29/08/2008

Postmyn anllythrennog - y dyfodol?

Ydi'r Post Brenhinol yn rhagweld y bydd rhaid iddyn nhw gyflogi postmyn anllythrennog yn y dyfodol? Dyna ydi'r cwestiwn mae fy mrawd yng nghyfraith yn ei ofyn, draw yn Sir Fôn bell.

Mae o a fy chwaer, a'u plant, yn byw yn Talwrn, ac wrthi'n codi tŷ gerllaw'r pentra, ar safle a elwir yn Bryn Chwil. Yn ôl yr hanes, cafodd y bryncyn yr enw oherwydd, amser maith yn ôl, roedd hi'n arferiad i drigolion yr ardal fynd i eistedd ar ben y bryn i yfed cwrw, ar adeg arbennig o'r flwyddyn. Dwi ddim yn cofio'n union pa adeg oedd o, ond roedd o ar ôl rhyw ddigwyddiad cymunedol penodol.

Ta waeth, bwriad fy mrawd yng nghyfraith a'm chwaer oedd enwi'r tŷ newydd yn Bryn Chwil, er mwyn coffau'r traddodiad unigryw 'ma. Er mwyn cael côd post i annedd newydd, mae'n rhaid cofrestru'r enw efo Swyddfa'r Post, ac aeth y ddau ati i wneud hynny. Ond gwrthodwyd eu cais, ar y sail y byddai'n achosi "dryswch i bostmyn a phobl eraill fyddai'n galw yn y plwyf..."

Yr hyn fyddai'n achosi'r penbleth mawr, meddai siwtiau'r Post Brenhinol, yw'r ffaith mai Bryn Chwilog yw enw'r tŷ cyfagos, led cae i ffwrdd, lle mae fy chwaer a'i gŵr yn byw rwan, a bod - i'r cyfeiriad arall, rhyw led ychydig o gaeau - dŷ arall o'r enw Bryn Hyfryd!

Rwan, nid yn unig mae hyn yn achosi i rywun feddwl fod disgwyl y bydd postmyn y dyfodol yn methu darllen, ond mae o hefyd yn gwneud i rywun amau os yw'r Post yn disgwyl y bydd postmyn y dyfodol yn fewnfudwyr uniaith na all ddweud y gwahaniaeth rhwng enwau Cymraeg gwreiddiol yr ardal! Heb son am beri i rywun feddwl pa hawl sydd gan y siwtiau annelwig hyn i wrthod enw gwreiddiol, traddodiadol y cae lle'r adeiladir yr eiddo sy'n ceisio'r enw.

Yn enwedig, felly, o sylwi fod hen dŷ heb fod ymhell o'r safle wedi'i brynu gan Saeson, a aeth ati'n syth i newid ei enw i Lavender Cottage - heb unrhyw wrthwynebiad o gwbwl o du'r Post Brenhinol!

28/08/2008

Llydaw #2

Roedd hi'n costio £550 i fynd â theulu o bump a char ar y ferries dros y Sianel, felly dewis yr Eurotunnel wnaethon ni. Mae'r prisiau yn rhad iawn os ydych yn dewis amseroedd 'amhoblogaidd'. Cant a thri deg punt oedd o'n gostio, a sôn am ffordd hwylus i groesi! Dreifio ar y tren, ista'n y car am hannar awr, et voila, da chi'n Ffrainc. Yr unig broblam oedd y daith hir i lawr i Folkestone, a'r daith hirach fyth o Galais i Lydaw wedyn. Ond duwcs, dio'm yn waith calad, nacdi?

Chwalodd yr egsôst yn rhywle ar yr A5 ger yr Amwythig, ar y ffordd i lawr, nes bod sŵn fel tractor ar y car. Ac erbyn cyrraedd Ploermel, yn ne Llydaw, roedd y bocs blaen wedi llwyr ymddatod ei hun o'r beipan, ac yn fflapio yn erbyn y sub frame, gan wneud sŵn clecian fel mashîn-gyn. Ond doedd o'm yn mynd i fynd i nunlla, achos roedd pen arall y bocs yn dal yn sownd i'r maniffold, felly doedd na'm pwynt mynd i garej i wario pres a wastio amsar. Felly y buodd yr egsôst trwy gydol y gwyliau, felly.

Ond yn ôl at Folkestone, a hwylusdod yr Eurotunnel. Roeddan ni tua dwy awr yn gynnar, felly dyma sdopio yn y Services sydd jesd cyn y terminal (mae'r lle'n darparu ar gyfer 'early arrivals' y twnnel). Ar ôl tindroi yno, aethom yn ein blaena i jecio i mewn. Pan bwysais fy rhif personol i mewn, cawsom y dewis o fynd ar un o'r ddau drên cyn ein trên ni (mae'r trenau'n mynd bob hanner awr) - a hynny am ddim tâl ychwanegol. Hyd yn oed yn well na hynny, roedd y tren nesaf yn mynd o fewn 20 munud. Cyrhaeddom Frethun, tu allan Calais awr a hanner yn gynt na'r disgwyl, am ugain munud wedi chwech yr hwyr (amser Ewrop).

Doedd dreifio ar y dde ddim yn brofiad pleserus, i ddechrau, yn enwedig pan fo cyfarwyddiadau Google Maps i'r gwesty yng Nghalais yn ymddangos mor hawdd, a'r ffordd aethom ni yn wahanol! Do, mi ddiweddom i fyny ynganol Calais, a do, bu ambell dro trwstan - fel pan drodd y goleuadau'n wyrdd mewn box junction prysur, ac y troiais innau yn syth i mewn i ddwy res o draffig oedd yn dod i'm cwfwr. Doedd rifyrsio'n ôl i ganol y bocs jyncshiyn tra bo bysus a loriau yn gwibio heibio, ddim yn brofiad y byddaf yn ei gyfri'n un melys!

Dyma fi o flaen tafarn fy nghyndeidiau!

Ar ôl ffendio'r gwesty - yr Holiday Inn, reit ar lan y dociau - cawsom noson fach allan yn y dref, gan fynd a'r ddau hynaf, Owain (10) a Rhodri (9) i'r ffair, a chael ffiw peints yn nhafarn yr Irish Corner tra'r oedd y ddau'n gwario fel ffyliaid ar y gemau saethu ac ati. Gan fy mod wedi darganfod, yn ddiweddar, fy mod yn ddisgynnydd i Uchel Frenin Iwerddon, mae hi'n running jôc yn ein teulu ni bob tro'r rydan ni'n dod ar draws rhywbeth Gwyddelig - hyd yn oed y tafarnau Gwyddelo-blastig bondigrybwyll sydd i'w gweld ledled y byd! Rhaid, felly, oedd tynnu'r llun uchod!

Difyr oedd gweld nad yw Iechyd a Diogelwch wedi ymyrryd gormod yn ffeiriau Ffrainc, fel mae nhw wedi'i neud yn y wlad yma. Yma, dydach chi ddim yn cael hyd yn oed bympio i mewn i geir eraill ar y bympyr cars. Ond yn Ffrainc, roedd hi'n ffri-ffor-ôl - hed-ons, seid-ons, bac-endars a wiplashes, y wyrcs! Do, ges i hwyl, fi a'r hogia - a dreuliodd ugian munud (yndach, da chi'n cael gwerth eich pres fel hynny, hefyd) cyfan yn trio fy hitio i ffwrdd o'r 'trac'. Dim nhw oedd yr unig rai chwaith. Roedd'na ryw hogan fach chwech i wyth oed, oedd yn rhannu car efo'i brawd yn ei arddegau, wedi cymryd 'ffansi' ata fi - 'ffansi' at drio fy malu'n racs, hynny ydi! Treuliodd honno ei reid cyfan yn fy harasio hefyd! A wel, mi ydw i'n berson sy'n denu pob math o nytars - boed yn drempyns, yn wallgofiaid, alcs, begars, drygis, ynfytyniaid llwyr, neu'n werthwyr contraband (dwi di cael 'Arabiaid' o ryw fath yn trio gwerthu jewelry aur i mi yng ngorsaf petrol Alan Green yn Penrhyn cyn heddiw) - felly dydi hogan fach seicotig efo obsesiwn am grashio ceir i mewn i geir eraill, yn ddim syrpreis o gwbwl!

Arwahan i rannu amser ac antur efo'r teulu, a threulio 'amser o safon' (cwaliti teim, innit) efo fy meibion anystywallt, digwyddodd rhywbeth arall o werth ysbrydol, personol yng Nghalais - sef y profiad o weld Gethin, y mab 10 mis a hanner ar y pryd, yn cymeryd ei gamau cyntaf. Digwyddodd pan oeddan ni'n nôl yn y gwesty, pan 'ollyngodd' Gethin am y tro cyntaf, a dechrau cerdded chydig gamau. Roeddan ni wedi amau y byddai'n gwneud, ac roeddan ni wedi datgan y byddai'n cymeryd ei gamau sylweddol cyntaf tra'n Llydaw. Ac yn wir, erbyn diwedd y gwyliau, byddai'n cerdded rhyw wyth cam ar ben ei hun (bellach mae'n dechrau gollwng o'i ewyllys ei hun, ac mi fydd yn cerdded cyn ei benblwydd yn flwydd oed, ar Ddydd Glyndŵr (Medi 16) eleni.

Llydaw #1

Bore'r 7ed o Awst, a minau wedi gweithio am 4wythnos solad - yn cynnwys amball benwythnos - i orffan drafft cynta'r nofel newydd, cychwynom, fel teulu, am Lydaw. Pump ohonom, mewn car a thent, am 12 diwrnod.

Na, doedd dim awydd yr Eisteddfod eleni. Dim byd yn erbyn Caerdydd, ond dwi'n gweld digon o'r ddinas fel mae hi. Dwi i lawr yno ymhob gêm beldroed gartref Cymru, ynghyd ag ambell i ddigywddiad llenyddol neu farddonol.

Oedd, roedd hi'n flwyddyn y Cymry yng Ngwyl Rhyn-Geltaidd Lorient, Llydaw eleni. Ond nid yno aethon ni, chwaith - er i ni aros lai nag awr o'r lle am y dair noson gyntaf o'n gwyliau. Y prif atyniad tu ôl i'n gwyliau teuluol cyntaf oedd parti dathlu 30 mlwyddiant Byn Walters, y gŵr hynod o Benydarren, Merthyr Tudful, yn rhedeg Tavarn Ty Elise yn Plouie. Er y byddem wedi licio mynd i Lorient - yn enwedig i gefnogi Calan ac MC Mabon - byddai ymgorffori'r ŵyl a'r parti i mewn i'r un daith yn golygu y byddem yn y wlad am bythefnos a hanner i dair wythnos, a byddai hynny'n ormod i blentyn 11 mis oed fel Gethin, ein ieuengaf. Bydd Cymru'n brif wlad Lorient eto mewn 7 mlynedd, ond dim ond unwaith mae Byn yn dathlu 30 mlynadd yn y dafarn enwog a chwedlonol hon.

Doeddwn i heb fod yn Llydaw o'r blaen, ond gan fod gena i lwyth o ffrindiau sydd wedi bod yno dros y blynyddoedd, ac wedi son cymaint am y lle, unwaith y dalltais fod parti Byn ymlaen (rwyf ar restr ebost criw o ffrindiau, cydnebyd a chenedlaetholwyr Cymreig a Cheltaidd, sydd yn cynnwys Byn), neidiais am y cyfle. Gadewais i ffrindiau oedd wedi bod yn Nhafarn Ty Elise dros y blynyddoedd wybod fod y parti ymlaen, a mi benderfynodd criw ddod drosodd yno i ymuno â ni at benwythnos olaf ein taith deuluol.

Cael croeso gan Byn, yn Nhafarn Ty Elise

Doedd dim angen twistio gormod ar eu breichiau, yn enwedig felly gan mai dyma'r cyfle cyntaf i lawer ohonynt fynd draw ers i Byn a chriw y dafarn yrru torch o flodau drosodd i gnebrwn ffrind agos i ni i gyd - Tedi o Benrhyndeudraeth - rhyw bum neu chwe mlynedd yn ôl. A neis, a thrist hefyd, oedd gweld ei luniau yn llyfr lloffion Tavarn Ty Elise, wedi cyrraedd.

Fel y trodd allan, ac fel y gellid disgwyl o wybod fod gŵyl Lorient newydd ddigwydd, nid ein criw ni oedd yr unig Gymry a gyrhaeddodd Dafarn Ty Elise yn ystod ein hymweliad... Mi af ymlaen efo rhyw ychydig o'r hanes yn y man.

27/08/2008

'Crawia': fy nhrydedd nofel

Gorffennais sgwennu'r drafft cyntaf o fy nhrydedd nofel, 'Crawia', ddechrau'r mis 'ma. Mae hi bellach yn nwylo fy ngolygydd, ac rwy'n aros yn eiddgar am ei sylwadau. Unwaith y caf y feedback cyntaf yma, mi af ati i addasu yn unol â'r sylwadau - os y cydsyniaf â hwy - ac yna bydd y gwaith ail-ddrafftio a phrawf-ddarllen yn dechrau o ddifri.

Fel y gŵyr rhai ohonoch, mae 'Crawia' yn ddilyniant i 'Madarch', oedd yn ei thro yn ddilyniant i fy nofel gyntaf, 'Brithyll'. Gan mai 'Crawia' fydd y drydedd - a'r olaf - yn y drioleg, fy mwriad yw cyflwyno rhywbeth ychydig yn wahanol i'r ddwy gyntaf, gan gadw at y naws a'r hiwmor oedd yn ei dwy rhagflaenydd. Nofelydd cymharol newydd ydw i o hyd, ac un sydd i raddau yn dal i 'ddysgu'r' grefft, ac sy'n dal i ddarganfod fy mlas a chyfeiriad creadigol fy hun. Wrth sgwennu dwi'n fwyfwy ymwybodol o'r safonnau uwch yr wyf wedi eu gosod i mi fy hun, ac mae'r dair nofel yma wedi bod yn ffordd o ddarganfod - ac arwain yn naturiol tuag at - yr arddull, gwrthrych a genre wyf am weithio drwyddynt.

Tra'n cadw at natur y ddwy gyntaf, mae 'Crawia' hefyd yn arwain fy ysgrifennu yn agosach at yr hun wyf am ysgrifennu yn y dyfodol - llenyddiaeth tywyll-ond-llawn-hiwmor, am fywydau bob dydd pobl gyffredin, a'r problemau personol a chymdeithasol sy'n eu hwynebu ac yn eu hachosi i ymateb mewn ffyrdd gwahanol, straeon efo neges ac islais gwleidyddol 'g' fach cryf. Working class culture ydi'r agosaf peth iddo - fel stwff John King, Irvine Welsh a Niall Griffiths, efo hiwmor iach Cymreig Celtaidd, am wn i. Roedd 'Brithyll' yn romp o chwerthin a direidi. Roedd 'Madarch' yn romp telynegol - efo mwy nag awgrym o ffars gomediol - ond efo islais gwleidyddol pendant iddi. Mae 'Crawia', yn bendant, yn llawer tywyllach na'r ddwy - tra hefyd yn cadw'r elfennau o romp, hiwmor gwallgo a gwleidyddiaeth. Mewn ffordd, mae 'Brithyll' a 'Madarch' yn plethu'n berffaith efo tywyllwch 'Crawia' i greu y cyfeiriad 'newydd' y byddaf yn sgwennu yn y dyfodol. A thra dwi'n rhagweld y bydd y nofel yn un ddadleuol (hyd yn oed fwy na'r ddwy arall - ond am y rhesymau cywir!) dwi'n sicr yn meddwl ei bod yn gweithio, a bod lle i'r math hyn o lenyddiaeth yn y Gymraeg.

Mi fydd y controfyrsi y tro yma yn dipyn dyfnach na'r rwtsh arwynebol a hunangyfiawn am "ieithwedd" a "gwrthrych" y ddwy ragflaenydd. Dwi'n gobeithio y bydd y dadlau ynghylch materion cymdeithasol o bwys a rôl llenyddiaeth wrth eu hadlewyrchu. Dwi hefyd yn gobeithio y caiff y nofel dderbyniad yr un mor wresog a'r ddwy gyntaf.

Dwi wedi gweld cynllun bras o'r clawr, sydd eto yn cael ei wneud gan yr arlunydd talentog, Ian Phillips, o Gorris. Fo wnaeth gloriau trawiadol 'Brithyll' a 'Madarch', wrth gwrs, a rwy'n hapus iawn efo'i waith. Fel gyda'r ddwy nofel gyntaf, fi wnaeth y sgets wreiddiol o'r hun oeddwn eisiau fel clawr, ond y tro yma, rwyf hefyd wedi gallu trafod efo'r artist wrth iddo ddatblygu'r syniad. Dwi'n edrych ymlaen yn arw i gael gweld y llun terfynol.

Mi fydd 'Crawia' allan erbyn y Nadolig, a gobeithir ei lansio ganol neu ddiwedd Tachwedd eleni.

26/08/2008

Positif: Hunaniaeth Cymreig yn llamu ymlaen

Pan o'n i'n gweithio yng Nghanolfan Treftadaeth Llys Ednowain, yn Traws, chydig flynyddoedd yn ôl, ddois i ar draws lluniau du a gwyn o garnifal Trawsfynydd yn y 1960au, a sylwi fod baner Jac yr Undeb i'w gweld yn chwifio ymysg y dyrfa a'r orymdaith.

Dwi wedi ymddiddori yn, ac wedi astudio, hunaniaeth, a mae datblygiad, rôl a dirwyiad Prydeindod wedi bod yn elfen bwysig o'r astudiaethau hynny. Hawdd oedd deall sut bod Jac yr Undeb i'w gweld yn gyson yng Nghymru yn hanner gyntaf yr 20ed ganrif, ac wedyn, ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Cymharer hynny efo heddiw, gyda'r Ddraig Goch bellach i'w gweld ymhob man, a baner yr Undeb yn olygfa digon prin.

Ond roedd gweld y llun hwn o hanner olaf y 60au, yn Nhrawsfynydd, yn dystiolaeth o faint mor gryf oedd Prydeindod ac Unolyddiaeth yng Nghymru cwta genhedlaeth neu ddau yn ôl. Yn 1967 ges i fy ngeni - cyfnod pan oedd deffroad cenedlaethol yng Nghymru. Ac wrth edrych yn ôl dros hanes cymdeithasol - megis tystiolaeth ffotograffau a llenyddol (cofnodion cyhoeddus uniaith Saesneg a chanu God Save the Queen, a.y.y.b.), mae rhywun yn gweld o ddifri be oedd gwir extent y deffroad cenedlaethol hwnnw. Pan da chi'n gweld faint mor gryf a chyffredin oedd Prydeindod yn y chwedegau, gallwch werthfawrogi maint y newid tuag at Gymreictod a ddilynodd.

Pentra 'hannar hannar' oedd Traws pan o'n i'n tyfu i fyny yn y 1970au. Un cynghorydd Llafur, un cynghorydd Plaid, a'r ddau yng ngyddfau'i gilydd byth a beunydd. Yn y lleiafrif oeddan ni, deuluoedd cenedlaetholgar, ac fel Blaenau Ffestiniog, ein tref, roedd Llafur yn rym gwrth-Gymraeg cryf yn y gymuned, ar y pryd. Dwi'n cofio 1977, a'r Jiwbili bondigrybwyll, a'r Llafurwyr yn trefnu partis stryd i blant y pentref. Aeth fy mam â ni'r plant i Ynys Byr, oddiar Ddinbych y Pysgod, i osgoi'r jamborî. Yn tynnu at fy 10 oed, roeddwn i'n ddigon hen i ddeall pam. A mi ges i fynd i mewn i'r mynachdy, at y mynachod, efo fy ewythr - ac yno, yn nistawrwydd eu byd pellenig y treulias i brynhawn dathliadau brenhines Lloegr.

1977 felly - Trawsfynydd yn dal yn weddol Brydeinig. Ond erbyn heddiw, fyddai neb yn meiddio chwifio Jac yr Undeb yn y pentref o gwbwl. Mae o allan o ffasiwn ymysg y Llafurwyr prin sydd ar ôl! Mae twf Cymreictod ar draul Prydeindod wedi bod yn aruthrol - ac mae'n cael ei adlewyrchu drwy gydol y wlad. Mae llawer o ffactorau wrth wraidd hyn, wrth gwrs - deffroad cenedlaethol, twf addysg Gymraeg, llwyddiant rygbi a chwaraeon eraill, twf diwylliant poblogaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, cynydd mewn cyfryngau Cymraeg, datganoli, amherthnasedd Prydeindod yn absenoldeb rhyfel, i enwi dim ond rhai... Ond dim trafod hynny dwi isio'i wneud ar y funud, ond son am y newid ei hun, a sut ges i fy atgoffa ohono wrth wylio'r newyddion neithiwr.

Yr eitam dan sylw oedd dychweliad athletwyr Cymreig tim Olympaidd Prydain, i ddathliadau ar strydoedd Caerdydd. Er gwaetha propaganda'r BBC yn ystod y gemau, yr holl bwysleisio, hybu a hyrwyddo'r Undeb, a phortreadu'r wladwriaeth fel 'cenedl', a'r holl Jaciau'r Undeb i'w gweld yn cwhwfan ar ein sgriniau, daeth athletwyr buddugol Cymru yn ôl i Gaerdydd efo'r Ddraig Goch wedi'i lapio dros eu sgwyddau. Dim Jac yr Undeb y "Team GB" bondigrybwyll, ond baner Cymru.

Ymhellach - a dyma sydd hyd yn oed yn fwy calonogol - yn y dorf (ac yng Nghaerdydd o bob man!) dim ond môr o faneri Cymru oedd i'w gweld (geblaw am un Jac yr Undeb fach, maint hances boced, a lwyddodd rhyw ddyn camera i'w ffendio reit ar ddiwedd yr adroddiad). O ystyried yr holl bwyslais ar 'Team GB' yn ystod y dair wythnos ddwythaf, roedd hyn yn hynod galonogol.

Dangoswyd glip newyddion o 1968 wedyn - ffwtej du a gwyn o'r dyrfa'n croesawu Lynn Davies yn ôl o Olympics Tokyo, efo'i fedal aur am y naid hir. Craffais yn ofalus ar bob rhan o'r sgrin. Oedd, roedd'na un neu ddwy Draig Goch fach yno, ond roeddan nhw'n chwifio mewn môr o Jaciau'r Undeb.

Fysa rhywun ddim yn disgwyl llawer mwy yng Nghaerdydd y chwedegau, wrth gwrs - dinas a chwaraeodd ran ganolog yn yr Ymerodraeth Brydeinig dros y ganrif flaenorol. Ond mae'r newid rhwng yr adeg honno a rwan yn syfrdannol.

O gofio fod Caerdydd ymysg y llefydd mwyaf Prydeinig ei Chymreictod o hyd, ac o ystyried holl gyhoeddusrwydd Prydeindod dros yr wythnosau diwethaf, a'r ffaith nad oedd gan ein hathletwyr ddewis ond cystadlu dan liwiau Jac yr Undeb - ac o'r herwydd yn 'normaleiddio' Prydeindod yng ngolwg cefnogwyr a gwylwyr - roedd gweld môr o Ddreigiau Coch yn croesawu'r hogia a genod llwyddiannus yn ôl o'r Dwyrain Pell, ar risiau adeilad y Senedd - ffocws newydd a chynyddol gwleidyddiaeth Cymreig - yn hynod, hynod galonogol, ac yn llenwi rhywun â phositifrwydd am ddyfodol yr hen genedl fach 'ma sydd wedi byw yng nghesail Lloegr am amser mor hir.

Ar adegau fel hyn dwi hefyd yn cael fy atgoffa nad yw pethau ar ben ar Gymru, a bod y broses wleidyddol ddemocrataidd sydd ar droed efo datganoli yn haeddu amser i weithio. Dim ond y sinig a'r pesimist mwyaf - a rhywun nad yw'n gyfarwydd â hanes cymdeithasol a hanes hunaniaeth yng Nghymru - all rwgnach fod hyn ond yn cadarnhau safle'r Cymreictod newydd oddi fewn i'r Undeb. Mae hynny'n anghywir. Mae llwyddiant Team GB wedi methu cael y Cymry i chwifio Jac yr Undeb. Mae Cymreictod bellach yn gryfach na Phrydeindod. Rhaid edrych ar y positif, ac adeiladu ar hynny, yn lle edrych ar wydryn hanner gwag a chanolbwyntio ar y cymylau duon, yn hytrach na'r haul sy'n codi dros y bryn ers cenhedlaeth a mwy. Nid dros nos mae creu cenedl.