18/12/2008

Be ydi 'plot'?

Sylwad teg, am wn i, am fy nofel gyntaf, Brithyll, oedd fod 'na ddim plot iddi. Roedd rhai darllenwyr ac adolygwyr yn nodi hynny yn yr un gwynt â datgan nad oedd angen plot arni, cymaint oedden nhw wedi mwynhau, tra bod un neu ddau yn gweld y 'diffyg plot' fel anathema i'r maes sgwennu nofelau. Aeth Hafina Clwyd, yn Y Cymro, yn bellach, fel y clywais ddwy flynedd yn ddiweddarach. Wrth rwygo'r nofel yn ddarnau gofynnodd beth yw pwynt nofel heb blot.

Pawb â'i farn am wn i. Ond tra'n cytuno nad oedd 'na 'blot cryf' (beth bynnag ydi hynny) yn Brithyll, dwi hefyd yn cytuno efo'r oddeutu dwy fil o ddarllenwyr â fwynhaodd y nofel yn arw - pwy sydd angen plot os ydi'r stori'n ddifyr?

Achos, be ydi plot, mewn gwirionedd? All rhywun ei ddiffinio'n bendant? Un ffordd o'i rhoi hi ydi, fod plot yn ddyfais i wneud y nofel yn afaelgar, neu'n ddifyr. Os felly, os yw'r stori'n afaelgar ac yn ddifyr, pam fod angen plot? Onid pedantics cywirdeb llenyddol yw glynnu at 'reolau' fel 'mae rhaid i nofel gael plot'?

Ffordd arall o ddiffinio plot, am wn i, ydi creu llinynnau gwahanol i'r stori, a'u cael i wâu drwy ei gilydd, a chwrdd yn y diwedd. Os hynny, er mor minimal oedd o, mi oedd 'na blot yn Brithyll.

Pan gyhoeddwyd y dilyniant, Madarch, mynegodd sawl darllenwr ac adolygwyr (llenorion a beirniaid yn eu mysg, nid jesd darllenwyr nofelau brwd) fod 'na 'fwy o blot', neu 'blot cryfach' ynddi. Ymatebodd ambell un (a minnau yn eu plith!) efo, "mae 'na blot ynddi, felly!" Eto, mae hynny'n sylw digon teg. Mae pobl wedi arfer efo nofelau sydd â phlot cryf a chymleth, ac os mai dyna sydd at eu dant nhw, wel, grêt.

Ond wrth fynd yn ôl at un o'r diffiniadau uchod - fod plot yn creu edefynnau rhyngweithiol sy'n plethu at eu gilydd wrth ddod i gwlwm taclus yn y diwedd - fyswn i'n deud fod 'na blot pendant yn Madarch. Dim mod i'n credu ei bod y math o nofel sydd angen plot, a dim mod i wedi gwneud ymdrech i greu plot, a dim mod i chwaith yn credu fod angen plot ar nofel o'i bath. Nofelau character humour, yn cael eu gyrru gan ddeialog sydyn, ffraeth a naturiol, ydi Brithyll a Madarch (a Crawia) wedi'r cwbl.

Ond o edrych ar Madarch er engraifft, mae'r plot yn amlwg: mae na wylnos yn nhop y cwm, mae'r hogia'n gorfod cyrraedd yno heb i'r cops eu stopio, ac wedi cyrraedd mae rhaid iddyn nhw ffendio'u ffordd oddi yno i gyrraedd yr ysbyty ar gyfer genedigaeth eu plant - ond yn y cyfamser mae rhywun wedi llosgi tŷ haf hanner ffordd i lawr y cwm a mae'r heddlu wedi selio'r cwm i ffwrdd. Dio'm yn stwff The Da Vinci Code, nacdi, ond mae digon o edefynnau'n gwau mewn ac allan o'i gilydd ynddo fo. Mae gennym efeilliaid yn dwyn corff eu tad o'r fynwant er mwyn ei gladdu gartra, ymgais y criw o hogia i gyrraedd y wêc, ymdrechion yr heddlu i'w dal, gwrthdaro rhwng heddweision ac adrannau gwahanol o'r heddlu, problemau domestig Tiwlip, landlord y Trowt, damwain, gwarchae a breakout, a thu ôl y cwbwl mae 'na rywun yn llosgi tŷ hâf, ac mae'r merchaid - sydd adref efo'r plant - yn dechrau cael poenau geni babis... Ac mae 'na dwist neu ddau ar ddiwedd y nofel hefyd.

Ydi hynna'n ddigon o blot i gael ei alw'n blot? Dwi'n meddwl ei fod o. Ond dim dyna sy'n bwysig. Be sy'n bwysig ydi mai dyna faint o blot oedd y stori ei hangen i wneud iddi weithio. Fel ddudis i, mae'r syniad fod rhaid i nofel gael plot yn hen ffasiwn a phedantic. Fformiwla ydi o, dim byd arall. Faint o blot sydd 'na yn rhai o lyfra Irvine Welsh? Mae 'na stori gryf a gafaelgar, a mae'r cymeriadau yn ymddangos o wahanol gyfeiriadau ac yn crwydro tua'i gilydd (yn weddol sydyn) wrth i'r stori ddatblygu. Ond does 'na fawr o blot mewn nofelau fel Trainspotting a Porno, yn nagoes? Fel o'n i'n deud, os di'r stori a'r cymeriadau yn afaelgar a difyr, a bod y nofel yn symud yn naturiol ac yn darllan yn rhwydd, i be sydd angen plot?

Mae 'na blot cryfach eto yn Crawia, medda nhw i mi. Dwi'n digwydd bod yn cytuno. Ond fedra i ddim dweud mod i wedi gneud dim byd sylweddol yn wahanol wrth sgwennu hon, heblaw ambell ddatblygiad yn fy arddull (dim byd y byddai rhywun yn sylwi arno'n syth, efallai). Mi wnes i wneud penderfyniad i fod yn dywyllach oherwydd dydi bywyd ddim yn fêl i gyd yn ein cymunedau ar y funud. Mae'r ffaith fod plot cryfach ynddi yn deillio o'r ffaith fod y stori'n digwydd gweddu i blot cryfach, a bod yr edefynnau'n ymddangos yn naturiol. Mae'r fformiwla, mwy neu lai, yn union run fath a'i dwy rhagflaenydd.

1 comment:

Cer i Grafu said...

'Aeth Hafina Clwyd, yn Y Cymro, yn bellach, fel y clywais ddwy flynedd yn ddiweddarach. Wrth rwygo'r nofel yn ddarnau gofynnodd beth yw pwynt nofel heb blot.'

'Swn i'm yn becso bthdi barn honco Dewi, onid yhi sgrifenws y llifir
'Buwch ar y Lein' am ei phrofiada yn llundain - ac ma'r teitl yn gwed y cwbwl.