Gallaf ddweud, fel un o'r bobol y sonnir amdano yn un pennod o'r llyfr, fod sawl gwall yn y gohebiaeth yn deillio o adroddiadau'r cyfnod - pethau bach fel oed a galwedigaeth ac ati, a phethau mwy arwyddocaol, hefyd, fel methu nodi'r ffaith ei bod hi'n 7 wythnos ar ôl arestio Sion Aubrey Roberts a David Gareth Davies arna fi'n cael fy arestio). Ac mae anwybodaeth yr awdur o hanes canoloesol a hanes modern cynnar, a hwyrach, Cymru yr un mor dila ag oedd ei ddealltwriaeth o'r Gymry Gymraeg pan oeddwn yn aelod o'r un blaid ag o ar droad y ganrif hon. Nid Owain Tudur o Fôn oedd tad Harri'r VIII (mewn difri calon)!
Hefyd, oherwydd fod y llyfr wedi ei sgwennu o nodiadau ac adroddiadau'r awdur a'r papur newydd ar y pryd, mae 'na chydig flynyddoedd ar goll, lle mae'r awdur yn gweithio ym Mrwsel. Nid yn unig mae hyn yn gadael bwlch enfawr yn y stori, ond mae'r awdur yn mynd i ffwrdd ar danjent am bennod cyfan, yn disgrifio ei amser yn newyddiadura ym Mrwsel, yna'n dychwelyd i flynyddoedd diweddara ymgyrch Meibion Glyndwr, flynyddoedd yn ddiweddarach!
Nid oes yma ddamcaniaethu manwl am y gwahanol 'phases' o ymgyrch MG. Nid oes unrhyw grybwyll, heb son am drafod, damcaniaeth yr heddlu a'r gwasanaethau cudd fod tri gwahanol 'cenhedlaeth' wedi cymeryd yr awennau. Cyn belled â bod yr ymgyrch losgi yn y cwestiwn, mae llyfr Alwyn Gruffydd "Mae Rhywun yn Gwybod" - er yn methu datgelu unrhyw beth - yn hanes llawer mwy cynhwysfawr na'r hyn a geir yma.
Serch hyn, ceir ymdrech - er digon denau ac heb fawr ymchwil newydd - i drafod anghyfiawnder cyrch Operation Tân, Sul y Blodau 1980.
Un o'r pethau sy'n achub y llyfr, fodd bynnag, a hwnnw ydi'r unig elfen o'r llyfr sydd yn seiliedig ar 'ymchwil' newydd - er mai cwpwl o sgyrsiau anffurfiol efo John Jenkins, Llywydd Gweithredoedd MAC, dros y blynyddoedd ydi'r 'ymchwil' hynny. Datgela JJ enwau unigolion eraill o du'r mudiad gweriniaethol ar gyrion Plaid Cymru, a chwaraeodd ran gweithredol yn ymgyrch fomio MAC. Datgelir yr enwau (trwy ganiatad y teuluoedd, dwi'n cymeryd), am eu bod bellach wedi marw. Bydd rhai o'r enwau hyn yn rhai amlwg i nifer o haneswyr gwleidyddiaeth ail hanner yr 20ed ganrif yng Nghymru, eraill ddim, ac eraill yn ddynion llawr gwlad oedd y werin yn gwybod amdanynt eisoes. Mae yma hefyd enwau un neu ddau o 'weithredwyr' llawr gwlad a drodd yn infformars ar ôl cael eu harestio efo ffrwydron yn eu meddiant.
Er mai ychydig iawn sydd, difyr yw'r ychydig hynny o oleuni a deflir gan y Direstor of Operations John Jenks ei hun ar ddigwyddiadau adnabyddus - a'r trychinebus, yn achos Merthyron Abergele - yn ystod yr ymgyrch. Ond fel y gellir disgwyl oherwydd natur y pwnc, gadewir y darllenydd yn awchu am fwy, ac nid bai yr awdur yw hynny.
Be ydi bwriad, neu gasgliad yr awdur? Wel, heblaw am geisio cofnodi'r ymgyrchoedd bomio mewn dull mwy gwrthrychol na "To Dream of Freedom" Roy Clews, mae'r awdur yn ceisio dangos fod cysylltiad cyson - continuity - rhwng MAC ac MG: mai'r un bobol oedd yn aildanio'r frwydr ar ddechrau ymgyrchoedd newydd. Does gan yr awdur ddim tystiolaeth o gwbl am hyn, fodd bynnag, heblaw ei fod yn damcaniaethu trwy ddarllen 'rhwng llinellau' ei sgyrsiau anghynnwysfawr efo John Jenkins.
Be sy'n dod allan yn gliriach gan yr awdur, ydi ei gasgliad fod yr ymgyrchoedd treisgar wedi hybu - nid tanseilio - achos y mudiad cenedlaethol ehangach yng Nghymru, ac wedi hybu - nid tanseilio - achos cyfansoddiadol a diwylliannol ein cenedl. Yn hynny o beth, alla i ddim cytuno mwy. Er nad oes fawr ddim mwy o wybodaeth cyhoeddus yn y llyfr na sydd eisoes ar gael yn gyhoeddus, mae'r awdur digon didwyll hwn yn defnyddio'r hyn sy'n wybodus yn effeithiol iawn wrth ddod i'r casgliad hyn, ac yn gosod y ddadl yn gyson drwy'r tudalennau, wrth ddod i gasgliad pendant, trylwyr, arbenigol ac argyhoeddiadol iawn - a hynny am y tro cyntaf yn llenyddiaeth Gymreig.
Ac o ran hynny, dyma un maes efallai, lle mae golwg newyddiadurol yn fwy gwerthfawr nag un ysgolhaig.
2 comments:
Rhyw chwarter ffordd trwy'r llyfr ydw i ar y funud, ond mae'n rhaid dweud mod i'n dueddol o gytuno a chdi, hyd yn hyn. Mae'r darn sydd yn ymdrin a hanes Cymru o Llywelyn ap Gruffydd hyd at Owain Glyndwr yn "pop-history" o'r math gwaethaf, ac mae 'na dueddiad i ysgrifennu mewn ystradebau newyddiadurol. Ond dwi ddim am gondemnio cyn gorffen darllen - a dwi'n fodlon cydnabod bod 'na bytiau difyr iawn yma a thraw.
Fyddwn i ddim yn condemnio'r llyfr, fy hun. Er y gwendidau/cyfyngiadau tydyn nhw ddim yn tynnu gormod oddiar fyrdwn y llyfr ac, yn y diwedd, mi oedd taer angen sgwennu'r gyfrol.
Wyt ti wedi ei orffen bellach? Da fyddai clywed be ti'n neud ohono.
(Siaradist di'n gall ar Taro'r Post heddiw, gyda llaw)
Post a Comment