31/12/2008

Cyfraniad amhrisiadwy Anweledig

Cliciwch y teitl uchod, ac fe ewch i YouTube i weld fideo o gig olaf Anweledig (cliciwch ar more from yDynSdici i weld y bedair fideo arall). Hefyd, cliciwch yma i weld lluniau gwych o'r noson gan Alwyn Jones o Stiniog.com.

Do wir, nos Sadwrn 27 o Ragfyr 2008, yn y Queens ym Mlaenau Ffestiniog, diflanodd seren Anweledig dros y byrddau ac i lawr dros orwel gyrfa ddisglair a dylanwadol iawn.

Ond nid i ebargofiant chwaith. Achos, a nhwythau'n dathlu penblwydd y band yn 20, gadawodd Anweledig y sîn gerddorol Gymraeg unwaith ac am byth, ond ni adawsant galonau'r sawl a'u mwynhaodd dros y blynyddoedd. Ac fel pe na bai atgofion melys o nosweithia gwyllt efo'r band dawnus a difyr o Stiniog yn ddigon i gadw'u legasi'n fyw am byth, rhoddodd yr hogia uffarn o sioe dda i bron i ddau gant o ffans, ffrindia a theulu, a brodroion eu bro annwyl.

Does na'm pwynt i mi ymhelaethu. Mae nosweithiau afreolus Anweledig yn gyfarwydd i bawb, bron. A beth bynnag, mae'r fideos yn dweud y cyfan.

Does na'm pwynt chwaith i ymhelaethu am eu cyfraniad i'r sîn Gymraeg, wrth ei fywiogi i raddau nas gwelwyd o'r blaen. Roeddan nhw'n lliwgar, yn llawn hwyl, yn agored a chyfeillgar, â'u traed wedi eu seilio'n gadarn ar y ddaear Gymreig wrth ddyrchafu'n meddyliau tua'r bydysawd agored a rhyddhau pobol o gysgod y cadwynnau Methodistaidd sydd hyd heddiw yn crafu croen garddyrnau ein cymdeithas. Gwrthododd Anweledig gyfaddawdu na dilyn unrhyw drefn neu duedd 'ffasiynol' neu wleidyddol gywir. Mae eu dylanwad cerddorol hefyd yn un sydd i'w weld heddiw gyda grwpiau fel Di Pravinho a Derwyddon Dr Gonzo.

Bob yn hyn a hyn yng Nghymru, mae na rywbeth gwefreiddiol yn digwydd. Rhywbeth sydd hyd yn oed yn fwy hudol o gofio mai lleiafrif bychan difreintiedig, oddi mewn i leiafrif bychan difreintiedig, ydan ni y Cymry Cymraeg. Yn achos Anweledig, tyfodd criw o ffrindiau agos i fyny efo'i gilydd, yn yr un ardal, yn ymddiddori yn yr un miwsig a dylanwadau: criw o ffrindiau oedd yn gerddorion dawnus (a'r ffrynt man gorau welodd Cymru a Phrydain, os nad y byd, yn Ceri C), yn bobol deallus a chreadigol dros ben, oedd yn llawn egwyddorion a hiwmor oedd wedi gwreiddio'n gadarn yn un o'r cymunedau mwyaf unigryw, arbennig a chyfoethog ei diwylliant poblogaidd a chynhenid yng Nghymru.

Ac rwan fod prif ffrwd eu creadigedd wedi dod i ben, mae o'n siarad cyfrolau am natur a didwylledd egwyddorol yr hogia o weld yr hyn mae nhw wedi, yn, ac yn mynd i, roi yn ôl i'w cymuned. Mae Rhys yn creu gwyrthiau wrth sefydlu a rhedeg y Gwallgofiaid, ers sawl blwyddyn bellach, yn rhoi cyfleon i gerddorion a grwpiau ifanc yr ardal, yn rhoi hyfforddiant a stafelloedd ymarfer iddyn nhw yn Cell, a label iddyn nhw recordio (Clin-R). Mae Gai Toms yn brysur efo sawl prosiect wirfoddol sy'n ceisio adnewyddu tref Blaenau a'i sefydliadau, ac mae egni bytholwyrdd Ceri C yn wirioneddol hollol gampus o effeithiol wrth ei waith efo Cymunedau'n Gyntaf ym Mlaenau Ffestiniog.

Dyna i chi dri o aelodau'r band sydd wedi gwneud y dewis cydwybodol i roi eu dyfodol i gyfrannu'n adeiladol ac effeithiol i'r gymuned ble y'u magwyd, ac mae'r lleill hefyd, yn helpu allan yn aml.

Dwn i ddim faint o grwpiau a cherddorion eraill Cymru all ddweud eu bod nhwytha wedi gwneud yr un peth? Ond o weld esiampl Anweledig, does dim dwywaith y bydd llawer mwy yn gwneud yr un fath cyn hir. Dyna i chi legasi'r hogia o Stiniog. Yr athrylith cydwybodol colectif ag oedd Anweledig.

Diolch o galon hogia. Parch.

Gwerth gwrthrychedd newyddiadurol yn gryfach na'r arwynebedd

Dw i wedi darllen "Freedom Fighters: Wales' Forgotten War 1963 - 1993" yn ddiweddar. Llyfr digon difyr, ond wedi ei sgwennu gan newyddiadurwr, mewn dull newyddiadurwr, wedi ei seilio ar nodiadau newyddiadurol ac adroddiadau papur newydd yn ystod gyrfa'r awdur. Mae 'na wendidau yn hynny, sef fod bron ddim ymchwil newydd wedi ei wneud, ei fod yn dibynnu ar wybodaeth ail-law, ac yn llawn camgymeriadau bychain dioglyd arferol newyddiadurwyr a phapurau newydd (e.e. er i'r awdur dyrchu - yn ofer ar adegau - trwy gofnodion gwladwriaethol o dan y Ddeddf Rhyddhau Gwybodaeth ac ati, mae 90% o'r gwybodaeth a'r cyfeirnodau yn y llyfr yn dod o dudalennau'r Western Mail, y papur oedd yr awdur yn gweithio iddo).

Gallaf ddweud, fel un o'r bobol y sonnir amdano yn un pennod o'r llyfr, fod sawl gwall yn y gohebiaeth yn deillio o adroddiadau'r cyfnod - pethau bach fel oed a galwedigaeth ac ati, a phethau mwy arwyddocaol, hefyd, fel methu nodi'r ffaith ei bod hi'n 7 wythnos ar ôl arestio Sion Aubrey Roberts a David Gareth Davies arna fi'n cael fy arestio). Ac mae anwybodaeth yr awdur o hanes canoloesol a hanes modern cynnar, a hwyrach, Cymru yr un mor dila ag oedd ei ddealltwriaeth o'r Gymry Gymraeg pan oeddwn yn aelod o'r un blaid ag o ar droad y ganrif hon. Nid Owain Tudur o Fôn oedd tad Harri'r VIII (mewn difri calon)!

Hefyd, oherwydd fod y llyfr wedi ei sgwennu o nodiadau ac adroddiadau'r awdur a'r papur newydd ar y pryd, mae 'na chydig flynyddoedd ar goll, lle mae'r awdur yn gweithio ym Mrwsel. Nid yn unig mae hyn yn gadael bwlch enfawr yn y stori, ond mae'r awdur yn mynd i ffwrdd ar danjent am bennod cyfan, yn disgrifio ei amser yn newyddiadura ym Mrwsel, yna'n dychwelyd i flynyddoedd diweddara ymgyrch Meibion Glyndwr, flynyddoedd yn ddiweddarach!

Nid oes yma ddamcaniaethu manwl am y gwahanol 'phases' o ymgyrch MG. Nid oes unrhyw grybwyll, heb son am drafod, damcaniaeth yr heddlu a'r gwasanaethau cudd fod tri gwahanol 'cenhedlaeth' wedi cymeryd yr awennau. Cyn belled â bod yr ymgyrch losgi yn y cwestiwn, mae llyfr Alwyn Gruffydd "Mae Rhywun yn Gwybod" - er yn methu datgelu unrhyw beth - yn hanes llawer mwy cynhwysfawr na'r hyn a geir yma.

Serch hyn, ceir ymdrech - er digon denau ac heb fawr ymchwil newydd - i drafod anghyfiawnder cyrch Operation Tân, Sul y Blodau 1980.

Un o'r pethau sy'n achub y llyfr, fodd bynnag, a hwnnw ydi'r unig elfen o'r llyfr sydd yn seiliedig ar 'ymchwil' newydd - er mai cwpwl o sgyrsiau anffurfiol efo John Jenkins, Llywydd Gweithredoedd MAC, dros y blynyddoedd ydi'r 'ymchwil' hynny. Datgela JJ enwau unigolion eraill o du'r mudiad gweriniaethol ar gyrion Plaid Cymru, a chwaraeodd ran gweithredol yn ymgyrch fomio MAC. Datgelir yr enwau (trwy ganiatad y teuluoedd, dwi'n cymeryd), am eu bod bellach wedi marw. Bydd rhai o'r enwau hyn yn rhai amlwg i nifer o haneswyr gwleidyddiaeth ail hanner yr 20ed ganrif yng Nghymru, eraill ddim, ac eraill yn ddynion llawr gwlad oedd y werin yn gwybod amdanynt eisoes. Mae yma hefyd enwau un neu ddau o 'weithredwyr' llawr gwlad a drodd yn infformars ar ôl cael eu harestio efo ffrwydron yn eu meddiant.

Er mai ychydig iawn sydd, difyr yw'r ychydig hynny o oleuni a deflir gan y Direstor of Operations John Jenks ei hun ar ddigwyddiadau adnabyddus - a'r trychinebus, yn achos Merthyron Abergele - yn ystod yr ymgyrch. Ond fel y gellir disgwyl oherwydd natur y pwnc, gadewir y darllenydd yn awchu am fwy, ac nid bai yr awdur yw hynny.

Be ydi bwriad, neu gasgliad yr awdur? Wel, heblaw am geisio cofnodi'r ymgyrchoedd bomio mewn dull mwy gwrthrychol na "To Dream of Freedom" Roy Clews, mae'r awdur yn ceisio dangos fod cysylltiad cyson - continuity - rhwng MAC ac MG: mai'r un bobol oedd yn aildanio'r frwydr ar ddechrau ymgyrchoedd newydd. Does gan yr awdur ddim tystiolaeth o gwbl am hyn, fodd bynnag, heblaw ei fod yn damcaniaethu trwy ddarllen 'rhwng llinellau' ei sgyrsiau anghynnwysfawr efo John Jenkins.

Be sy'n dod allan yn gliriach gan yr awdur, ydi ei gasgliad fod yr ymgyrchoedd treisgar wedi hybu - nid tanseilio - achos y mudiad cenedlaethol ehangach yng Nghymru, ac wedi hybu - nid tanseilio - achos cyfansoddiadol a diwylliannol ein cenedl. Yn hynny o beth, alla i ddim cytuno mwy. Er nad oes fawr ddim mwy o wybodaeth cyhoeddus yn y llyfr na sydd eisoes ar gael yn gyhoeddus, mae'r awdur digon didwyll hwn yn defnyddio'r hyn sy'n wybodus yn effeithiol iawn wrth ddod i'r casgliad hyn, ac yn gosod y ddadl yn gyson drwy'r tudalennau, wrth ddod i gasgliad pendant, trylwyr, arbenigol ac argyhoeddiadol iawn - a hynny am y tro cyntaf yn llenyddiaeth Gymreig.

Ac o ran hynny, dyma un maes efallai, lle mae golwg newyddiadurol yn fwy gwerthfawr nag un ysgolhaig.

18/12/2008

Welsoch chi'r llongau gofod?

Dwi'n coelio mewn bywyd arallfydol, ond er mod i'n agored i'r syniad ei bod hi'n bosib fod aliens wedi ymweld â'r byd yma yn y gorffennol, tydw i ddim yn credu mewn UFOs. Mi o'n i, pan yn iau, ac mae 'na ambell achos o sighting enwog yr ydw i'n cytuno eu bod yn anodd i'w hegluro fel ffenomen ddaearol (oddi mewn i ffiniau gwyddoniaeth fel y gwyddom amdano rwan, beth bynnag). Ond ar ôl blynyddoedd o gerddad adra filltiroedd tros gefn gwlad, o dafarnau ac ati, yn y nos, a nosweithiau di-ri yn pysgota nos yn llynnoedd mynyddig yr ardal yn yr haf, mae'n rhaid i mi ddeud nad ydw i wedi gweld unrhyw beth rhy allan o'r cyffredin yn yr awyr. Troi'n sinig wnes i efo troad y blynyddoedd, felly, ac os rhywbeth, dwi'n tueddu fwyfwy i gredu mai'r Americans yn arbrofi technoleg newydd sydd tu ôl i'r sightings mwyaf dyrys.

Ond y noson o'r blaen bu bron i mi feddwl fy mod i'n edrych ar nid un, ond saith UFO go iawn, am y tro cynta yn fy mywyd.

Nos Lun oedd hi - wel, roedd hi wedi troi un o'r gloch bora dydd Mawrth, i ddeud y gwir - ac es i allan i'r ardd am ffag cyn mynd i gwely. Roedd yr awyr yn glir, a'r lleuad fu'n llawn gwpwl o nosweithiau'n flaenorol yn disgleirio fel sosar arian, uwchben. Sbio fyny ar y sêr o'n i, fel mae rhywun yn ei wneud, 'lly, a myn diawl, wrth sbio ar y seren 'ma mi sylwis fod mwy iddi na jesd smotyn o olau'n fflicran yn y pellter. Oddi tani - fel tasa'r seren ei hun yn lamp ar ei drwyn - oedd triongl o faint chwartar i hannar modfadd rhwng fy mys a bawd, ar hyd braich. Craffais efo llygid culion, a gweld llinellau amlinelliad y triongl, fel gwaywffyn bach o olau, ac yna sylwais fod golau ar bob cornel o'r triongl a, phob yn hyn a hyn, roedd 'na olau arall yn fflicran hanner ffordd rhwng trwyn y triongl a'i droed dde.

Fuodd gen i ddiddordeb yn y flying triangles 'ny fu'n cael eu gweld yn y nos gan niferoedd o bobl yng Ngwlad Belg, Awstralia a'r Amerig, ymysg llefydd eraill. Gwelwyd un uwchben Blaenau Ffestiniog gan ddau gyfaill i mi, un noson, hefyd. Ond dros y blynyddoedd, rhyw ddechrau beio'r Yankcs wnes i am y digwyddiadau yma. Wedi'r cwbwl, os oes gan yr aliens ddigon o dechnoleg i drafaelio miliynnau o flynyddoedd golau i ddod i fusnesu ar y Ddaear, yna dwi'n meddwl y bysa ganddyn nhw ddigon o sens i wneud y busnesu hynny yn ystod dydd, pan fo posib gweld rwbath...

Ond wrth edrych ar y triongl 'ma, yn uchel i fyny'n yr awyr, ron i'n gwbod mod i'n sbio ar ffenomen nad oeddwn wedi ei gweld o'r blaen. Unknown territory i fi. Yna, ar ôl meddwl yn hir am hyn, ddechreuis i sbio o gwmpas ar y sêr eraill, a myn diawl i, roedd 'na driongl arall, ac un arall, ac un arall eto... Cyn hir roedd 'na saith o'nyn nhw, yn ista'n llonydd uwchben. Roeddan nhw i gyd yn debyg i'w gilydd, ond fod un neu ddau yn edrych fwy fel siap barcud ar ben i lawr na thriongl. Fuas i'n sbio, a sbio, rhwbio fy llygid a sbio, ac es i mewn i'r tŷ i roi dŵr dros fy llygaid, ac yn ôl allan i sbio eto. Oeddwn, mi oeddwn i'n eu gweld.

Fel ddudis i gynt, mi o'n i ar y brinc o gredu mai fflyd o longau gofod oedd rhain, wedi parcio jesd tu allan yr atmosffer. Ond gan mai sinig ydw i, roeddwn i'n gwrthod disgyn am y ffasiwn eglurhad. Nes i ddim mynd i nôl y DVD camcorder - mae'r peth mewn bocs ar silff yn llofft, a dwi ond wedi ei iwsio fo unwaith rhyw flwyddyn yn ôl, felly don i ddim yn meddwl ei fod o'n werth y draffarth. Does gen i ddim ffansi bod yn un o'r bobol 'ma sydd yn y papura yn deud fod nhw wedi gweld UFO (dwi'n ddigon o 'ffrîc' fel ydw i, diolch), a beth bynnag, os fysa na rwbath ar y newyddion yn y bora, o leia fyswn i'n gallu deud mod i wedi'u gweld nhw hefyd.

Felly dal i astudio wnes i, a sylwi fod llinellau amlinelliad y trionglau 'ma yn tueddu i fod yr un lliw a disgleirdeb â'r golau blaen, a bod pob un triongl yn wahanol liw, a gwahanol ddisgleirdeb, i'w gilydd. Dw i ddim yn cofio os oedd y goleuadau blaen i gyd yn fflicran, ond mwya tebyg eu bod nhw. Felly, er mai dim ond y saith seren yma (yn hytrach na phob seren yn yr awyr) oedd yn ymddangos fel hyn, ddois i ddechrau meddwl o'r diwedd mai sêr oeddan nhw, ac mai rhyw ffenomen atmosfferig oedd yn achosi iddyn nhw ymddangos fel trionglau. Am wn i...!

Dwi'n gwbod mai atmosffer y ddaear sy'n achosi i olau seren 'symud' a fflicran, felly mae'n bosib iawn mai'r atmosffer oedd yn achosi'r weledigaeth ryfeddol yma. Fysa'n gret cael gwybod yn iawn, felly os oes 'na rywun allan yn fana sy'n gallu egluro mwy, gadewch neges yn y blwch sylwadau os gwelwch yn dda.

Be ydi 'plot'?

Sylwad teg, am wn i, am fy nofel gyntaf, Brithyll, oedd fod 'na ddim plot iddi. Roedd rhai darllenwyr ac adolygwyr yn nodi hynny yn yr un gwynt â datgan nad oedd angen plot arni, cymaint oedden nhw wedi mwynhau, tra bod un neu ddau yn gweld y 'diffyg plot' fel anathema i'r maes sgwennu nofelau. Aeth Hafina Clwyd, yn Y Cymro, yn bellach, fel y clywais ddwy flynedd yn ddiweddarach. Wrth rwygo'r nofel yn ddarnau gofynnodd beth yw pwynt nofel heb blot.

Pawb â'i farn am wn i. Ond tra'n cytuno nad oedd 'na 'blot cryf' (beth bynnag ydi hynny) yn Brithyll, dwi hefyd yn cytuno efo'r oddeutu dwy fil o ddarllenwyr â fwynhaodd y nofel yn arw - pwy sydd angen plot os ydi'r stori'n ddifyr?

Achos, be ydi plot, mewn gwirionedd? All rhywun ei ddiffinio'n bendant? Un ffordd o'i rhoi hi ydi, fod plot yn ddyfais i wneud y nofel yn afaelgar, neu'n ddifyr. Os felly, os yw'r stori'n afaelgar ac yn ddifyr, pam fod angen plot? Onid pedantics cywirdeb llenyddol yw glynnu at 'reolau' fel 'mae rhaid i nofel gael plot'?

Ffordd arall o ddiffinio plot, am wn i, ydi creu llinynnau gwahanol i'r stori, a'u cael i wâu drwy ei gilydd, a chwrdd yn y diwedd. Os hynny, er mor minimal oedd o, mi oedd 'na blot yn Brithyll.

Pan gyhoeddwyd y dilyniant, Madarch, mynegodd sawl darllenwr ac adolygwyr (llenorion a beirniaid yn eu mysg, nid jesd darllenwyr nofelau brwd) fod 'na 'fwy o blot', neu 'blot cryfach' ynddi. Ymatebodd ambell un (a minnau yn eu plith!) efo, "mae 'na blot ynddi, felly!" Eto, mae hynny'n sylw digon teg. Mae pobl wedi arfer efo nofelau sydd â phlot cryf a chymleth, ac os mai dyna sydd at eu dant nhw, wel, grêt.

Ond wrth fynd yn ôl at un o'r diffiniadau uchod - fod plot yn creu edefynnau rhyngweithiol sy'n plethu at eu gilydd wrth ddod i gwlwm taclus yn y diwedd - fyswn i'n deud fod 'na blot pendant yn Madarch. Dim mod i'n credu ei bod y math o nofel sydd angen plot, a dim mod i wedi gwneud ymdrech i greu plot, a dim mod i chwaith yn credu fod angen plot ar nofel o'i bath. Nofelau character humour, yn cael eu gyrru gan ddeialog sydyn, ffraeth a naturiol, ydi Brithyll a Madarch (a Crawia) wedi'r cwbl.

Ond o edrych ar Madarch er engraifft, mae'r plot yn amlwg: mae na wylnos yn nhop y cwm, mae'r hogia'n gorfod cyrraedd yno heb i'r cops eu stopio, ac wedi cyrraedd mae rhaid iddyn nhw ffendio'u ffordd oddi yno i gyrraedd yr ysbyty ar gyfer genedigaeth eu plant - ond yn y cyfamser mae rhywun wedi llosgi tŷ haf hanner ffordd i lawr y cwm a mae'r heddlu wedi selio'r cwm i ffwrdd. Dio'm yn stwff The Da Vinci Code, nacdi, ond mae digon o edefynnau'n gwau mewn ac allan o'i gilydd ynddo fo. Mae gennym efeilliaid yn dwyn corff eu tad o'r fynwant er mwyn ei gladdu gartra, ymgais y criw o hogia i gyrraedd y wêc, ymdrechion yr heddlu i'w dal, gwrthdaro rhwng heddweision ac adrannau gwahanol o'r heddlu, problemau domestig Tiwlip, landlord y Trowt, damwain, gwarchae a breakout, a thu ôl y cwbwl mae 'na rywun yn llosgi tŷ hâf, ac mae'r merchaid - sydd adref efo'r plant - yn dechrau cael poenau geni babis... Ac mae 'na dwist neu ddau ar ddiwedd y nofel hefyd.

Ydi hynna'n ddigon o blot i gael ei alw'n blot? Dwi'n meddwl ei fod o. Ond dim dyna sy'n bwysig. Be sy'n bwysig ydi mai dyna faint o blot oedd y stori ei hangen i wneud iddi weithio. Fel ddudis i, mae'r syniad fod rhaid i nofel gael plot yn hen ffasiwn a phedantic. Fformiwla ydi o, dim byd arall. Faint o blot sydd 'na yn rhai o lyfra Irvine Welsh? Mae 'na stori gryf a gafaelgar, a mae'r cymeriadau yn ymddangos o wahanol gyfeiriadau ac yn crwydro tua'i gilydd (yn weddol sydyn) wrth i'r stori ddatblygu. Ond does 'na fawr o blot mewn nofelau fel Trainspotting a Porno, yn nagoes? Fel o'n i'n deud, os di'r stori a'r cymeriadau yn afaelgar a difyr, a bod y nofel yn symud yn naturiol ac yn darllan yn rhwydd, i be sydd angen plot?

Mae 'na blot cryfach eto yn Crawia, medda nhw i mi. Dwi'n digwydd bod yn cytuno. Ond fedra i ddim dweud mod i wedi gneud dim byd sylweddol yn wahanol wrth sgwennu hon, heblaw ambell ddatblygiad yn fy arddull (dim byd y byddai rhywun yn sylwi arno'n syth, efallai). Mi wnes i wneud penderfyniad i fod yn dywyllach oherwydd dydi bywyd ddim yn fêl i gyd yn ein cymunedau ar y funud. Mae'r ffaith fod plot cryfach ynddi yn deillio o'r ffaith fod y stori'n digwydd gweddu i blot cryfach, a bod yr edefynnau'n ymddangos yn naturiol. Mae'r fformiwla, mwy neu lai, yn union run fath a'i dwy rhagflaenydd.

17/12/2008

Hale-blydi-liwia!

Buan iawn y gall clasur o gan hyfryd ddechra mynd ar dy dits di. Hyd yn oed y rhai mwya gwefreiddiol.

Ymddengys fod y byd a'i frawd a'i chwaer wedi gneud cyfyr (hen bryd cael term Cymraeg am hwnna) o berl dwys a phwerus y bardd hynod Leonard Cohen, Halelujah. Deud gwir, mae'n ymddangos fel fod 'na fersiwn gwahanol i bob gorsaf radio y dyddia yma. Mae 'na hyd yn oed un ar Radio Cymru, diolch i fersiwn Gymraeg Brigyn.

Rwan, dwi ddim yn beio unrhyw un am fod isio cyfro'r gan/caneuon (roedd gan Cohen fwy nag un fersiwn). Be sy'n sbwylio'r peth i mi, o weld dwy fersiwn newydd yn gwthio am frig y siartiau ar y funud, ydi'r teiming. Dwn i'm amdana chi ond, ar wahan i Brigyn, a recordiodd eu fersiwn nhw am y rhesymau iawn, dro yn ôl bellach, mae'r geiriau 'nadolig' a 'bandwagon' yn neidio i'n meddwl i yn syth - yn aml wedi'u dilyn gan ochenaid ddiflas a 'hale-blydi-liwia' dan fy ngwynt, ac, erbyn yr hanner canfed gwaith o glywed y gan, 'o na, dim eto.'

Sydd yn biti, achos mae neges - ac ysbryd a naws - y gan yn cael ei golli. I raddau, beth bynnag. Yn lle gwrando ar y geiriau ti'n cael llond bol o'i chlywed hi. Yn lle ista i lawr, cau'r llygaid a'i theimlo hi, ti'n gweld rhyw artist yn trio rhoi rhawiad o lo ym moilar ei yrfa cloff - rwan ei bod hi'n ffasiynol a cŵl i fod yn *berson cyfoethog cydwybodol*.

Pa reswm arall sydd 'na dros ryddhau cyfyr o'r gan at y Nadolig? Ac os am wneud cyfyr o gwbwl, be am wneud un chydig bach mwy gwreiddiol ia, plis? Fersiwn reggae (Halelu Jah?), neu hip-hop? OK, dydi hi ddim yn gan sy'n gweddu'n naturiol i arddull gwahanol. Ond os felly, pam gneud cyfyr o gwbwl? Be sy'n rong efo'r wreiddiol?

Reit, medda chi, mae hi'n credit crynsh, a mae penawdau newyddion heddiw'n son am y miloedd sy'n colli'u gwaith yn ddyddiol, a ma Prysor yn rhoi prociad i'w flog ar ôl wythnosau o dawelwch, ac yn dechra mwydro ei fod o wedi laru ar glywed rhyw gan ar y radio. Och a gwae mae'r byd ar ben.

Ond mae na reswm pam mod i'n gneud hale-blydi-liwia o ffys am ddim byd, fel hyn. Roedd 'na drafodaeth ar Newsnight Review rhyw gwpwl o wythnosau yn ôl, a mi oeddan nhw'n trafod sut oedd y celfyddydau - celf, llenyddiaeth, drama a ffilm - yn mynd i ymateb i'r cyfnod hwn o ansicrwydd a phesimistiaeth economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol. Ydi'r celfyddydau'n mynd i adlewyrchu hyn drwy greu cynnyrch tywyllach, mwy griti a real, mwy dwys, bygythiol a gwrthryfelgar, neu a ydan ni'n mynd i weld y celfyddydau'n troi at escapism, ac yn creu mwy o gomediau a ffilmiau ffantasi?

Roedd 'na ddimensiynau eraill i'r drafodaeth, ond roedd hwn yn bwynt difyr. Er mod i'n cyflwyno'r post hwn efo chydig o wamalu sinigaidd, dydi o ddim yn fy synnu fod artistiaid yn troi at gan fel Haleliwia - gan fardd mor ysbrydolgar â Cohen - fel cyfyr yn yr amseroedd ansicr yma. Mae'r ddynoliaeth ar drothwy croesffordd beryglus yn amgylcheddol ac yn wleidyddol, efo gorboblogi, cynhesu byd-eang, y Clash of Civilizations a Peak Oil. Mae'r creisus economaidd wedi chwalu hyder y boblogaeth orllewinol oedd wedi meddwl erioed y byddai eu byd bach diogel yn para am byth. Ac mae proffwydi economaidd y Fall yn darogan gwae yn ddyddiol ar y teledu a'r radio, a'r papurau yn ein bwydo â phlateidiau swmpus o ragolygon tywyllach fyth, fel tasa starter o derfysgaeth crefyddol, propaganda hiliol, straeon bygythiol am blant efo gynnau, ac amrywiol wermod cyffelyb, ddim wedi'n gneud ni'n ddigon ffycin paranoid.

Be sy'n beryclach nag ynys llawn o Seiclopsus? Ynys o Seiclopsus efo paranoid-seicosus.

Dydi hi'm yn syndod felly fod pobol yn troi at yr ysbrydol, neu yn uniaethu efo caneuon iasol sy'n cyfleu ein ysfa reddfol i wybod os oes rhywbeth yno neu beidio - os oes 'na ystyr i hyn i gyd - mewn amseroedd pesimistaidd fel hyn. Ac er fod 'na dipyn o escapism yn treiddio i'n sgriniau'n ddiweddar, mae'r celfyddydau ar y cyfan - o'r sgrin i'r llyfr i'r canfas - yn mynd yn dywyllach, dwi'n meddwl. Yn enwedig cynnyrch yr artistiaid, llenorion, beirdd, sgriptwyr a cherddorion hynny sy'n portreadu realiti bywyd bob dydd yn eu gwaith. Yn yr un modd, mae'r operau sebon ar ein teledu yn gorfod adlewyrchu pynciau cyfoes, yn enwedig rhai sy'n effeithio pawb yng nghymdeithas, fel hwn. Ac, wrth gwrs, mae'r syniad o Ddydd y Farn yn ymddangos mewn dramau fel Spooks, a Survivors - un o'r pethau salaf (ymhob ffordd y gellir ddychmygu) a welis i erioed ar y bocs (duw a ŵyr pwy gomisiynnodd y fath gachu).

Mae hyn i gyd yn rhan o'r un cylchdro - gwasgfa economaidd yn creu pryder colectif, a hwnnw'n cael ei fwydo gan fegin y cyfryngau torfol. Mae o i gyd yn porthi'r isymwybod ac yn cynyddu'r ansicrwydd yn ein bywydau. Ac mae holl natur yr ansefydlogrwydd cymdeithasol a rhyngwladol yma yn ein gadael yn ddiymadferth, yn ddiffrwyth i wneud uffarn o ddim byd amdano. Does 'na ddim cafalri ar y ffordd. Does 'na ddim i'w wneud ond brathu'r lledr a gobeithio'r gorau. Da ni ar drugaredd y systam, ar drugaredd datblygiadau, ar drugaredd... Duw? Oes 'na Dduw? Oes 'na rwbath allan yna sy'n mynd i afael yn ein dwylo os y cawn ni hyd iddo fo? Neu ydan ni ar ben ein hunain wedi'r cwbwl...

Dyma'r math o gwestiynau sy'n treiddio i feddyliau'r gwan a diobaith. Rydan ni'n chwilio. Chwilio am iachawdwr. Mae rhywun yn ei deimlo fo, bron, fel rhyw ias ar y gwynt, yn ei weld o yng nghornel y llygad colectif - cymdeithas yn tueddu i droi at yr ysbrydol am gymorth. Boed yn lwc, ffawd, ffydd, gobaith, swynau, diwinyddiaeth, neu hyd yn oed fodau arallfydol - y goruwchnaturiol a'r haniaethol, nid y rhesymol a'r ffisegol ydi'r last resort. Fel drwy gydol hanes hyd yma, pan mae popeth arall yn methu rydan ni'n chwilio am superhero.

Dyma'r hinsawdd sy'n cofleidio caneuon, cerddi a chelfyddyd dwfn, ystyrlon sy'n estyn am yr atebion yr ydan ni i gyd yn eu crefu. Mae Halelujah yn gwneud hynny.

Ar ddiwedd y gan, does 'na'm rhyfedd fod 'na gyfyrs galôr ohoni, a bod croeso iddyn nhw, y Nadolig ansicr hwn.

05/11/2008

America'n tyfu i fyny

Mi gymerodd hi greisus economaidd, a dewis trychinebus o ymgeisydd am y Ddirprwyiaeth gan John McCain, iddo ddigwydd - ond ddoe/neithiwr/heddiw, tyfodd Americanwyr i fyny a dechrau cyrraedd y math o aeddfedrwydd y mae rhywun yn ei ddisgwyl o ddemocrasi orllewinol yn y 21 ganrif.

Nid yn unig ennillodd Obama bleidleisiau'r Coleg Etholiadol o gryn bellter, mi ennillodd y bleidlais boblogaidd o bell hefyd. Ac mi ennillodd ei blaid Ddemocrataidd fwyafrif cryf yn Nhy'r Cynrychiolwyr ac yn y Senedd.

Buddugoliaeth ysgubol ymhob ystyr, ac un hanesyddol wrth gwrs. Mae'r Americanwyr wedi goroesi legasi chwerw o hiliaeth, ac wedi rhoi dyn du yn y Tŷ Gwyn, ac mae nhw wedi taflu ymaith eu difaterwch ac wedi ymwrthod â jingoistiaeth y regime Cheney-Bushaidd dde-eithafol a chrefyddol o'r diwedd. Mae nhw wedi ymwrthod a'r doctrin o droi America'n hyper-power, ac wedi gweld gwerth mewn cydweithio rhyngwladol a phartneriaeth rhwng gwledydd.

Mewn geiriau plaen, mae nhw wedi tyfu i fyny. Hir oes i Obama. Hir oes i'r America newydd!

03/11/2008

A fodlonwn ar gornel fach i guro drymiau a chanu'n caneuon?

Dwi'n ffan mawr o Stephen Fry. Nid yn unig oherwydd ei ffraethineb, ei ddoniau comig a'i lyfrau treiddgar, deallus a difyr, ond hefyd oherwydd ei fod o'n ddyn gwybodus sy'n ymddangos fel ei fod wedi awchu am addysg a gwybodaeth (heb son am fwyta llyfrau) trwy gydol ei fywyd. Mae'n ymhyfrydu yn y celfyddydau, ac mewn hanes, llenyddiaeth a iaith yn arbennig, ac mae hynny yn rhywbeth dwi'n ei barchu a'i edmygu yn fawr iawn.

Dwi wedi bod yn gwylio'i gyfres newydd, Stephen Fry in America. Er bod y gyfres yn siomedig o ran cyflawni'r gobeithion oedd gennyf i ddechrau (dyn deallus, ffraeth a difyr yn teithio gwlad sy'n llawn rhyfeddodau a chymeriadau ecsentrig) - yn bennaf oherwydd eu bod yn gwibio trwy tua hanner dwsin a mwy o daleithiau ymhob rhaglen - mae 'na dal ddigon o ditbits efo trigolion unigryw, ynghyd â golygfeydd bendigedig, i fod yn gyfres ddigon difyr.

Ta waeth, wrth wylio rhaglen neithiwr, atgoffwyd fi o rywbeth a sylweddolais yn ddiweddar, wrth sgwennu darn o lif meddwl un o gymeriadau Crawia, fy nofel newydd.

Roedd Fry yn ymweld a reservation cenedl y Lakota - llwyth o frodorion cynhenid America yn Ne Dakota - ac yn sylwi ar y tlodi a chaledi cymdeithasol ymysg y bobl difreintiedig ond balch yma, oedd unwaith yn byw yn rhydd ac urddasol, a iach, drwy'r cyfandir cyfan. Aeth i sgwrsio efo hen gradur oedd yn ymgyrchu dros hawliau'r Lakota, ac mi eglurodd hwnnw fod un o bob pedwar plentyn Lakota - "chwarter ein dyfodol" - yn cael ei yrru tu allan y reservation at rieni maeth, neu i gael eu mabwysiadu, oherwydd tlodi eu teuluoedd. Eglurodd hefyd fod oed siaradwyr iaith y Lakota yn 65 oed ar gyfartaledd. "Cyn hir," medda fo, "mi fyddan ni wedi diflannu. Pan fydd ein iaith yn marw, fyddan ni ddim yn genedl mwyach, oherwydd yr iaith yw ein cysylltiad efo popeth."

Rwan, mae diffiniad o genedl wedi newid yn sylfaenol ers cwpwl o ganrifoedd. Oherwydd twf a chwymp imperialaeth, eideolegau a chrefyddau, a'r newidiadau demograffyddol a/neu ddiwylliannol a achoswyd ganddyn nhw, rydym bellach wedi arfer efo cenhedloedd sydd wedi goroesi'r stormydd imperialaidd er colli eu ieithoedd cynhenid yn y gwyntoedd. Ond cenhedloedd sydd â gwladwriaeth eu hunain ydi'r rhan fwyaf o'r cenhedloedd yma, nid cenhedloedd heb rym i amddiffyn eu hunain rhag ymdoddi i ddiwylliant y wladwriaeth mae nhw'n berthyn iddi. Heb rym digonnol i oresgyn dirywiad ac ecsploetio cymdeithasol, ac i roi gwerth ar - a hybu - eu treftadaeth a'u diwylliant eu hunain - fyddai'n furiau cadarn rhag ymdoddi i ddiwylliant grymus y concwerwr - mae colli iaith yn golygu, i bob pwrpas, colli hunaniaeth... a cholli popeth.

Di-au fod yr henwr ymroddedig hwn o blith y Lakota wedi ceisio ymoleuo Stephen Fry ar y rhesymau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy'n cyfrannu at dranc eu iaith a difaterwch y genhedlaeth iau tuag ati. Rydym yn gyfarwydd â'r un ffactorau yma yng Nghymru: anobaith, cyfryngau torfol, allfudo i chwilio am waith a dyfodol, y diffyg buddsoddiad mewn pobl a chymunedau, problemau cymdeithasol alcohol, cyffuriau, gamblo, a'r teimlad diffrwyth ac anobeithiol sy'n ffynnu mewn hinsawdd o ddibyniaeth a dirywiad cymdeithasol a gwacter diwylliannol.

Ond er dyn mor ddeallus ac ymoleuedig i raddau go helaeth yw Fry, cefais yr argraff nad oedd wedi ei argyhoeddi o'r gwirionedd oedd yn amlwg yn y darlun tywyll a beintiai'r Lakota o ddyfodol ei genedl. Wedi ymweld â'r ysgol uwchradd leol, a chanfod cwpwl o ddisgyblion oedd yn ymwybodol o'r gwerth mewn dysgu'r iaith yn y dosbarth, a gweld criw o ddisgyblion eraill yn curo drymiau a chwarae offerynnau traddodiadol wrth ganu caneuon cynhenid, nododd fwy nag unwaith na allai gredu fod dyfodol yr iaith yn y fath berygl ag a ddywedai'r hen ddyn.

Doedd hynny ddim oherwydd unrhyw fath o ewyllys drwg nag agwedd imperialaidd - yn wir, roedd Fry yn gyson ddamniol o'r driniaeth annynol a ddioddefodd y brodorion cynhenid dan law'r dyn gwyn. Na, roedd ei fethiant i ddeall y gwahaniaeth rhwng iaith fyw a iaith sy'n bodoli mewn dosbarth neu ar lwyfan ambell 'fez nos' yn deillio o'r ffaith nad oes ganddo, fel Sais, unrhyw brofiad nag amgyffred o iaith yn marw. Fel y mae'r cymeriad hwnnw yn fy nofel, Crawia, yn nodi, does gan Sais, neu Ffrancwr, Sbaenwr neu Almaenwr, neu unrhyw berson o genedl wladwriaethol unieithog, ddim profiad o weld ei iath yn dirywio a marw o'i gwmpas, felly all o ddim amgyffred y peth heb son am ddeall ac uniaethu â'r broblem.

Mae gen i brofiad go helaeth erbyn hyn, o gydweithio efo Saeson lleol - hyd yn oed Saeson sydd wedi symud i mewn yn lled-ddiweddar - sydd â ewyllys da tuag at y gymuned a'r iaith, ac sydd yn weithgar iawn yn y gymuned, er budd y gymuned, ac efo lles y gymuned - a'r diwylliant hefyd - mewn golwg. Y gwir ydi, yn aml iawn (ac er tristwch mawr - er, yn ddealladwy o weld fod amodau economaidd a chymdeithasol wedi magu canrifoedd o ddibyniaeth a disgwyl achubiaeth o uwchlaw, yn hytrach nag o blith ein gilydd), gwelwn fewnfudwyr yn fwy parod na'r Cymry i godi oddi ar eu tinau i wneud rwbath. Mae rhai o'r mewnfudwyr hyn wedi dysgu Cymraeg (dwi'n gwahaniaethu rhwng mewnfudwr - rhywun sydd â'r potensial i gyfrannu i'w gymuned newydd - a trefedigaethwr, sy'n dod yma i orfodi ei ddiwylliant a'i arferion ei hun ar y brodorion), ac eraill efallai heb, ond wedi magu plant sydd yn Gymraeg iaith gyntaf.

Ond er yr holl ewyllys da yma ymhlith nifer o fewnfudwyr, wnan nhw byth, byth werthfawrogi sut mae iaith yn marw, ac mai ei goroesiad fel iaith fyw yw'r unig ffordd i sicrhau ei pharhad - ac yn bwysicach, parhad y cyfoeth diwylliannol y mae'n gynnal, a'r hunaniaeth cenedlaethol y mae hi'n sylfaen iddo.

Dim eu bai nhw ydi o na allan nhw ddeall hynny, achos mae o y tu hwnt i'w hamgyffred nhw. Tra bod rhyw agwedd ôl-imperialaidd eithaf atgas yn gallu ymagweddu ei hun ymhlith sawl trefedigaethwr, ni ellir defnyddio'r legasi imperialaidd fel esgus dros fethiant y rhan fwyaf o fewnfudwyr i ddeall natur y prif fygythiad real i fodolaeth iaith leiafrifol. Dyna pam fod cymaint o wrthwynebiad o du mewnfudwyr sydd wedi dysgu, neu sydd yn gefnogol i'r iaith Gymareg, i ymgyrchoedd sy'n tynnu sylw at y broblem tai a'r mewnlifiad uniaith Saesneg, ac i statws y Gymraeg fel iaith swyddogol cynghorau a chymhwyster swyddi cyhoeddus. Mae nhw'n gweld pethau fel hyn fel fesurau adweithiol, gan na allan nhw amgyffred sefyllfa lle mae positive discrimination yn hanfodol i amddiffyn iaith. Tydyn nhw erioed wedi bod mewn sefyllfa lle mae eu iaith yn marw o'u cwmpas nhw.

Ddois innau ar draws engraifft o hyn yn gymharol ddiweddar, wrth siarad â cyhdweithiwr ar un o bwyllgorau mentrau cymunedol yn Stiniog. Mae'r person dan sylw yn rhywun dwi'n barchu. Mae'n 'Sais o'r ardal' bellach, ac er na ddysgodd Gymraeg, mae'n dad a thaid i dwr o blant Cymraeg iaith gyntaf, ac yn ddyn gweithgar yn yr ardal. Wrth drafod datblygiadau arfaethedig gan fenter uchelgeisiol sydd am adfywio tref Blaenau, mynegais fy ngobeithion y byddai'r fenter yn sicrhau fod pobl leol yn cael pob cefnogaeth i sefydlu'r busnesau fyddai'n tyfu efo'r datblygiad, gan fod hynny yn rhywbeth hanfodol i gynnal cymeriad diwylliannol y dref, a'r Gymraeg fel iaith fasnach y dref. Ei ateb oedd y dylai'r "diwylliant" fod yn "covered" efo ailagor Neuadd y Farchnad fel canolfan gelfyddydol.

Dyma'r un diffyg dealltwriaeth ag oedd gan Stephen Fry o sefyllfa iaith y Lakota, a'r bygythiad i'w dyfodol fel iaith fyw. Cyn belled a bod gan y brodorion gornel fach i fynd i guro drymiau a chanu eu caneuon, i adrodd eu barddoniaeth ac i gynnal ambell eisteddfod, mi fydd eu iaith a'u diwylliant yn ddiogel.

O na fyddai hynny'n wir!

29/10/2008

Cyhuddo er mwyn celu

Mae Cymro lleol o Ddolwyddelan yn cael ei howndio gan Saeson yr ardal oherwydd joc a ddywedodd yn y siop Spar leol, un diwrnod.

Roedd y gŵr yn prynu ticed loteri Euro Millions yn y siop, ac mi oedd y wobr yn 100 miliwn o bunnoedd. Gofynnodd rhywun iddo, "Be fysa ti'n neud efo'r winnings?" Atebodd, yn ysgafn, y byddai'n prynu pob tŷ yn y pentref i stopio'r Saeson eu prynu.

O fewn dim, galwodd plismon heibio'i dŷ fo, a rhoi rhybudd swyddogol iddo am ddefnyddio 'ieithwedd hiliol'.

Nid yn unig hynny, ond mae Saeson yn ei erlid pan mae'n mynd i siopa yn y pentref, a'i alw'n "racist" ac ati, yn gyhoeddus.

Dwi newydd siarad efo llygad-dyst, oedd yn y siop pan oedd Saeson yn ymosod yn eiriol ar y boi. Gofynnodd y llygad-dyst iddo pam oedd o'n cael ei haslo, a mi ddwedodd y stori.

Cymro, yn cael ei erlid gan Saeson, yn ei bentref ei hun, ble y'i ganwyd a'i fagwyd, am gyfeirio tuag at y sefyllfa dai sy'n bodoli yn y pentref hwnnw!

Yn dilyn adroddiad diweddar gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (ia - hwnna sydd wastad wedi bod yn amddiffyn 'cam' Saeson sy'n honni discrimineiddio yn eu herbyn pan fo'r Gymraeg yn un o gymhwysterau swydd), oedd yn dweud fod hiliaeth gwrth-Seisnig yn broblem yng Nghymru, dyma engraifft arall o sut mae'r corff hwnnw - a'r wladwriaeth Brydeinig - yn gwrthod cydnabod hiliaeth tuag at y brodorion ymhlith carfanau o drefedigaethwyr Seisnig yng Nghymru, ond yn hytrach, yn defnyddio'r Cyfreithiau Hil yn erbyn brodorion sydd â chwynion cymdeithasol a diwylliannol dilys.

Does ond rhaid edrych ar gyfraniadau gan Gymro neu Gymraes ar YouTube, neu unrhyw grŵp Cymreig gwleidyddol ei naws ar Facebook, i weld yr ymatebion atgas, gwenwynig ac agored hiliol yn erbyn y Cymry - a phobl eraill - o du Saeson. Ond wrth gwrs, gwell gan ein meistri ein brênwashio i ofni siarad am y gwir. Rhyw fath o sensro drwy ddulliau seicolegol. Gorthrwm democrataidd - y mwyafrif yn bwlio'r lleiafrif.

Nid yn unig mae'r Comisiwn, y wasg, cyfryngau ac asiantaethau'r wladwriaeth yng Nghymru yn ymddangos yn hollol (neu fwriadol) 'out of touch', ond mae nhw hefyd yn cyfrannu at orthrwm cymdeithasol a diwylliannol y Cymry - a phobl lleol o bob tras a chefndir - ac yn ymddangos fel eu bod yn fwriadol geisio defnyddio cyfreithiau hil er mwyn ein tawelu, a'n bwlio i dawelwch am natur y trefedigaethu a disodli cymunedau sydd yn digwydd yma.

O glywed am ffeithiau achos y gŵr o Ddolwyddelan, oes rhaid i mi ddweud mwy?

25/09/2008

Tamaid i aros pryd

Wel, dw i wedi golygu'r nofel, Crawia, ac mae hi wedi mynd yn ôl i'r cyhoeddwyr. Y cam nesa fydd fy ngolygydd yn edrych drosti eto, rhag ofn bod rhyw wall yn sgrechian, o dan ein trwynau, heb i ni sylwi, cyn gyrru'r broflen at olygyddion y Cyngor Llyfrau.

Dyma pan mae'r 'hwyl' yn dechra. Tydi golygyddion y Cyngor ddim yn gyfarwydd ag arddull awdur, na thafodieithoedd lleol Cymru, felly mi ddaw'r broflen yn ôl yn bensel coch drosti i gyd. Bydd rhaid i fi, wedyn, fynd drwyddi yn rhoi tics (0.1%) neu groes (99.9%) ar gyfer pob 'marc coch'.

Dwi'n licio'r gair Saesneg, 'tedious'. Mae o'n un o'r geiria 'na sy'n swnio fel be mae o'n feddwl. A tedious ydi'r gair perffaith i ddisgrifio'r broses yma.

Ond dyna fo, mae rhaid ei wneud o.

Mae pethau'n agosau, felly, at allu cyhoeddi ddiwedd Hydref neu ddechrau Tachwedd.

Newyddion da arall, ydi fod Y Lolfa wedi ail-argraffu fy nofel gyntaf, Brithyll, ac mi fydd hi yn y siopau wythnos yma neu ddydd Llun. Roedd hi wedi gwerthu allan, ac allan o brint hefyd, ers misoedd, a mi oedd 'na lot o bobol yn holi amdani, yn methu cael gafael arni yn unlla. Braf ydi gweld fod y pysgod yn dal i fachu.

08/09/2008

Crawia

Rwyf bellach wedi cael adborth am ddrafft llawn cyntaf Crawia, gan fy ngolygydd, yn ogystal â golygydd cyffredinol y wasg. Gyda mawr lawenydd a rhyddhad, dwi'n falch o allu dweud fod y ddau wedi mwynhau'n arw, a'u bod yn hapus iawn efo'r gwaith. Nid oes angen am newidiadau. Mae'n galonogol iawn i glywed, hefyd, eu bod nhw'n credu mai Crawia ydi'r nofel orau eto gennyf. I'r sawl ohonoch chi sydd ddim yn licio fy stwff, dydi hynny'n golygu fawr ddim, wrth gwrs! Ond i'r rhai sydd yn dilyn y gyfres, yn mwynhau ac yn credu, fel fi, fod y nofelau'n gwella wrth fynd yn eu blaenau, yna mae'n newyddion da.

Yn sicr, mae o'n newyddion da i fi, gan fod i'r nofel hon elfennau tywyllach - tra'n cadw at yr un naws a hiwmor â'i dwy rhagflaenydd. Mae 'na blot cryfach ynddi hefyd. Calondid oedd clywed fod y datblygiadau hyn nid yn unig wedi gweithio, ond wedi bod yn gaffaeliad.

Dal i ddysgu'r grefft o sgwennu nofelau ydw i, wrth gwrs. Credaf fod pob nofelydd yn altro wrth fynd yn ei flaen, wrth ddarganfod ei arddull, a'r niche, neu be bynnag. Mae cael ar wybod fod y gwelliannau dwi'n weld yn fy hun, yn rhai a gadarnheir gan unigolion profiadol yn y maes. Dwi'n hapus iawn, iawn, felly.

Yr hyn sydd ar ôl i'w brofi nawr, ydi a fydd hi mor boblogaidd a'r ddwy arall, ac a fydd dilynwyr y gyfres yn cytuno â'r farn broffesiynol. Mi fydd rhaid aros tan ddiwedd Hydref/ddechrau Tachwedd, i weld beth fydd yr ateb. Dwi'n edrych ymlaen yn arw at hynny, ac yn gobeithio y bydd Crawia'n gwneud i chi chwerthin yn uchel, a chanu clychau yn eich pennau ar yr un pryd.

29/08/2008

Postmyn anllythrennog - y dyfodol?

Ydi'r Post Brenhinol yn rhagweld y bydd rhaid iddyn nhw gyflogi postmyn anllythrennog yn y dyfodol? Dyna ydi'r cwestiwn mae fy mrawd yng nghyfraith yn ei ofyn, draw yn Sir Fôn bell.

Mae o a fy chwaer, a'u plant, yn byw yn Talwrn, ac wrthi'n codi tŷ gerllaw'r pentra, ar safle a elwir yn Bryn Chwil. Yn ôl yr hanes, cafodd y bryncyn yr enw oherwydd, amser maith yn ôl, roedd hi'n arferiad i drigolion yr ardal fynd i eistedd ar ben y bryn i yfed cwrw, ar adeg arbennig o'r flwyddyn. Dwi ddim yn cofio'n union pa adeg oedd o, ond roedd o ar ôl rhyw ddigwyddiad cymunedol penodol.

Ta waeth, bwriad fy mrawd yng nghyfraith a'm chwaer oedd enwi'r tŷ newydd yn Bryn Chwil, er mwyn coffau'r traddodiad unigryw 'ma. Er mwyn cael côd post i annedd newydd, mae'n rhaid cofrestru'r enw efo Swyddfa'r Post, ac aeth y ddau ati i wneud hynny. Ond gwrthodwyd eu cais, ar y sail y byddai'n achosi "dryswch i bostmyn a phobl eraill fyddai'n galw yn y plwyf..."

Yr hyn fyddai'n achosi'r penbleth mawr, meddai siwtiau'r Post Brenhinol, yw'r ffaith mai Bryn Chwilog yw enw'r tŷ cyfagos, led cae i ffwrdd, lle mae fy chwaer a'i gŵr yn byw rwan, a bod - i'r cyfeiriad arall, rhyw led ychydig o gaeau - dŷ arall o'r enw Bryn Hyfryd!

Rwan, nid yn unig mae hyn yn achosi i rywun feddwl fod disgwyl y bydd postmyn y dyfodol yn methu darllen, ond mae o hefyd yn gwneud i rywun amau os yw'r Post yn disgwyl y bydd postmyn y dyfodol yn fewnfudwyr uniaith na all ddweud y gwahaniaeth rhwng enwau Cymraeg gwreiddiol yr ardal! Heb son am beri i rywun feddwl pa hawl sydd gan y siwtiau annelwig hyn i wrthod enw gwreiddiol, traddodiadol y cae lle'r adeiladir yr eiddo sy'n ceisio'r enw.

Yn enwedig, felly, o sylwi fod hen dŷ heb fod ymhell o'r safle wedi'i brynu gan Saeson, a aeth ati'n syth i newid ei enw i Lavender Cottage - heb unrhyw wrthwynebiad o gwbwl o du'r Post Brenhinol!

28/08/2008

Llydaw #2

Roedd hi'n costio £550 i fynd â theulu o bump a char ar y ferries dros y Sianel, felly dewis yr Eurotunnel wnaethon ni. Mae'r prisiau yn rhad iawn os ydych yn dewis amseroedd 'amhoblogaidd'. Cant a thri deg punt oedd o'n gostio, a sôn am ffordd hwylus i groesi! Dreifio ar y tren, ista'n y car am hannar awr, et voila, da chi'n Ffrainc. Yr unig broblam oedd y daith hir i lawr i Folkestone, a'r daith hirach fyth o Galais i Lydaw wedyn. Ond duwcs, dio'm yn waith calad, nacdi?

Chwalodd yr egsôst yn rhywle ar yr A5 ger yr Amwythig, ar y ffordd i lawr, nes bod sŵn fel tractor ar y car. Ac erbyn cyrraedd Ploermel, yn ne Llydaw, roedd y bocs blaen wedi llwyr ymddatod ei hun o'r beipan, ac yn fflapio yn erbyn y sub frame, gan wneud sŵn clecian fel mashîn-gyn. Ond doedd o'm yn mynd i fynd i nunlla, achos roedd pen arall y bocs yn dal yn sownd i'r maniffold, felly doedd na'm pwynt mynd i garej i wario pres a wastio amsar. Felly y buodd yr egsôst trwy gydol y gwyliau, felly.

Ond yn ôl at Folkestone, a hwylusdod yr Eurotunnel. Roeddan ni tua dwy awr yn gynnar, felly dyma sdopio yn y Services sydd jesd cyn y terminal (mae'r lle'n darparu ar gyfer 'early arrivals' y twnnel). Ar ôl tindroi yno, aethom yn ein blaena i jecio i mewn. Pan bwysais fy rhif personol i mewn, cawsom y dewis o fynd ar un o'r ddau drên cyn ein trên ni (mae'r trenau'n mynd bob hanner awr) - a hynny am ddim tâl ychwanegol. Hyd yn oed yn well na hynny, roedd y tren nesaf yn mynd o fewn 20 munud. Cyrhaeddom Frethun, tu allan Calais awr a hanner yn gynt na'r disgwyl, am ugain munud wedi chwech yr hwyr (amser Ewrop).

Doedd dreifio ar y dde ddim yn brofiad pleserus, i ddechrau, yn enwedig pan fo cyfarwyddiadau Google Maps i'r gwesty yng Nghalais yn ymddangos mor hawdd, a'r ffordd aethom ni yn wahanol! Do, mi ddiweddom i fyny ynganol Calais, a do, bu ambell dro trwstan - fel pan drodd y goleuadau'n wyrdd mewn box junction prysur, ac y troiais innau yn syth i mewn i ddwy res o draffig oedd yn dod i'm cwfwr. Doedd rifyrsio'n ôl i ganol y bocs jyncshiyn tra bo bysus a loriau yn gwibio heibio, ddim yn brofiad y byddaf yn ei gyfri'n un melys!

Dyma fi o flaen tafarn fy nghyndeidiau!

Ar ôl ffendio'r gwesty - yr Holiday Inn, reit ar lan y dociau - cawsom noson fach allan yn y dref, gan fynd a'r ddau hynaf, Owain (10) a Rhodri (9) i'r ffair, a chael ffiw peints yn nhafarn yr Irish Corner tra'r oedd y ddau'n gwario fel ffyliaid ar y gemau saethu ac ati. Gan fy mod wedi darganfod, yn ddiweddar, fy mod yn ddisgynnydd i Uchel Frenin Iwerddon, mae hi'n running jôc yn ein teulu ni bob tro'r rydan ni'n dod ar draws rhywbeth Gwyddelig - hyd yn oed y tafarnau Gwyddelo-blastig bondigrybwyll sydd i'w gweld ledled y byd! Rhaid, felly, oedd tynnu'r llun uchod!

Difyr oedd gweld nad yw Iechyd a Diogelwch wedi ymyrryd gormod yn ffeiriau Ffrainc, fel mae nhw wedi'i neud yn y wlad yma. Yma, dydach chi ddim yn cael hyd yn oed bympio i mewn i geir eraill ar y bympyr cars. Ond yn Ffrainc, roedd hi'n ffri-ffor-ôl - hed-ons, seid-ons, bac-endars a wiplashes, y wyrcs! Do, ges i hwyl, fi a'r hogia - a dreuliodd ugian munud (yndach, da chi'n cael gwerth eich pres fel hynny, hefyd) cyfan yn trio fy hitio i ffwrdd o'r 'trac'. Dim nhw oedd yr unig rai chwaith. Roedd'na ryw hogan fach chwech i wyth oed, oedd yn rhannu car efo'i brawd yn ei arddegau, wedi cymryd 'ffansi' ata fi - 'ffansi' at drio fy malu'n racs, hynny ydi! Treuliodd honno ei reid cyfan yn fy harasio hefyd! A wel, mi ydw i'n berson sy'n denu pob math o nytars - boed yn drempyns, yn wallgofiaid, alcs, begars, drygis, ynfytyniaid llwyr, neu'n werthwyr contraband (dwi di cael 'Arabiaid' o ryw fath yn trio gwerthu jewelry aur i mi yng ngorsaf petrol Alan Green yn Penrhyn cyn heddiw) - felly dydi hogan fach seicotig efo obsesiwn am grashio ceir i mewn i geir eraill, yn ddim syrpreis o gwbwl!

Arwahan i rannu amser ac antur efo'r teulu, a threulio 'amser o safon' (cwaliti teim, innit) efo fy meibion anystywallt, digwyddodd rhywbeth arall o werth ysbrydol, personol yng Nghalais - sef y profiad o weld Gethin, y mab 10 mis a hanner ar y pryd, yn cymeryd ei gamau cyntaf. Digwyddodd pan oeddan ni'n nôl yn y gwesty, pan 'ollyngodd' Gethin am y tro cyntaf, a dechrau cerdded chydig gamau. Roeddan ni wedi amau y byddai'n gwneud, ac roeddan ni wedi datgan y byddai'n cymeryd ei gamau sylweddol cyntaf tra'n Llydaw. Ac yn wir, erbyn diwedd y gwyliau, byddai'n cerdded rhyw wyth cam ar ben ei hun (bellach mae'n dechrau gollwng o'i ewyllys ei hun, ac mi fydd yn cerdded cyn ei benblwydd yn flwydd oed, ar Ddydd Glyndŵr (Medi 16) eleni.

Llydaw #1

Bore'r 7ed o Awst, a minau wedi gweithio am 4wythnos solad - yn cynnwys amball benwythnos - i orffan drafft cynta'r nofel newydd, cychwynom, fel teulu, am Lydaw. Pump ohonom, mewn car a thent, am 12 diwrnod.

Na, doedd dim awydd yr Eisteddfod eleni. Dim byd yn erbyn Caerdydd, ond dwi'n gweld digon o'r ddinas fel mae hi. Dwi i lawr yno ymhob gêm beldroed gartref Cymru, ynghyd ag ambell i ddigywddiad llenyddol neu farddonol.

Oedd, roedd hi'n flwyddyn y Cymry yng Ngwyl Rhyn-Geltaidd Lorient, Llydaw eleni. Ond nid yno aethon ni, chwaith - er i ni aros lai nag awr o'r lle am y dair noson gyntaf o'n gwyliau. Y prif atyniad tu ôl i'n gwyliau teuluol cyntaf oedd parti dathlu 30 mlwyddiant Byn Walters, y gŵr hynod o Benydarren, Merthyr Tudful, yn rhedeg Tavarn Ty Elise yn Plouie. Er y byddem wedi licio mynd i Lorient - yn enwedig i gefnogi Calan ac MC Mabon - byddai ymgorffori'r ŵyl a'r parti i mewn i'r un daith yn golygu y byddem yn y wlad am bythefnos a hanner i dair wythnos, a byddai hynny'n ormod i blentyn 11 mis oed fel Gethin, ein ieuengaf. Bydd Cymru'n brif wlad Lorient eto mewn 7 mlynedd, ond dim ond unwaith mae Byn yn dathlu 30 mlynadd yn y dafarn enwog a chwedlonol hon.

Doeddwn i heb fod yn Llydaw o'r blaen, ond gan fod gena i lwyth o ffrindiau sydd wedi bod yno dros y blynyddoedd, ac wedi son cymaint am y lle, unwaith y dalltais fod parti Byn ymlaen (rwyf ar restr ebost criw o ffrindiau, cydnebyd a chenedlaetholwyr Cymreig a Cheltaidd, sydd yn cynnwys Byn), neidiais am y cyfle. Gadewais i ffrindiau oedd wedi bod yn Nhafarn Ty Elise dros y blynyddoedd wybod fod y parti ymlaen, a mi benderfynodd criw ddod drosodd yno i ymuno â ni at benwythnos olaf ein taith deuluol.

Cael croeso gan Byn, yn Nhafarn Ty Elise

Doedd dim angen twistio gormod ar eu breichiau, yn enwedig felly gan mai dyma'r cyfle cyntaf i lawer ohonynt fynd draw ers i Byn a chriw y dafarn yrru torch o flodau drosodd i gnebrwn ffrind agos i ni i gyd - Tedi o Benrhyndeudraeth - rhyw bum neu chwe mlynedd yn ôl. A neis, a thrist hefyd, oedd gweld ei luniau yn llyfr lloffion Tavarn Ty Elise, wedi cyrraedd.

Fel y trodd allan, ac fel y gellid disgwyl o wybod fod gŵyl Lorient newydd ddigwydd, nid ein criw ni oedd yr unig Gymry a gyrhaeddodd Dafarn Ty Elise yn ystod ein hymweliad... Mi af ymlaen efo rhyw ychydig o'r hanes yn y man.

27/08/2008

'Crawia': fy nhrydedd nofel

Gorffennais sgwennu'r drafft cyntaf o fy nhrydedd nofel, 'Crawia', ddechrau'r mis 'ma. Mae hi bellach yn nwylo fy ngolygydd, ac rwy'n aros yn eiddgar am ei sylwadau. Unwaith y caf y feedback cyntaf yma, mi af ati i addasu yn unol â'r sylwadau - os y cydsyniaf â hwy - ac yna bydd y gwaith ail-ddrafftio a phrawf-ddarllen yn dechrau o ddifri.

Fel y gŵyr rhai ohonoch, mae 'Crawia' yn ddilyniant i 'Madarch', oedd yn ei thro yn ddilyniant i fy nofel gyntaf, 'Brithyll'. Gan mai 'Crawia' fydd y drydedd - a'r olaf - yn y drioleg, fy mwriad yw cyflwyno rhywbeth ychydig yn wahanol i'r ddwy gyntaf, gan gadw at y naws a'r hiwmor oedd yn ei dwy rhagflaenydd. Nofelydd cymharol newydd ydw i o hyd, ac un sydd i raddau yn dal i 'ddysgu'r' grefft, ac sy'n dal i ddarganfod fy mlas a chyfeiriad creadigol fy hun. Wrth sgwennu dwi'n fwyfwy ymwybodol o'r safonnau uwch yr wyf wedi eu gosod i mi fy hun, ac mae'r dair nofel yma wedi bod yn ffordd o ddarganfod - ac arwain yn naturiol tuag at - yr arddull, gwrthrych a genre wyf am weithio drwyddynt.

Tra'n cadw at natur y ddwy gyntaf, mae 'Crawia' hefyd yn arwain fy ysgrifennu yn agosach at yr hun wyf am ysgrifennu yn y dyfodol - llenyddiaeth tywyll-ond-llawn-hiwmor, am fywydau bob dydd pobl gyffredin, a'r problemau personol a chymdeithasol sy'n eu hwynebu ac yn eu hachosi i ymateb mewn ffyrdd gwahanol, straeon efo neges ac islais gwleidyddol 'g' fach cryf. Working class culture ydi'r agosaf peth iddo - fel stwff John King, Irvine Welsh a Niall Griffiths, efo hiwmor iach Cymreig Celtaidd, am wn i. Roedd 'Brithyll' yn romp o chwerthin a direidi. Roedd 'Madarch' yn romp telynegol - efo mwy nag awgrym o ffars gomediol - ond efo islais gwleidyddol pendant iddi. Mae 'Crawia', yn bendant, yn llawer tywyllach na'r ddwy - tra hefyd yn cadw'r elfennau o romp, hiwmor gwallgo a gwleidyddiaeth. Mewn ffordd, mae 'Brithyll' a 'Madarch' yn plethu'n berffaith efo tywyllwch 'Crawia' i greu y cyfeiriad 'newydd' y byddaf yn sgwennu yn y dyfodol. A thra dwi'n rhagweld y bydd y nofel yn un ddadleuol (hyd yn oed fwy na'r ddwy arall - ond am y rhesymau cywir!) dwi'n sicr yn meddwl ei bod yn gweithio, a bod lle i'r math hyn o lenyddiaeth yn y Gymraeg.

Mi fydd y controfyrsi y tro yma yn dipyn dyfnach na'r rwtsh arwynebol a hunangyfiawn am "ieithwedd" a "gwrthrych" y ddwy ragflaenydd. Dwi'n gobeithio y bydd y dadlau ynghylch materion cymdeithasol o bwys a rôl llenyddiaeth wrth eu hadlewyrchu. Dwi hefyd yn gobeithio y caiff y nofel dderbyniad yr un mor wresog a'r ddwy gyntaf.

Dwi wedi gweld cynllun bras o'r clawr, sydd eto yn cael ei wneud gan yr arlunydd talentog, Ian Phillips, o Gorris. Fo wnaeth gloriau trawiadol 'Brithyll' a 'Madarch', wrth gwrs, a rwy'n hapus iawn efo'i waith. Fel gyda'r ddwy nofel gyntaf, fi wnaeth y sgets wreiddiol o'r hun oeddwn eisiau fel clawr, ond y tro yma, rwyf hefyd wedi gallu trafod efo'r artist wrth iddo ddatblygu'r syniad. Dwi'n edrych ymlaen yn arw i gael gweld y llun terfynol.

Mi fydd 'Crawia' allan erbyn y Nadolig, a gobeithir ei lansio ganol neu ddiwedd Tachwedd eleni.

26/08/2008

Positif: Hunaniaeth Cymreig yn llamu ymlaen

Pan o'n i'n gweithio yng Nghanolfan Treftadaeth Llys Ednowain, yn Traws, chydig flynyddoedd yn ôl, ddois i ar draws lluniau du a gwyn o garnifal Trawsfynydd yn y 1960au, a sylwi fod baner Jac yr Undeb i'w gweld yn chwifio ymysg y dyrfa a'r orymdaith.

Dwi wedi ymddiddori yn, ac wedi astudio, hunaniaeth, a mae datblygiad, rôl a dirwyiad Prydeindod wedi bod yn elfen bwysig o'r astudiaethau hynny. Hawdd oedd deall sut bod Jac yr Undeb i'w gweld yn gyson yng Nghymru yn hanner gyntaf yr 20ed ganrif, ac wedyn, ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Cymharer hynny efo heddiw, gyda'r Ddraig Goch bellach i'w gweld ymhob man, a baner yr Undeb yn olygfa digon prin.

Ond roedd gweld y llun hwn o hanner olaf y 60au, yn Nhrawsfynydd, yn dystiolaeth o faint mor gryf oedd Prydeindod ac Unolyddiaeth yng Nghymru cwta genhedlaeth neu ddau yn ôl. Yn 1967 ges i fy ngeni - cyfnod pan oedd deffroad cenedlaethol yng Nghymru. Ac wrth edrych yn ôl dros hanes cymdeithasol - megis tystiolaeth ffotograffau a llenyddol (cofnodion cyhoeddus uniaith Saesneg a chanu God Save the Queen, a.y.y.b.), mae rhywun yn gweld o ddifri be oedd gwir extent y deffroad cenedlaethol hwnnw. Pan da chi'n gweld faint mor gryf a chyffredin oedd Prydeindod yn y chwedegau, gallwch werthfawrogi maint y newid tuag at Gymreictod a ddilynodd.

Pentra 'hannar hannar' oedd Traws pan o'n i'n tyfu i fyny yn y 1970au. Un cynghorydd Llafur, un cynghorydd Plaid, a'r ddau yng ngyddfau'i gilydd byth a beunydd. Yn y lleiafrif oeddan ni, deuluoedd cenedlaetholgar, ac fel Blaenau Ffestiniog, ein tref, roedd Llafur yn rym gwrth-Gymraeg cryf yn y gymuned, ar y pryd. Dwi'n cofio 1977, a'r Jiwbili bondigrybwyll, a'r Llafurwyr yn trefnu partis stryd i blant y pentref. Aeth fy mam â ni'r plant i Ynys Byr, oddiar Ddinbych y Pysgod, i osgoi'r jamborî. Yn tynnu at fy 10 oed, roeddwn i'n ddigon hen i ddeall pam. A mi ges i fynd i mewn i'r mynachdy, at y mynachod, efo fy ewythr - ac yno, yn nistawrwydd eu byd pellenig y treulias i brynhawn dathliadau brenhines Lloegr.

1977 felly - Trawsfynydd yn dal yn weddol Brydeinig. Ond erbyn heddiw, fyddai neb yn meiddio chwifio Jac yr Undeb yn y pentref o gwbwl. Mae o allan o ffasiwn ymysg y Llafurwyr prin sydd ar ôl! Mae twf Cymreictod ar draul Prydeindod wedi bod yn aruthrol - ac mae'n cael ei adlewyrchu drwy gydol y wlad. Mae llawer o ffactorau wrth wraidd hyn, wrth gwrs - deffroad cenedlaethol, twf addysg Gymraeg, llwyddiant rygbi a chwaraeon eraill, twf diwylliant poblogaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, cynydd mewn cyfryngau Cymraeg, datganoli, amherthnasedd Prydeindod yn absenoldeb rhyfel, i enwi dim ond rhai... Ond dim trafod hynny dwi isio'i wneud ar y funud, ond son am y newid ei hun, a sut ges i fy atgoffa ohono wrth wylio'r newyddion neithiwr.

Yr eitam dan sylw oedd dychweliad athletwyr Cymreig tim Olympaidd Prydain, i ddathliadau ar strydoedd Caerdydd. Er gwaetha propaganda'r BBC yn ystod y gemau, yr holl bwysleisio, hybu a hyrwyddo'r Undeb, a phortreadu'r wladwriaeth fel 'cenedl', a'r holl Jaciau'r Undeb i'w gweld yn cwhwfan ar ein sgriniau, daeth athletwyr buddugol Cymru yn ôl i Gaerdydd efo'r Ddraig Goch wedi'i lapio dros eu sgwyddau. Dim Jac yr Undeb y "Team GB" bondigrybwyll, ond baner Cymru.

Ymhellach - a dyma sydd hyd yn oed yn fwy calonogol - yn y dorf (ac yng Nghaerdydd o bob man!) dim ond môr o faneri Cymru oedd i'w gweld (geblaw am un Jac yr Undeb fach, maint hances boced, a lwyddodd rhyw ddyn camera i'w ffendio reit ar ddiwedd yr adroddiad). O ystyried yr holl bwyslais ar 'Team GB' yn ystod y dair wythnos ddwythaf, roedd hyn yn hynod galonogol.

Dangoswyd glip newyddion o 1968 wedyn - ffwtej du a gwyn o'r dyrfa'n croesawu Lynn Davies yn ôl o Olympics Tokyo, efo'i fedal aur am y naid hir. Craffais yn ofalus ar bob rhan o'r sgrin. Oedd, roedd'na un neu ddwy Draig Goch fach yno, ond roeddan nhw'n chwifio mewn môr o Jaciau'r Undeb.

Fysa rhywun ddim yn disgwyl llawer mwy yng Nghaerdydd y chwedegau, wrth gwrs - dinas a chwaraeodd ran ganolog yn yr Ymerodraeth Brydeinig dros y ganrif flaenorol. Ond mae'r newid rhwng yr adeg honno a rwan yn syfrdannol.

O gofio fod Caerdydd ymysg y llefydd mwyaf Prydeinig ei Chymreictod o hyd, ac o ystyried holl gyhoeddusrwydd Prydeindod dros yr wythnosau diwethaf, a'r ffaith nad oedd gan ein hathletwyr ddewis ond cystadlu dan liwiau Jac yr Undeb - ac o'r herwydd yn 'normaleiddio' Prydeindod yng ngolwg cefnogwyr a gwylwyr - roedd gweld môr o Ddreigiau Coch yn croesawu'r hogia a genod llwyddiannus yn ôl o'r Dwyrain Pell, ar risiau adeilad y Senedd - ffocws newydd a chynyddol gwleidyddiaeth Cymreig - yn hynod, hynod galonogol, ac yn llenwi rhywun â phositifrwydd am ddyfodol yr hen genedl fach 'ma sydd wedi byw yng nghesail Lloegr am amser mor hir.

Ar adegau fel hyn dwi hefyd yn cael fy atgoffa nad yw pethau ar ben ar Gymru, a bod y broses wleidyddol ddemocrataidd sydd ar droed efo datganoli yn haeddu amser i weithio. Dim ond y sinig a'r pesimist mwyaf - a rhywun nad yw'n gyfarwydd â hanes cymdeithasol a hanes hunaniaeth yng Nghymru - all rwgnach fod hyn ond yn cadarnhau safle'r Cymreictod newydd oddi fewn i'r Undeb. Mae hynny'n anghywir. Mae llwyddiant Team GB wedi methu cael y Cymry i chwifio Jac yr Undeb. Mae Cymreictod bellach yn gryfach na Phrydeindod. Rhaid edrych ar y positif, ac adeiladu ar hynny, yn lle edrych ar wydryn hanner gwag a chanolbwyntio ar y cymylau duon, yn hytrach na'r haul sy'n codi dros y bryn ers cenhedlaeth a mwy. Nid dros nos mae creu cenedl.