06/03/2009

Hiwmor yn erbyn yr ods!

Newydd siarad efo fy ffrind sy'n byw drws nesa. Roedd o'n flin ei fod o wedi gorfod treulio Dydd Gwyl Dewi - o naw o'r gloch y bore tan bump y prynhawn - yn siarad Saesneg.

Wedi cytuno i fynd ar gwrs Cymorth Cyntaf ar ran mudiad gwirfoddol lleol oedd o (pam fod y cwrs ar ddydd Sul, dwn i ddim), gan fod pob mudiad sy'n ymwneud â'r cyhoedd yn gorfod cael bobl cwaliffied mewn cymorth cyntaf yn eu rhengoedd, am wn i.

Ar y cwrs efo fo, oedd 6 person arall - o Fairbourne, Morfa Nefyn ac Abersoch. A'r cwbl, yn ogystal â'r instryctor, yn Saeson. Oedd, fel Cymro, roedd fy ffrind yn owtnymbyrd o 7 i 1.

O fewn dim, roedd o wedi cael llond bol o'r "we've got a summer home in Fairbourne" ac yn y blaen, ond mi sticiodd ati, chwarae teg, er mwyn gorffen y cwrs. Ond roedd rhaid iddo wneud rhywbeth i dorri ias, er mwyn gallu teimlo'n fwy cyfforddus ymysg yr estroniaid. Felly, pan orchmynnodd yr instryctor iddyn nhw fynd i mewn i'r ystafell nesaf "to look for the patient", mi welodd ei gyfle.

Wrth i'r chwech Sais glosio at y dymi oedd yn gorwedd efo sos coch drosto, ar y bwrdd, rhedodd fy mêt heibio iddyn nhw, gwneud fforward rôl, a sbringio i fyny i'w draed wrth ymyl y bwrdd, pwyntio yn ddramatig at y dymi, a gweiddi, "dyma fo!"

Chwarae teg!

5 comments:

Emma Reese said...

Be wnaeth y lleill wedyn?

y prysgodyn said...

Sbio'n hurt i ddechrau, cyn chwerthin. :-)

neil wyn said...

Fairbourne, am dwll o le efo golygfa ysblenydd! oes 'na enw Cymraeg wedi ei bachu drosti tybed, 'Terfyndeg' falle?! dwi heb fod yna ers dyddiau fy mhlentyndod, pan aethon ni i ryw canolfan 'outward bound' efo'r clwb ieunctid, atgofion melys er wyntog!

Anonymous said...

Rowen yw Fairbourne yn Gymraeg

teod-karv said...

Mae'r un fath ym Mhrifysgol Aberystwyth - er bod cynllun iaith, dim ond yn Saesneg y ceir hyfforddiant cymorth cyntaf. Mynnir cael pobl o'r Drenewydd i roi cyfarwyddyd fel nad oes gobaith o glywed gair i Gymraeg o gwbl. Er cwyno, ni newidia ddim.