31/01/2009

Ticedi i Eddie Izzard o'r diwedd, ond Ticketline yn rip-off

Dwi'n hapus ofnadwy mod i'n mynd i weld fy hoff gomediwr, Eddie Izzard, yn fyw o'r diwedd. Mae ei hiwmor swreal wedi fy nghracio fi i fyny ers blynyddoedd, a mae ei DVDs (a'r VHS o'i sioe gyntaf erioed, sydd ddim ar DVD) yn dal i fy chwalu i ddagrau o chwerthin afreolus, yn ddi-ffael. Rwan fod o'n teithio Prydain eto, ar ôl chwe mlynedd yn actio a theithio'i sioe lwyfan newydd yn yr Unol Daleithiau, rwyf wedi llwyddo i fachu'r cyfle i'w weld o'r diwedd.

Gan mod i ddim yn yfed rwan, dw i adra ar benwythnosau, gan amlaf, ac mi wyliais i raglen Jonathan Ross neithiwr, a dal ei gyfweliad efo Izzard, pryd y datgelodd fod ticedi i'w daith newydd yn mynd ar werth am 10 o'r gloch y bore heddiw.

Dyna lle'r o'n i, felly, yn swigio cegeidiau o goffi wrth glicio'r botwm 'Refresh' drosodd a throsodd ar fy mhorwr fel oedd deg o'r gloch yn agosau. Roedd fy llygad ar y dyddiad yn Lerpwl, nos Sadwrn y 21 o Hydref. Byddai noson allan yn y ddinas gynnes a chyfeillgar hon, ac aros mewn rhyw westy efo bar 24 awr, yn gwneud brec bach neis i fi a Rhian - yn enwedig pe byddai Lerpwl yn digwydd chwarae adref yr un diwrnod!

Trodd cloc bach y cyfrifiadur i ddeg o'r gloch, a gwasgais y llygoden eto. Cymerodd y porwr tua deg eiliad i ail-ddangos y dudalen. Roedd 'na draffig ar y safwe, yn amlwg, wrth i gannoedd o bobl eraill wneud yr union run peth â fi. Wedi i'r dudalen lwytho, clicias ar y linc prynu, ac mi gymerodd hyd at ddeg eiliad arall i'r dudalen nesaf lwytho. Ond myn uffarn i - roedd y dyddiad dan sylw wedi diflannu o'r rhestr, ynghyd ag un neu ddau o rai eraill! Mwya tebyg fod ugeiniau, os nad gannoedd wedi llwyddo i fynd drwyddo o fy mlaen ac, o bosib, roedd cannoedd o dicedi wedi eu cadw ymlaen llaw i bobl oedd wedi cysllylltu'n uniongyrchol â'r theatr ei hun.

Manceinion fyddai'r dewis rhesymol nesaf o ran pellter, ond mae'n gas gen i Fanceinion. Dwy noson ydw i wedi eu treulio yn y ddinas, pan es i i weld Cymru'n chwarae pel-droed yn erbyn Lloegr, chydig flynyddoedd yn ôl. Byth ers hynny, os dwi'n mynd i gig yn y lle, dwi'n dreifio adref yr un noson neu yn cael lifft efo rywun sydd yn dreifio. Afiach o ddinas anghyfeillgar ydw i wedi ei ffendio hi, a hyd yn oed pan dwi'n siarad efo Manceiniaid dwi'n gyfarfod o gwmpas y wlad, a nhwythau'n gofyn sut oeddyn yn cael y ddinas, a minnau'n cydnabod fod 'na ddigon o fywyd yn y lle a mod i wedi cael ambell i dafarn groesawus (fel tafarn ffans City), maen nhw'n synnu mod i wedi ffendio unrhyw beth yn dda am y lle o gwbl - ac yn dweud fod unrhyw un sy'n meddwl fod unrhyw beth yn gyfeillgar am Manceinion yn naif ofnadwy.

Stwffio Manceinion. Y CIA yng Nghaerdydd oedd fy ail ddewis, felly, ac mi lwyddais i gael dau diced yn syth. Roedd y dudalen yn llwytho'n sydyn, ac roedd hi'n dal ond yn llai na thri deg eiliad wedi deg o'r gloch, felly mi feddyliais fy mod i mewn am siawns dda o set yn y ffrynt (dim fod sioe Eddie Izzard yn cynnwys llawer o bantyr a heclo, jysd fe fyddai'n neis cael bod yn y ffrynt). Dau ddewis oedd yn y 'drop-down' - balcony neu ground floor. Hitiais y botwm llawr isaf, a gobeithio. Daeth neges i fyny i ddweud fod y ticedi'n cael eu cadw (mond i mi orffen y talu o fewn chydig funudau), ac mai ticedi i res M sêt 44 oeddan nhw. Doedd ond gobeithio fod rhain yn y ffrynt.

Ta waeth fel y trodd allan, mae'r ffycin things tua'r cefn, ym mloc 8 - sydd tua cefn yr ochr dde! Mae hyn wedi gneud i mi feddwl sut mae Ticketline yn rhannu'r ticedi allan. Ydio'n gynta i'r felin gaiff falu? Hynny ydi, y cyntaf i glicio sy'n cael y seti ffrynt, a gweithio tuag at yn ôl fel 'na? Neu ydyn nhw'n rhannu nhw allan yn random, fel loteri? Doeddwn i'n sicr ddim yn mynd i jansio canslo a thrio eto, beth bynnag. Y peth ydi, doedd 'na ddim opsiwn best available ar y dudalen archebu, ac roeddwn i''n bwcio'r ticedi tua hanner munud wedi deg. Un ai fod 'na alw mawr, a lot o'r seti gorau wedi'u bwcio ymlaen llaw, neu bod y system gan Ticketline yn rhannu seti ar hap.

Ta waeth - dydi hyn ddim yn broblam. Di'r lle ddim mor fawr â hynny, felly fyddwn ni ddim yn rhy bell o'r ffrynt beth bynnag. Fyddwn ni'n clywad Eddie yn iawn, a fydd dim angan sbinglas i'w weld o. Ond yr hyn sy'n pissio rhywun off, braidd, ydi'r prisiau mae Ticketline yn godi am y gwasanaeth gwerthu ticedi. Roedd y tocedi'n costio £30 fel oedd hi (rwan fod y 'ffwcsyn bach' yn un o champagne socialists Hollywood!), ac mi gododd Ticketline £4.75 yr un (£9.50!) ar y ticedi am service charge. Ac ar ben hynny wedyn, fe godon nhw £3.50 am ebostio'r ffycin things imi!

Does 'na neb yn disgwyl y gwasanaeth yma am ddim, ond mae prisiau Ticketline yn rip-off llwyr - yn enwedig y tâl am e-bostio awtomatig! Dylai hwnnw fod yn rhan o'r tâl gwasanaeth, onid ddim?

Nid dyma'r tro cyntaf i mi deimlo'n ddig efo Ticketline, ac nid y tro cyntaf i mi addo i beidio iwsio'r ffycars eto. Dydi eu gwasanaeth gadael i chdi wybod am ddyddiadau gan dy hoff artistiaid jesd ddim yn gweithio o gwbl. Y tro cyntaf i mi wybod am daith The Killers, er engraifft, oedd pan welis i adolygiad o'u gig mewn papur dydd Sul (er, dwi'n falch mod i wedi eu methu nhw achos mae eu stwff newydd nhw'n ffycin shit!). Ac o ran y tâl gwasanaeth a phostio, dw i wedi cael bargen llawer decach gan gwmniau eraill.

Ond y peth oedd, y tro yma, dim ond un safle arall oedd yn gwerthu ticedi taith Izzard (heb gyfri'r safleodd third party oedd eisoes yn gwerthu'r ticedi oedd y bobol oedd wedi bwcio ymlaen llaw o'r theatrau yn eu gwerthu!), allwn i ei ffendio. Ei henw ydi Ents24.com, a honno nes i ddefnyddio. Y broblem oedd mai gweithio drwy Ticketline oedd hi! A dyna fi wedi fy nal. Eto!

26/01/2009

Dan ddaear yn Chwarel Wrysgan

Fuoch chi rioed yn fforio? "Be 'di 'fforio'?" medda chi. Wel y term Cymraeg am grwydro ogofau a chwareli, mae'n debyg! A dyna be fuas i'n ei wneud ddydd Sadwrn dwytha. Chwarel Wrysgan oedd hi, ac i chi sydd ddim yn gwybod lle mae honno, wel uwchben Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog mae hi. Edrychwch i fyny am Gwmorthin, ac ar y dde, rhwng ceg y cwm a'r Moelwyn Mawr, mae 'na graig anferth o'r enw Graig Wrysgan, efo inclên (incline) yn arwain i fyny ei gwyneb at geg twnnel. Da chi'n gwybod hi rwan?

Beth bynnag, y ffordd ati ydi mynd i fyny i Gwmorthin a throi i'r chwith, a dilyn y llwybr i fyny at geg twnnel lefel isaf (Lefel 1) y chwarel, wedyn mynd i mewn i grombil y mynydd. Mae hi'n cael ei chyfrif yn chwarel cymharol saff, ac fe ganiateir i bobol efo cymhwyster 'Mine Leader' arwain tripiau o dan y ddaear ynddi - hyd yn oed i blant ysgol. Ewch yma i weld lluniau reit spectaciwlar o'n taith, yn ddwfn yng nghrombil y mynydd. Mae nhw'n werth eu gweld.

Does dim i sdopio unrhyw un fynd yno ar ei liwt ei hun, wrth gwrs, ond os nad ydach chi wedi bod o'r blaen, mae'n syniad da mynd efo rhywun sy'n gwybod ei ffordd o gwmpas. Mae na lot o hogia Blaenau wedi gneud hyn, ond fel mae'n digwydd bod, trefnwyd ein taith ni gan Antur Stiniog, dan arweiniad gŵr a gwraig - Saeson - sy'n cynnal gweithgareddau awyr agored yn yr ardal. Mae'r gŵr yn 'Mine Leader' sydd yn arwain tripiau dan ddaear o amgylch y byd. Daeth yr arian cyhoeddus i dalu am y trip oherwydd fod ymgyrch ar droed i gael Cymry Cymraeg i fynd ar gyrsiau 'Arweinyddion Mynydd' ac 'Arweinyddion Chwareli' ac ati, er mwyn trio cael mwy o Gymry Cymraeg yn y gwaith - gan fod mwyafrif llethol y gweithgareddau yma'n cael eu trefnu gan Saeson, er mwyn Saeson.

Ta waeth, i mewn â ni i'r chwarel hynod ddiddorol yma, a threulio 4 awr yn crwydro tu mewn y mynydd. I mewn i lefel 1, drwy'r twnneli ac agorydd, ac i fyny i lefel 2, yna 3, ac abseilio 80 troedfedd i'r tywyllwch - yn ôl i lawr i lefel 2, cyn dringo yn ôl i lefel 3, yna 4, 5 a 6 - sydd â'i agorydd yn llawn o gerrig anferth, run maint â thai, a mwy, wedi disgyn o'r to yn ystod daeargryn 1983.

Dyma'r tro cyntaf erioed i mi wneud gwaith dringo, heb son am abseilio. Ac mi wnes i fwynhau yn ofnadwy. Doed gen i ddim ofn wrth bwyso am yn ôl ar yr ymyl, fel sydd gan y rhan fwyaf o bobl y tro cyntaf mae nhw'n gwneud y peth. Wnes i fwynhau y peth gymaint fel mod i'n ysu am gael gwneud o eto, rwan.

Daethom allan i'r awyr iach ar lefel 6, ar dop Graig Wrysgan, lle mae'r llyn bach a gronnwyd i gael dŵr i'r chwarel, a cherdded yn ôl i lawr heibio siafftiau a chegau twnneli'r lefelau eraill. Diwrnod anhygoel o ddiddorol. Un o'r pethau mwyaf difyr ydw i erioed wedi'i wneud.

Fel y dudis i, mae'n cael ei chyfrif yn chwarel cymharol saff, ac enw felly oedd ganddi pan oedd hi'n gweithio hefyd (fe'i caewyd yn y 1940au, dwi'n meddwl). Dim fel chwarel Cwmorthin, dros ffordd iddi, sydd yn llawer mwy (cyflogai dros 200 o ddynion yn ei hanterth), ble y lladdwyd 25 o ddynion mewn 24 mlynedd. 'Y Lladd-dy' oedd enw'r chwarelwyr am y chwarel Cwmorthin.

Fodd bynnag, mae posib mynd i mewn i chwarel Cwmorthin hefyd. Yr unig reswm y mae'n amhosib cael yswiriant i deithiau trefniedig ydi oherwydd fod y mynedfeydd braidd yn beryglus. Roedd yr hen chwarelwyr yn gosod rêls y traciau trams i ddal y to i fyny, a thros y blynyddoedd bu lefelau uwchben yn dympio tomenni o wast ar y tir uwch eu pennau. Rwan, â'r rêls yn rhydu, mae nhw wedi plygu fel bwa saeth o dan y pwysau. Ond unwaith ydach chi i mewn yno, mae'r lle'n llawn o hen greiriau, meddan nhw - peiriannau y gwaith, ac ati - ac mae 'na hyd yn oed gaban yn dal i sefyll o dan y ddaear, efo cuttings papur newydd o 1942 ar hyd y waliau (er, mae un person wedi deud wrtha i fod y lle wedi'i wagio erbyn rwan). Gwerth mynd am dro, fyswn i'n ddeud, jesd i gael golwg. Ond rhaid mynd efo rhywun sy'n gwybod ei ffordd o gwmpas, cofiwch.

Mae gen i ffansi. Ar ôl bod yn chwarel Wrysgan, dw i wedi cael blas. Wir i chi, mae'r profiad yn anhygoel. Fuoch chi rioed yn fforio? Ewch i weld y lluniau a mi gewch chi awydd mawr i fynd.

18/01/2009

Bedd Gurfal

Fuas i yn ôl i dopia Harlech heddiw, i weld y cylch cerrig a elwir yn Bedd Gurfal (SH613 311) - gweler y lluniau isod (Drws Ardudwy, sy'n arwain o blwyf Trawsfynydd i Gwm Nantcol, ger Harlech yw'r bwlch rhwng y Rhinog Fach a Rhinog Fawr yn y pellter eithaf).

Fel cylchoedd cerrig Moel Goedog a'r meini hirion cyfagos y soniais amdanyn nhw eisoes ar y blog yma, pedair mil o flynyddoedd oed ydi'r cylch, ac mae'n sefyll lai na milltir, fel hed y fran, o'r cylchoedd a meini hynny - ar y ffordd dros y gefnen am Gwm Bychan.

Tra'n dal i ddyfalu am bwrpas y meini hirion sy'n frith yn yr ardal yma, fe'm trawyd unwaith eto am bosibilrwydd ysbrydol. Os ydych wedi darllen y cofnod blaenorol, a fy ateb i sylwadau difyr a adawyd gan ddarllenydd, mi fyddech yn gyfarwydd â'r ffaith nad ydw i'n diystyrru swyddogaeth a elwir yn 'mystig' gan rai. Tydi crefydd a chredoau yr Oes Efydd Gynnar ddim yn fwy 'mystig' nag ydi crefyddau a chredoau heddiw. Yn wir, mi fyddwn i'n dadlau fod llawer mwy o sail gwyddonol i'r credoau hynafol hyn na sydd i grefyddau cymharol newydd yr oes hon.

Mae dilynwyr derwyddiaeth, Natur a chrefyddau paganaidd fel wicca, a hefyd crefyddau sy'n gyfuniad o werthfawrogi neu addoli Natur ac un o'r crefyddau modern, yn rhoi pwyslais ar y Pedwar Elfen - daear, gwynt, tân a dŵr. Ok - o'r cyfnod ôl-Gristnogol y daw'r rhan fwyaf o'r credoau hyn, ac mae'r credoau New Age yn hyd yn oed iau (ac mae llawer ohonynt yn deillio o 'fystigrwydd' rhamantwyr y ddeunawfed ganrif). Ond mae 'na hen grefyddau ac athroniaethau ar draws y byd, sydd a'u gwreiddiau yng nghyn-hanes, sydd hefyd yn mawrygu'r Pedwar Elfen yma (neu o leiaf ddau ohonyn nhw, beth bynnag). Y mwyaf 'cyfarwydd' i ni, mwyaf tebyg, ydi cred brodorion America, neu'r 'Indiaid Cochion'.

Be am ein cyndeidiau ni'r Cymry, felly? Wel, gwyddom fod gan y gwareiddiad Celtaidd o leiaf 300 o dduwiau. Roedd y rhan fwyaf yn lleol (er yn cynrychioli yr un math o bethau), ond roedd llawer yn gyffredin i'r gwareiddiad cyfan, ar draws Ewrop (fel Lleu neu Lugh neu Lugos a roddodd ei enw i gymaint o drefi ar draws Prydain, Iwerddon ac Ewrop). Ymysg y duwiau cyffredinol yma roedd Beli Mawr (Belenos), y duw tân, oedd i bob pwrpas yn cynrychioli'r haul, a Dôn - duwies y Fam-Ddaear. Gwyddom fod y Celtiaid yn anrhydeddu'r duwiau yma i gyd, a gwyddom hefyd eu bod yn addoli rhai ohonyn nhw.

Chwaraeai tân ran ganolog mewn defodau - ee wrth nodi dyddiadau fel Samhain, y cyhydnosau, Imbolc, Lughnasa a Chalan Mai - Gwyl Beli Mawr. Derbynir gan bob hanesydd Celtaidd wyf wedi ei ddarllen a sgwrsio efo, mai un peth y gellir ei ddweud yn bendant, o ran crefydd(au) y Celtiaid yw eu bod nhw'n addoli ffynhonau. Roeddan nhw hefyd yn anrhydeddau afonydd ac yn cysylltu'r rhain â duwiesau, gyda'r prif afonydd yn cael eu cyfrif yn afonydd y fam-dduwies Dôn (Danu yn y Wyddeleg). Prif afon - yn wir, afon fwyaf sanctaidd y Celtiaid (fel y Ganges i Hindŵiaid) - oedd y Danube, sydd - fel llu o afonydd ym Mhrydain ac Iwerddon, wedi ei henwi ar ôl Dôn. Dŵr sy'n rhoi bywyd. Dŵr oedd rhodd y Ddaear. Roedd dŵr yn dod gan Dôn ei hun.

Fyswn i'n gallu mynd ymlaen ac ymlaen am hyn, ac am y duwiau a gŵyliau, derwyddiaeth ac arferion eraill, ond cadw at y Pedwar Elfen ydw i am wneud yn y cofnod brysiog yma. Mae dŵr yn un ohonynt. Mae tân hefyd, a'r ddaear a'r gwynt. Os derbyniwn fod y Celtiaid wedi etifeddu eu hathroniaeth oddiwrth bobl yr Oes Efydd Gynnar ac Oes y Cerrig Hwyr, yna gallwn ddyfalu fod y pobl a osododd y meini hirion, ac a gododd y cylchoedd cerrig, yn credu yn arwyddocad canolog y Pedwar Elfen hefyd.

Dyfalu, ia, wrth gwrs. Ond beth sydd mor anodd ei dderbyn? Meddyliwch am y peth - be oedd y prif elfennau oedd yn cynnal bywyd?

Daear - yr hon oedd yn rhoi pob cynhaliaeth, bwyd, adnoddau ac ati. Mae'n wirion i gredu na fyddai'r ddaear yn cael ei gwerthfawrogi i raddau duwiol gan bobl yr oes - mae hi'n dal i gael ei chyfrif felly gan frodorion America, Affrica, Asia ac Oceana. Os oedd pobl yn credu mewn rhoi eu meirw yn ôl i'r tir - yn gyrff neu yn llwch - yna roeddynt yn ymwybodol o arwyddocad y ddaear fel sail i fywyd, ac fel rhoddwraig bywyd, a bod ganndyn nhw ddealltwriaeth o gylchdro natur - fel cylchdro'r ser a'r haul a thymhorau - hefyd.

Dŵr - heb ddŵr doedd dim byd yn tyfu a doedd dim bywyd. Yn naturiol ddigon roedd dŵr yn ganolog bwysig. Sdim angen ymhelaethu, felly, dim ond atgoffa'n hunain o gred pobloedd eraill y byd yn y cyfnod, ac o gredoau'r Celtiaid yn ddiweddarach.

Tân - does dim posib gorbwysleisio'r rhan hollbwysig y chwaraeodd tân yn natblygiad dyn. Yn wir, mae'n rhywbeth arall sydd wedi bod yn hanfodol i gynnal bywyd. Gwres yn yr oesoedd oer, modd o goginio, golau, cadw anifeiliaid rheibus i ffwrdd, gwneud arfau, a chymdeithasu a chadw pobl yn ddiddig yn y gwersylloedd yn y nos.

Gwynt - ar yr wyneb, mae hwn yn un anodd i'w egluro, ond be oedd y prif rym arall oedd yn rheoli bywydau pobl yn yr oesoedd cyn-wyddonol 'ofergoelus' a fu? Rwyf eisoes wedi son amdano yn y cofnod am feini Moel Goedog - y goruwchnaturiol, yr anweledig, y byd ysbrydol, eneidiau hynafiaid, duwiau, diafoliaid - y grymoedd oedd yn gallu achosi sychder neu ddilyw fyddai'n lladd cnydau ac achosi newyn, y grymoedd allai achosi pla ac afiechyd, a thrychinebau megis llifogydd, llosgfynydd neu ddaeargryn, neu dân yn sgubo drwy'r pentref ac ati. Oni allai fod y gwynt yn cynrychioli'r grymoedd anweledig hyn oedd yn gallu rhoi neu gipio bywyd i ffwrdd? Onid yw gwynt yn anweledig ond eto'n rhywbeth y gallent ei deimlo ar eu bochau ac yn eu gwalltiau, a'i weld o'n ysgwyd coed a gyrru popeth i bedwar ban? Onid y gwynt a gariai'r stormydd tuag atynt, a'r cymylau glaw pan fo sychder? Onid y gwynt oedd yn gyrru'r tywydd? Onid y gwynt, felly oedd yn cynrychioli'r elfen 'oruwchnaturiol' oedd yr un mor ganolog i fodolaeth - yng ngolwg yr hen bobl - ag oedd daear, dŵr a thân?

Pan rydan ni'n meddwl am y peth, felly, tydi derbyn fod ein cyndeidiau Neolithig yn gwerthfawrogi - ac addoli efallai - y Pedwar Elfen, er gwaethaf diffyg tystiolaeth ysgrifenedig, ddim yn anodd o gwbl.

Felly be sydd gan hyn i gyd i'w wneud â meini hirion Ardudwy ('Tir Duw' y Brythoniaid), a fy ymweliad â Bedd Gurfal heddiw? Wel, beth bynnag oedd swyddogaethau'r meini (gweler y cofnod blaenorol) - llefydd addoli, seremoniol, claddu neu gymdeithasu, neu hyd yn oed arwyddfeini - y cwestiwn mawr sy'n aros yw pam y llecynnau arbennig hyn? Wel, o gofio fod y mannau hyn yn ddigon pwysig a chysegredig iddyn nhw losgi a chladdu eu meirwon yn y cylchoedd cerrig, ydi'r mannau hyn, felly, yn lefydd lle y credai'r hen bobl fod y Pedwar Elfen ar eu cryfaf?

Does 'na ddim prinder ffynhonnau yma yn Ardudwy, doedd dim prinder tir amaethyddol, corsydd mawn na choedwigoedd i hela - diolch i'r Ddaear - ac roedd hi ymhlith yr ardaloedd mwyaf diogel yn y wlad, diolch i'r cymoedd a bryniau, a'r mynyddoedd tu cefn a'r llechweddau serth o waelodion glannau'r môr, ar y blaen. Efallai fod grymoedd magnetaidd naturiol y ddaear yn gryf yma - fel y dyfalwyd eisoes yn y blog hwn - ac mae ymhlith y llefydd mwyaf gwyntog yn y wlad hefyd. A gall neb sydd wedi gweld y machlud dros y môr o fan hyn wadu na fyddai pobloedd ofergoelus neu ysbrydol y cyfnod, oedd i bob pwrpas yn addoli'r haul, yn tueddu i edrych ar y lle fel llecyn oedd yn 'agos at dduw'.

Mi fyddai haneswyr ac archeolegwyr yn dweud fy mod yn sefyll ar dir meddal yma! Ac i gelfyddydau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ffeithiau cadarnhaedig, mi ydw i. Ond be ydw i'n wneud ydi meddwl tu allan y bocs, a pheidio diystyrru unrhyw reswm posib dros osod y cerrig a'r cylchoedd yma. Dwi'n agored i resymau ysbrydol, ond yn defnyddio ffeithiau y gwyddom am yr oed ac am bobloedd y cyfnod fel sail i'r damcaniaethu ysbrydol. (Gyda llaw, rhag ofn nad ydych yn gwybod, mae gen i radd dosbarth cyntaf mewn Hanes a Hanes Cymru - sydd ddim yn fy ngwneud yn awdurdod ar unrhyw beth, ond mae o'n fy ngalluogi i roi pethau mewn contecst a phlannu fy nghoed mewn tir cadarnach na'r mwyafrif).

Bu digwydd i mi gael fy atgoffa o arwyddocad y Pedwar Elfen heddiw, gan y ffaith fod, nepell o gylch cerrig Bedd Gurfal, ffynnon sydd yn anghygoel o gryf ei ffrwd. Rheswm digon practical i rywun benderfynu byw yn ei hymyl, wrth gwrs. 'Blaw does 'na ddim 'pentref' neu 'settlement' yma - dim ond cylch cerrig. Oedd cysylltiad rhwng y cylch ag addoli'r ffynnon?

Mae'r dyfalu ynghylch pwrpas y meini yn parhau, felly! Disgwyliwch fwy am hyn gennyf maes o law!

12/01/2009

Israel yn gwahardd dwy blaid Arabaidd rhag sefyll yn yr etholiad mis nesaf

Mae Israel wedi gwahardd dwy blaid ddemocrataidd Arabaidd rhag sefyll yn Etholiad Cenedlaethol y wlad ar Chwefror y 10ed. Daw'r penderfyniad wedi i'r cynnig gael ei roi ger bron y Knesset gan ddwy blaid asgell dde Israelaidd.

Cipio tiroedd, ymosod ar wledydd, torri cyfreithiau rhyngwladol a rheolau rhyfel, troseddu yn erbyn y ddynoliaeth, llofruddio ac anafu miloedd o bobl ddiniwed, defnyddio arfau cemegol a gwahardd pleidiau democrataidd sy'n cynrychioli lleiafrifoedd yn y wlad.

Swnio'n gyfarwydd?

Israel yn defnyddio arfau cemegol yn erbyn pobl Gaza

Dilynwch y linc yma a gwyliwch y fideo. Rydan ni i gyd yn gyfarwydd â'r troseddau rhyfel erchyll yn erbyn y ddynoliaeth y mae Israel wedi bod yn weithredu yn llain Gaza dros y pythefnos diwethaf. Dim ond ymestyniad gwaedlyd i'r un tactegau llofruddgar mae'r wladwriaeth ddieflig yma wedi bod yn eu defnyddio yn erbyn pobl Palesteina ers degawdau ydi o, wrth gwrs. Ond mae'r pythefnos diwethaf 'ma wedi bod yn eithafol y tu hwnt i bob dirnad, bron.

Mae'r cyfryngau torfol Eingl-Americanaidd yn caniatau i fyddin a llywodraeth Israel eu defnyddio i ledaenu celwyddau anghredadwy o haerllug er mwyn cuddio gwir erchylldra'r hyn mae ei lluoedd arfog yn wneud i ddynion, merched a phlant diniwed llain Gaza. Dyna pam mae'n bwysig i ni ddefnyddio pob cyfle i roi llais i'r rhai sy'n ceisio lledaenu'r gwirionedd. Dim blog gwleidyddol mo hwn. Ond mae hyn tu hwnt i wleidyddiaeth. Mae hyn yn fater o ddyngarwch a chyfiawnder. Mae gwladwriaeth Israel yn llofruddio pobl diniwed yn ddyddiol, o flaen llygaid y byd. Sut all unrhyw un anwybyddu hyn? Dyna pam dw i'n rhoi'r fideo yma i chi ei wylio. A da chi, gwyliwch o. O'r holl droseddau rhyfel ac anwybyddu resolutions y Cenhedloedd Unedig mae Israel wedi wneud dros y blynyddoedd, mae hwn yn un nad ydym, efallai, yn gyfarwydd ag o.

Cofiwch fod Saddam Hussein wedi'i grogi am weithredoedd fel hyn.

11/01/2009

Dirgelwch y meini

Fuas i draw i'r ucheldir uwchben Harlech ddydd Sadwrn, i weld y meini hirion a'r cylchoedd cerrig sy'n sefyll yno ers pedair mil o flynyddoedd.

Mae sawl damcaniaeth am swyddogaeth y meini yma sy'n britho gorllewin Cymru, fel eu bod wedi eu gosod at ddibenion defodol, neu i farcio man claddu neu ddigwyddiad o bwys, ac eu bod yn arwyddfeini i farcio tiriogaeth neu lwybr tuag at rhyw fryngaer neu safle arbennig. Mae'n bosib fod mwy nag un o'r rhesymau yma'n wir i wahanol gerrig.

Arwyddfeini ydi cerrig Harlech yn ôl y farn arbennigol fwya gyffredin - ond derbynnir mai dim ond dyfalu ydi hynny, gan nad oes posib dweud i sicrwydd y naill ffordd na'r llall. Ond o grwydro yn eu mysg nhw ddoe, a nodi eu safleoedd mewn perthynas â'i gilydd, mae'n anodd gen i gredu mai dyna oedd swyddogaeth pob un.

Y peth cyntaf sy'n taro rhywun wrth feddwl am eu swyddogaeth fel arwyddfeini, ydi arwyddfeini be ydyn nhw? Be mae nhw'n farcio? Tiriogaeth, digwyddiad neu berson pwysig, neu ffordd neu lwybr i rywle?

Triogaeth?

Diau y defnyddiwyd cerrig o'r math yma i farcio tiriogaeth, o bryd i bryd, mewn ambell le yn yr Oes Efydd a chynt. Roedd y syniad o diriogaeth wedi hen gydio erbyn Oes y Cerrig Hwyrach, ymhell cyn codi'r meini yma. Wrth i ddulliau amaethu a thyfu cnydau newydd gyrraedd o Ewrop roedd angen cymunedau mwy sefydlog er mwyn trin y tir a thyfu'r cnydau hyn, ac mi ddechreuodd pobl oedd, cyn hynny, wedi bod yn symud o gwmpas a byw gan fwyaf ar hela, sefydlu eu hunain ar ddarnau o dir, a hyd yn oed adeiladu 'pentrefi' bychain ar ffurf enclosures ar ben bryniau - rhagflaenwyr bryngaerau'r Oes Efydd ac Oes Haearn. Dros y canrifoedd, tyfodd yr ymdeimlad o berthyn i ddarn o dir, wrth i bobl ddod yn ymwybodol fod eu cyndeidiaid - oedd yn bwysig iawn i hunaniaeth y tylwyth - wedi bod yn hela a gweithio'r union ddarn o dir hwnnw am genhedlaethau o'u blaenau.

Ond, o weld y ffordd mae meini hirion Harlech wedi eu gosod allan, fyswn i'n diystyrru'r gred eu bod yn arwyddfeini marcio tiriogaeth, yn syth. Mae 'na naw ohonynt yn sefyll mewn rhyw fath o linell syth (o ryw fath, fel y gwelwn isod), yn rhedeg o'r de i'r gogledd, ond dim ond milltir a chwartar sydd rhwng y garreg fwyaf deheuol a'r garreg ar y pen gogleddol. Dim llawer o diriogaeth, fyswn i'n ddweud! Ond yn fwy arwyddocaol, efallai, mae 'na fryniau rhwng y cerrig mwyaf deheuol â'r môr (sydd ond rhyw filltir i ffwrdd), ac mae'r meini mwyaf gogleddol un ai yn rhy fach, neu ychydig dros ael y llethr o olwg y môr, felly does yr un ohonynt yn bethau y gellir eu gweld wrth stryffaglio i fyny'r llethrau serth o gyfeiriad y traeth, i'r gorllewin. Ac os mai ffin dwyreiniol ydyn nhw, wel, tydi tamaid o fryn a rhipyn main o dir sy'n disgyn yn serth i'r môr ddim yn ddarn o dir digon mawr i rywun drafferthu ei farcio efo lympiau trwm o ithfaen!

Cofebau?

Ai arwyddfeini i nodi buddugoliaethau neu farwolaethau arweinyddion cynnar ydyn nhw? Neu i nodi lle y claddwyd rhywun o fri? Pam lai? Gyda sefydlu cymunedau mewn oes oedd yn gynyddol ddigon treisgar i orfod codi amddiffynfeydd o amgylch eu cytiau, mae'n bosib fod arweinyddion cryf yn cael eu parchu a'u cofio gyda cofebau eitha trawiadol. Ond mae hyn yn codi lot o gwestiynnau hefyd, a'r mwyaf ohonyn nhw, yn achos meini Harlech, ydi lleoliad y casgliad yma o feini hirion a safleoedd y cerrig unigol. Mae cylchoedd cerrig a chromlechi'r bobl, a'r cyfnod, yma (a chynharach) yn ymestyn dros Gymru gyfan, yn enwedig y gorllewin. Mae eu meini hirion i'w cael yma ac acw dros y wlad, er mai rhai unigol a allasai fod yn arwyddfeini marcio tiriogaeth neu lwybr ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Mae Harlech, fel ardaloedd eraill ar hyd y gorllewin, yn gartref i glwstwr ohonyn nhw. Iawn, Ardudwy ydi enw'r ardal hon - hen enw Brythonig a olyga Tir Duw, sy'n tystio fod gan yr ardal arwyddocad ysbrydol erbyn y cyfnod y dechreuodd y trigolion siarad iaith Geltaidd. Ond go brin fod brodorion Cymru yn yr Oes Efydd wedi bod yn cludo cyrff eu henwogion o bob cwr i gael eu claddu yn y llecynnau 'sanctaidd' hyn?

Mae 'na dystiolaeth i'w gael yn enwau llwythau iaith Geltaidd yr Oes Haearn, yn yr ardal, fod cysylltiad cryf rhwng yr ardal orllewinol hon â phobl Iwerddon, ond mae tystiolaeth genetaidd yn dangos fod 90% o'r Cymry a'r Gwyddelod (a'r Albanwyr a'r Basgwyr) i gyd yn rhannu'r un genynnau. Felly, tydi ceisio dweud mai arferiad llwythol lleol yn unig oedd codi'r meini yma i goffau digwyddiadau ac eiconau, ddim yn dal cymainr â hynny o ddŵr. A beth bynnag, mae'r amrywiaeth ym maint a layout y cerrig yn rhy eang i allu derbyn gant y cant eu bod i gyd wedi eu gosod i'r perwyl hwn. Pwy oedd i ddweud pa bwysigyn oedd i gael carreg bron i dair metr o uchder a phwy oedd i gael carreg cwta hanner medr o faint?

Arwyddfeini llwybrau?

Mae eu gwahanol faintioli a siapiau, a'r ffaith eu bod wedi eu gosod mewn (rhyw fath) o linell syth, yn arwain rhywun i dybio (yn ddiog a di-ddychymyg yn fy marn i) mai dangos y ffordd at leoliad, pentref neu lecyn arbennig y mae nhw. Ond eto, pan mae rhywun yn mynd draw i gerdded yr ardal, a sylwi ar eu safleoedd unigol, ac yn meddwl am hyn, mae mwy o gwestiynnau yn codi.

Dangos y ffordd? I lle? Wel, mae 'na fryngaer bychan ar ben Moel Goedog, ac mae'r meini yn dilyn ffordd gefn (fodern) cyn gwyro ar hyd llwybr troed ar hyd waelodion Moel Goedog. Ond pwy fyddai ddim yn gwybod y ffordd i fa'no? Mynydd bach tua 370 o fedrau uwchlaw'r môr ydi Moel Goedog, a tydi hynny ddim ond 70 o fedrau uwchben y cerrig gogleddol. Tydio'n fawr o fynydd. Mae o'n foel hefyd, ac yn ôl arbenigwyr, roedd uchelderau Cymru, uwchben mil o droedfeddi yn glir o goed yn yr Ies Efydd Gynnar. Byddai unrhyw deithiwr dieithr yn gallu gweld y gaer o bell wrth agosau o gyfeiriad y de, gan fod Moel Goedog i'w gweld yn glir yr holl ffordd i lawr yr arfordir at Bermo, ac yn wir yr holl ffordd i lawr Bae Ceredigion ar ddiwrnod clir. A chan gofio mai poblogaeth pitw oedd yn yr ardal bryd hynny, go brin bod llawer o bobl yn ddiethriaid a ddim yn adnabod yr ardal. Ond be sy'n ei gwneud yn bendant mai nid dangos y ffordd at fryngaer fechan Moel Goedog y mae'r meini hirion 'ma, yw'r ffaith fod dyddio carbon wedi dangos mai mil o flynyddoedd cyn Crist y defnyddiwyd y gaer. Mae hynny fil o flynyddoedd ar ôl gosod y cerrig.

Oes 'na rywle arall y gall y meini 'ma fod yn dangos y ffordd ato? Wel, mae darllenwyr rheolaidd y blog 'ma yn gyfarwydd â fy mhost isod am Bryn Cader Faner - safle cylch cerrig a chladdfa oedd o gryn bwys ar un adeg. Mae'r llwybr troed sy'n arwain dros waelodion Moel Goedog, ac y mae'r meini'n ymddangos fel eu bod yn ei ddilyn hyd hynny, yn gwyro i'r gogledd ddwyrain, ac yn arwain - heb fynd am gopa'r Foel o gwbl - am Bryn Cader Faner. Ai arwyddfeini at y safle yma ydynt? Efallai yn wir. Mae nhw yn dyddio o'r un cyfnod. Ond eto, rhaid gofyn cwestiynnau. Mae Bryn Cader Faner dair milltir a hanner i ffwrdd o'r maen hir gogleddol, mewn ucheldir corsiog sydd 400 medr uchlaw'r môr. Byddai rhywun yn meddwl, o weld lle mor anghysbell â hyn - lle nad oes modd ei weld hyd nes y dewch dros y bryncyn olaf cyn ei gyrraedd - y byddai meini hirion wedi eu gosod rhywle ar hyd y dair milltir a hanner yma. Ond does 'na ddim. Mae 'na gylch cerrig ar y ffordd (ger Llyn Eiddew Bach) rhyw chwarter milltir cyn cyrraedd Bryn Cader Faner, ond dim 'arwyddfaen' o unrhyw fath.

Gellid dadlau fod meini hirion Harlech yn sefyll dim ond ar y milltir a chwarter cyn cyrraedd Moel Goedog, a nunlle arall, oherwydd fod y darn hwnnw o dir, ar y pryd, yn goed trwchus drosto. Mae'r lle o gwmpas mil o droedfeddi, ac mae'n ddigon posib. Efallai fod angen meini i ddangos y ffordd drwy'r goedwig. Ond pwy fyddai ddim yn gwybod y ffordd trwy goedwig mor fach? Hefyd, mae'r tir yma yn uffernol o garregog. Mae'r graig yn brigo ymhobman yma, ac mae carneddi anferth o gerrig ymhob cae, yn ogystal â charneddi enfawr o gerrig maint meini hirion y mae ffermwyr diweddar wedi eu codi o'r tir. Dydi o ddim yn taro rhywun fel tirwedd coedwig.

Ond y clinshar i mi, o ran tueddu i ymwrthod â'r eglurhad arwyddfeini, ydi layout rhai ohonyn nhw. Wrth ddilyn y rhes o'r de i'r gogledd, mae pedair ohonyn nhw, tua 200 llath a llai oddiwrth ei gilydd, mewn llinell gweddol syth ar hyd y ffordd fodern. Mae rhain o wahanol faintioli - yn amrywio o bron i dair medr i hanner medr. Yna, mae'r 'llinnell' yn gwyro'n siarp i'r dde (gogledd-dwyrain) a dilyn y llwybr troed modern am Moel Goedog. Yna, o fewn ugain llath i'r garreg olaf yn y llinnell syth, ceir maen arall. Yna, ganllath yn nes ymlaen ar y llwybr, ceir maen go sylweddol arall eto, yna ganllath arall wedi honno, un arall. Ond be sydd ddim yn dilyn y patrwm ydi fod meini eraill wedi eu gosod lai na hanner canllath i'r chwith ac i'r dde oddiar y llwybr, ac heb fod ymhell o'r ddwy garreg sy'n cadw at y llwybr. Hynny yw, nid patrwm llinnell syth sydd yma erbyn hyn, ond rhywbeth hollol random - a be bynnag ydi o, tydi o ddim yn dangos y ffordd i unrhyw deithiwr.

Dangos y ffordd at rywbeth arall? Mae'n bosib bod ambell un o'r meini yma yn gweithio fel arwyddfaen, wrth gwrs. Cwestiynnu os mai dyna ydi swyddogaeth y casgliad efo'i gilydd ydw i. Ac os nad dyna oedd swyddogaeth y casgliad, yna rhaid dyfalu beth.

Saif y meini i gyd o fewn milltir a chwarter i'w gilydd, a llai na phum can llath i'r gogledd o'r garreg ogleddol - ar waelod Moel Goedog - saif dau gylch cerrig. Mae'r ddau yn dyddio o'r un cyfnod â'r meini hirion, ac yn sefyll o fewn 30 - 40 llath oddi wrth ei gilydd ar y llechwedd (gweler y lluniau, isod).

Tydyn nhw heb gloddio yn y cylch uchaf, ond yn yr isaf mae nhw wedi dod o hyd i weddillion esgyrn dynol wedi llosgi ar y safle, a llwch dynol mewn wrnau. Hefyd, canfuwyd yma, am y tro cyntaf ym Mhrydain dwi'n meddwl, weddillion oedd wedi eu claddu yn rhywle arall (mewn pridd tywodlyd, lan môr, yn yr achos yma) a'u symud yma i'w hail-gladdu. Canfuwyd mwy o engreifftiau o hyn dros y wlad, ers hynny, felly mae arwyddocad eitha phwysig i'r cylchoedd cerrig yma a gawn o amgylch y lle.

Mae'n sicr, felly, bod gan y cylchoedd yma ran bwysig i chwarae yn niwylliant cymdeithas y cyfnod. Fel y siambrau claddu yn y cromlechi, oedd yn cael eu defnyddio i gadw gweddillion cyndeidiau mewn modd yr oedd posib mynd atyn nhw pan fo'r galw, mae'n bosib fod yr hen bobl yn symud gweddillion eu cyndadau o le i le, fel oedd y llwyth yn symud pan fo'r galw. Roedd y cylchoedd cerrig yma hefyd yn chwarae rhan defodol pwysig, ac yn amlwg yn lefydd sanctaidd iddynt, gan eu bod yn eu defnyddio i gladdu gweddillion eu meirw yn ogystal â gweithredoedd defodol.

O fod yn crwydro'r ardal y dydd o'r blaen, felly, yr argraff yr ydw i'n ei gael ydi fod y meini hirion efallai yn arwain rhywun tuag at rywbeth, ond nad pentref ydi'r peth hynny. Digon gwir fod 'na nifer o olion hen gytiau crynion cyfagos, ym mhen gogleddol y 'rhes' o feini, ond mae 'na ddigon o rai eraill, hefyd, o gwmpas yr ardal, heb unrhyw 'res o feini' yn arwain tuag atyn nhw. Dw i'n tueddu i ddyfalu os oedd y meini 'ma fel rhyw fath o gamau seremonîol mewn ymdaith ddefodol. Efallai fod pob un yn cynrychioli rhyw elfen ddaerol a/neu ysbrydol, wrth ymdeithio tuag at y cylchoedd cerrig - boed hynny wrth gario corff i'w amlosgi neu ei gladdu (yn un o'r carneddi cerrig cyfagos i'r cylchoedd, neu yn y cylchoedd eu hunain). Pwy â ŵyr? Efallai fod y shaman yn aros wrth bob carreg ac yn llafarganu rhyw eiriau a chyflawni rhyw ddefod? Efallai bod pawb yn gorfod cyffwrdd y cerrig, neu phlygu pen i ryw dduw neu ysbryd, er mwyn sicrhau parhad yr enaid wedi claddu'r gweddillion corfforol? (Rhois innau fy nwylo ar ddwy o'nyn nhw, a myfyrio, ac yn y meicro-eiliad wrth dynnu fy nwylo i ffwrdd, roedd 'na drydan - trydan hynafiaeth efallai, gan mod i'n sensitif iawn i hynafiaeth).

Mae'n wir i ddweud fod cylchoedd cerrig eraill yn yr ardal ac nad oes rhesi o gerrig yn arwain atyn nhw, ond onid rhyw fangre sanctaidd fu'r llecyn hwn i'r hen bobl? 'Tir Duw'?

Dirgelwch fydd hyn am byth, mwn. Dyfalu'n unig ydw i, codi rhai o'r myrdd o gwestiynnau sy'n chwyrlio drwy'r meddwl pan fo rhywun yn sefyll ger y meini, nid cynnig atebion. Yn sicr, mae'r meini yn arwain at y cylchoedd, achos yn y pen gogleddol mae'r rhes 'syth', ar ôl gwyro am droed Foel Goedog, yn tyfu breichiau, fel pe tai'r cerrig yn dweud eich bod wedi cyrraedd pen y daith. Hynny yw, yn fras, wrth edrych o'r awyr, dychmygwch fathodyn CND, ond ar ben i lawr, ac heb y cylch allanol.

Llech Idris

Dyma pam dwi'n ei chael hi'n anodd i dderbyn yr eglurhad mai arwyddfeini hen lwybrau ydi pob maen hir yng Nghymru. Hyd yn oed pan fo'r eglurhad yn gwneud synnwyr, ar yr wyneb, mae 'na wastad rywbeth nad yw'n gorwedd yn esmwyth wrth resymu. Cymerwch faen hir enwocaf Meirionnydd, Llech Idris yng Nghwm Dolgain, Trawsfynydd. Arwyddfaen llwybr ydi'r eglurhad derbyniedig, a gallwn fod yn bendant fod y llecyn lle y saif yn un oedd yn goed trwchus hyd at y Canol Oesoedd - fyddai'n galw, o bosib, am arwyddfaen i ddangos y ffordd drwyddo.

Ond eto, llwybr i le oedd hwn? A pham fyddai rhywun angen gwybod y ffordd os oedd yn berson o'r ardal, oedd yn gyfarwydd â dilyn llwybrau trwy'r coed? Mae rhai yn ceisio dweud mai dangos y ffordd allan o'r cwm tuag at un o'r pedwar ffordd dros res o fynyddoedd y Rhinogau, i ochrau Harlech, y mae hi. Efallai - ond pa un o'r ffyrdd? Drws Ardudwy i Gwm Nantcol? Bwlch Tyddiad i Gwm Bychan? Llwybr Bwlch Gwilym heibio Graig Ddrwg, eto i Gwm Bychan? Neu lwybr Cwm Moch i... Bryn Cader Faner... (Tydi'r llecyn hwn yn dod i fyny'n aml wrth 'ganlyn y meini'?!)

Maen Llwyd

Gellir tynnu llinell syth o Lech Idris at Gwm Moch, ac yn y canol, mi gewch faen hir arall, sef y Maen Llwyd ar dir fferm Brynmaenllwyd, jesd tu allan Traws, felly mae'n eitha posib fod Llech Idris yn nodi llwybr - a hwnnw am Fryn Cader Faner, efallai. Ond be sy'n codi cwestiynnau i mi, ydi pwy fyddai'n dilyn y ffordd yma? Byddai teithwyr o'r dwyrain yn dod i lawr trwy Gwm Prysor - sydd dros y gefnen o Gwm Dolgain ac yn arwain drwy Drawsfynydd ac yn syth at Gwm Moch. Byddai teithwyr o'r de yn dod i fyny rhiw Gelli Goch o gyfeiriad Ganllwyd. Efallai bod rhai yn trafaelio o gyfeiriad de-ddwyreiniol, o gyfeiriad Abergeirw - ond eto, hawddach fyddai osgoi Cwm Dolgain yn y cyfnod yma, a mynd i lawr i Faesgwm, wrth droed rhiw Gelli Goch, ac ymlaen am Ddrws Ardudwy neu Fwlch Tyddiad. Am wn i. Pwy all ddweud? Dyfalu ydw i, fel hogyn lleol i'r ardal sy'n gyfarwydd â'r daearyddiaeth.

Mi all Llech Idris farcio tiriogaeth, wrth gwrs. Roedd gogledd Meirionnydd fel y gwyddom amdano heddiw, yn rhan o Ardudwy tan yn weddol ddiweddar. Ardudwy Uwch Artro yw enw'r rhanbarth yn y llysoedd barn hyd heddiw, ac Arglwydd Ardudwy oedd teitl Lleu Llaw Gyffes yn y Mabinogi, oedd â'i lys yn Nhomen y Mur ger Traws. Gellir dychmygu mai yma, ger Llech Idris oedd ffin dwyreiniol y llwyth oedd yn trigo yn 'Nhir Duw' - sydd yn estyn o'r môr, dros y mynyddoedd a thrwy Trawsfynydd ac am y dwyrain.

Cylch y Derwyddon

Rhywbeth arall sy'n codi'i ben yn aml wrth drafod meini hirion, ydi'r ffaith fod cylchoedd cerrig yn agos. Mae 'na un, rhyw chwarter milltir, os hynny, fel hed y fran o Lech Idris, i fyny ar ffridd Penystryd. Cylch y Derwyddon ydi ei enw, ac mae'n dyddio o'r un cyfnod â Llech Idris, y Maen Llwyd, Bryn Cader Faner a cherrig Harlech - dwy fileniwm cyn Crist. Oes cysylltiad, eto, rhwng y meini â chylch cyfagos? Ydi'r meini yn datgan i'r teithiwr eu bod yn nesu at fangre sanctaidd, yn yr un modd a mae 'arwyddion' yr Indiaid Cochion yn America yn ei wneud?

Efallai mai dyma oedd swyddogaeth cerrig Harlech, ond bod y fangre honno mor sanctaidd fod galw am sawl carreg i nodi'r lle? Efallai'n wir fod cerrig eraill rhwng Llech Idris â Chylch y Derwyddon, ond fod ffermwyr wedi eu tynnu i lawr a'u defnyddio fel pentannau giatiau ac ati.

Grymoedd anweledig

Neu ai meini'n nodi safleoedd ble mae grymoedd magnetaidd naturiol y ddaear yn 'brigo' ydynt i gyd - a bod yr hen bobl yn ymwybodol o hynny, trwy ryw reddf sydd wedi diflannu ynom ni erbyn heddiw? Byddai'n ddigon naturiol i safle ble mae ley lines yn cyfarfod gael ei gyfri'n sanctaidd i'r hen bobl - digon sanctaidd iddyn nhw godi cylchoedd cerrig yno i gladdu eu meirw a chynal defodau. Fel yn 'nhir duw'? Yn sicr, mae'r llu o gromlechi, cylchoedd a meini hirion sy'n estyn drwy ardal arfordir Ardudwy a thros y Rhinogau yn awgrymu fod yr ardal yn golygu rhywbeth dyfnach iddyn nhw.

Fuodd 'na fwy o gerrig yn sefyll uwchben Harlech? Mae'r pentyrrau enfawr - rhai sydd gymaint â rhesi o dai - o gerrig anferth sydd wedi eu codi o'r tir gan ffermwyr yr ardal dros y cenhedlaethau, yn codi'r posibilrwydd fod rhai o'r rhain, unwaith, yn sefyll fel meini hirion. Mae 'na ugeiniau wedi eu gosod i orwedd o boptu'r ffordd darmac fechan (gweler y llun isod) sy'n rhedeg trwy lecyn lle saif y meini hirion gogleddol yn y 'rhes'. Oedd rhain, ar un adeg, yn sefyll ymysg y meini sydd wedi goroesi?

Oes mwy na ellir ei weld?

Hoffwn weld llun o'r awyr o'r ardal, i ddeud y gwir. Achos, lle mae'r cerrig gogleddol yn 'tyfu breichiau' mae posib dychmygu - o weld eu safle a safle cerrig eraill sydd fel petaent wedi 'suddo' (o bosib, gan y gallent fod yn ddim mwy na cherrig mawr sydd yn brigo wrth i'r tir suddo), mae posib 'dychmygu' eu bod ar un adeg yn rhan o gylch anferth o gerrig. Neu, fe allai fod, ar un adeg, resi ohonyn nhw, rhywbeth yn debyg - ond nid ar yr un graddfa - i Karnag, yn ne Llydaw, lle mae dros dair mil o feini hirion o bob maint wedi eu gosod mewn rhesi trawiadol. Neu efallai fod yma, ar un adeg, debygrwydd i'r cannoedd o feini hirion sy'n sefyll ar Ynys Lewis, yn ynysoedd gorllewinol yr Alban?

Duw a ŵyr beth yw cyfrinach Ardudwy. Ac aros yn ddirgelwch wna hynodedd y meini. Dim fi ydi'r cyntaf i fynd drwy'r profiad hwn o chwilfrydedd a dyfalu, ac nid y fi fydd yr olaf. Efallai y daw rhyw dystiolaeth i'r fei, rywbryd, fydd yn rhoi ychydig mwy o oleuni ar y mater. Ond mae'n anodd iawn gweld sut. Mwyaf tebyg mai aros yn ddirgelwch - ac yn fwyd i'r dychymyg - wna cerrig ein hynafiaid, am byth.

Dyma luniau fwy o gerrig Harlech, y sonnir amdanynt uchod, gan gynnwys rhai o'r cerrig sydd yn gorwedd o bobtu'r ffordd.

09/01/2009

Saunders Lewis v Andy Warhol: pan ddaeth y Gymru Gymraeg allan o'r closet diwylliannol

Gair sydyn (braidd yn fler, efallai) cyn noswylio. Fuas i yn Galeri, Caernarfon heno, i'r premiere o'r ffilm Saunders Lewis v Andy Warhol, gan Emyr 'Ankst' Glyn Williams. Roedd y lle'n llawn, a mi wnes i fwynhau'r ffilm yn fawr iawn. Casgliad o fideos, footage a chyfweliadau bandiau arloesol Cymraeg rhwng 1989 a 1997, wedi eu ffiwsio i'w gilydd, ydi'r ffilm, a'r cwbl wedi ei roi efo'i gilydd yn drawiadol a diddorol iawn.

Gorky's, Datblygu, Fflaps, Ffa Coffi, Melys, Cyrff, Catatonia, Topper, Beganifs/Big Leaves, Llwybr Llaethog... fedrai ddim cofio nhw i gyd ar y funud... ond roedd o'n gret ista'n nol ac edrych yn ôl, ac ymlacio a mwynhau'r miwsig a'r fideos heb ddim o'r meddwdod a'r ego oedd pan oeddach chi'n mynychu'r gigs erstalwm, math o beth, a rili gwerthfawrogi faint mor wych oedd/ydi'r bandiau yma. Dylid llongyfarch Emyr am ei weledigaeth, ac am wneud i ni sylweddoli faint mor arloesol a gwirioneddol dda oeddan nhw.

Ond dim dyna oedd y pwynt. Mae'r ffilm wedi ei rhoi efo'i gilydd mor dda, roedd y gwir neges yn dod yn amlwg i mi cyn iddo gael ei ddweud gan gyfrannwr ar y ffilm - oedd fod y bandiau yma, o gefndir trefol a/neu dwyieithog yn adlewyrchiad gonest o wir brif ddiwylliant cyfoes Cymru, sef cyfuniad o ddiwylliant Cymraeg (siarad Cymraeg neu Wenglish a chynhyrchu stwff yn Gymraeg) a diwylliant poblogaidd Eingl-Americanaidd. Dwi wastad yn rantio am hyn: mae ceisio gwadu nad ydym yn rhannu'r un diwylliant poblogaidd a'r Saeson yn ogystal a'n treftadaeth Gymraeg a Chymreig, yn ddim byd ond claddu pen yn y tywod, piso yn erbyn ygwynt, a mewnblygrwydd gwrth-gynhyrchiol - os nad rhyw eideoleg o burdeb diwylliannol sy'n ymylu ar fod yr un math o beth â eideoleg cenedlaetholdeb asgell dde eithafol sy'n dictetio i ni be yw ein diwylliant cenedlaethol ac mai hwnnw yn unig y dylem lynnu ato, a bod unrhyw beth arall yn ang-Nghymreig ac 'an-wladgarol.'

Nonsens llwyr yw hynny. Tyfais i i fyny wedi fy nhrwytho mewn diwylliant cynhenid Cymraeg (gan fy nheulu) a pync roc, roc a rol, reggae, spaghetti westerns, peldroed ac yn y blaen (gan y byd o'ng nghwmpas). Mae'r rhan fwyaf o fy mhrif ddylanwadau creadigol i wedi dod o faes diwylliant poblogaidd, a mae diwylliant poblogaidd yn rhyngwladol ac yn perthyn i bob cenedl. Mae'n cael ei fwynhau a'i werthfawrogi gan unrhyw un sy'n deall y cyfrwng - ond dim rhaid i ni fod yn deall yr iaith hyd yn oed, achos rydan ni'n gallu mynegi diwylliant poblogaidd rhyngwladol yn ein iaith ein hunain. A sdim byd yn bod efo hynny. Diwylliant Cymreig ydi o wedyn, achos rydan ni, bobol Cymraeg yn ei arddel a'i fwynhau.

Mae ymwrthod â hynny, a cheisio cadw diwylliant Cymraeg yn gyfyngedig i eisteddfota, cerdd dant a barddoni, yn gwneud y Gymraeg yn amherthnasol i fwyafrif helaeth o'n Cymru Cymraeg ifanc. Cymry Cymraeg fel fi, a chi. Mae o'n un o'r rhesymau pam dwi'n sgwennu llenyddiaeth poblogaidd sydd ddim o angenrheidrwydd yn lenyddiaeth safonnol, ond sydd yn berthnasol - o ran gwrthrych a ieithwedd - i fywydau trwch y Cymry Cymraeg cyfoes.

Ond ta waeth am hynny, wrth wylio'r ffilm, a gweld y bandiau yma i gyd yn ymfalchio yn be fysa'r purists yn ei alw'n 'ddiwylliant mwngral', ac yn deud 'ffyc off' i'r mewnblygrwydd hynny, ac yn falch o fynegi eu hunain, saying it loud and saying it proud (fel y Cymry Cymraeg cynta i ddod allan o'r closet diwylliannol a deud "dyma ni, da ni'n Gymry cyfoes, wedi tyfu fyny mewn Cymru newydd, a da ni'n mwynhau diwylliant poblogaidd mewn dwy iaith mewn un cefndir, achos dyma yw ein diwylliant a dyma yw ein Cymru ni, live with it! "), roedd rhywun yn sylweddoli arwyddocad teitl y ffilm. Saunders Lewis v Andy Warhol. Deud o i gyd dydi. Barddoniaeth ynddo'i hun!

Roedd rhai o'r bandiau yma'n canu yn Gymraeg yn unig, a'r lleill yn ddwyieithog. Byddai rhai purists yn cwyno eu bod yn canu caneuon Saesneg, ond be ddylem wneud yw diolch a gwerthfawrogi fod y bandiau dwyieithog yma - rhai o ardaloedd go Seisnig ac eraill yn Saeson wedi eu magu yng Nghymru - yn ddigon cryf eu hunaniaeth Gymreig i ganu yn Gymraeg o gwbwl.

A dim ysfa am lwyddiant ariannol oedd y rheswm dros ganu'n ddwyieithog. Dyna oedd eu cefndir, eu hardal, eu hunaniaeth, a dyna oedd eu diwylliant a'u dylanwadau. Pa hawl oedd gan ddeinosoriaid i gadw cyd-Gymry rhag mynegi'r hyn oeddynt? Onid rhagrithwyr ydi'r beirniaid sy'n condemnio bandiau am ganu caneuon Saesneg pan fo pawb yng Nghymru, yn cynnwys y beirniaid eu hunain, yn gwrando ar, a mwynhau, stwff Saesneg, eu hunain? Mae'r sefyllfa'n debyg i'r ddadl oddi fewn yr Eglwys Anglicanaidd ynghylch ordeinio offeiriaid hoyw. Mae hoywiaeth yn rwbath naturiol sy'n bodoli mewn lleiafrif go fawr o'r ddynoliaeth ers dechrau hanes, ond mae'r crefyddwyr yn dictetio ei fod yn rong ac yn groes i natur a 'deddf Duw'! A fentra i fod naw deg y cant o'r gwrthwynebwyr yn hoywon eu hunain. Rhagrith ydio, a rhagrith pen-yn-y-tywod. Felly hefyd y ddadl wirion yma nad yw diwylliant Eingl-Americanaidd - trwy gyfrwng y Gymraeg neu iaith arall yr ydan ni'n digwydd bod yn ei deall a'i siarad - yn ddiwylliant Cymraeg a Chymreig. Bolycs, mewn Cymraeg call.

Ah! Yr hen gred - cywir, yn rhan fwyaf o achosion, mi fentraf - am y crefyddwyr yn erlid merched am gael rhyw cyn priodi, a dynion am yfed a godinebu, tra y tu ôl i'r llenni roeddan nhw a'r offeiriaid yn clecio wisgi a laudinum tra'n claddu eu ffyn bugail at y bôn ymhob twll oedd gan y chamber maid (neu'r choirboy, yn achos y Pabyddion)!

Gonestrwydd y bandiau yma, a'r rhyddhad a'r cyffro oedd Cymry Cymraeg ifanc yn deimlo wrth eu clywed am y tro cyntaf - fel torri'n rhydd o'r cadwynnau diwylliannol - oedd yn eu gwneud mor ddylanwadol, poblogaidd a chreadigol wych. Does dim fel rhyddid i fwydo'r dychymyg a chreadigedd. Diosg y cadwynnau, cael y dwylo'n rhydd i greu, heb rwystrau na gwg cymdeithas i'w cyfyngu! Ac wrth gwrs, roedd llwyddiant y bandiau hyn - boed yn ddwyieithog neu beidio - yn enwedig llwyddiant ysgubol Gorky's a Catatonia, a'r Furries - yn profi hynny.

Ia, mish-mash o Gymreictod a 'roc a rol' ydi diwylliant poblogaidd Cymru - a hunaniaeth diwylliannol Cymru - erbyn heddiw. Cymysgedd o ddiwylliant/treftadaeth cynhenid a 'roc a rol' ydi diwylliant poblogaidd pob cenedl yn yr Anglosphere. Y bandiau yma, ac eraill â'u dilynnodd yn y cyfnod yma, dorrodd allan o'r closet a bod yn driw i'r hyn oeddyn nhw, a dangos i'r Cymry Cymraeg ifanc fod posib bod yn Gymry a mwynhau a chofleidio diwylliant a ddysgwyd iddynt ei fod yn 'estron'. Bod modd mwyhau a chreu diwylliant rhyngwladol - trwy gyfrwng y Gymraeg, neu Saesneg hyd yn oed - a dal i fod yn Gymry. Fod y ddau beth, yn groes i'r hyn bregethwyd i ni, yn elfennau o'r un Cymreictod wedi'r cwbl. Cymraeg cyfoes, aeddfed, gonest, hyderus. Bod yn falch o'r hyn ydan ni, boed hynny'n Gymraeg 'mwngral' neu beidio. Achos mae o mor Gymraeg a Chymreig a Saunders Lewis ei hun.

08/01/2009

Bryn Cader Faner

Dydd Sadwrn y 3ydd o Ionawr, yn llawn o'r ffliw mwyaf afiach a gefais erioed, i ffwrdd â fi efo dau o'm ffrindiau dros y mynydd o Drawsfynydd, dros Gwm Moch, i gylch cerrig a beddrod Oes Efydd Bryn Cader Faner, ac i lawr i Dalsarnau a hafan glyd tafarn y Ship Aground.

Dyma un o'r teithiau harddaf i mi ei cherdded erioed, a gan ei bod wedi rhewi'n gorn roedd hi'n sych braf dan draed, â'r haul yn tywynnu uwchben, yr awyr yn glir a'r golygfeydd yn fendigedig.

Am fod cymaint o bethau difyr i'w gweld ar y ffordd drosodd - fel hen gytiau crynion ac olion hen lwybrau ac adfeilion - a gan fy mod yn pesychu, chwythu'n nhrwyn, fflemio a chwysu cymaint, mae'n anodd dweud yn union faint o daith ydi hi. Ond doedd hi'm yn hir iawn. Cychwynom o bentref Traws tua 11.30 y bore, dros y bont droed dros y llyn a rownd i Tyn Twll, ger Coed-y-rhygen, yna i fyny, ac i lawr Cwm Moch, pasio uwchben Llyn Llennyrch a Nantpasgen a cheunant Caerwych, ac ar ôl aml i stop i dynnu lluniau a busnesu ymysg hen gytiau crynion, a rhyfeddu at y golygfeydd o Traws, Cwm Prysor, yr Arenig, Stiniog a'r Manodau a'r Moelwynion, Yr Wyddfa a'i phedol, Arfon a Phen Llŷn, Penrhyn, Port, Portmeirion ac Ynys Gifftan, daethom at Fryn Cader Faner erbyn tua 3 y pnawn.

Mae Bryn Cader Faner dros 4,000 o flynyddoedd oed, ac wedi ei ddisgrifio fel y rhyfeddod Oes Efydd harddaf ym Mhrydain. Dydi o ddim yn fawr - tua 9 medr ar draws- ond mae o'n sicr yn hynod o drawiadol, yn enwedig wrth edrych arno o gyfeiriad y de. Cyfuniad o gylch cerrig a siambr gladdu ydi o. Amgylchynnir y siambr gladdu - sydd wedi ei rheibio gan chwilwyr trysor ers tro byd, yn anffodus - gan 15 carreg denau, tua 4 troedfedd o daldra, wedi eu gosod yn fwriadol ar ongl er mwyn creu argraff o bellter. Mi oedd na 30 o gerrig 6 troedfedd yno hefyd, ond bu'r Fyddin Brydeinig yma yn ymarfer saethu gynnay mawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac fe chwalwyd rheini, a'u cludo i ffwrdd, mewn gweithred o fandaliaeth erchyll. Mae 'na ddau gylch cerrig o gynllun tebyg iddo i lawr yn ne Cymru, ond arwahan i hynny, mae Bryn Cader Faner yn unigryw yn Ynys Prydain.

Liciwn i rannu mwy o'i hanes efo chi, ond yn hytrach na gwneud hynny, hoffwn eich annog i brynu'r llyfr anhygoel o ddiddorol, Meini Meirionnydd, lle y cewch flas ar hanes - a naws ysbrydol - Bryn Cader Faner a henebion hynod niferus yr ardal wyllt-brydferth hon. Darllenwch y wybodaeth am y llyfr ar ôl dilyn y linc. Mae mwy iddo na lluniau, hanes a chyfeirnodau grid, diolch i weledigaeth Huw Dylan Owen. Dwn i'm os ydw i wedi darllen llyfr mor ddiddorol erstalwm.

Ges i rhyw chydig o funudau o fyfyrdod, gyda'm dwylo ar y

cerrig, ac er na wellodd hynny'r ffliw roedd na'n sicr rhyw hwb bach ysbrydol i'r enaid ar ôl gwneud. Wnaeth y chwysfa ar y daith ddim lladd y ffliw chwaith - mae'r feirws yma'n un diawledig o gryf, coeliwch chi fi. Ond mi oedd y galwyn o lagyr a yfais mewn awr a hannar, wedi cyrraedd y Ship Aground yn Nhalsarnau wedyn, yn fendigedig!

Mi'ch gadewaf efo chydig o luniau eraill o'r daith. Mi roi fwy i fyny ar fy nhudalen Flickr maes o law, a mi ro i linc ar y blog 'ma bryd hynny.

I'r chwith mae llun yr olygfa wrth godi i fyny am Cwm Moch, yng nghesail Foel Griafolen, Moel Penolau a Moel Ysgyfarnogod. gwelwn Lyn Traws, a'r pentref ar y bryn, a Chwm Prysor yn estyn am draw y tu ôl iddo. Yn y cefndir mae Gallt y Darren ar y dde a'r Arenig Fawr ar y chwith.

Dde: Cwm Prysor eto, a'r Arenig Fawr yn fawreddog tu draw iddo.

Isod: Un o hen gytiau crynion Cwm Moch

Isod: Aber y Ddwyryd, efo Ynys Gifftan. Gwelwn Foel y Gest ynghanol y llun.

06/01/2009

Risla, Jagger, Ffish Lips, Tarw, Big Taff a Dewi Blinc?

Un o'r ychydig raglenni sy'n werth gwrando arnynt ar Radio Cymru'r pnawn y dyddiau yma ydi Taro'r Post. I rywun sy'n ymddiddori (hyd obsesiwn yn fy achos i) mewn pobol a'u hagweddau, hiwmor a ffyrdd unigryw o fynegi eu hunain, mae unrhyw raglen sy'n seiliedig ar gyfraniadau byw gan y cyhoedd yn mynd i hoelio sylw.

Ia, 'hoelio sylw' ydi'r term mwyaf addas. Achos, er cymaint o hwyl sydd i'w gael wrth wrando ar gymeriadau o bob cefndir yn traethu, pregethu, paldaruo, trafod, dadlau a checru (heb son am falu cachu'n ddibendraw yn amlach na pheidio, yn achos rhai), ac er mor ddifyr a diddorol yw'r hyn sydd gan y rhan fwyaf i'w ddweud (neu y ffordd maent yn ei ddweud o, beth bynnag), ac er y pleser pur o wrando ar gymeriadau gwerinol, Cymreig, neu gymeriadau hynaws, huawdl a hoffus yn cyfoethogi'r tonfeddi efo difyrrwch, dryswch, angerdd a hiwmor naturiol ein cenedl, go brin y gellid datgan mai 'pleser' yw'r emosiwn mwyaf sy'n gyrru rhywun i droi'r radio i fyny wrth ffidlan yn y gegin neu sied yr ardd, am dri chwartar awr bob dydd o'r wythnos, a thiwnio i mewn i'r rhaglen.

Rhyw fath o Maes-e i ddeinosoriaid ydi Taro'r Post, yn aml, ac fel y fforwm drafod sydd mor boblogaidd ymhlith epil y dosbarth canol Cymraeg ei iaith, ymysg y deinosoriaid hyn mae pob math o ffrîcs a chrancod yn trigo.

Ond yn wahanol i'r fforwm wê a gollodd ei ffordd rhywle rhwng y barnu a'r cystadlu ymysg 'pretty young things' y proto-Sefydliad Cymreig, mae Taro'r Post - oherwydd y ffaith mai rhaglen radio ydi hi, dan lywyddiaeth abl a bywiog Dylan Jones - yn llwyddo i gael y gorau o'i chyfrannwyr. Iawn, dydi hi ddim yn llwyddo i godi materion o wir bwys yn aml iawn (er, os ydi hi awydd codi nyth cacwn o dro i dro, mi wnaiff), ac mae difaterwch a chulni'r Cymry Cymraeg yn aml yn llenwi ei llwyfan lawer gormod, ond cryfder Taro'r Post - am mai rhaglen drafodaeth byw ydi hi - yw nad ydi ei chyfrannwyr mwyaf treiddgar, ffraeth a deallus wedi eu cyfyngu i rhyw gornelion tywyll, allan o olwg llif-oleuadau poblogaidd y pynciau ffasiynol, hip a chŵl a threndi. Mae'r rhaglen yn chwarae i'w chryfderau (oddifewn i strwythurau digon cyfyng, efallai), ac fe all y drafodaeth fwyaf ddibwys danio'n ddadl ddeallus, danllyd llawn dychymyg a difyrrwch yn nwylo'r cyfrannwyr mwyaf tebol. Tydi meddyliau miniocaf Taro'r Post - boed yn ddeinosoriaid neu'n ambell radicalydd - heb gael eu cyfyngu i fyd gwleidyddiaeth, llenyddiaeth a materion cyfoes, er engraifft, fel y maent ar Maes-e.

Felly hefyd ei ffrîcs a'i chrancod. Mae gan griw Taro'r Post y gallu, trwy gyfrwng giang fach o ymchwilwyr cyflogedig, y gallu i ddod o hyd i'r ffrîc arbennig ar gyfer y pwnc penodol, neu i lusgo'r crancod perthnasol allan o'r cwpwrdd fel y bo'r galw. Ymhlith y reservists yma mae ganddon nhw'r crefyddwyr penboeth, y gellir eu cyfodi o'u salmgwsg i fywiogi'r drafodaeth am y pwnc moesol diflas diweddaraf, neu'r Eisteddfodwr brwd y gellir dibynnu arno i rantio am ddifaterwch diweddaraf y Cymry tuag at Y Pethe, neu'r purdeb-ieithyddwyr y gallent eu llusgo o nirvana i niwrosis oherwydd yr engraifft ddiweddara o fratiaith dichellgar sy'n bygwth gwareiddiad fel y gwyddom amdano. Gan ein bod ni ymysg y lleiafrifoedd mwyaf cecrus a hunanbwysig yn y bydysawd fel y gwyddom, mae gennym, yn y Gymru Gymraeg, ddigon o ffwndamentalwyr dros bob peth (ond annibyniaeth), wedi'r cwbl. Mae gennym hyd yn oed rhyw Major Rwbath Neu-Rywun ddaw allan i amddiffyn pob agwedd o'r lluoedd arfog Prydeinig!

Yn aml, gwrando ar rhain yn mynd drwy'u pethau - yn enwedig os ydyn nhw'n dadlau yn erbyn gwybodusyn academaidd sy'n arbenigwr yn ei faes - sy'n gwneud i mi chwerthin fwyaf. Fy ffefrynnau, fel arfer, ydi Cristnogion asgell dde yn cael eu bambŵslo gan berson hoyw deallus (neu gan Gristnogion goleuedig, clyfar ac eofn fel yr anhygoel Aled Jones Williams), neu rhyw ffarmwr sy'n credu fod y byd, yr haul a'r lleuad yn troi o amgylch ei glwstwr o gaeau di-nod, yn dadlau'r du yn biws (a gwylltio, yn amlach na pheidio) yn erbyn rhyw broffesyr o naturiaethwr amgylcheddol ynghylch bodolaeth TB mewn tylwyth teg neu beidio, y naill yn araf golli'i limpyn wrth wfftio ffeithiau gwyddonol, a'r llall yn twt-twtian yn nawddoglyd wrth foddi ei wrthwynebydd ofergoelus efo termau, ffeithiau a thystiolaeth sy'n golygu ffyc ôl i ran fwyaf y gwrandawyr, heb son am y cradur anllythrennog, blewgoch sy'n adnabod ei filltir sgwâr yn well na llond prifysgol o arbenigwyr a'u "inseidoclopsus cachu iâr."

O! Yr hwyl!

Ta waeth. Dyna pam rydw i'n tueddu i droi'r radio ymlaen am chwartar wedi hannar dydd, pan dwi'n bwydo'r bychan yn ei gadair uchal yng nghegin tŷ ni, yn ddyddiol. Mae 'na wastad siawns o ddod ar draws un o'r perlau cwerylgar yma. Ond mae 'na wastad siawns o ddod ar draws trafodaeth ddifyr hefyd.

A thrafodaeth ddifyr glywis i ddoe, am lysenwau. Coeliwch neu beidio (wel, naci - coeliwch), ond mae rhyw 'inseidoclopsus academaidd' wedi cael eu talu i ymchwilio i effaith llysenwau ar ddatblygiad seicolegol plant, ac wedi dod i'r casgliad nad yw cael eu galw'n enw anwes nas bedyddiwyd nhw gan offeiriad, yn gwneud dim drwg iddyn nhw. Yn wir, ar ôl blynyddoedd, debyg, o astudiaeth ac ar ôl gwario, mwyaf tebyg, rai ugeiniau o filoedd o bunnau o "bres hosbitols ac ysgolion chi a fi" daeth y gwybodusion i'r casgliad fod yr arferiad canrifoedd oed hwn - sy'n hynod o gryf yma yng Nghymru - yn llesol i'n pwdins wyau bach ni.

Tra'n falch fod y boffins wedi dod i'r casgliad cywir, does 'na run o'r diawliad yn haeddu seren goch yn eu llyfr syms am wastio amser ac arian yn pandro i gywirdeb gwleidyddol y nanny state trwy ymchwilio i fater mor greiddiol a ffwndamental ddi-bwynt. Ond, a minnau wedi crybwyll ambell gryfder rhaglen Taro'r Post, rhaid rhoi marc du enfawr penfawr iddi hithau am un o'i gwendidau mwyaf, sef ei thuedd annesboniadwy i ddod o hyd i'r pynciau mwyaf di-bwynt ellir dod o hyd iddynt yn y môr o lwydni dumbing down 'ma sy'n llyfu creigiau deallusedd o faterion cyfoes yn y cyfryngau torfol y dyddiau hyn, a'i ddefnyddio i lenwi hanner awr a allai fod wedi cael ei ddefnyddio i drafod materion difrifol fel diflaniad gwasanaethau llywodraethau lleol, diflaniad cyfalaf y wlad i goffrau bancwyr barus, diflaniad cartrefi cenhedlaeth o Gymry i ddwylo mewnfudwyr, diflaniad y Gymraeg o feysydd chwarae a dosbarthiadau ysgolion y Fro Gymraeg, a diflaniad hawl i fyw Palestiniaid Gaza dan weithgareddau llofruddgar gwladwriaeth ddieflig Israel. Da ni ddim isio trafod petha felly, siwr. Cymry ydan ni.

Mae o'n gwneud i bagan fel fi ddechrau hiraethu am oes aur y capeli, myn diawl!

Ond, fel ddwedais i uchod, mae 'na rhyw hud yn gallu digwydd ar Taro'r Post, ac mae trafodaeth mor trifial ac arwynebol yn gallu troi'n hynod ddifyr trwy gyfraniad y pobl iawn. A dyna gafwyd ddoe, yn digwydd bod. Daeth y bytholwyrdd Lyn Ebeneser â'i ddifyrrwch hoffus i mewn â'i bytiau naturiol am y rhesymau tu ôl i lysenwau rhai o gymeriadau llawr gwlad Ceredigion yr oedd yn eu hadnabod. Un o'r pethau difyr a ddywedodd o, wrth geisio dyfalu pam fod cymaint o lysenwau yma yng Nghymru, oedd fod pobl angen gwahaniaethu rhwng cynifer o unigolion oedd yn rhannu'r un cyfenw.

Dwn im am hynny, ond mae o'n gystal eglurhad ag unrhyw beth alla i feddwl amdano, ag yr ydw i wedi ei glywed hyd yma. Tueddu i feddwl yn nhermau natur hiwmor y Cymry ydw i. Rydan ni'n bobl sy'n ffynnu ar dynnu coes ein gilydd rownd y rîl. Dyna ydi un o seiliau pennaf ein hiwmor - tynnu ar ein gilydd. Yn sicr, mae o'n ffactor cryf wrth egluro'r miloedd o lysenwau unigryw sy'n britho ardaloedd y llechi. Yndi, mae ardaloedd gwledig hefyd yn frith o'nyn nhw, ond tueddu fwy i fod - fel y dywedodd Lyn Ebeneser a chyfrannwraig arall i'r sgwrs - yn cario enwau eu fferm, eu galwedigaeth neu enwau eu cyndeidiaid neu deuluoedd mae nhw. Yn yr ardaloedd llechi, mae 'na lawer mwy o amrywiaeth gan y gallai fod cannoedd o ddynion yn gweithio yn yr un gweithle a chynifer ohonynt ond yn gweld ei gilydd yn y gweithle hwnnw, ac felly'n tueddu i dynnu coes dragywydd a nodi popeth o arferion, golwg, osgo, nodweddion, natur, chwerthiniad, troeon trwstan a.y.b. yn ogystal â theulu a chartref ac ati.

Mae 'na lawer iawn o waith wedi ei wneud ar hyn wrth gwrs. Mae cylchgrawn Llafar Gwlad wedi cario sawl erthygl a rhedeg sawl cyfres a chasgliad difyr tu hwnt gan sawl cyfrannwr ar y pwnc, a dwi'n siwr fod Myrddin ap Dafydd wedi cyhoeddi llyfr ar y mater, gan gynnwys casgliad go helaeth o lysenwau, hefyd. Tydw i ddim am ailadrodd, na mynd mewn i'r mater yn rhy ddwfn - pwt o flog ydi hwn, llif meddwl, nid erthygl neu gasgliad o unrhyw fath (er, mi fydd rhaid i mi drio cofnodi llysenwau fy nghenhedlaeth i yn Ysgol y Moelwyn ac ardal Stiniog yn go fuan, rwan fod y sgwrs ar Taro'r Post wedi tanio'r dychymyg cymaint).

Achos mae'r llysenwau dwi'n gyfarwydd â nhw - cannoedd mae'n siwr - yn rhai anhygoel o ddifyr. Mae nhw'n ffraeth, yn graff, yn ddychmygus, clyfar, annwyl a digri, ac mae rhai ohonyn nhw hyd yn oed yn rhai digon cras ac annymunol ar yr wyneb. Ac yn rhyfedd reit, yn amlach na pheidio tydi'r pobl sydd wedi cario'r llysenwau eitha 'doji' erioed wedi trio cael eu gwared, ac hyd yn oed yn eu harddel eu hunain. Cymaint y mae'r arferiad o roi llysenw wedi gwreiddio yn ein cymunedau (onid oes gan bawb, bron, un?), mae llysenw'n cael ei gyfri'n bwysicach, yn gymdeithasol, na'r enw roddodd dy rieni i chdi. Mae o'n fwy o fathodyn cymdeithasol, yn stamp o dy hunaniaeth a dy berthynas efo dy ffrindiau, cydweithwyr a chyfoedion. Mae 'na ugeiniau o bobl yn yr ardal hon efo mwy nag un llysenw - gwn am rai sydd efo tri neu bedwar, hyd yn oed: un o'r ysgol, efallai, un o'i griw o ffrindiau agos, un o un gweithle, un arall o weithle lle bu'n gweithio'n flaenorol, neu o ardal arall y bu'n byw ynddi ar ryw gyfnod, ac un gan y tîm darts mae'n rhan ohono. Er engraifft 'lly...

Mae 'na ambell lysenw yn fy nofelau sydd wedi eu benthyg o 'ail' a 'thrydydd' llysenw ambell berson go iawn - llysenwau sydd ddim mor eang-gyfarwydd â'u prif lysenwau. Mae 'Bic' yn 'ail' lysenw un ffrind sydd wedi cael ei adnabod dan lysenw gwahanol ers amser rhy hir i rai pobl gofio'r llall. Mae 'Sbanish' hefyd - er yr eglurhad gwahanol am yr enw yn y stori - yn ail lysenw cymeriad go iawn sydd yn ffrind da imi. Felly hefyd 'Drwgi'. Ac mae 'Dilwyn Lldi' wedi ei drawsblannu o brif lysenw boi o'r enw Dyl Lldi! Rhaid nodi yma, fodd bynnag, nad yw'r cymeriadau hyn o reidrwydd wedi eu seilio ar y bobl go iawn! Liciwn nodi hefyd fod pob llysenw arall yn y llyfrau, yn rhai wyf wedi eu creu fy hun. O - heblaw am Cledwyn Bagitha. Mae hwnnw'n enw anwes y rhoddodd ffrind agos, a'i gariad, i fi pan o'n i'n rhannu tŷ efo nhw yng Nghaerdydd yn niwedd yr 80au! Ond dalltwch un peth - tydi'r cymeriad heb ei seilio arna fi!

Be amdana fi go iawn? Oedd gen i lysenwau eraill wrth dyfu i fyny? Wel, fy llysenw cyntaf, os dwi'n cofio'n iawn, oedd 'DP' ("Dî Pî"). Yn ysgol fach Traws o'n i ar y pryd, ac mae'r eglurhad yn syml: er mai Dewi Prysor Williams oedd fy enw llawn, "Dewi Prysor" oedd yr athrawon yn fy ngalw, a hynny fel arfer mewn tôn awdurdodol wrth fy ngalw atynt am gambihafio! Felly'r cwbwl oedd "Dî Pî" oedd llythrenau fy enw, ac os dwi'n cofio'n iawn, Ifor Howells, ffrind i mi o Traws - bellach yn byw'n Manceinion - oedd hefyd yn fab i'r Gweinidog â'm bedyddiodd yng Nghapel Cwm Prysor, Byron Howells, oedd y cyntaf i ddechrau fy ngalw'n 'DP'. Efallai mai fi ydi'r unig berson yng Nghymru sydd wedi cael ei fedyddio gan Weinidog Methodistaidd a'i fab!

Pan es i i Ysgol y Moelwyn, fodd bynnag, yn Blaena, lle'r oedd y plant yn deud "carots" am foron, a "lusard" am fadfall, roedd yr enw 'Prysor' ar berson yn rwbath eitha anghyffredin iddyn nhw. Oedd, roedd 'na Dŷ o'r enw Prysor yn yr ysgol (Prysor, Bowydd, Dwyryd a Cynfal oedd y Tai - a mi oeddwn i yn Cynfal!), ond doedd hogia fy nghenhedlaeth i yn y dre ddiwydiannol heb arfer ei glywed fel enw ar berson - dim fel oeddan ni yn Trawsfynydd, cartref yr afon, wedi arfer, beth bynnag. Felly, diolch i'r 'nofylti' yma bu rhaid i mi fodloni ar gael fy ngalw'n 'Prysor', a chês i ddim y fraint o gael llysenw mwy ecsotig a diddorol! Er, mi oedd yn well gen i o na 'Dewi' ar y pryd, ac mi sticiodd. A chyn hir, mi dalfyrrwyd o i 'Prys' - oedd yn eitha cynnes a cŵl, ac sydd wedi sticio hyd heddiw, wrth gwrs.

Er hynny, mi fu sawl ymdrech gan sawl ffrind a wag i roi llysenw arall imi yn ystod y blynyddoedd hapus yma yn Ysgol y Moelwyn. Mi sticiodd rhai o'nyn nhw am gyfnodau cymharol hir, ond wnaethon nhw byth ddisodli 'Prysor' yn yr hir dymor, a chawson nhw byth eu harddel gan fwy na chriw cymharol fychan o gyfoedion, beth bynnag.

Un o'r rhai wnes i licio oedd 'Risla'. Dechreuodd hwnnw oherwydd mod i'n smocio rôls yn hytrach na ffags, am gyfnod, pan oedd rhei o weddill criw Smoker's Corner yn chwilio am bapur rizla i drwsio ffags oedd wedi torri yn eu pocedi, weithia. Dechreuodd rhywun - Chips Bach, os dwi'n cofio'n iawn, ffrind o Blaena oedd yn ddiawl o gymeriad, ac yn un o'r bobl hynny sy'n gyfrifol am ddechrau tua 70% o bob llysenw yn yr ysgol neu'r gweithle - fy ngalw'n 'Dewi Risla', ac mi sticiodd am sbelan, a chael ei dalfyrru i 'Risla' yn fuan wedyn. Mae'n rhaid ei fod o'n cael ei gydnabod yn go helaeth achos mi ddechreuis i ei ddefnyddio wrth sgwennu fy enw ar y desgiau, am sbelan - er, efallai mai fy ymdrech i i'w gael o i sticio oedd yn bennaf gyfrifol am hynny! Wnaeth o ddim, beth bynnag, ac fel mae pob smociwr baco yn gwybod, does dim byd gwaeth na risla sydd ddim yn sdicio!

Roedd 'na enw arall gafodd ei 'fathu' gan Chips Bach, ac y gwnes i - er rhwystredigaeth mawr iddo fo - gymeryd ato, yn hytrach na'i gasau, fel oedd o wedi gobeithio y byddwn i, a hwnnw oedd 'Jagger'. Ac ia, Mick Jagger oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r llysenw! Roedd gen i wefusau tewion iawn pan yn 'rysgol fawr' - bron mor dew â rhai ffryntman enigmataidd y Stones ei hun. Mae gen i wefusau tewion hyd heddiw (er mae'n well gen i eu galw'n 'juicy'!), ond tra yn ysgol Blaena roeddan nhw fel sosejis, diolch i fy nannadd cerrig beddi oedd, ar y pryd, yn ymrafael fel teigrod am eu lle priodol yn fy ngheg. Yn naturiol ddigon, roedd hyn yn ennyn lot o dynnu coes o blith fy nghyfoedion ac yn destun lot fawr o sbort rhyngom. Chips Bach, y tynnwr coes tragwyddol ag oedd o, oedd y prif instigator yn y maes, a mi driodd o bob sut i gael y nodwedd yma o fy mhryd a gwedd i gael ei fawreddu ar gof a chadw am byth, ar ffurf llysenw. Er mawr siom iddo, cymerais at yr enw, a chyn hir roedd y geiriau 'Jagger waz ere' i'w gweld ar ddesgiau a waliau ymhob dosbarth y bum yn eistedd ynddyn nhw. Ond sdiciodd hwnnw fawr ddim mwy na rhyw fis neu ddau. Doedd 'na neb arall yn cymeryd ato, ac roedd rhai yn datgan yn agored ei fod yn 'shit o enw' - er, dwi'n meddwl mai cenfigennus oeddan nhw go iawn, i fod yn onest!

Un a sticiodd ychydig mwy - er mawr rwystredigaeth i mi, y tro hwn - oedd un arall o'i gyfeiriadau at fy ngwefusau. Yn wir, mi sticiodd 'Ffish Lips' a'i amrywiol fersiynau ('Dewi Ffish', 'Ffish' a 'Sgodyn') fel rhyw lysenw tynnu coes trwy gydol y rhan fwyaf o fy mlynyddoedd yn yr ysgol, diolch i ymdrechion dygn a phenderfynol Chipsyn. Oedd, mi oedd 'Ffish Lips' yn lysenw oedd yn achosi lot fawr o 'dead arms' a 'nipple crunches' i bwy bynnag oeddwn yn ei ddal yn fy ngalw fi wrtho! Hwyl, wrth gwrs, ond lot o afreolusdra! Falla mai dyna pam y sticiodd o gyhyd ymysg y rhai oedd yn ddigon direidus, heriol neu wirion i fy ngalw fi wrtho yn fy ngwyneb. Roedd y diawliad yn gwbod mod i'n brathu. Brathu fel pysgodyn, wrth gwrs!

Ond brathu neu beidio, doeddwn i ddim yn meddwl ei fod o mor ddrwg fel enw. Y rheswm tu ôl iddo oeddwn i ddim yn licio. Doedd o ddim mor cŵl â 'Jagger', ond doedd o ddim mor greulon a 'Rubber Lips' - un arall o greadau Chips, un a sticiodd dim ond tan i mi roi ffwc o gweir iddo fo yn y flwyddyn gyntaf, ar ôl i fy enw i ddod i fyny ar ei 'hit list' enwog o bobol oedd o am eu waldio er mwyn dangos pwy oedd boi caletaf yn Ffyrst Ffôrm (ffrind neu beidio, roedd pawb oedd o faintioli corfforol go lew, neu efo enw am fod yn gwffiwr, yn cael y fraint o fod ar hit list Chips Bach!). Roeddwn i hannar ffordd i lawr rhestr o tua hannar cant, a fi oedd y cynta i roi cweir iddo fo - mewn ffwc o ffeit wedi ei threfnu ymlaen llaw - a ennillodd i mi barch pawb o hogia Blaena yn yr ysgol. Trobwynt yn fy mywyd a deud y gwir. (Gyda llaw, fyswn i ddim yn licio cwffio Chips Bach heddiw. Mae o wedi bod yn codi pwysau ers blynyddoedd, ers mynd i fyw yn Swindon, ac mae'r boi fel Mike Tyson gwyn!)

Ond mi fyddwn i wedi gallu byw yn iawn efo 'Ffish', hyd heddiw, i fod yn onest. Dwi'n nabod boi o'r enw Ffish o Port, a mae o'n lysenw digon cŵl.

Stopiodd y ffeit ddim ar y tynnu coes - na'r cyfeillgarwch cryf, chwaith - ac ar ôl ysgwyd llaw roedd petha'n nôl i normal, a thrio fy labelu'n bopeth oedd i'w wneud efo fy ngwefusau a'r rhyfel y Somme oedd yn mynd ymlaen yn fy gums wnaeth Chips am weddill y blynyddoedd ysgol!

Ia, difyr ydi llysenwau. Mi oedd 'na rai eraill. Bu bron imi dreulio gweddill fy oes yn cael fy ngalw'n Dewi Blinc hefyd, achos pan o'n i'n fy nhymor cyntaf yn Ffyrst Ffôrm, roedd gen i habit nerfus drwg o flincio fy llygaid - wyddoch chi'r math o beth, y blincio comig ydach chi'n weld gan gomedians sydd yn actio idiot ar y teledu! Wali Tomos, math o beth. Neu Didi Hamann y peldroediwr (dim fod hwnnw'n idiot, chwaith). Diolch ffycin byth i mi feistrioli'r hen habit 'na. Dwi'n cofio gneud yr ymdrech, a llwyddo, ac mi oedd o'n drobwynt arall yn fy mywyd, achos byth ers hynny dwi'n gwybod ei bod hi'n bosib meistrioli unrhyw habit seicolegol efo chydig o willpower. A trobwynt go iawn, hefyd, o ystyried y byddwn wedi gallu diweddu i fyny'n Dewi Blinc erbyn heddiw, petai'r arferiad wedi sticio am fwy nag a wnaeth! A dwi'n siwr mai Chips Bach oedd yr instigêtyr adag hynny hefyd, erbyn meddwl!

Llysenw arall i mi ei gael, ar ôl gadael yr ysgol - ac un y mae ambell un yn dal i fod yn fy adnabod wrtho - ydi 'Tarw'. Rhai o hogia ardal Bala roddodd o imi, a dim ond y nhw oedd yn fy ngalw fi'n hynny, os dwi'n cofio'n iawn. Ac ia, fy nhempar, a fy rhuthr peryglus wrth ei golli, oedd y rheswm am hynny, nid unrhyw ran o'm corff!

Dw i hefyd yn un o'r bobl hynny sydd wedi byw ymysg Saeson, yn Lloegr (wel, Sgowsars yn Lerpwl, sydd ddim cweit run fath, ond...) - er nad oedd gen i lawer o ddewis ar y pryd, gan mai yn y carchar oeddwn i - felly dw i wedi ennyn y llysenw 'Taff' am gyfnod yn fy mywyd, hefyd. 'Big Taff', i fod yn gywir, achos dyna oedd y rhan fwya o fy nghyd-garcharorion - a'r sgriws - yn fy ngalw i yno, yn rhannol am fod gennyf ysgwyddau llydan, ac yn rhannol er mwyn fy ngwahaniaethu oddiwrth y 'Taffs' eraill ar y wing! Doedd o ddim byd maleisus o gwbl. I'r gwrthwyneb, roedd o'n annwyl, cynnes a chyfeillgar iawn ('sheepshagger' oedd y maleisus, a doedd hynny ddim yn para'n hir pan oedd o'n digwydd, coeliwch chi fi!). Doeddwn i'n sicr ddim yn teimlo fod 'Taff' yn israddol nac yn hiliol. Deud gwir, mae gen i lwyth o gardiau penblwydd a nadolig gan garcharorion, efo 'Big Taff' wedi eu sgwennu arnyn nhw, yr wyf wedi eu cadw hyd heddiw! Cythral am gadw popeth ydw i. Dipyn o biodan.

Ond dyna ddigon am hynny, caiff hanes carchar ei gadw at eto rywbryd. Llyfr efallai. Rhywbryd. Hwyrach. Ella ddim. Cawn weld...

Mae'n rhy hwyr i feddwl am fwy o lysenau i mi eu cael, neu y ceisiwyd eu rhoi i mi, dros y blynyddoedd. Mae hi bellach yn hannar awr wedi un yn y bore (ac mae'r sgwrs radio fuas i'n gwrando arni 'ddoe' bellach wedi mynd yn 'echdoe'!). Mae'n eitha posib fod 'na lawar mwy mae ambell ffrind yn fy ngalw. Deud gwir, dwi'n weddol bendant fod gan amball ffrind i mi lot o rei mae nhw wedi eu defnyddio dros y blynyddoedd dwytha. Ond os dechreuai fynd ymlaen am y rheiny, fydda i'n dechra troi'n sgitsoffrenig. Diolch byth mai'r hen 'lysenw' 'diflas' ac 'anecsotig' hwnnw ges i gan hogia Blaena, ac mai hwnnw a sticiodd. A dydio ddim yn lysenw go iawn, nacdi? Yr enw canol a ges i gan fy rhieni ydi o wedi'r cwbl; enw'r cwm lle ges i fy magu, ac enw'r afon y tyfais i fyny yn ei chân. Doedd o'm yn enw drwg wedi'r cwbwl, nagoedd? Ac mae ei dalfyriad cynnes, Prys, sydd wedi tyfu'n lysenw ac enw ynddo'i hun, yn un dwi'n fwy cartrefol a chyfforddus efo fo nag unrhyw beth allai unrhyw un ei daflu ataf. Ac fel y trodd allan, mae o'n bell o fod yn ddiflas. Llawer gwell na 'Risla' a 'Jagger', beth bynnag. Heb sôn am 'Dewi Blinc'! .