04/01/2011

Cyfiawnder i Gary Critchley: prynwch grys-t Cymraeg i gefnogi!

" The most blatant miscarriage of justice in Britain." - Private Eye

Yn 198o, aeth gŵr ifanc o Birmingham i aros mewn sgwat ar 4ydd llawr Campbell Buildings, Llundain, efo ffrind am bythefnos. Ar y 10ed diwrnod o'r pythefnos hwnnw, darganfuwyd Gary yn gorwedd wedi brifo'n ddifrifol ar y pafin, 50 troedfedd islaw ffenest y sgwat.

Roedd Gary wedi torri asgwrn ei gefn, ei figwrn a'i arddwrn, ac mi ganfuwyd yn ddiweddarach ei fod wedi dioddef difrod i'w ymennydd efo ergyd galed i ganol ei dalcen efo morthwyl. Roedd o hefyd yn dioddef o hypothermia.

Pan ymchwiliodd yr heddlu i'r achos, cafwyd hyd i gorff gŵr o'r enw Edward McNeill yn y sgwat ar y pedwerydd llawr. Roedd o wedi ei guro i farwolaeth efo morthwyl - wedi ei daro bron i 30 o weithiau - ac roedd yr ystafell yn waed i gyd. Gwaed Mr McNeill oedd y rhan fwyaf ohono, a gwaed Gary Crithcley oedd rhywfaint. Cafwyd peth o waed Gary, hefyd, ar declyn cloi olwyn lywio car yn y sgwat.

Cafwyd hyd i forthwyl gwaedlyd yn y sgwat, a chadarnhawyd mai hwnnw oedd yr arf a ddefnyddiwyd i guro Mr McNeill i farwolaeth. Doedd arno ddim olion bysedd nac unrhyw olion fforensig arall i'w gysylltu â Gary Critchley. Mewn bwndel o ddillad sbar yn perthyn i drigolion y sgwat, cafwyd hyd i olion gwaed Mr McNeill a Gary ar bar o jîns, ac olion gwaed Gary yn unig ar grys-T.

Er fod gwaed Mr McNeill wedi ei wasgaru dros yr ystafell i gyd - wedi iddo waedu cymaint nes bod ei gorff yn wag o waed - ni chafwyd hyd i un diferyn ohono ar ddillad Gary nac ar ei gorff pan gafwyd hyd iddo yn anymwybodol ar y stryd 50 troedfedd islaw.

Wedi ei gyhuddo a'i ryddhau ar fechniaeth, dychwelodd Gary i Birmingham ar faglau. Yn mis Mai 1981, er gwaethaf diffyg tystiolaeth fforensig, dyfarnwyd Gary Critchley yn euog o lofruddio Mr McNeill, a cafodd ei ddedfrydu i gael ei garcharu 'at Her Majesty's Pleasure' (y fersiwn troseddwr ifanc o garchariad am oes).

Argymhellodd yr Arglwydd Ganghellor ar y pryd na ddylai Gary Critchley dreulio mwy na 8-9 mlynedd yn y carchar. Mae Gary bellach wedi treulio 30 mlynedd dan glo.

Mae manylion yr achos, yn ogystal ag hanes ei ymdrechion i brofi ei ddieuogrwydd i'w gweld yma. Yn ogystal, mae'r datblygiadau diweddaraf yn yr ymgyrch i'w ryddhau, gan gynnwys cefnogaeth gan enwogion amlwg fel UB40 i'w cael ar y dudalen yma.

Mae teulu a ffrindiau Gary Critchley wedi bod wrthi ers amser yn ymgyrchu i glirio ei enw ac i'w gael allan o'r carchar ac adref at ei annwyliaid. Mae nifer o newyddiadurwyr ac enwogion megis UB40, a nifer o Aelodau Seneddol hefyd, bellach yn cefnogi'r ymgyrch. Yn ddiweddar, penderfynwyd lledaenu cyhoeddusrwydd am yr achos i wledydd eraill trwy atgynhyrchu crysau-T yr ymgyrch mewn ieithoedd eraill. Y Gymraeg yw'r iaith gyntaf a ddewiswyd, diolch i gysylltiadau teuluol rhwng rhai o gefnogwyr Gary â Chymru. Fi wnaeth y cyfieithu (tra'n cadw'r dyfyniad cryf gan Private Eye yn Saesneg, rhag ofn colli effaith), ac mi fyddaf i hefyd yn un o'r rhai fydd yn gyfrifol am ei werthu. Erfyniaf arnoch, felly, i gefnogi'r achos dyngarol hwn trwy gyfrannu £8 (+£1.50 p&p) i brynu un o'r crysau arbennig hyn. Dim ond nifer bychan sydd wedi eu cynhyrchu yn y Gymraeg, felly bachwch y cyfle i gael gafael ar eitem brin iawn, a chefnogi achos gwerth chweil wrth wneud. Mae dewis o ddu neu wyn, ac maent ar gael yn y meintiau canlynol: S, M, L ac XL, yn ogystal â lady fit S, M ac L (gweler y llun).

Gallwch dalu trwy Paypal (rhowch dewiprysor[at]btinternet[dot]com yn y llinell payee), neu fe allwch yrru siec yn daladwy i Gary Critchley Campaign ataf i yma yn Llan Ffestiniog. Ebostiwch y cyfeiriad uchod am fy nghyfeiriad. Diolch yn fawr iawn. Dyma rai o'r tyllau amlwg niferus yn yr achos yn erbyn Gary (wedi eu codi'n uniongyrchol o'r wefan:

Just some of the many discrepancies include:

1. The prosecutor said that the hammer blow to Gary’s own head- which caused him serious frontal lobe damage – must have been made by Gary himself, in a frenzy, as he carried out the savage attack on Mr McNeill. For that to be correct, however, Gary’s injury, would have been caused by the claw end of the hammer – but his injury was the same as Mr. McNeill’s, consistent with the round end of the hammer.

2. The only forensic evidence linking Gary to the attack was an undone training shoe – two to three sizes too small for him – jammed onto Gary’s left foot, when found on the floor beneath the squat. On his other foot was one of his own laced-up boots which witnesses said he had been wearing that day. Footprints “exactly similar” to the print on the sole of the trainer were found in the flat, which the prosecutor argued showed Gary was in the room after McNeill was attacked and probably killed.

There was no blood on the sole of the boot and no boot print in the flat. There was no sign of his other boot. The prosecution’s argument was that ‘punks wore odd clothes like that’ – even if it was far too small for his foot

3. Prosecutors relied on the fact that Gary had told police he did not remember going to the squat with Mr.McNeill, but then in a letter to friends written during his three months in hospital, (with memories recalled through conversations with visitors to him in hospital), he said he must have taken Mr. McNeill home and got drunk, and remembered opening the door and being struck. They said that Gary’s claims of amnesia were bogus, despite frontal lobe damage causing gaps in memory.

4. The prosecution also made a feature of ‘the fact’ that that no-one else would have known how to have latched and unlatched the door of the squat. Contemporary writings and memoirs state that hundreds of people who’d used or visited the squats knew how to do this

5. How could Gary have bludgeoned a man almost 30 times, (to the extent that Mr. McNeill’s body, when found, was drained of blood,) and been found with NOT ONE drop of that blood on him, tho he was covered in his own?

Gary had one appeal, in 1982, but it was ruled that there was no new evidence (a requirement of an appeal hearing) with which to question the conviction.

06/03/2009

Hiwmor yn erbyn yr ods!

Newydd siarad efo fy ffrind sy'n byw drws nesa. Roedd o'n flin ei fod o wedi gorfod treulio Dydd Gwyl Dewi - o naw o'r gloch y bore tan bump y prynhawn - yn siarad Saesneg.

Wedi cytuno i fynd ar gwrs Cymorth Cyntaf ar ran mudiad gwirfoddol lleol oedd o (pam fod y cwrs ar ddydd Sul, dwn i ddim), gan fod pob mudiad sy'n ymwneud â'r cyhoedd yn gorfod cael bobl cwaliffied mewn cymorth cyntaf yn eu rhengoedd, am wn i.

Ar y cwrs efo fo, oedd 6 person arall - o Fairbourne, Morfa Nefyn ac Abersoch. A'r cwbl, yn ogystal â'r instryctor, yn Saeson. Oedd, fel Cymro, roedd fy ffrind yn owtnymbyrd o 7 i 1.

O fewn dim, roedd o wedi cael llond bol o'r "we've got a summer home in Fairbourne" ac yn y blaen, ond mi sticiodd ati, chwarae teg, er mwyn gorffen y cwrs. Ond roedd rhaid iddo wneud rhywbeth i dorri ias, er mwyn gallu teimlo'n fwy cyfforddus ymysg yr estroniaid. Felly, pan orchmynnodd yr instryctor iddyn nhw fynd i mewn i'r ystafell nesaf "to look for the patient", mi welodd ei gyfle.

Wrth i'r chwech Sais glosio at y dymi oedd yn gorwedd efo sos coch drosto, ar y bwrdd, rhedodd fy mêt heibio iddyn nhw, gwneud fforward rôl, a sbringio i fyny i'w draed wrth ymyl y bwrdd, pwyntio yn ddramatig at y dymi, a gweiddi, "dyma fo!"

Chwarae teg!

05/03/2009

Achub y Sesiwn, ac achub ein hunanbarch

Wel, dyna ni. Dim Sesiwn Fawr eleni. Mae'r cyhoeddiad wedi ei wneud, ac mae gan Gymry Cymraeg ifanc sy'n 'dilyn cerddoriaeth' yng Ngwynedd a thu hwnt rwbath i siarad amdano pan fyddan nhw'n mynd allan y penwythnos yma i wario ffortiwn ar uchafbwynt nosweithiol y chwydfa fler, gyhoeddus ar y pafin.

Ia wir, sioc ydi hi iddyn nhw, na fydd gŵyl sydd wedi darparu amser bythgofiadwy - heb son am gyfleon diri i chwydu, malu tentia, a chwydu chydig mwy - iddyn nhw bob blwyddyn ers amser bellach, yn digwydd eleni. Ia wir. Falla wnaiff hâf heb y Sesiwn Fawr ddysgu iddyn nhw werthfawrogi'r ŵyl a'i chyfraniad i'w bywyd cymdeithasol a diwylliannol. Hynny yw, ei gwerthfawrogi hi ddigon i helpu i'w hachub o'i thrafferthion ariannol.

Er cynddrwg ein sefyllfa ddiwylliannol fregus, mae na genhedloedd bychain di-wladwriaeth a diwylliannau lleiafrifol eraill sydd mewn llawer gwaeth twll na ni'r Cymry Cymraeg. Ond does yna run ohonyn nhw, hyd y gwn i, sydd mor ddiog a difater â ni. Mae nhw i gyd yn llwyddo i gynnal gwyliau llwyddiannus yn flynyddol, a phob un yn ffrwyth cyd-dynnu a chydweithredu'r gymuned a chenedl/lleiafrif cyfan. Ac os oes unrhyw fygythiad ariannol i'r gwyliau hynny, mi ddaw'r bobol at ei gilydd a mi godan nhw'r pres sydd ei angen, a mi gan nhw hi yn ôl ar ei thraed ymhen dim.

Iawn, mae 'na elfen o wirionedd yn y ddadl fod sefyllfa cymharol iach diwylliant Cymraeg, o ran fod gennym ni sefydliadau cenedlaethol fel sianel deledu Gymraeg ac ati, yn golygu dirywiad ar lawr gwlad yn ein cymunedau, wrth i feddyliau annibynol a thalentau byrlymus gael eu llusgo naill ai i Gaerdydd neu i yrfaoedd efo cwmniau teledu lleol sy'n rhan o'r diwydiant cyfryngol. Dyna ydi ochr arall y geiniog o gael sefydliadau fel S4C, y Bwrdd Iaith a'r Cynulliad Cenedlaethol a.y.b. - gwaedlif talent, ymroddiad a gweledigaeth o'r ardaloedd Cymraeg yn gadael dim digon o drefnwyr a gweithredwyr cymunedol a diwylliannol ar ôl (yr un rhai sydd i'w gweld yn gneud bob dim, yn anochel, sylwch).

Mae'n wir i ddeud hefyd, fod gormes biwrocrataidd y Blaid Lafur, ynghyd a'u glyniant i fodelau ariannol Thatcher, yn golygu fod costau Iechyd a Diogelwch, a chydweithrediad yr heddlu, yn golygu ein bod o dan anfantais yma o'i gymharu â rhai o'r gwledydd bychain eraill.

Ond does 'na run o'r rhain yn esgus. Achos mi ddylan ni fod yn gryfach na hynny. Dylia bod ni'n gallu bod yn ddigon ymroddgar a chydwybodol - ac efo digon o dalent - i gynnal sefydliadau cenedlaethol (a bwydo'r diwydiant atodol) yn ogystal â chynnal y mentrau a digwyddiadau sy'n helpu i gynnal cymunedau a'u gwneud yn llefydd gwerth byw ynddyn nhw. Rhyngthon ni, mae gennym ni ddigon o ddoniau a sgiliau a chrefftau ac adnoddau i'w cyfrannu i wneud i ŵyl gerddorol dalu'i ffordd!

Efallai ein bod wedi'i chael hi'n rhy dda. Yn genedlaethol, rydan ni wedi dod i arfer efo handowts gan y wladwriaeth - da ni'n rhai da am ddisgwyl i Lundain roi petha i ni, ond yn da i ddim byd am sefyll ar ein traed ein hunain. Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein cymunedau, lle mae efallai gormod o grantiau wedi bod yn cael eu taflu o gwmpas, yn gyffredinol, dros y blynyddoedd dwytha. Mae o'n sicr yn cael ei adlewyrchu yn agwedd ein pobl. Mae gormod ohonom erbyn hyn yn disgwyl cael bob dim ar blat - popeth wedi'i goginio'n flasus ar eu cyfer gan yr un criw bach ymroddgar bob blwyddyn. Mae o'r un mor wir yn achos y Sesiwn ag ydio am Gwyl Car Gwyllt - fydd, mwya tebyg, ddim yn digwydd eleni chwaith, oherwydd diffyg ymateb i apel am fwy o aelodau i'r pwyllgor oedd eisoes wedi shrincio i 4 aelod (mewn tref o dros 4,000 o bobl!).

Yndi, mae'n hunanbarch ni ar all time low. Os nad oes ganddon ni ddiddordeb mewn cynnal ein diwylliant a'n gweithgareddau cymunedol ein hunain, yna sut allwn ni fod â hygrededd fel cenedl a phobl? Sut allwn ni fod â'r gwyneb i heidio i unrhyw weithgaredd mae'r wladwriaeth - yn y bôn - wedi dalu amdano, a heidio'n feddw o flaen camera teledu i ganmol y Sesiwn - a'r trefnwyr am roi cymaint o fwynhad i ni - ac i ddatgan mor bwysig ydi'r digwyddiad i'n calendr cymdeithasol ac i'n bywydau personol a chenedlaethol, yna, pan mae'n dod i'r crynsh, ffwc o neb onan ni'n barod i helpu, heb son am roi ein dwylo yn ein pocedi?

Felly, be amdani? Be am i bawb sydd wedi mynychu'r Sesiwn Fawr dros y blynyddoedd diwethaf ddangos ein bod hi'n werth mwy i ni na wicend o feddwi'n gacan ar y Marian bob blwyddyn? Be am i ni gyd gyfrannu cyfran o'r arian fyddan ni'n ei wario fel arfar yn y Sesiwn Fawr bob blwyddyn, i'r apêl i godi arian i'w hachub hi? Tasa ni i gyd ond yn rhoi deg punt yr un, hyd yn oed, fysa fo'n sicrhau ei bod yn werth ei chynnal hi y flwyddyn nesa, a tasa ni'n rhoi pymtheg, neu ugain punt, fysa hi'n saff. Be uffarn ydi hynny o'i gymharu a gwario hannar can punt ar nos Sadwrn yn yr un hen dafarnau da ni'n arfar mynd iddyn nhw, i bwmpio'n stumogau allan ar y pafin ar ddiwadd nos? Rois i £20 i Comic Relief heddiw. Rois i £30 i apêl Gaza yn ddiweddar. A dw i ddim yn ennill cyflog. Be dwi di neud ydi sdopio mynd i pybs ar wicend i biso pres prin yn erbyn y wal.

Ffordd dwi'n sbio arni, os na achubwn ni'r Sesiwn Fawr fydd o'n all-time low yn hanes dirywiad ein cydwybod cymdeithasol, traddodiad cydweithredol, ysbryd cymunedol, hygrededd a hunanbarch fel Cymry Cymraeg. Ond os wnawn ni ei hachub, meddyliwch gymaint cyfoethocach yn ysbrydol a chymaint yn fwy hyderus yn ein galluoedd ein hunain y byddwn ni wedyn! Mae pres yn gallu prynu cwrw a cur pen bora wedyn, ond mae chydig o bres yn y lle iawn yn gallu prynu rwbath llawar llawar gwell. Mae'r teimlad o gyflawni rhywbeth efo'n gilydd yn rhywbeth amhrisiadwy. Y teimlad yna ein bod ni wedi dangos ein bod ni isio gweld y Sesiwn yn parhau, a'n bod ni - ia ni, y bobol - isio ei hachub, ein bod ni'n barod i drio'i hachub, ac ein bod ni YN MYND i'w hachub. Yna datgan i'r byd - yn falch ac efo cydwybod clir - ein bod ni WEDI EI HACHUB!

Rhowch o fel hyn - mi fysa'n well gen i roi hannar canpunt i achub y Sesiwn na talu ffeifar bob wythnos o'r flwyddyn am rifau loteri, er mwyn talu am Olympics Llundain yn 2012. Ac ar ddiwadd y dydd, mae rhoi cyfraniad ariannol i'r Sesiwn Fawr yn fuddsoddiad diwylliannol a chymdeithasol gwerth ei wneud os ydio'n golygu fod yr ŵyl yn parhau am ddeng mlynadd arall, ac y bydd hi'n dal yn fflio mynd pan fydd fy mhlant innau yn chwydu ar bafinoedd ac yn malu tentia!

03/03/2009

Y Gyfraith Foesol yn fyw o hyd

Ddoe, fe gyhoeddodd y Department of Transport y byddant yn diddymu'r gwaharddiad ar arddangos baner y Ddraig Goch ar blatiau rhifau cofrestru ceir. Bydd hyn yn digwydd ddiwedd mis Ebrill - saith mlynedd wedi iddynt addo ailedrych ar y rheol.

Ond be sy'n ddifyr ydi fod degau o filoedd o Gymry wedi bod yn arddangos y Ddraig Goch ar eu platiau ers blynyddoedd bellach, er eu bod yn ymwybodol eu bod yn torri'r gyfraith ac yn risgio dirwy o £60 am wneud hynny.

Mae hyn yn engraifft berffaith o bobl yn dewis anwybyddu - a thorri - cyfraith gwlad os ydyn nhw'n teimlo ei bod yn anheg, anghyfiawn neu'n anfoesol, ac yn dewis dilyn yr hyn mae haneswyr wedi ei henwi yn 'gyfraith foesol' - cyfraith annysgrifenedig sydd yn cadw at chwarae teg a chyfiawnder, ac y mae trwch y boblogaeth yn credu ei bod yn iawn torri cyfraith gwlad er mwyn ei dilyn. Os oedd cyfraith gwlad yn un amlwg anheg yng ngolwg y rhan fwyaf o'r boblogaeth, yna doedd dim ofn gan neb ei thorri hi, yn gwbl agored a chyhoeddus. A doedd dim stigma ynghlwm â hynny chwaith. Doedd pobl ddim yn cyfri eu hunain yn griminals am dorri'r gyfraith anghyfiawn, a doedd pobl ddim yn edrych arnyn nhw fel criminals chwaith. Yn wir, fyddai y rhan fwyaf o'r bobl oedd yn torri'r cyfreithiau anghyfiawn byth yn meiddio torri cyfreithiau eraill a herio'r drefn mewn unrhyw ffordd, dan amgylchiadau naturiol. Yn syml, roedd 'na rai cyfreithiau gwlad hynod anheg ac roedd pobl yn fodlon gwneud safiad, a chyn belled nad oedd neb diniwed yn cael niwed, doedd y gyfraith foesol heb ei thramgwyddo.

Os oes un peth sydd yn drech na chyfraith gwlad, felly, y gyfraith foesol yw honno. Yn hanesyddol, dilyn y gyfraith foesol a herio cyfraith gwlad oedd y terfysgwyr ŷd yn y 18ed a 19ed ganrif, wrth ymosod ar stordai ŷd oedd yn cadw'r ŷd oddi ar y bobl er mwyn ei werthu am grocbris, ar adegau o gynhaeafau sal a phrinder bwyd. Y gyfraith foesol oedd yn gyrru Rhyfel y Degwm yn erbyn hawl yr Eglwys i gymeryd degfed rhan o ennillion a chynnyrch ffermwyr a thenantiaid tlawd y tirfeddianwyr Anglicanaidd cefnog, er mai capelwyr Anghydffurfiol oeddynt. Y gyfraith foesol oedd yn arwain y terfysgoedd yn erbyn cau'r tiroedd comin. Y gyfraith foesol oedd yn cyfrif am y gefnogaeth - a chydweithrediad - poblogaidd i smyglo, oherwydd y trethi a thollau anghyfiawn o uchel oedd ar nwyddau fel tybaco, gwirod, tê, siwgr, sebon a sidan - a myrdd o bethau eraill.

Ac yn un o'r engraifftiau mwyaf amlwg yng Nghymru - y gyfraith foesol oedd sylfaen moesol Merched Beca wrth iddyn nhw dorri cyfraith gwlad wrth ymosod ar y tollbyrth noson ar ôl noson yn yr 1830au a 40au.

Yn rhyngwladol, edrychwch yn ôl i flynyddoedd Prohibition yn yr UDA, pryd oedd rhan fwyaf y genedl yn torri cyfraith gwlad yn ddyddiol oherwydd fod y gyfraith honno yn mynd yn groes i foesoldeb trwy wahardd arferiad mor naturiol â mwynhau ychydig bach o alcohol!

Yn y cyfnod modern, rydan ni wedi gweld miloedd o bobl yn ymwrthod â chyfraith gwlad anfoesol y Poll Tax trwy dorri cyfraith gwlad a pheidio ei dalu (neu gymeryd rhan mewn terfysgoedd yn ei erbyn). Rydym wedi gweld blynyddoedd o gefnogaeth boblogaidd i'r farchnad ddu mewn tybaco a gwirod duty free oherwydd fod pobl yn teimlo fod trethiant gormodol ar gwrw a ffags yn anghyfiawn. Does fawr neb yn edrych ar rywun sy'n gwerthu chydig o faco, neu dafarnwr sy'n gwerthu ambell botel o fodca diwti ffri, fel troseddwr y dylid ei lusgo o flaen ei well. Tydi pobl ddim yn edrych ar werthwyr copiau peirat o DVDs a CDs mor ddifridol a mae'r awdurdodau yn edrych arnynt. Yn llygaid y bobl, sydd yn gwybod beth yw pris cynhyrchu'r disgiau, maent yn gwneud cymwynas â nhw drwy ddarparu cynnyrch am bris rhad.

Does neb chwaith yn gweld unrhyw beth yn anfoesol mewn cadw arian rhag dwylo'r Dyn Treth Incwm! Mae'n iawn, yng ngolwg cymdeithas, i rywun werthu samons neu bysgod môr, neu goed tân, am arian parod, a does neb yn rhedeg at yr awdurdodau i grassio rhywun i fyny am wneud diwrnod o waith am arian parod ar benwythnos. Eto, mae'r gweithredoedd yma, yng ngolwg cyfraith gwlad, yn anghyfreithlon - fel y mae fandaliaeth, dwyn a llofruddiaeth yn anghyfreithlon. A fyddai neb yn fodlon troi llygad i ffwrdd o'r gweithgareddau hynny! Gwelwn yr un egwyddor ar waith gyda defnyddwyr cannabis. Yn eu barn nhw mae cyfraith gwlad ar y cyffur yn gwbl anghyfiawn, felly mae nhw'n fwy na pharod i dorri'r gyfraith honno er na fyddai'r rhan fwyaf ohonynt yn meiddio torri cyfreithiau eraill, ac ddim yn cyfri eu hunain yn 'criminals' mewn unrhyw ffurf.

Ac wrth gwrs, faint ohonom sydd yn credu fod gyrru car dros 60 milltir yr awr ar ffordd syth, agored heb draffig, yn rhywbeth drwg neu anfoesol i'w wneud?

Ydi, mae'r Gyfraith Foesol yn fyw o hyd, diolch byth. Ac engraifft arall o hynny - pobl yn fodlon torri cyfraith gwlad ar raddfa eang a phoblogaidd, a hollol dderbyniadwy yng ngolwg gweddill cymdeithas - ydi'r ffaith fod degau o filoedd o Gymry wedi bod yn gosod y dreigiau cochion ar eu platiau cofrestru dros y blynyddoedd dwytha 'ma.

Hir oes i'r gyfraith foesol!

Y Rhufeiniaid ar S4C. Ond......

Digwydd clywed darn o sgwrs rhwng Nia Roberts a Rhun ap Iorwerth ar y radio funud yn ôl. Bydd Rhun yn cyflwyno tair rhaglen ar hanes y Rhufeiniaid yng Nghymru, ar S4C, fydd yn dechrau ar y 10ed o'r mis yma.

Mae'n swnio'n gyfres gyffrous, ond mae gen i un pryder yn barod! Soniodd Rhun ap Iorwerth am deithio ar y ffordd (yr A470) heibio Trawsfynydd, a chanmol y Rhufeiniaid am ei gwneud hi mor syth, gan ofyn, yn ysgafn, pam na fysan nhw wedi gwneud rhai o ffyrdd y de mor syth â hon.

Y broblem sydd gen i ydi, nad y Rhufeiniaid adeiladodd y ffordd yma rhwng Trawsfynydd a Dolgellau (hynny yw, nid ar lwybr ffordd Rufeinig yr adeiladwyd yr A470 yn fan hyn)! Mae'r ffordd Rufeinig o Domen y Mur (i'r gogledd o Drawsfynydd) i Brithdir, yn rhedeg chwarter milltir i'r dwyrain o'r ffordd fodern yma, yn esgyn rai cannoedd o droedfeddi i fyny'r bryniau wrth fynd am y de o Drawsfynydd! Dyma Sarn Helen - ffaith sydd wedi ei gadarnhau gan archeolegwyr a haneswyr (fe'i gelwir hynny ar y mapiau), ac mae hi'n rhedeg yn ei blaen o Domen y Mur, ar draws Cwm Cynfal ac yn ei blaen i Gaerhun.

Deud y gwir, tydi'r ffordd Rufeinig ddim yn cyffwrdd â'r A470 yn unlle ym mhlwyf Traws - er ei bod yn dod o fewn canllath iddi rhwng y pentref a'r Atomfa. Yng nghyfnod y Rhufeiniaid roedd y tir y mae'r A470 syth, i'r de o Traws, yn goedwig ar ymyl tir corsiog go eang.

Tydi'r ffordd fawr rhwng Traws a Dolgellau (yr A470 bellach) ddim yn hen iawn. Roedd yr hen ffordd yn rhedeg yn weddol gyfochrog â Sarn Helen i Benstryd (uwchben Rhiwgoch, Bronaber), cyn ymuno â'r Sarn ar Ffridd Tyddyn Du ger Craig Penmaen, ac yn ei blaen am Ddolgellau wedyn. Mae'r hen gerrig milltir yn dal i sefyll ar ei hydddi - rhai wedi eu hailgodi yn ddiweddar, fel rhan o brosiect lleol.

Digwydd bod - os y gwelwch fy nhweets ar Twitter - mi fuas i'n cerdded Sarn Helen ddydd Sadwrn a ddydd Sul dwytha, ac mi fydda i'n postio'r hanes a'r lluniau i fyny ar y blog 'ma cyn hir. Mae posib dilyn y Sarn yr holl ffordd o ardal pont Dolgefeiliau (rhwng Ganllwyd a Thrawsfynydd) i Tomen y Mur, ble mae ffyrdd Rhufeinig eraill yn cyfarfod - un o Segontiwm, un arall o Gaergai (Llanuwchllyn) via Cwm Prysor a gwersylloedd Hiraethlyn, Dolddinas a Dolbelydr, ac un arall nas gŵyr neb yn union lle mae hi'n mynd. Mae posib dilyn y Sarn o Domen y Mur i lawr i Gwm Cynfal, ac i fyny heibio hen gaer Frythonig Bryn Castell uwchben Llan Ffestiniog, ac ymlaen i Gaerhun.

Dwi'n gobeithio nad yw faux pas Rhun ap Iorwerth yn rhan o ymchwil y rhaglen, ond yn hytrach yn gamgymeriad o'i ben ei hun wrth sgwrsio ar y radio heddiw. Byddai camgymeriadau o'r fath yn tanseilio hygrededd yr holl gyfres, ac yn sbwylio fy mwynhad ohoni wedyn.

02/03/2009

£48m dan fatras Cyngor Gwynedd (ond gadael eu gwlau fydd henoed Bryn Llewelyn)

Daeth i'r amlwg heddiw - diolch i ymholiad dan y Ddeddf Gwybodaeth Cyhoeddus gan BBC Cymru - fod gan Gyngor Gwynedd bron i £48 miliwn o bunnoedd wedi ei stashio i ffwrdd i'w gadw. Mae hynna'n bron i chwarter (24%) o gylllid y cyngor o £198miliwn o bunnau am flwyddyn.

Ia, dyna chi - y cyngor driodd (ac a fethodd) gau dwsinau o ysgolion bach gwledig oherwydd diffyg arian, y cyngor a driodd (ac a fethodd) gau dwsinau o doiledau cyhoeddus y sir oherwydd diffyg arian, y cyngor sydd yn trio (ond yn sicr o fethu) cael ysgolion cynradd y sir i gyfrannu £1,000 o'u cyllid blynyddol i gyflogi athrawon er mwyn lleihau maint dosbarthiadau mewn llond dwrn o ysgolion, y cyngor sydd wedi cydnabod yn gyson ac agored fod canran mawr o'i dai cyngor mewn angen dirfawr am waith cynnal a chadw pwysig ond nad oes ganddyn nhw'r cyllid i wneud hynny (ac na fydd ganddyn nhw tan ar ôl 2012), a'r cyngor sydd newydd bleidleisio i gau Cartref Henoed Bryn Llewelyn, yn Llan Ffestiniog, er mwyn - ia, dyna chi - "diffyg arian".

Byddai ffracsiwn o'r £48 miliwn yn talu am greu lle i hanner dwsin yn fwy o wlâu ym Mryn Llewelyn - fyddai'n dod a chostau-fesul-gwely rhedeg y cartref i lawr i'r pris mae nhw'n ddeisyfu, ac a fyddai'n sicrhau dyfodol swyddi'r gofalwyr yno, a sicrhau bod yr henoed sydd yno yn cael aros yn y lle mae nhw'n ei gyfrif fel eu cartref.

Dyna ydi'r parch sydd gan Gyngor Gwynedd at blant, athrawon, teuluoedd a henoed y sir yma! Torri gwasanaethau, cosbi ariannol, colli swyddi, gadael pobl yn byw mewn tai is-safonnol, cau cartrefi - tra'n eistedd ar fwy o gash na'r Euromillions Rollover. "Stwffio chi i gyd, gewch chi ddiodda. Ond cofiwch dalu'ch treth cyngor flwyddyn nesaf - fydd yn cynnwys y codiad blynyddol arferol fydd wedi'i gynnwys 'oherwydd gwasgfa cyllidol' o lywodraeth ganolog!"

Alla i ddim galw hyn yn sgandal, gan fod celcio pres fel hyn yn arferiad y mae'r cynghorau i gyd yn ei wneud (yn dawel, heb adael i ni'r trethdalwyr wybod), ers blynyddoedd mae'n debyg. Ond mi ddyweda i hyn - mae o yn gywilyddus, yn enwedig wedi blwyddyn o ddim byd ond torri, a cheisio thorri, gwasanaethau.

01/03/2009

"Grrrrrrrrr!!!" - Mr Angry, Ffestiniog

Clywed mod i'n cael fy nisgrifio fel 'angry' yn yr Herald wsnos yma. Llun o'no fi hefyd. Basdads. Jysd bo nhw'n rhan o Trinity Mirror mae nhw'n bihafio fel tabloid.

Son am y bwriad i gasglu sbwriel bob pythefnos yng Ngwynedd mae'r erthygl. Ffoniodd riportar fi dros bythefnos yn ôl, yn chwilio am farn bobol yr ardal am y bwriad. "First I heard of it," medda fi. "Well what do you think people's reactions would be?" "Probably pissed off," medda fi, "and worried about rats," gan ychwanegu ei bod yn anodd rhoi sylw call hyd nes gwybod y manylion llawn.

Wythnos yn ddiweddarach daeth y manylion gan y Cyngor (gweler isod). Tydi'r cynllun ddim yn rhy ddrwg, yn enwedig o weld fod y ddarpariaeth ailgylchu'n cael ei ehangu. Fel dwi wedi ei ddweud eisoes, mae'r cynllun yn haeddu cyfle.

Ond wele, yr Herald yr wythnos hon yn gwneud erthygl allan o'r sylwad wnes i dros y ffon - fy mod i wedi gwylltio am y cynllun! Dwi ddim yn hapus. A dwi'n mynd i sgwennu llythyr cas. Os ydyn nhw isio 'angry' mi gawn nw ffycin 'angry'!