06/01/2009

Risla, Jagger, Ffish Lips, Tarw, Big Taff a Dewi Blinc?

Un o'r ychydig raglenni sy'n werth gwrando arnynt ar Radio Cymru'r pnawn y dyddiau yma ydi Taro'r Post. I rywun sy'n ymddiddori (hyd obsesiwn yn fy achos i) mewn pobol a'u hagweddau, hiwmor a ffyrdd unigryw o fynegi eu hunain, mae unrhyw raglen sy'n seiliedig ar gyfraniadau byw gan y cyhoedd yn mynd i hoelio sylw.

Ia, 'hoelio sylw' ydi'r term mwyaf addas. Achos, er cymaint o hwyl sydd i'w gael wrth wrando ar gymeriadau o bob cefndir yn traethu, pregethu, paldaruo, trafod, dadlau a checru (heb son am falu cachu'n ddibendraw yn amlach na pheidio, yn achos rhai), ac er mor ddifyr a diddorol yw'r hyn sydd gan y rhan fwyaf i'w ddweud (neu y ffordd maent yn ei ddweud o, beth bynnag), ac er y pleser pur o wrando ar gymeriadau gwerinol, Cymreig, neu gymeriadau hynaws, huawdl a hoffus yn cyfoethogi'r tonfeddi efo difyrrwch, dryswch, angerdd a hiwmor naturiol ein cenedl, go brin y gellid datgan mai 'pleser' yw'r emosiwn mwyaf sy'n gyrru rhywun i droi'r radio i fyny wrth ffidlan yn y gegin neu sied yr ardd, am dri chwartar awr bob dydd o'r wythnos, a thiwnio i mewn i'r rhaglen.

Rhyw fath o Maes-e i ddeinosoriaid ydi Taro'r Post, yn aml, ac fel y fforwm drafod sydd mor boblogaidd ymhlith epil y dosbarth canol Cymraeg ei iaith, ymysg y deinosoriaid hyn mae pob math o ffrîcs a chrancod yn trigo.

Ond yn wahanol i'r fforwm wê a gollodd ei ffordd rhywle rhwng y barnu a'r cystadlu ymysg 'pretty young things' y proto-Sefydliad Cymreig, mae Taro'r Post - oherwydd y ffaith mai rhaglen radio ydi hi, dan lywyddiaeth abl a bywiog Dylan Jones - yn llwyddo i gael y gorau o'i chyfrannwyr. Iawn, dydi hi ddim yn llwyddo i godi materion o wir bwys yn aml iawn (er, os ydi hi awydd codi nyth cacwn o dro i dro, mi wnaiff), ac mae difaterwch a chulni'r Cymry Cymraeg yn aml yn llenwi ei llwyfan lawer gormod, ond cryfder Taro'r Post - am mai rhaglen drafodaeth byw ydi hi - yw nad ydi ei chyfrannwyr mwyaf treiddgar, ffraeth a deallus wedi eu cyfyngu i rhyw gornelion tywyll, allan o olwg llif-oleuadau poblogaidd y pynciau ffasiynol, hip a chŵl a threndi. Mae'r rhaglen yn chwarae i'w chryfderau (oddifewn i strwythurau digon cyfyng, efallai), ac fe all y drafodaeth fwyaf ddibwys danio'n ddadl ddeallus, danllyd llawn dychymyg a difyrrwch yn nwylo'r cyfrannwyr mwyaf tebol. Tydi meddyliau miniocaf Taro'r Post - boed yn ddeinosoriaid neu'n ambell radicalydd - heb gael eu cyfyngu i fyd gwleidyddiaeth, llenyddiaeth a materion cyfoes, er engraifft, fel y maent ar Maes-e.

Felly hefyd ei ffrîcs a'i chrancod. Mae gan griw Taro'r Post y gallu, trwy gyfrwng giang fach o ymchwilwyr cyflogedig, y gallu i ddod o hyd i'r ffrîc arbennig ar gyfer y pwnc penodol, neu i lusgo'r crancod perthnasol allan o'r cwpwrdd fel y bo'r galw. Ymhlith y reservists yma mae ganddon nhw'r crefyddwyr penboeth, y gellir eu cyfodi o'u salmgwsg i fywiogi'r drafodaeth am y pwnc moesol diflas diweddaraf, neu'r Eisteddfodwr brwd y gellir dibynnu arno i rantio am ddifaterwch diweddaraf y Cymry tuag at Y Pethe, neu'r purdeb-ieithyddwyr y gallent eu llusgo o nirvana i niwrosis oherwydd yr engraifft ddiweddara o fratiaith dichellgar sy'n bygwth gwareiddiad fel y gwyddom amdano. Gan ein bod ni ymysg y lleiafrifoedd mwyaf cecrus a hunanbwysig yn y bydysawd fel y gwyddom, mae gennym, yn y Gymru Gymraeg, ddigon o ffwndamentalwyr dros bob peth (ond annibyniaeth), wedi'r cwbl. Mae gennym hyd yn oed rhyw Major Rwbath Neu-Rywun ddaw allan i amddiffyn pob agwedd o'r lluoedd arfog Prydeinig!

Yn aml, gwrando ar rhain yn mynd drwy'u pethau - yn enwedig os ydyn nhw'n dadlau yn erbyn gwybodusyn academaidd sy'n arbenigwr yn ei faes - sy'n gwneud i mi chwerthin fwyaf. Fy ffefrynnau, fel arfer, ydi Cristnogion asgell dde yn cael eu bambŵslo gan berson hoyw deallus (neu gan Gristnogion goleuedig, clyfar ac eofn fel yr anhygoel Aled Jones Williams), neu rhyw ffarmwr sy'n credu fod y byd, yr haul a'r lleuad yn troi o amgylch ei glwstwr o gaeau di-nod, yn dadlau'r du yn biws (a gwylltio, yn amlach na pheidio) yn erbyn rhyw broffesyr o naturiaethwr amgylcheddol ynghylch bodolaeth TB mewn tylwyth teg neu beidio, y naill yn araf golli'i limpyn wrth wfftio ffeithiau gwyddonol, a'r llall yn twt-twtian yn nawddoglyd wrth foddi ei wrthwynebydd ofergoelus efo termau, ffeithiau a thystiolaeth sy'n golygu ffyc ôl i ran fwyaf y gwrandawyr, heb son am y cradur anllythrennog, blewgoch sy'n adnabod ei filltir sgwâr yn well na llond prifysgol o arbenigwyr a'u "inseidoclopsus cachu iâr."

O! Yr hwyl!

Ta waeth. Dyna pam rydw i'n tueddu i droi'r radio ymlaen am chwartar wedi hannar dydd, pan dwi'n bwydo'r bychan yn ei gadair uchal yng nghegin tŷ ni, yn ddyddiol. Mae 'na wastad siawns o ddod ar draws un o'r perlau cwerylgar yma. Ond mae 'na wastad siawns o ddod ar draws trafodaeth ddifyr hefyd.

A thrafodaeth ddifyr glywis i ddoe, am lysenwau. Coeliwch neu beidio (wel, naci - coeliwch), ond mae rhyw 'inseidoclopsus academaidd' wedi cael eu talu i ymchwilio i effaith llysenwau ar ddatblygiad seicolegol plant, ac wedi dod i'r casgliad nad yw cael eu galw'n enw anwes nas bedyddiwyd nhw gan offeiriad, yn gwneud dim drwg iddyn nhw. Yn wir, ar ôl blynyddoedd, debyg, o astudiaeth ac ar ôl gwario, mwyaf tebyg, rai ugeiniau o filoedd o bunnau o "bres hosbitols ac ysgolion chi a fi" daeth y gwybodusion i'r casgliad fod yr arferiad canrifoedd oed hwn - sy'n hynod o gryf yma yng Nghymru - yn llesol i'n pwdins wyau bach ni.

Tra'n falch fod y boffins wedi dod i'r casgliad cywir, does 'na run o'r diawliad yn haeddu seren goch yn eu llyfr syms am wastio amser ac arian yn pandro i gywirdeb gwleidyddol y nanny state trwy ymchwilio i fater mor greiddiol a ffwndamental ddi-bwynt. Ond, a minnau wedi crybwyll ambell gryfder rhaglen Taro'r Post, rhaid rhoi marc du enfawr penfawr iddi hithau am un o'i gwendidau mwyaf, sef ei thuedd annesboniadwy i ddod o hyd i'r pynciau mwyaf di-bwynt ellir dod o hyd iddynt yn y môr o lwydni dumbing down 'ma sy'n llyfu creigiau deallusedd o faterion cyfoes yn y cyfryngau torfol y dyddiau hyn, a'i ddefnyddio i lenwi hanner awr a allai fod wedi cael ei ddefnyddio i drafod materion difrifol fel diflaniad gwasanaethau llywodraethau lleol, diflaniad cyfalaf y wlad i goffrau bancwyr barus, diflaniad cartrefi cenhedlaeth o Gymry i ddwylo mewnfudwyr, diflaniad y Gymraeg o feysydd chwarae a dosbarthiadau ysgolion y Fro Gymraeg, a diflaniad hawl i fyw Palestiniaid Gaza dan weithgareddau llofruddgar gwladwriaeth ddieflig Israel. Da ni ddim isio trafod petha felly, siwr. Cymry ydan ni.

Mae o'n gwneud i bagan fel fi ddechrau hiraethu am oes aur y capeli, myn diawl!

Ond, fel ddwedais i uchod, mae 'na rhyw hud yn gallu digwydd ar Taro'r Post, ac mae trafodaeth mor trifial ac arwynebol yn gallu troi'n hynod ddifyr trwy gyfraniad y pobl iawn. A dyna gafwyd ddoe, yn digwydd bod. Daeth y bytholwyrdd Lyn Ebeneser â'i ddifyrrwch hoffus i mewn â'i bytiau naturiol am y rhesymau tu ôl i lysenwau rhai o gymeriadau llawr gwlad Ceredigion yr oedd yn eu hadnabod. Un o'r pethau difyr a ddywedodd o, wrth geisio dyfalu pam fod cymaint o lysenwau yma yng Nghymru, oedd fod pobl angen gwahaniaethu rhwng cynifer o unigolion oedd yn rhannu'r un cyfenw.

Dwn im am hynny, ond mae o'n gystal eglurhad ag unrhyw beth alla i feddwl amdano, ag yr ydw i wedi ei glywed hyd yma. Tueddu i feddwl yn nhermau natur hiwmor y Cymry ydw i. Rydan ni'n bobl sy'n ffynnu ar dynnu coes ein gilydd rownd y rîl. Dyna ydi un o seiliau pennaf ein hiwmor - tynnu ar ein gilydd. Yn sicr, mae o'n ffactor cryf wrth egluro'r miloedd o lysenwau unigryw sy'n britho ardaloedd y llechi. Yndi, mae ardaloedd gwledig hefyd yn frith o'nyn nhw, ond tueddu fwy i fod - fel y dywedodd Lyn Ebeneser a chyfrannwraig arall i'r sgwrs - yn cario enwau eu fferm, eu galwedigaeth neu enwau eu cyndeidiaid neu deuluoedd mae nhw. Yn yr ardaloedd llechi, mae 'na lawer mwy o amrywiaeth gan y gallai fod cannoedd o ddynion yn gweithio yn yr un gweithle a chynifer ohonynt ond yn gweld ei gilydd yn y gweithle hwnnw, ac felly'n tueddu i dynnu coes dragywydd a nodi popeth o arferion, golwg, osgo, nodweddion, natur, chwerthiniad, troeon trwstan a.y.b. yn ogystal â theulu a chartref ac ati.

Mae 'na lawer iawn o waith wedi ei wneud ar hyn wrth gwrs. Mae cylchgrawn Llafar Gwlad wedi cario sawl erthygl a rhedeg sawl cyfres a chasgliad difyr tu hwnt gan sawl cyfrannwr ar y pwnc, a dwi'n siwr fod Myrddin ap Dafydd wedi cyhoeddi llyfr ar y mater, gan gynnwys casgliad go helaeth o lysenwau, hefyd. Tydw i ddim am ailadrodd, na mynd mewn i'r mater yn rhy ddwfn - pwt o flog ydi hwn, llif meddwl, nid erthygl neu gasgliad o unrhyw fath (er, mi fydd rhaid i mi drio cofnodi llysenwau fy nghenhedlaeth i yn Ysgol y Moelwyn ac ardal Stiniog yn go fuan, rwan fod y sgwrs ar Taro'r Post wedi tanio'r dychymyg cymaint).

Achos mae'r llysenwau dwi'n gyfarwydd â nhw - cannoedd mae'n siwr - yn rhai anhygoel o ddifyr. Mae nhw'n ffraeth, yn graff, yn ddychmygus, clyfar, annwyl a digri, ac mae rhai ohonyn nhw hyd yn oed yn rhai digon cras ac annymunol ar yr wyneb. Ac yn rhyfedd reit, yn amlach na pheidio tydi'r pobl sydd wedi cario'r llysenwau eitha 'doji' erioed wedi trio cael eu gwared, ac hyd yn oed yn eu harddel eu hunain. Cymaint y mae'r arferiad o roi llysenw wedi gwreiddio yn ein cymunedau (onid oes gan bawb, bron, un?), mae llysenw'n cael ei gyfri'n bwysicach, yn gymdeithasol, na'r enw roddodd dy rieni i chdi. Mae o'n fwy o fathodyn cymdeithasol, yn stamp o dy hunaniaeth a dy berthynas efo dy ffrindiau, cydweithwyr a chyfoedion. Mae 'na ugeiniau o bobl yn yr ardal hon efo mwy nag un llysenw - gwn am rai sydd efo tri neu bedwar, hyd yn oed: un o'r ysgol, efallai, un o'i griw o ffrindiau agos, un o un gweithle, un arall o weithle lle bu'n gweithio'n flaenorol, neu o ardal arall y bu'n byw ynddi ar ryw gyfnod, ac un gan y tîm darts mae'n rhan ohono. Er engraifft 'lly...

Mae 'na ambell lysenw yn fy nofelau sydd wedi eu benthyg o 'ail' a 'thrydydd' llysenw ambell berson go iawn - llysenwau sydd ddim mor eang-gyfarwydd â'u prif lysenwau. Mae 'Bic' yn 'ail' lysenw un ffrind sydd wedi cael ei adnabod dan lysenw gwahanol ers amser rhy hir i rai pobl gofio'r llall. Mae 'Sbanish' hefyd - er yr eglurhad gwahanol am yr enw yn y stori - yn ail lysenw cymeriad go iawn sydd yn ffrind da imi. Felly hefyd 'Drwgi'. Ac mae 'Dilwyn Lldi' wedi ei drawsblannu o brif lysenw boi o'r enw Dyl Lldi! Rhaid nodi yma, fodd bynnag, nad yw'r cymeriadau hyn o reidrwydd wedi eu seilio ar y bobl go iawn! Liciwn nodi hefyd fod pob llysenw arall yn y llyfrau, yn rhai wyf wedi eu creu fy hun. O - heblaw am Cledwyn Bagitha. Mae hwnnw'n enw anwes y rhoddodd ffrind agos, a'i gariad, i fi pan o'n i'n rhannu tŷ efo nhw yng Nghaerdydd yn niwedd yr 80au! Ond dalltwch un peth - tydi'r cymeriad heb ei seilio arna fi!

Be amdana fi go iawn? Oedd gen i lysenwau eraill wrth dyfu i fyny? Wel, fy llysenw cyntaf, os dwi'n cofio'n iawn, oedd 'DP' ("Dî Pî"). Yn ysgol fach Traws o'n i ar y pryd, ac mae'r eglurhad yn syml: er mai Dewi Prysor Williams oedd fy enw llawn, "Dewi Prysor" oedd yr athrawon yn fy ngalw, a hynny fel arfer mewn tôn awdurdodol wrth fy ngalw atynt am gambihafio! Felly'r cwbwl oedd "Dî Pî" oedd llythrenau fy enw, ac os dwi'n cofio'n iawn, Ifor Howells, ffrind i mi o Traws - bellach yn byw'n Manceinion - oedd hefyd yn fab i'r Gweinidog â'm bedyddiodd yng Nghapel Cwm Prysor, Byron Howells, oedd y cyntaf i ddechrau fy ngalw'n 'DP'. Efallai mai fi ydi'r unig berson yng Nghymru sydd wedi cael ei fedyddio gan Weinidog Methodistaidd a'i fab!

Pan es i i Ysgol y Moelwyn, fodd bynnag, yn Blaena, lle'r oedd y plant yn deud "carots" am foron, a "lusard" am fadfall, roedd yr enw 'Prysor' ar berson yn rwbath eitha anghyffredin iddyn nhw. Oedd, roedd 'na Dŷ o'r enw Prysor yn yr ysgol (Prysor, Bowydd, Dwyryd a Cynfal oedd y Tai - a mi oeddwn i yn Cynfal!), ond doedd hogia fy nghenhedlaeth i yn y dre ddiwydiannol heb arfer ei glywed fel enw ar berson - dim fel oeddan ni yn Trawsfynydd, cartref yr afon, wedi arfer, beth bynnag. Felly, diolch i'r 'nofylti' yma bu rhaid i mi fodloni ar gael fy ngalw'n 'Prysor', a chês i ddim y fraint o gael llysenw mwy ecsotig a diddorol! Er, mi oedd yn well gen i o na 'Dewi' ar y pryd, ac mi sticiodd. A chyn hir, mi dalfyrrwyd o i 'Prys' - oedd yn eitha cynnes a cŵl, ac sydd wedi sticio hyd heddiw, wrth gwrs.

Er hynny, mi fu sawl ymdrech gan sawl ffrind a wag i roi llysenw arall imi yn ystod y blynyddoedd hapus yma yn Ysgol y Moelwyn. Mi sticiodd rhai o'nyn nhw am gyfnodau cymharol hir, ond wnaethon nhw byth ddisodli 'Prysor' yn yr hir dymor, a chawson nhw byth eu harddel gan fwy na chriw cymharol fychan o gyfoedion, beth bynnag.

Un o'r rhai wnes i licio oedd 'Risla'. Dechreuodd hwnnw oherwydd mod i'n smocio rôls yn hytrach na ffags, am gyfnod, pan oedd rhei o weddill criw Smoker's Corner yn chwilio am bapur rizla i drwsio ffags oedd wedi torri yn eu pocedi, weithia. Dechreuodd rhywun - Chips Bach, os dwi'n cofio'n iawn, ffrind o Blaena oedd yn ddiawl o gymeriad, ac yn un o'r bobl hynny sy'n gyfrifol am ddechrau tua 70% o bob llysenw yn yr ysgol neu'r gweithle - fy ngalw'n 'Dewi Risla', ac mi sticiodd am sbelan, a chael ei dalfyrru i 'Risla' yn fuan wedyn. Mae'n rhaid ei fod o'n cael ei gydnabod yn go helaeth achos mi ddechreuis i ei ddefnyddio wrth sgwennu fy enw ar y desgiau, am sbelan - er, efallai mai fy ymdrech i i'w gael o i sticio oedd yn bennaf gyfrifol am hynny! Wnaeth o ddim, beth bynnag, ac fel mae pob smociwr baco yn gwybod, does dim byd gwaeth na risla sydd ddim yn sdicio!

Roedd 'na enw arall gafodd ei 'fathu' gan Chips Bach, ac y gwnes i - er rhwystredigaeth mawr iddo fo - gymeryd ato, yn hytrach na'i gasau, fel oedd o wedi gobeithio y byddwn i, a hwnnw oedd 'Jagger'. Ac ia, Mick Jagger oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r llysenw! Roedd gen i wefusau tewion iawn pan yn 'rysgol fawr' - bron mor dew â rhai ffryntman enigmataidd y Stones ei hun. Mae gen i wefusau tewion hyd heddiw (er mae'n well gen i eu galw'n 'juicy'!), ond tra yn ysgol Blaena roeddan nhw fel sosejis, diolch i fy nannadd cerrig beddi oedd, ar y pryd, yn ymrafael fel teigrod am eu lle priodol yn fy ngheg. Yn naturiol ddigon, roedd hyn yn ennyn lot o dynnu coes o blith fy nghyfoedion ac yn destun lot fawr o sbort rhyngom. Chips Bach, y tynnwr coes tragwyddol ag oedd o, oedd y prif instigator yn y maes, a mi driodd o bob sut i gael y nodwedd yma o fy mhryd a gwedd i gael ei fawreddu ar gof a chadw am byth, ar ffurf llysenw. Er mawr siom iddo, cymerais at yr enw, a chyn hir roedd y geiriau 'Jagger waz ere' i'w gweld ar ddesgiau a waliau ymhob dosbarth y bum yn eistedd ynddyn nhw. Ond sdiciodd hwnnw fawr ddim mwy na rhyw fis neu ddau. Doedd 'na neb arall yn cymeryd ato, ac roedd rhai yn datgan yn agored ei fod yn 'shit o enw' - er, dwi'n meddwl mai cenfigennus oeddan nhw go iawn, i fod yn onest!

Un a sticiodd ychydig mwy - er mawr rwystredigaeth i mi, y tro hwn - oedd un arall o'i gyfeiriadau at fy ngwefusau. Yn wir, mi sticiodd 'Ffish Lips' a'i amrywiol fersiynau ('Dewi Ffish', 'Ffish' a 'Sgodyn') fel rhyw lysenw tynnu coes trwy gydol y rhan fwyaf o fy mlynyddoedd yn yr ysgol, diolch i ymdrechion dygn a phenderfynol Chipsyn. Oedd, mi oedd 'Ffish Lips' yn lysenw oedd yn achosi lot fawr o 'dead arms' a 'nipple crunches' i bwy bynnag oeddwn yn ei ddal yn fy ngalw fi wrtho! Hwyl, wrth gwrs, ond lot o afreolusdra! Falla mai dyna pam y sticiodd o gyhyd ymysg y rhai oedd yn ddigon direidus, heriol neu wirion i fy ngalw fi wrtho yn fy ngwyneb. Roedd y diawliad yn gwbod mod i'n brathu. Brathu fel pysgodyn, wrth gwrs!

Ond brathu neu beidio, doeddwn i ddim yn meddwl ei fod o mor ddrwg fel enw. Y rheswm tu ôl iddo oeddwn i ddim yn licio. Doedd o ddim mor cŵl â 'Jagger', ond doedd o ddim mor greulon a 'Rubber Lips' - un arall o greadau Chips, un a sticiodd dim ond tan i mi roi ffwc o gweir iddo fo yn y flwyddyn gyntaf, ar ôl i fy enw i ddod i fyny ar ei 'hit list' enwog o bobol oedd o am eu waldio er mwyn dangos pwy oedd boi caletaf yn Ffyrst Ffôrm (ffrind neu beidio, roedd pawb oedd o faintioli corfforol go lew, neu efo enw am fod yn gwffiwr, yn cael y fraint o fod ar hit list Chips Bach!). Roeddwn i hannar ffordd i lawr rhestr o tua hannar cant, a fi oedd y cynta i roi cweir iddo fo - mewn ffwc o ffeit wedi ei threfnu ymlaen llaw - a ennillodd i mi barch pawb o hogia Blaena yn yr ysgol. Trobwynt yn fy mywyd a deud y gwir. (Gyda llaw, fyswn i ddim yn licio cwffio Chips Bach heddiw. Mae o wedi bod yn codi pwysau ers blynyddoedd, ers mynd i fyw yn Swindon, ac mae'r boi fel Mike Tyson gwyn!)

Ond mi fyddwn i wedi gallu byw yn iawn efo 'Ffish', hyd heddiw, i fod yn onest. Dwi'n nabod boi o'r enw Ffish o Port, a mae o'n lysenw digon cŵl.

Stopiodd y ffeit ddim ar y tynnu coes - na'r cyfeillgarwch cryf, chwaith - ac ar ôl ysgwyd llaw roedd petha'n nôl i normal, a thrio fy labelu'n bopeth oedd i'w wneud efo fy ngwefusau a'r rhyfel y Somme oedd yn mynd ymlaen yn fy gums wnaeth Chips am weddill y blynyddoedd ysgol!

Ia, difyr ydi llysenwau. Mi oedd 'na rai eraill. Bu bron imi dreulio gweddill fy oes yn cael fy ngalw'n Dewi Blinc hefyd, achos pan o'n i'n fy nhymor cyntaf yn Ffyrst Ffôrm, roedd gen i habit nerfus drwg o flincio fy llygaid - wyddoch chi'r math o beth, y blincio comig ydach chi'n weld gan gomedians sydd yn actio idiot ar y teledu! Wali Tomos, math o beth. Neu Didi Hamann y peldroediwr (dim fod hwnnw'n idiot, chwaith). Diolch ffycin byth i mi feistrioli'r hen habit 'na. Dwi'n cofio gneud yr ymdrech, a llwyddo, ac mi oedd o'n drobwynt arall yn fy mywyd, achos byth ers hynny dwi'n gwybod ei bod hi'n bosib meistrioli unrhyw habit seicolegol efo chydig o willpower. A trobwynt go iawn, hefyd, o ystyried y byddwn wedi gallu diweddu i fyny'n Dewi Blinc erbyn heddiw, petai'r arferiad wedi sticio am fwy nag a wnaeth! A dwi'n siwr mai Chips Bach oedd yr instigêtyr adag hynny hefyd, erbyn meddwl!

Llysenw arall i mi ei gael, ar ôl gadael yr ysgol - ac un y mae ambell un yn dal i fod yn fy adnabod wrtho - ydi 'Tarw'. Rhai o hogia ardal Bala roddodd o imi, a dim ond y nhw oedd yn fy ngalw fi'n hynny, os dwi'n cofio'n iawn. Ac ia, fy nhempar, a fy rhuthr peryglus wrth ei golli, oedd y rheswm am hynny, nid unrhyw ran o'm corff!

Dw i hefyd yn un o'r bobl hynny sydd wedi byw ymysg Saeson, yn Lloegr (wel, Sgowsars yn Lerpwl, sydd ddim cweit run fath, ond...) - er nad oedd gen i lawer o ddewis ar y pryd, gan mai yn y carchar oeddwn i - felly dw i wedi ennyn y llysenw 'Taff' am gyfnod yn fy mywyd, hefyd. 'Big Taff', i fod yn gywir, achos dyna oedd y rhan fwya o fy nghyd-garcharorion - a'r sgriws - yn fy ngalw i yno, yn rhannol am fod gennyf ysgwyddau llydan, ac yn rhannol er mwyn fy ngwahaniaethu oddiwrth y 'Taffs' eraill ar y wing! Doedd o ddim byd maleisus o gwbl. I'r gwrthwyneb, roedd o'n annwyl, cynnes a chyfeillgar iawn ('sheepshagger' oedd y maleisus, a doedd hynny ddim yn para'n hir pan oedd o'n digwydd, coeliwch chi fi!). Doeddwn i'n sicr ddim yn teimlo fod 'Taff' yn israddol nac yn hiliol. Deud gwir, mae gen i lwyth o gardiau penblwydd a nadolig gan garcharorion, efo 'Big Taff' wedi eu sgwennu arnyn nhw, yr wyf wedi eu cadw hyd heddiw! Cythral am gadw popeth ydw i. Dipyn o biodan.

Ond dyna ddigon am hynny, caiff hanes carchar ei gadw at eto rywbryd. Llyfr efallai. Rhywbryd. Hwyrach. Ella ddim. Cawn weld...

Mae'n rhy hwyr i feddwl am fwy o lysenau i mi eu cael, neu y ceisiwyd eu rhoi i mi, dros y blynyddoedd. Mae hi bellach yn hannar awr wedi un yn y bore (ac mae'r sgwrs radio fuas i'n gwrando arni 'ddoe' bellach wedi mynd yn 'echdoe'!). Mae'n eitha posib fod 'na lawar mwy mae ambell ffrind yn fy ngalw. Deud gwir, dwi'n weddol bendant fod gan amball ffrind i mi lot o rei mae nhw wedi eu defnyddio dros y blynyddoedd dwytha. Ond os dechreuai fynd ymlaen am y rheiny, fydda i'n dechra troi'n sgitsoffrenig. Diolch byth mai'r hen 'lysenw' 'diflas' ac 'anecsotig' hwnnw ges i gan hogia Blaena, ac mai hwnnw a sticiodd. A dydio ddim yn lysenw go iawn, nacdi? Yr enw canol a ges i gan fy rhieni ydi o wedi'r cwbl; enw'r cwm lle ges i fy magu, ac enw'r afon y tyfais i fyny yn ei chân. Doedd o'm yn enw drwg wedi'r cwbwl, nagoedd? Ac mae ei dalfyriad cynnes, Prys, sydd wedi tyfu'n lysenw ac enw ynddo'i hun, yn un dwi'n fwy cartrefol a chyfforddus efo fo nag unrhyw beth allai unrhyw un ei daflu ataf. Ac fel y trodd allan, mae o'n bell o fod yn ddiflas. Llawer gwell na 'Risla' a 'Jagger', beth bynnag. Heb sôn am 'Dewi Blinc'! .

4 comments:

Chris Cope said...

Dwi ddim yn siŵr ai ddiffyg llu o gyfenwau yw'r rheswm tu ôl hoffter llysenwau yng Nghymru. Gellwch weld yr un duedd mewn lleoedd eraill ble mae yna ddigon o gyfenwau unigryw. Er enghraifft, y De'r Unol Daleithiau. Mae'n hen arfer i wneud yr un math o beth yno -- wyddwn i ddim enw go iawn fy nhad-cu hyd oeddwn yn 13oed. "Breezy" oedd ef. "Libba" yw fy mam-gu. Rydw i'n credu y mae'n duedd sy'n dod o awydd perthyn, neu, i fod yn fwy cywir, mae'n duedd sy'n dod o deimlad perthyn a'r awydd arddangos y ffaith hon. Os ydych chi'n gwybod llysenw person, os oes gennych lysenw, mae'n dystiolaeth taw person lleol ydych. Rydych chi'n gwybod pethau na wyddai allanolwr oherwydd rydych chi'n dod o'r ardal, rydych chi'n O'r ardal. Rydych chi'n "in the know," fel petai.

Wrth gwrs, mae dull o feddwl hwn yn arwain at un o'm prif gwynion am sut ddefnyddir y Gymraeg weithiau. Bydd person yn ceisio bod yn or-dafodieithol oherwydd mae'n gweld yr iaith fel côd, fel ffordd o dynnu llinell o dan y ffaith taw person ei ardal yw fe. Dyw e ddim eisiau cyfathrebu yn yr iaith mewn gwirionedd, ond ei defnyddio i arddangos ei ranbartholdeb.

Oherwydd rydw i wedi symud cynifer o droeon yn fy mywyd, neu oherwydd dwi ddim yn fath o ddyn y mae person yn fodlon cyffesu ei nabod, does gennyf lysenw. Pan oeddwn i'n ifanc(ach) es i ati i geisio meddwl am lysenw ar fy nghyfer. Ond doeddwn i ddim yn ddigon creadigol i feddwl heibio dwyn enwau professional wrestlers. Ac annhebygol iawn ydyw y byddai rhywun yn cyfeirio ata' i fel "Heartbreak Kid."

y prysgodyn said...

Difyr iawn, Chris. Yn sicr mae 'na rywbeth mwy na diffyg cyfenwau yn gyrru'r defnydd o lysenwau yng Nghymru, ac mae'n bendant yn rhan o ymdeimlad o berthyn i gymuned. Hyd yr oes ôl-Thatcheraidd ddiweddar, mae 95% o boblogaeth Cymru wastad wedi bod yn aelodau o gymunedau sydd yn cydfyw a chydweithio er mwyn cynhaliaeth cymunedol. Boed yn gymunedau o weithwyr diwydiannol neu gymunedau gwledig hunangynhaliol, mae'r syniad o gyd-dynnu, cyd-ymdrech a pherthyn yn sicr yn creu agosatrwydd mynwesol. Mae'r caledi oeddent yn wynebu gyda'i gilydd yn siwr o fod wedi meithrin hiwmor fel modd o gynhaliaeth ysbrydol, a rhwng hynny a'r syniad o berthyn a a chymuned, does dim syndod fod llysenwau'n ffordd o gynnal ymdeimlad y 'teulu estynedig' hwn.

Tydw i ddim yn cytuno gyda thi fod Cymry Cymraeg yn 'gor-ddefnyddio' tafodiaith er mwyn cadw pobl allan (onibai mod i'n camddeall dy bwynt?). I ddechrau, mae Cymru'n wlad blwyfol - yn gymdeithasol a daeryddol - sydd wedi cynnal tafodieithoedd cryf hyd heddiw. Yn ail, all rhywun ddim helpu'r ffordd mae o'n siarad - yng Nghymru, Lloegr neu unrhyw wlad arall. Ac yn drydydd, all neb or-ddefnyddio tafodiaith er mwyn cadw cyfrinach, gan mai Cymraeg yw'r iaith gyffredin a does dim un tafodiaith yng Nghymru nag unlle arall na all person o ardal wahanol ei deall. Yr un yw'r sefyllfa yn Lloegr a'r Alban. Heblaw am ambell i air lleol, allai Geordie neu Glaswegian, hyd yn oed, ddim cadw rhywun o ardal wahanol allan o sgwrs trwy ddefnyddio tafodiaith gref, yn enwedig ar ôl i'r person dreulio rhyw awr yn eu cwmni yn ymgyfarwyddo efo'u ffordd o siarad.

Mae backslang yn stori wahanol wrth gwrs. Mae hwnnw yn ffordd o siarad sydd wedi ei greu yn fwriadol er mwyn cadw pobl - fel bosus chwaral yma yn Stiniog, er engraifft - allan o sgwrs!

Ond pwy ydw i i roi barn ar dy brofiad di? Yn gwrtais a pharchus, fodd bynnag, byddwn yn awgrymu mai'r ffaith dy fod yn ddysgwr ac yn 'newydd-ddyfodiad' sydd wrth wraidd dy gasgliad. Hynny yw, efallai nad wyt wedi dod rownd i ddeall natur a dyfnder y gwahaniaethau tafodiaethol yma eto, ac er mor wych ydi safon dy Gymraeg mi gymerith ychydig mwy o amser eto i dy glust ddod i arfer efo'r amrywiol dafodieithoedd.

Dwi'n gobeithio na fyddi'n meddwl mod i'n bod yn nawddoglyd wrth ddweud hyn, achos tydw i ddim. Bod yn gefnogol i ddysgwr ydi fy mwriad. Dwi'n fodlon betio y doi di i ddeall nad exclusion yw pob engraifft wyt wedi ei brofi. Cawn beint rywbryd ie?

Blwyddyn Newydd Dda, gyda llaw.

Chris Cope said...

Doeddwn i ddim yn dweud y mae Cymry Cymraeg i gyd yn defnyddio'r iaith fel côd, dim ond bod yna rai a fydd. Bydd person yn bwysleisio ei dafodiaith er mwyn pwysleisio ei gysylltiad i ardal. Mae'n rhywbeth a welir yn yr UDA, hefyd (sori, dwi ddim eisiau cyfeirio popeth at yr UDA, gwn taw gwahanol yw'r ddau le, ond forgive me a lazy analogy) -- pwysleisia berson ei acen i lefel ffug bron. Gwthia'r elfennau naturiol ei siarad i greu swn anodd ei ddeall i allanolwr. Er enghraifft, gallaf i (a byddaf i'n, weithiau) siarad mewn East Texas mumble, sydd gan elfennau fy acen go iawn ond mewn ffordd ffug.

Efallai nad ydw i'n gwneud synnwyr. Dwi ddim yn ceisio swnio fel person Lloegr ("Oh, they just talk like that to confuse me"). Dwi'n deall, ond hefyd dwi'n meddwl y byddwn yn deall yn well petai'r siaradwr eisiau fi deall. Ond yn aml ymddengys i mi y mae'r siaradwr eisiau'n fwy i fi ddeall taw o ardal bendant ydyw.

y prysgodyn said...

Aah! Dwi'n deall rwan! :-]
Digon teg.