Na, doedd dim awydd yr Eisteddfod eleni. Dim byd yn erbyn Caerdydd, ond dwi'n gweld digon o'r ddinas fel mae hi. Dwi i lawr yno ymhob gêm beldroed gartref Cymru, ynghyd ag ambell i ddigywddiad llenyddol neu farddonol.
Oedd, roedd hi'n flwyddyn y Cymry yng Ngwyl Rhyn-Geltaidd Lorient, Llydaw eleni. Ond nid yno aethon ni, chwaith - er i ni aros lai nag awr o'r lle am y dair noson gyntaf o'n gwyliau. Y prif atyniad tu ôl i'n gwyliau teuluol cyntaf oedd parti dathlu 30 mlwyddiant Byn Walters, y gŵr hynod o Benydarren, Merthyr Tudful, yn rhedeg Tavarn Ty Elise yn Plouie. Er y byddem wedi licio mynd i Lorient - yn enwedig i gefnogi Calan ac MC Mabon - byddai ymgorffori'r ŵyl a'r parti i mewn i'r un daith yn golygu y byddem yn y wlad am bythefnos a hanner i dair wythnos, a byddai hynny'n ormod i blentyn 11 mis oed fel Gethin, ein ieuengaf. Bydd Cymru'n brif wlad Lorient eto mewn 7 mlynedd, ond dim ond unwaith mae Byn yn dathlu 30 mlynadd yn y dafarn enwog a chwedlonol hon.
Doeddwn i heb fod yn Llydaw o'r blaen, ond gan fod gena i lwyth o ffrindiau sydd wedi bod yno dros y blynyddoedd, ac wedi son cymaint am y lle, unwaith y dalltais fod parti Byn ymlaen (rwyf ar restr ebost criw o ffrindiau, cydnebyd a chenedlaetholwyr Cymreig a Cheltaidd, sydd yn cynnwys Byn), neidiais am y cyfle. Gadewais i ffrindiau oedd wedi bod yn Nhafarn Ty Elise dros y blynyddoedd wybod fod y parti ymlaen, a mi benderfynodd criw ddod drosodd yno i ymuno â ni at benwythnos olaf ein taith deuluol.
Cael croeso gan Byn, yn Nhafarn Ty Elise
Doedd dim angen twistio gormod ar eu breichiau, yn enwedig felly gan mai dyma'r cyfle cyntaf i lawer ohonynt fynd draw ers i Byn a chriw y dafarn yrru torch o flodau drosodd i gnebrwn ffrind agos i ni i gyd - Tedi o Benrhyndeudraeth - rhyw bum neu chwe mlynedd yn ôl. A neis, a thrist hefyd, oedd gweld ei luniau yn llyfr lloffion Tavarn Ty Elise, wedi cyrraedd.
Fel y trodd allan, ac fel y gellid disgwyl o wybod fod gŵyl Lorient newydd ddigwydd, nid ein criw ni oedd yr unig Gymry a gyrhaeddodd Dafarn Ty Elise yn ystod ein hymweliad... Mi af ymlaen efo rhyw ychydig o'r hanes yn y man.
2 comments:
Ro'n innau am fynd i Lydaw 'leni, ond roedd 'na ormod o strach trefnu a rhoi pabell yn y Fiesta. Rhyw dro arall, ella.
mae Byn yn cael parti eto flwyddyn nesa - ond mae'r sdeddfod yn Bala, felly fydd'na ddim continjent cryf o Gymru. Ond mae'n cael parti flwyddyn wedyn hefyd, a mae 'na griw mawr yn son am fynd drosodd, gan ddal rhai o'r gwyliau lleol yn Finistere... ;-)
Post a Comment