05/11/2008

America'n tyfu i fyny

Mi gymerodd hi greisus economaidd, a dewis trychinebus o ymgeisydd am y Ddirprwyiaeth gan John McCain, iddo ddigwydd - ond ddoe/neithiwr/heddiw, tyfodd Americanwyr i fyny a dechrau cyrraedd y math o aeddfedrwydd y mae rhywun yn ei ddisgwyl o ddemocrasi orllewinol yn y 21 ganrif.

Nid yn unig ennillodd Obama bleidleisiau'r Coleg Etholiadol o gryn bellter, mi ennillodd y bleidlais boblogaidd o bell hefyd. Ac mi ennillodd ei blaid Ddemocrataidd fwyafrif cryf yn Nhy'r Cynrychiolwyr ac yn y Senedd.

Buddugoliaeth ysgubol ymhob ystyr, ac un hanesyddol wrth gwrs. Mae'r Americanwyr wedi goroesi legasi chwerw o hiliaeth, ac wedi rhoi dyn du yn y Tŷ Gwyn, ac mae nhw wedi taflu ymaith eu difaterwch ac wedi ymwrthod â jingoistiaeth y regime Cheney-Bushaidd dde-eithafol a chrefyddol o'r diwedd. Mae nhw wedi ymwrthod a'r doctrin o droi America'n hyper-power, ac wedi gweld gwerth mewn cydweithio rhyngwladol a phartneriaeth rhwng gwledydd.

Mewn geiriau plaen, mae nhw wedi tyfu i fyny. Hir oes i Obama. Hir oes i'r America newydd!

2 comments:

Anonymous said...

Dwi wedi mwynhau darllen eich blog, a llongyfarchiadau gyda'i lwyddiant. Ond, dwi yn sylwi eich bod chi yn ffocysu ar faterion sydd yn ymwneud â Chymru.

Baswn i'n ddiolchgar os buasech chi'n tynnu sylw aelodau a chyfranwyr at ein prosiect newydd. Mae'n gais di-elw i geisio creu fforwm ar gyfer Cymru gyfan lle mae barn pawb ynglŷn ag unrhyw beth Cymraeg neu sydd yn digwydd yng Nghymru yn gyfartal, lle gallent trafod heb sylwadau sarhaus a bygythiol. Nid ydym yn ffafrio unrhyw safbwynt gwleidyddol na'n rhoi lan gyda unrhyw anghwrteisi ( hyn yn beth cyffredin yn anffodus y dyddiau yma)

Rydym yn croesawu pobl o bedwar ban byd, does dim gwahaniaeth ar eu ethnigrwydd, safbwyntiau crefyddol, crefydd neu rhyw. Os mae rhywbeth dechau ganddynt i ddweud, a'i fynegi wrth ystyried a pharchu eraill bydd wastad croeso ar Walesfforwm iddynt.

Mae ein staff i gyd yn gwirfoddolwyr, a bydd y cymedrolwyr yn cadw safonau uchel wrth gymedroli'r safle heb unrhyw beias gwleidyddol sail eu penderfyniadau.

Os rydych yn credu bydd hyn o unrhyw ddiddordeb i eich aelodau, a wnewch chi gyfeirio nhw at

WalesFforwm.com . Bydd Croeso Cynnes iddynt.

Cer i Grafu said...

Hei Dewi, dim byd i neud a'th gofnod blog ond newydd ddarllin dy lifir 'Brithyll' odw i, a licswn i weud bo fi wedi joio mas draw. Wi'n siwr dy fod wedi derbyn lot o ganmol arno, felly wi ond isha ychwanegu ato a gweud bo ti'n haeddu pob clod - ma'n blydi brilliant 'achan.

Wi newydd roi fy marn arno ar fy mlog mewn ffordd werinol onest a gobitho na nei di byth roi'r gora i ysgrifennu.

cofion cynhesa posib iti am godi gwen a llon bol o wyrthin.

Ceri Wyn