwi dim ond rhai... Ond dim trafod hynny dwi isio'i wneud ar y funud, ond son am y newid ei hun, a sut ges i fy atgoffa ohono wrth wylio'r newyddion neithiwr.

Yr eitam dan sylw oedd dychweliad athletwyr Cymreig tim Olympaidd Prydain, i ddathliadau ar strydoedd Caerdydd. Er gwaetha propaganda'r BBC yn ystod y gemau, yr holl bwysleisio, hybu a hyrwyddo'r Undeb, a phortreadu'r wladwriaeth fel 'cenedl', a'r holl Jaciau'r Undeb i'w gweld yn cwhwfan ar ein sgriniau, daeth athletwyr buddugol Cymru yn ôl i Gaerdydd efo'r Ddraig Goch wedi'i lapio dros eu sgwyddau. Dim Jac yr Undeb y "Team GB" bondigrybwyll, ond baner Cymru.

Ymhellach - a dyma sydd hyd yn oed yn fwy calonogol - yn y dorf (ac yng Nghaerdydd o bob man!) dim ond môr o faneri Cymru oedd i'w gweld (geblaw am un Jac yr Undeb fach, maint hances boced, a lwyddodd rhyw ddyn camera i'w ffendio reit ar ddiwedd yr adroddiad). O ystyried yr holl bwyslais ar 'Team GB' yn ystod y dair wythnos ddwythaf, roedd hyn yn hynod galonogol.

Dangoswyd glip newyddion o 1968 wedyn - ffwtej du a gwyn o'r dyrfa'n croesawu Lynn Davies yn ôl o Olympics Tokyo, efo'i fedal aur am y naid hir. Craffais yn ofalus ar bob rhan o'r sgrin. Oedd, roedd'na un neu ddwy Draig Goch fach yno, ond roeddan nhw'n chwifio mewn môr o Jaciau'r Undeb.

Fysa rhywun ddim yn disgwyl llawer mwy yng Nghaerdydd y chwedegau, wrth gwrs - dinas a chwaraeodd ran ganolog yn yr Ymerodraeth Brydeinig dros y ganrif flaenorol. Ond mae'r newid rhwng yr adeg honno a rwan yn syfrdannol.

O gofio fod Caerdydd ymysg y llefydd mwyaf Prydeinig ei Chymreictod o hyd, ac o ystyried holl gyhoeddusrwydd Prydeindod dros yr wythnosau diwethaf, a'r ffaith nad oedd gan ein hathletwyr ddewis ond cystadlu dan liwiau Jac yr Undeb - ac o'r herwydd yn 'normaleiddio' Prydeindod yng ngolwg cefnogwyr a gwylwyr - roedd gweld môr o Ddreigiau Coch yn croesawu'r hogia a genod llwyddiannus yn ôl o'r Dwyrain Pell, ar risiau adeilad y Senedd - ffocws newydd a chynyddol gwleidyddiaeth Cymreig - yn hynod, hynod galonogol, ac yn llenwi rhywun â phositifrwydd am ddyfodol yr hen genedl fach 'ma sydd wedi byw yng nghesail Lloegr am amser mor hir.

Ar adegau fel hyn dwi hefyd yn cael fy atgoffa nad yw pethau ar ben ar Gymru, a bod y broses wleidyddol ddemocrataidd sydd ar droed efo datganoli yn haeddu amser i weithio. Dim ond y sinig a'r pesimist mwyaf - a rhywun nad yw'n gyfarwydd â hanes cymdeithasol a hanes hunaniaeth yng Nghymru - all rwgnach fod hyn ond yn cadarnhau safle'r Cymreictod newydd oddi fewn i'r Undeb. Mae hynny'n anghywir. Mae llwyddiant Team GB wedi methu cael y Cymry i chwifio Jac yr Undeb. Mae Cymreictod bellach yn gryfach na Phrydeindod. Rhaid edrych ar y positif, ac adeiladu ar hynny, yn lle edrych ar wydryn hanner gwag a chanolbwyntio ar y cymylau duon, yn hytrach na'r haul sy'n codi dros y bryn ers cenhedlaeth a mwy. Nid dros nos mae creu cenedl.

No comments: