17/12/2008

Hale-blydi-liwia!

Buan iawn y gall clasur o gan hyfryd ddechra mynd ar dy dits di. Hyd yn oed y rhai mwya gwefreiddiol.

Ymddengys fod y byd a'i frawd a'i chwaer wedi gneud cyfyr (hen bryd cael term Cymraeg am hwnna) o berl dwys a phwerus y bardd hynod Leonard Cohen, Halelujah. Deud gwir, mae'n ymddangos fel fod 'na fersiwn gwahanol i bob gorsaf radio y dyddia yma. Mae 'na hyd yn oed un ar Radio Cymru, diolch i fersiwn Gymraeg Brigyn.

Rwan, dwi ddim yn beio unrhyw un am fod isio cyfro'r gan/caneuon (roedd gan Cohen fwy nag un fersiwn). Be sy'n sbwylio'r peth i mi, o weld dwy fersiwn newydd yn gwthio am frig y siartiau ar y funud, ydi'r teiming. Dwn i'm amdana chi ond, ar wahan i Brigyn, a recordiodd eu fersiwn nhw am y rhesymau iawn, dro yn ôl bellach, mae'r geiriau 'nadolig' a 'bandwagon' yn neidio i'n meddwl i yn syth - yn aml wedi'u dilyn gan ochenaid ddiflas a 'hale-blydi-liwia' dan fy ngwynt, ac, erbyn yr hanner canfed gwaith o glywed y gan, 'o na, dim eto.'

Sydd yn biti, achos mae neges - ac ysbryd a naws - y gan yn cael ei golli. I raddau, beth bynnag. Yn lle gwrando ar y geiriau ti'n cael llond bol o'i chlywed hi. Yn lle ista i lawr, cau'r llygaid a'i theimlo hi, ti'n gweld rhyw artist yn trio rhoi rhawiad o lo ym moilar ei yrfa cloff - rwan ei bod hi'n ffasiynol a cŵl i fod yn *berson cyfoethog cydwybodol*.

Pa reswm arall sydd 'na dros ryddhau cyfyr o'r gan at y Nadolig? Ac os am wneud cyfyr o gwbwl, be am wneud un chydig bach mwy gwreiddiol ia, plis? Fersiwn reggae (Halelu Jah?), neu hip-hop? OK, dydi hi ddim yn gan sy'n gweddu'n naturiol i arddull gwahanol. Ond os felly, pam gneud cyfyr o gwbwl? Be sy'n rong efo'r wreiddiol?

Reit, medda chi, mae hi'n credit crynsh, a mae penawdau newyddion heddiw'n son am y miloedd sy'n colli'u gwaith yn ddyddiol, a ma Prysor yn rhoi prociad i'w flog ar ôl wythnosau o dawelwch, ac yn dechra mwydro ei fod o wedi laru ar glywed rhyw gan ar y radio. Och a gwae mae'r byd ar ben.

Ond mae na reswm pam mod i'n gneud hale-blydi-liwia o ffys am ddim byd, fel hyn. Roedd 'na drafodaeth ar Newsnight Review rhyw gwpwl o wythnosau yn ôl, a mi oeddan nhw'n trafod sut oedd y celfyddydau - celf, llenyddiaeth, drama a ffilm - yn mynd i ymateb i'r cyfnod hwn o ansicrwydd a phesimistiaeth economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol. Ydi'r celfyddydau'n mynd i adlewyrchu hyn drwy greu cynnyrch tywyllach, mwy griti a real, mwy dwys, bygythiol a gwrthryfelgar, neu a ydan ni'n mynd i weld y celfyddydau'n troi at escapism, ac yn creu mwy o gomediau a ffilmiau ffantasi?

Roedd 'na ddimensiynau eraill i'r drafodaeth, ond roedd hwn yn bwynt difyr. Er mod i'n cyflwyno'r post hwn efo chydig o wamalu sinigaidd, dydi o ddim yn fy synnu fod artistiaid yn troi at gan fel Haleliwia - gan fardd mor ysbrydolgar â Cohen - fel cyfyr yn yr amseroedd ansicr yma. Mae'r ddynoliaeth ar drothwy croesffordd beryglus yn amgylcheddol ac yn wleidyddol, efo gorboblogi, cynhesu byd-eang, y Clash of Civilizations a Peak Oil. Mae'r creisus economaidd wedi chwalu hyder y boblogaeth orllewinol oedd wedi meddwl erioed y byddai eu byd bach diogel yn para am byth. Ac mae proffwydi economaidd y Fall yn darogan gwae yn ddyddiol ar y teledu a'r radio, a'r papurau yn ein bwydo â phlateidiau swmpus o ragolygon tywyllach fyth, fel tasa starter o derfysgaeth crefyddol, propaganda hiliol, straeon bygythiol am blant efo gynnau, ac amrywiol wermod cyffelyb, ddim wedi'n gneud ni'n ddigon ffycin paranoid.

Be sy'n beryclach nag ynys llawn o Seiclopsus? Ynys o Seiclopsus efo paranoid-seicosus.

Dydi hi'm yn syndod felly fod pobol yn troi at yr ysbrydol, neu yn uniaethu efo caneuon iasol sy'n cyfleu ein ysfa reddfol i wybod os oes rhywbeth yno neu beidio - os oes 'na ystyr i hyn i gyd - mewn amseroedd pesimistaidd fel hyn. Ac er fod 'na dipyn o escapism yn treiddio i'n sgriniau'n ddiweddar, mae'r celfyddydau ar y cyfan - o'r sgrin i'r llyfr i'r canfas - yn mynd yn dywyllach, dwi'n meddwl. Yn enwedig cynnyrch yr artistiaid, llenorion, beirdd, sgriptwyr a cherddorion hynny sy'n portreadu realiti bywyd bob dydd yn eu gwaith. Yn yr un modd, mae'r operau sebon ar ein teledu yn gorfod adlewyrchu pynciau cyfoes, yn enwedig rhai sy'n effeithio pawb yng nghymdeithas, fel hwn. Ac, wrth gwrs, mae'r syniad o Ddydd y Farn yn ymddangos mewn dramau fel Spooks, a Survivors - un o'r pethau salaf (ymhob ffordd y gellir ddychmygu) a welis i erioed ar y bocs (duw a ŵyr pwy gomisiynnodd y fath gachu).

Mae hyn i gyd yn rhan o'r un cylchdro - gwasgfa economaidd yn creu pryder colectif, a hwnnw'n cael ei fwydo gan fegin y cyfryngau torfol. Mae o i gyd yn porthi'r isymwybod ac yn cynyddu'r ansicrwydd yn ein bywydau. Ac mae holl natur yr ansefydlogrwydd cymdeithasol a rhyngwladol yma yn ein gadael yn ddiymadferth, yn ddiffrwyth i wneud uffarn o ddim byd amdano. Does 'na ddim cafalri ar y ffordd. Does 'na ddim i'w wneud ond brathu'r lledr a gobeithio'r gorau. Da ni ar drugaredd y systam, ar drugaredd datblygiadau, ar drugaredd... Duw? Oes 'na Dduw? Oes 'na rwbath allan yna sy'n mynd i afael yn ein dwylo os y cawn ni hyd iddo fo? Neu ydan ni ar ben ein hunain wedi'r cwbwl...

Dyma'r math o gwestiynau sy'n treiddio i feddyliau'r gwan a diobaith. Rydan ni'n chwilio. Chwilio am iachawdwr. Mae rhywun yn ei deimlo fo, bron, fel rhyw ias ar y gwynt, yn ei weld o yng nghornel y llygad colectif - cymdeithas yn tueddu i droi at yr ysbrydol am gymorth. Boed yn lwc, ffawd, ffydd, gobaith, swynau, diwinyddiaeth, neu hyd yn oed fodau arallfydol - y goruwchnaturiol a'r haniaethol, nid y rhesymol a'r ffisegol ydi'r last resort. Fel drwy gydol hanes hyd yma, pan mae popeth arall yn methu rydan ni'n chwilio am superhero.

Dyma'r hinsawdd sy'n cofleidio caneuon, cerddi a chelfyddyd dwfn, ystyrlon sy'n estyn am yr atebion yr ydan ni i gyd yn eu crefu. Mae Halelujah yn gwneud hynny.

Ar ddiwedd y gan, does 'na'm rhyfedd fod 'na gyfyrs galôr ohoni, a bod croeso iddyn nhw, y Nadolig ansicr hwn.

No comments: