03/11/2008

A fodlonwn ar gornel fach i guro drymiau a chanu'n caneuon?

Dwi'n ffan mawr o Stephen Fry. Nid yn unig oherwydd ei ffraethineb, ei ddoniau comig a'i lyfrau treiddgar, deallus a difyr, ond hefyd oherwydd ei fod o'n ddyn gwybodus sy'n ymddangos fel ei fod wedi awchu am addysg a gwybodaeth (heb son am fwyta llyfrau) trwy gydol ei fywyd. Mae'n ymhyfrydu yn y celfyddydau, ac mewn hanes, llenyddiaeth a iaith yn arbennig, ac mae hynny yn rhywbeth dwi'n ei barchu a'i edmygu yn fawr iawn.

Dwi wedi bod yn gwylio'i gyfres newydd, Stephen Fry in America. Er bod y gyfres yn siomedig o ran cyflawni'r gobeithion oedd gennyf i ddechrau (dyn deallus, ffraeth a difyr yn teithio gwlad sy'n llawn rhyfeddodau a chymeriadau ecsentrig) - yn bennaf oherwydd eu bod yn gwibio trwy tua hanner dwsin a mwy o daleithiau ymhob rhaglen - mae 'na dal ddigon o ditbits efo trigolion unigryw, ynghyd â golygfeydd bendigedig, i fod yn gyfres ddigon difyr.

Ta waeth, wrth wylio rhaglen neithiwr, atgoffwyd fi o rywbeth a sylweddolais yn ddiweddar, wrth sgwennu darn o lif meddwl un o gymeriadau Crawia, fy nofel newydd.

Roedd Fry yn ymweld a reservation cenedl y Lakota - llwyth o frodorion cynhenid America yn Ne Dakota - ac yn sylwi ar y tlodi a chaledi cymdeithasol ymysg y bobl difreintiedig ond balch yma, oedd unwaith yn byw yn rhydd ac urddasol, a iach, drwy'r cyfandir cyfan. Aeth i sgwrsio efo hen gradur oedd yn ymgyrchu dros hawliau'r Lakota, ac mi eglurodd hwnnw fod un o bob pedwar plentyn Lakota - "chwarter ein dyfodol" - yn cael ei yrru tu allan y reservation at rieni maeth, neu i gael eu mabwysiadu, oherwydd tlodi eu teuluoedd. Eglurodd hefyd fod oed siaradwyr iaith y Lakota yn 65 oed ar gyfartaledd. "Cyn hir," medda fo, "mi fyddan ni wedi diflannu. Pan fydd ein iaith yn marw, fyddan ni ddim yn genedl mwyach, oherwydd yr iaith yw ein cysylltiad efo popeth."

Rwan, mae diffiniad o genedl wedi newid yn sylfaenol ers cwpwl o ganrifoedd. Oherwydd twf a chwymp imperialaeth, eideolegau a chrefyddau, a'r newidiadau demograffyddol a/neu ddiwylliannol a achoswyd ganddyn nhw, rydym bellach wedi arfer efo cenhedloedd sydd wedi goroesi'r stormydd imperialaidd er colli eu ieithoedd cynhenid yn y gwyntoedd. Ond cenhedloedd sydd â gwladwriaeth eu hunain ydi'r rhan fwyaf o'r cenhedloedd yma, nid cenhedloedd heb rym i amddiffyn eu hunain rhag ymdoddi i ddiwylliant y wladwriaeth mae nhw'n berthyn iddi. Heb rym digonnol i oresgyn dirywiad ac ecsploetio cymdeithasol, ac i roi gwerth ar - a hybu - eu treftadaeth a'u diwylliant eu hunain - fyddai'n furiau cadarn rhag ymdoddi i ddiwylliant grymus y concwerwr - mae colli iaith yn golygu, i bob pwrpas, colli hunaniaeth... a cholli popeth.

Di-au fod yr henwr ymroddedig hwn o blith y Lakota wedi ceisio ymoleuo Stephen Fry ar y rhesymau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy'n cyfrannu at dranc eu iaith a difaterwch y genhedlaeth iau tuag ati. Rydym yn gyfarwydd â'r un ffactorau yma yng Nghymru: anobaith, cyfryngau torfol, allfudo i chwilio am waith a dyfodol, y diffyg buddsoddiad mewn pobl a chymunedau, problemau cymdeithasol alcohol, cyffuriau, gamblo, a'r teimlad diffrwyth ac anobeithiol sy'n ffynnu mewn hinsawdd o ddibyniaeth a dirywiad cymdeithasol a gwacter diwylliannol.

Ond er dyn mor ddeallus ac ymoleuedig i raddau go helaeth yw Fry, cefais yr argraff nad oedd wedi ei argyhoeddi o'r gwirionedd oedd yn amlwg yn y darlun tywyll a beintiai'r Lakota o ddyfodol ei genedl. Wedi ymweld â'r ysgol uwchradd leol, a chanfod cwpwl o ddisgyblion oedd yn ymwybodol o'r gwerth mewn dysgu'r iaith yn y dosbarth, a gweld criw o ddisgyblion eraill yn curo drymiau a chwarae offerynnau traddodiadol wrth ganu caneuon cynhenid, nododd fwy nag unwaith na allai gredu fod dyfodol yr iaith yn y fath berygl ag a ddywedai'r hen ddyn.

Doedd hynny ddim oherwydd unrhyw fath o ewyllys drwg nag agwedd imperialaidd - yn wir, roedd Fry yn gyson ddamniol o'r driniaeth annynol a ddioddefodd y brodorion cynhenid dan law'r dyn gwyn. Na, roedd ei fethiant i ddeall y gwahaniaeth rhwng iaith fyw a iaith sy'n bodoli mewn dosbarth neu ar lwyfan ambell 'fez nos' yn deillio o'r ffaith nad oes ganddo, fel Sais, unrhyw brofiad nag amgyffred o iaith yn marw. Fel y mae'r cymeriad hwnnw yn fy nofel, Crawia, yn nodi, does gan Sais, neu Ffrancwr, Sbaenwr neu Almaenwr, neu unrhyw berson o genedl wladwriaethol unieithog, ddim profiad o weld ei iath yn dirywio a marw o'i gwmpas, felly all o ddim amgyffred y peth heb son am ddeall ac uniaethu â'r broblem.

Mae gen i brofiad go helaeth erbyn hyn, o gydweithio efo Saeson lleol - hyd yn oed Saeson sydd wedi symud i mewn yn lled-ddiweddar - sydd â ewyllys da tuag at y gymuned a'r iaith, ac sydd yn weithgar iawn yn y gymuned, er budd y gymuned, ac efo lles y gymuned - a'r diwylliant hefyd - mewn golwg. Y gwir ydi, yn aml iawn (ac er tristwch mawr - er, yn ddealladwy o weld fod amodau economaidd a chymdeithasol wedi magu canrifoedd o ddibyniaeth a disgwyl achubiaeth o uwchlaw, yn hytrach nag o blith ein gilydd), gwelwn fewnfudwyr yn fwy parod na'r Cymry i godi oddi ar eu tinau i wneud rwbath. Mae rhai o'r mewnfudwyr hyn wedi dysgu Cymraeg (dwi'n gwahaniaethu rhwng mewnfudwr - rhywun sydd â'r potensial i gyfrannu i'w gymuned newydd - a trefedigaethwr, sy'n dod yma i orfodi ei ddiwylliant a'i arferion ei hun ar y brodorion), ac eraill efallai heb, ond wedi magu plant sydd yn Gymraeg iaith gyntaf.

Ond er yr holl ewyllys da yma ymhlith nifer o fewnfudwyr, wnan nhw byth, byth werthfawrogi sut mae iaith yn marw, ac mai ei goroesiad fel iaith fyw yw'r unig ffordd i sicrhau ei pharhad - ac yn bwysicach, parhad y cyfoeth diwylliannol y mae'n gynnal, a'r hunaniaeth cenedlaethol y mae hi'n sylfaen iddo.

Dim eu bai nhw ydi o na allan nhw ddeall hynny, achos mae o y tu hwnt i'w hamgyffred nhw. Tra bod rhyw agwedd ôl-imperialaidd eithaf atgas yn gallu ymagweddu ei hun ymhlith sawl trefedigaethwr, ni ellir defnyddio'r legasi imperialaidd fel esgus dros fethiant y rhan fwyaf o fewnfudwyr i ddeall natur y prif fygythiad real i fodolaeth iaith leiafrifol. Dyna pam fod cymaint o wrthwynebiad o du mewnfudwyr sydd wedi dysgu, neu sydd yn gefnogol i'r iaith Gymareg, i ymgyrchoedd sy'n tynnu sylw at y broblem tai a'r mewnlifiad uniaith Saesneg, ac i statws y Gymraeg fel iaith swyddogol cynghorau a chymhwyster swyddi cyhoeddus. Mae nhw'n gweld pethau fel hyn fel fesurau adweithiol, gan na allan nhw amgyffred sefyllfa lle mae positive discrimination yn hanfodol i amddiffyn iaith. Tydyn nhw erioed wedi bod mewn sefyllfa lle mae eu iaith yn marw o'u cwmpas nhw.

Ddois innau ar draws engraifft o hyn yn gymharol ddiweddar, wrth siarad â cyhdweithiwr ar un o bwyllgorau mentrau cymunedol yn Stiniog. Mae'r person dan sylw yn rhywun dwi'n barchu. Mae'n 'Sais o'r ardal' bellach, ac er na ddysgodd Gymraeg, mae'n dad a thaid i dwr o blant Cymraeg iaith gyntaf, ac yn ddyn gweithgar yn yr ardal. Wrth drafod datblygiadau arfaethedig gan fenter uchelgeisiol sydd am adfywio tref Blaenau, mynegais fy ngobeithion y byddai'r fenter yn sicrhau fod pobl leol yn cael pob cefnogaeth i sefydlu'r busnesau fyddai'n tyfu efo'r datblygiad, gan fod hynny yn rhywbeth hanfodol i gynnal cymeriad diwylliannol y dref, a'r Gymraeg fel iaith fasnach y dref. Ei ateb oedd y dylai'r "diwylliant" fod yn "covered" efo ailagor Neuadd y Farchnad fel canolfan gelfyddydol.

Dyma'r un diffyg dealltwriaeth ag oedd gan Stephen Fry o sefyllfa iaith y Lakota, a'r bygythiad i'w dyfodol fel iaith fyw. Cyn belled a bod gan y brodorion gornel fach i fynd i guro drymiau a chanu eu caneuon, i adrodd eu barddoniaeth ac i gynnal ambell eisteddfod, mi fydd eu iaith a'u diwylliant yn ddiogel.

O na fyddai hynny'n wir!

6 comments:

Nwdls said...

Smai Prys. Uffar o gofnod dda. Dwi newydd gael profiad diweddar o weithio gyda mewnfudwyr sydd a chryn ewyllys da tuag at yr iaith, ac sydd hefyd yn beiriannau ar gyfer digwyddiadau diwylliannol, cymdeithasol a chymunedol ond sydd heb eto ddeall fod yn rhaid i'r iaith fod yn graidd i'w gweithgaredd ac nid yn optional extra. Mae'n annodd iddyn nhw gan dwi'n credu nad oes na lawer o wirfoddolwyr Cymraeg o'r ardal yn eu helpu, efallai am fod y gweithgaredd yn un Eingl-Americanaidd yn ei hanfod, ond mae na hefyd y diffyg dealltwriaeth ma o argyfwng ac o pam bod pobol yn mynd yn amddiffynnol am yr iaith.

Chris Cope said...

Dyw'r profiad y Cymry ddim yn gymharol i brofiad y bobl gynhenid Gogledd America. Pan geisia rhywun dynnu cymhariaeth megis hwn mae'n sarhad i'r hanes ofnadwy o drist y bobloedd America hynny. Where are your smallpox-infested blankets?

Ta beth, nid "hen greadur" yw Russell Means, o bell ffordd. Aelod grŵp a feddiannodd Wounded Knee yn 1973 yw fe. Lladdwyd dau berson a pharlyswyd un arall mewn digwyddiad a barhaodd am 71 diwrnod a chynhwysai ddydd ar ôl dydd o saethu rhwng yr American Indian Movement a'r US Marshals Service.

Mae gan y bobloedd gynhenid America shitload o broblemau, ond erbyn hyn dyw'r dyn gwyn drygionus ddim yn un ohonynt. Mae'n hawdd i bobl, yn enwedig pobl yma ym Mhrydain, i eistedd yn ôl a dweud: "Onid yw dull o feddwl yr Unol Daleithiau ar fai?"

Bu. Heb os. Ond nid nawr. Yn y byd modern, mae'r profiad yn gyffelyb (ar yr wyneb, o leiaf) â phrofiadau pobl du: maent yn dinistrio eu hunain ar ôl blynyddoedd o gael eu gormesu. Erbyn hyn, does dim ots maint o maya culpas a gynigir, maint o arian a daflir ar y broblem os mae pobl yn hunan-niweidiol di-baid.

Er, wedi dweud hynny, gall ddeall pam na fyddai Fry yn gweld pethau i fod mor erchyll â'r hyn a geir gan Means. Yn De a Gogledd Dakota a Minnesota (yr hen ardaloedd y Lakotah) mae yna sawl reservation, gyda gorsafoedd radio a theledu pob un, mae yna ysgolion sy'n llawn o bobl ifanc sy'n datblygu diddordeb a pharch tuag at eu hen ddiwylliant. Yn nhermau iaith a diwylliant, os unrhyw beth, mae pethau'n gwella ymhlith y bobloedd gynhenid yn ddiweddar. Anodd ei weld yw hwn i'r bobl hŷn, efallai, oherwydd yn y hugain blwyddyn diweddar mae'n digwydd, ar y cyfan.

Ond ystrydebol, blinedig a gwan yw'r hen ddadl na all berson gweld gwirionedd sefyllfa oherwydd dydyn nhw ddim wedi ei fyw. Ond wrth gwrs, byddwn i yn dweud hynny, onid fyddwn? Y mewnfudwr basdad fy mod i yn.

y prysgodyn said...

Chris, diolch am dy gyfraniad. Ond tydw i heb gymharu hanes y Cymry a brodorion cynhenid America yn uniongyrchol o gwbwl - yn wir, mae o'n amherthnasol i'r pwynt oeddwn yn ei wneud.

Cymharu agwedd monoglot tuag at eu sefyllfa ieithyddol a diwylliannol oeddwn i, ac mae'r agwedd hynny, a'r diffyg dealltwriaeth yr ydw i'n gyfeirio ato, yn union run fath.

Ond eto, mae sefyllfa ieithyddol a diwylliannol y Cymry a'r indiaid yn debyg iawn iawn. Alla i ddim gweld sut mae'r graddau o orthrwm hanesyddol yn newid hynny.

Ond hefyd, mae sefyllfa economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol y ddwy genedl yn debyg iawn, ac o ran y sefyllfa honno hefyd mae'r gymhariaeth yn un digon teg.

Wedi'r cwbwl, tydw i ddim yn son am raddau ac eithafiaeth y gorthrwm corfforol lled-ddiweddar. Stori arall yw honno.

Ac o ran Ryssell Means, dim yn cofio ei enw oeddwn i, dyna pam oeddwn yn cyfeirio ato fel 'yr hen ŵr' a'r 'hen ddyn urddasol'. Arwydd o barch ydi 'hen ŵr' yn Gymraeg, Chris. Hynny yw - yn yr iaith fyw. Engraifft arall o iaith yn colli ystyr pan mae'n 'iaith papur' yn unig. A gyda phob dyledus barch i ti, Chris, engraifft o fewnfudwr ewyllys da yn methu cweit deall nyts a bolts y ddadl dwi'n ei chyflwyno.

y prysgodyn said...

Gyda llaw - mae 'hen gradur' yn derm annwyl iawn mewn Cymraeg coloquial.

Gyda llaw, hefyd, ar ôl darllen dy sylwad eto, dwi'n tueddu i weld dy baragraff cyntaf yn un ai ddatganiad eithaf arrogant, neu'n un gan ŵr sydd wedi darllen yn rhyw sydyn ac wedi camddeall prif thrust fy mhost.

Dwi ddim yn mynd i wastio f'amser i a d'amser di trwy danlinellu fy nghredensials fel rhywun sy'n ymddiddori yn hanes brodorion cynhenid Gogledd America, nac ychwaith fel 'hanesydd' sydd wedi astudio hanes diwylliant poblogaidd, hanes cymdeithasol a hanes Cymru fodern, wrth astudio at fy ngradd.

Ond be alla i ddweud ydi fy mod, fel aelod o gymuned Gymraeg ei iaith, ac fel bardd a nofelydd, yn efo syniad go dda o natur ysbrydol y berthynas rhwng cenedl a'i iaith, a'r ffactorau wrth waith yn y cysylltiad rhwng cenedl ddifreintiedig, ddiwladwriaeth â'i sefyllfa cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Er engraifft, ti'n cyfadda dy hun fod diwylliant o ddibyniaeth ymysg yr indiaid, fel oeddwn yn ei ddweud yn y darn gwreiddiol, ac mae hynny yn rhywbeth cyffredin i bob cenedl, cymuned neu deulu disposesses, disenfranchised a difreintiedig.
Felly tydi dweud pethau fel "Where are your small-pox infested blankets?" ddim rili'n berthnasol i ddechrau, ac yn ail, mae o'n rhywbeth eithaf sarhaus ac arrogant i'w ddweud, ti'm yn meddwl?

Gormes y mwyafrif ydi hyn. 'Ti wedi dioddef gormes diwylliannol, ond ti ddim wedi dioddef digon, so cau dy geg.' Anghyfiawnder ydi anghyfiawnder. Ffactorau gwleidyddol, hanesyddol, economaidd a chymdeithasol sydd yn diffinio colled diwylliannol. Yn achos y Lakota a'r Cymry, mae hynny'n gyffredin i'r ddwy genedl.

Ta waeth, dwi'n falch iawn dy fod wedi ymateb, beth bynnag.

y prysgodyn said...

Biti nad oes ffordd i olygu sylwadau ar y blog'ma!

Be dwi'n feddwl efo 'sarhaus' am y frawddeg dan sylw ydi, dim dy fod ti'n bod yn sarhaus yn fwriadol, ond ei fod yn ymddangel dy fod yn bychanu'r anghyfiawnder mae'r Cymry wedi ei ddioddef oherwydd nad yw mor eithafol â'r anghyfiawnder a ddioddefodd yr 'indiaid'. Mewn ffordd, mae o fel dweud wrth y Lakota "yes you've endured injustice, but where are your gas chambers?"

Ti'n dallt be sgen i?

Gyda llaw, dwi wedi sgwennu'r post yma fel un positif tuag at fewnfudwyr (as opposed i'r trefedigaethwyr yn y post blaenorol), felly plis paid a galw dy hun yn 'fewnfudwr basted'! Ti ddim. Ti'n fewnfudwr sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr i'n diwylliant ni (a dwi ddim yn trio swnio'n nawddoglyd!) ;-)

~^~ said...

Dwi'n hoffi'r cymhariaethau rwyt yn ei wneud rhwng ein sefyllfa ninnau a'r Lakota. Dwi hefyd yn hoffi'r modd rwyt ti'n gwahaniaethu rhwng trefedigaethwyr a mewnfudwyr. Dwi wedi dod yn ffrind agos hefo mewnfudwr yn ddiweddar ac wedi cael y pleser o helpu rhywfaint arni i ddysgu'r Gymraeg. Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn a'i brwdfrydedd i ganfod mwy am ein hanes, diwylliant a'n gwleidyddiaeth yn heintus. Bron na fyddwn yn dweud ei bod o bryd i'w gilydd yn codi cywilydd arnai ynglyn a mor arwynebol ydi ngwybodaeth am ein hetifeddiaeth. Mor hawdd cymeryd y cyfan yn ganiataol a mynd yn ddifater.