31/12/2008

Cyfraniad amhrisiadwy Anweledig

Cliciwch y teitl uchod, ac fe ewch i YouTube i weld fideo o gig olaf Anweledig (cliciwch ar more from yDynSdici i weld y bedair fideo arall). Hefyd, cliciwch yma i weld lluniau gwych o'r noson gan Alwyn Jones o Stiniog.com.

Do wir, nos Sadwrn 27 o Ragfyr 2008, yn y Queens ym Mlaenau Ffestiniog, diflanodd seren Anweledig dros y byrddau ac i lawr dros orwel gyrfa ddisglair a dylanwadol iawn.

Ond nid i ebargofiant chwaith. Achos, a nhwythau'n dathlu penblwydd y band yn 20, gadawodd Anweledig y sîn gerddorol Gymraeg unwaith ac am byth, ond ni adawsant galonau'r sawl a'u mwynhaodd dros y blynyddoedd. Ac fel pe na bai atgofion melys o nosweithia gwyllt efo'r band dawnus a difyr o Stiniog yn ddigon i gadw'u legasi'n fyw am byth, rhoddodd yr hogia uffarn o sioe dda i bron i ddau gant o ffans, ffrindia a theulu, a brodroion eu bro annwyl.

Does na'm pwynt i mi ymhelaethu. Mae nosweithiau afreolus Anweledig yn gyfarwydd i bawb, bron. A beth bynnag, mae'r fideos yn dweud y cyfan.

Does na'm pwynt chwaith i ymhelaethu am eu cyfraniad i'r sîn Gymraeg, wrth ei fywiogi i raddau nas gwelwyd o'r blaen. Roeddan nhw'n lliwgar, yn llawn hwyl, yn agored a chyfeillgar, â'u traed wedi eu seilio'n gadarn ar y ddaear Gymreig wrth ddyrchafu'n meddyliau tua'r bydysawd agored a rhyddhau pobol o gysgod y cadwynnau Methodistaidd sydd hyd heddiw yn crafu croen garddyrnau ein cymdeithas. Gwrthododd Anweledig gyfaddawdu na dilyn unrhyw drefn neu duedd 'ffasiynol' neu wleidyddol gywir. Mae eu dylanwad cerddorol hefyd yn un sydd i'w weld heddiw gyda grwpiau fel Di Pravinho a Derwyddon Dr Gonzo.

Bob yn hyn a hyn yng Nghymru, mae na rywbeth gwefreiddiol yn digwydd. Rhywbeth sydd hyd yn oed yn fwy hudol o gofio mai lleiafrif bychan difreintiedig, oddi mewn i leiafrif bychan difreintiedig, ydan ni y Cymry Cymraeg. Yn achos Anweledig, tyfodd criw o ffrindiau agos i fyny efo'i gilydd, yn yr un ardal, yn ymddiddori yn yr un miwsig a dylanwadau: criw o ffrindiau oedd yn gerddorion dawnus (a'r ffrynt man gorau welodd Cymru a Phrydain, os nad y byd, yn Ceri C), yn bobol deallus a chreadigol dros ben, oedd yn llawn egwyddorion a hiwmor oedd wedi gwreiddio'n gadarn yn un o'r cymunedau mwyaf unigryw, arbennig a chyfoethog ei diwylliant poblogaidd a chynhenid yng Nghymru.

Ac rwan fod prif ffrwd eu creadigedd wedi dod i ben, mae o'n siarad cyfrolau am natur a didwylledd egwyddorol yr hogia o weld yr hyn mae nhw wedi, yn, ac yn mynd i, roi yn ôl i'w cymuned. Mae Rhys yn creu gwyrthiau wrth sefydlu a rhedeg y Gwallgofiaid, ers sawl blwyddyn bellach, yn rhoi cyfleon i gerddorion a grwpiau ifanc yr ardal, yn rhoi hyfforddiant a stafelloedd ymarfer iddyn nhw yn Cell, a label iddyn nhw recordio (Clin-R). Mae Gai Toms yn brysur efo sawl prosiect wirfoddol sy'n ceisio adnewyddu tref Blaenau a'i sefydliadau, ac mae egni bytholwyrdd Ceri C yn wirioneddol hollol gampus o effeithiol wrth ei waith efo Cymunedau'n Gyntaf ym Mlaenau Ffestiniog.

Dyna i chi dri o aelodau'r band sydd wedi gwneud y dewis cydwybodol i roi eu dyfodol i gyfrannu'n adeiladol ac effeithiol i'r gymuned ble y'u magwyd, ac mae'r lleill hefyd, yn helpu allan yn aml.

Dwn i ddim faint o grwpiau a cherddorion eraill Cymru all ddweud eu bod nhwytha wedi gwneud yr un peth? Ond o weld esiampl Anweledig, does dim dwywaith y bydd llawer mwy yn gwneud yr un fath cyn hir. Dyna i chi legasi'r hogia o Stiniog. Yr athrylith cydwybodol colectif ag oedd Anweledig.

Diolch o galon hogia. Parch.

No comments: