25/09/2008

Tamaid i aros pryd

Wel, dw i wedi golygu'r nofel, Crawia, ac mae hi wedi mynd yn ôl i'r cyhoeddwyr. Y cam nesa fydd fy ngolygydd yn edrych drosti eto, rhag ofn bod rhyw wall yn sgrechian, o dan ein trwynau, heb i ni sylwi, cyn gyrru'r broflen at olygyddion y Cyngor Llyfrau.

Dyma pan mae'r 'hwyl' yn dechra. Tydi golygyddion y Cyngor ddim yn gyfarwydd ag arddull awdur, na thafodieithoedd lleol Cymru, felly mi ddaw'r broflen yn ôl yn bensel coch drosti i gyd. Bydd rhaid i fi, wedyn, fynd drwyddi yn rhoi tics (0.1%) neu groes (99.9%) ar gyfer pob 'marc coch'.

Dwi'n licio'r gair Saesneg, 'tedious'. Mae o'n un o'r geiria 'na sy'n swnio fel be mae o'n feddwl. A tedious ydi'r gair perffaith i ddisgrifio'r broses yma.

Ond dyna fo, mae rhaid ei wneud o.

Mae pethau'n agosau, felly, at allu cyhoeddi ddiwedd Hydref neu ddechrau Tachwedd.

Newyddion da arall, ydi fod Y Lolfa wedi ail-argraffu fy nofel gyntaf, Brithyll, ac mi fydd hi yn y siopau wythnos yma neu ddydd Llun. Roedd hi wedi gwerthu allan, ac allan o brint hefyd, ers misoedd, a mi oedd 'na lot o bobol yn holi amdani, yn methu cael gafael arni yn unlla. Braf ydi gweld fod y pysgod yn dal i fachu.

7 comments:

Emma Reese said...

Be ydy'r gair Cymraeg sy'n cyfleu ystyr'r gair, 'tedious'? Dw i'n methu ffeindio un mewn geiriaduron.

Dyfrig said...

"Syrffedus" fyswn i'n ei gynnig fel cyfieithiad o "Tedious"

Emma Reese said...

Diolch i ti dyfrig. Mi wnes i hyd i 'syrffedu' ond methu glwed 'syrffedus' mewn geiriaduron.

Anonymous said...

Faint o gopiau a argraffwyd o Brithyll y tro cyntaf? Hwb i'r arfer o ddarllen Cymraeg ymysg nifer helaeth o Gymry sydd ddim fel arfer yn darllen lot yn Gymraeg. Mae hyn yn gyfraniad pwysig.

y prysgodyn said...

Dwi'n mneddwl mai 2,000 neu 2,500 argraffwyd.

y prysgodyn said...

o ia, "syrffedus" - gair da

Anonymous said...

Dw i'n cofio pan wnaethon nhw ddanfon nofel gn i at y cyngor llyfrau oedden nhw eisiau gwybod pam bod y cofi yn dweud 'cont' ar ol bob brawddeg. Hmmm...