05/03/2009

Achub y Sesiwn, ac achub ein hunanbarch

Wel, dyna ni. Dim Sesiwn Fawr eleni. Mae'r cyhoeddiad wedi ei wneud, ac mae gan Gymry Cymraeg ifanc sy'n 'dilyn cerddoriaeth' yng Ngwynedd a thu hwnt rwbath i siarad amdano pan fyddan nhw'n mynd allan y penwythnos yma i wario ffortiwn ar uchafbwynt nosweithiol y chwydfa fler, gyhoeddus ar y pafin.

Ia wir, sioc ydi hi iddyn nhw, na fydd gŵyl sydd wedi darparu amser bythgofiadwy - heb son am gyfleon diri i chwydu, malu tentia, a chwydu chydig mwy - iddyn nhw bob blwyddyn ers amser bellach, yn digwydd eleni. Ia wir. Falla wnaiff hâf heb y Sesiwn Fawr ddysgu iddyn nhw werthfawrogi'r ŵyl a'i chyfraniad i'w bywyd cymdeithasol a diwylliannol. Hynny yw, ei gwerthfawrogi hi ddigon i helpu i'w hachub o'i thrafferthion ariannol.

Er cynddrwg ein sefyllfa ddiwylliannol fregus, mae na genhedloedd bychain di-wladwriaeth a diwylliannau lleiafrifol eraill sydd mewn llawer gwaeth twll na ni'r Cymry Cymraeg. Ond does yna run ohonyn nhw, hyd y gwn i, sydd mor ddiog a difater â ni. Mae nhw i gyd yn llwyddo i gynnal gwyliau llwyddiannus yn flynyddol, a phob un yn ffrwyth cyd-dynnu a chydweithredu'r gymuned a chenedl/lleiafrif cyfan. Ac os oes unrhyw fygythiad ariannol i'r gwyliau hynny, mi ddaw'r bobol at ei gilydd a mi godan nhw'r pres sydd ei angen, a mi gan nhw hi yn ôl ar ei thraed ymhen dim.

Iawn, mae 'na elfen o wirionedd yn y ddadl fod sefyllfa cymharol iach diwylliant Cymraeg, o ran fod gennym ni sefydliadau cenedlaethol fel sianel deledu Gymraeg ac ati, yn golygu dirywiad ar lawr gwlad yn ein cymunedau, wrth i feddyliau annibynol a thalentau byrlymus gael eu llusgo naill ai i Gaerdydd neu i yrfaoedd efo cwmniau teledu lleol sy'n rhan o'r diwydiant cyfryngol. Dyna ydi ochr arall y geiniog o gael sefydliadau fel S4C, y Bwrdd Iaith a'r Cynulliad Cenedlaethol a.y.b. - gwaedlif talent, ymroddiad a gweledigaeth o'r ardaloedd Cymraeg yn gadael dim digon o drefnwyr a gweithredwyr cymunedol a diwylliannol ar ôl (yr un rhai sydd i'w gweld yn gneud bob dim, yn anochel, sylwch).

Mae'n wir i ddeud hefyd, fod gormes biwrocrataidd y Blaid Lafur, ynghyd a'u glyniant i fodelau ariannol Thatcher, yn golygu fod costau Iechyd a Diogelwch, a chydweithrediad yr heddlu, yn golygu ein bod o dan anfantais yma o'i gymharu â rhai o'r gwledydd bychain eraill.

Ond does 'na run o'r rhain yn esgus. Achos mi ddylan ni fod yn gryfach na hynny. Dylia bod ni'n gallu bod yn ddigon ymroddgar a chydwybodol - ac efo digon o dalent - i gynnal sefydliadau cenedlaethol (a bwydo'r diwydiant atodol) yn ogystal â chynnal y mentrau a digwyddiadau sy'n helpu i gynnal cymunedau a'u gwneud yn llefydd gwerth byw ynddyn nhw. Rhyngthon ni, mae gennym ni ddigon o ddoniau a sgiliau a chrefftau ac adnoddau i'w cyfrannu i wneud i ŵyl gerddorol dalu'i ffordd!

Efallai ein bod wedi'i chael hi'n rhy dda. Yn genedlaethol, rydan ni wedi dod i arfer efo handowts gan y wladwriaeth - da ni'n rhai da am ddisgwyl i Lundain roi petha i ni, ond yn da i ddim byd am sefyll ar ein traed ein hunain. Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein cymunedau, lle mae efallai gormod o grantiau wedi bod yn cael eu taflu o gwmpas, yn gyffredinol, dros y blynyddoedd dwytha. Mae o'n sicr yn cael ei adlewyrchu yn agwedd ein pobl. Mae gormod ohonom erbyn hyn yn disgwyl cael bob dim ar blat - popeth wedi'i goginio'n flasus ar eu cyfer gan yr un criw bach ymroddgar bob blwyddyn. Mae o'r un mor wir yn achos y Sesiwn ag ydio am Gwyl Car Gwyllt - fydd, mwya tebyg, ddim yn digwydd eleni chwaith, oherwydd diffyg ymateb i apel am fwy o aelodau i'r pwyllgor oedd eisoes wedi shrincio i 4 aelod (mewn tref o dros 4,000 o bobl!).

Yndi, mae'n hunanbarch ni ar all time low. Os nad oes ganddon ni ddiddordeb mewn cynnal ein diwylliant a'n gweithgareddau cymunedol ein hunain, yna sut allwn ni fod â hygrededd fel cenedl a phobl? Sut allwn ni fod â'r gwyneb i heidio i unrhyw weithgaredd mae'r wladwriaeth - yn y bôn - wedi dalu amdano, a heidio'n feddw o flaen camera teledu i ganmol y Sesiwn - a'r trefnwyr am roi cymaint o fwynhad i ni - ac i ddatgan mor bwysig ydi'r digwyddiad i'n calendr cymdeithasol ac i'n bywydau personol a chenedlaethol, yna, pan mae'n dod i'r crynsh, ffwc o neb onan ni'n barod i helpu, heb son am roi ein dwylo yn ein pocedi?

Felly, be amdani? Be am i bawb sydd wedi mynychu'r Sesiwn Fawr dros y blynyddoedd diwethaf ddangos ein bod hi'n werth mwy i ni na wicend o feddwi'n gacan ar y Marian bob blwyddyn? Be am i ni gyd gyfrannu cyfran o'r arian fyddan ni'n ei wario fel arfar yn y Sesiwn Fawr bob blwyddyn, i'r apêl i godi arian i'w hachub hi? Tasa ni i gyd ond yn rhoi deg punt yr un, hyd yn oed, fysa fo'n sicrhau ei bod yn werth ei chynnal hi y flwyddyn nesa, a tasa ni'n rhoi pymtheg, neu ugain punt, fysa hi'n saff. Be uffarn ydi hynny o'i gymharu a gwario hannar can punt ar nos Sadwrn yn yr un hen dafarnau da ni'n arfar mynd iddyn nhw, i bwmpio'n stumogau allan ar y pafin ar ddiwadd nos? Rois i £20 i Comic Relief heddiw. Rois i £30 i apêl Gaza yn ddiweddar. A dw i ddim yn ennill cyflog. Be dwi di neud ydi sdopio mynd i pybs ar wicend i biso pres prin yn erbyn y wal.

Ffordd dwi'n sbio arni, os na achubwn ni'r Sesiwn Fawr fydd o'n all-time low yn hanes dirywiad ein cydwybod cymdeithasol, traddodiad cydweithredol, ysbryd cymunedol, hygrededd a hunanbarch fel Cymry Cymraeg. Ond os wnawn ni ei hachub, meddyliwch gymaint cyfoethocach yn ysbrydol a chymaint yn fwy hyderus yn ein galluoedd ein hunain y byddwn ni wedyn! Mae pres yn gallu prynu cwrw a cur pen bora wedyn, ond mae chydig o bres yn y lle iawn yn gallu prynu rwbath llawar llawar gwell. Mae'r teimlad o gyflawni rhywbeth efo'n gilydd yn rhywbeth amhrisiadwy. Y teimlad yna ein bod ni wedi dangos ein bod ni isio gweld y Sesiwn yn parhau, a'n bod ni - ia ni, y bobol - isio ei hachub, ein bod ni'n barod i drio'i hachub, ac ein bod ni YN MYND i'w hachub. Yna datgan i'r byd - yn falch ac efo cydwybod clir - ein bod ni WEDI EI HACHUB!

Rhowch o fel hyn - mi fysa'n well gen i roi hannar canpunt i achub y Sesiwn na talu ffeifar bob wythnos o'r flwyddyn am rifau loteri, er mwyn talu am Olympics Llundain yn 2012. Ac ar ddiwadd y dydd, mae rhoi cyfraniad ariannol i'r Sesiwn Fawr yn fuddsoddiad diwylliannol a chymdeithasol gwerth ei wneud os ydio'n golygu fod yr ŵyl yn parhau am ddeng mlynadd arall, ac y bydd hi'n dal yn fflio mynd pan fydd fy mhlant innau yn chwydu ar bafinoedd ac yn malu tentia!

1 comment:

Anonymous said...

Ti di taro'r hoelen ar ei phen eto. A ti'n gwbod be sy'n fy ngwylltio fwy na dim? Bod 'na gannoedd, na, miloedd o bobl yn mynd i Ddolgella bob blwyddyn am sesiwn fawr, nid Sesiwn Fawr. Dio ddiawl o bwys ganddyn nhw am unrhywbeth tu hwnt i'r diwylliant yfed Cymreig, a petai'u hanner nhw yn talu i gael mynediad i'r Marian unwaith sa fo lot rhatach i ni gyd a fasa'r Sesiwn ddim mewn cymaint o dwll. Dwi'm yn deud - dydi'r Sesiwn ddim yn hollol ddi-fai, ond mi fasa hi mewn tipyn gwell sefyllfa petai'r free-riders (gan gynnwys, ac yn enwedig, y landlords sy 'rioed di cynnig dima i'r Sesiwn er ei bod hi'n ei chynnal nhw dros y gaea') wedi meddwl am unrhywbeth 'blaw eu peint nesaf.