03/03/2009

Y Gyfraith Foesol yn fyw o hyd

Ddoe, fe gyhoeddodd y Department of Transport y byddant yn diddymu'r gwaharddiad ar arddangos baner y Ddraig Goch ar blatiau rhifau cofrestru ceir. Bydd hyn yn digwydd ddiwedd mis Ebrill - saith mlynedd wedi iddynt addo ailedrych ar y rheol.

Ond be sy'n ddifyr ydi fod degau o filoedd o Gymry wedi bod yn arddangos y Ddraig Goch ar eu platiau ers blynyddoedd bellach, er eu bod yn ymwybodol eu bod yn torri'r gyfraith ac yn risgio dirwy o £60 am wneud hynny.

Mae hyn yn engraifft berffaith o bobl yn dewis anwybyddu - a thorri - cyfraith gwlad os ydyn nhw'n teimlo ei bod yn anheg, anghyfiawn neu'n anfoesol, ac yn dewis dilyn yr hyn mae haneswyr wedi ei henwi yn 'gyfraith foesol' - cyfraith annysgrifenedig sydd yn cadw at chwarae teg a chyfiawnder, ac y mae trwch y boblogaeth yn credu ei bod yn iawn torri cyfraith gwlad er mwyn ei dilyn. Os oedd cyfraith gwlad yn un amlwg anheg yng ngolwg y rhan fwyaf o'r boblogaeth, yna doedd dim ofn gan neb ei thorri hi, yn gwbl agored a chyhoeddus. A doedd dim stigma ynghlwm â hynny chwaith. Doedd pobl ddim yn cyfri eu hunain yn griminals am dorri'r gyfraith anghyfiawn, a doedd pobl ddim yn edrych arnyn nhw fel criminals chwaith. Yn wir, fyddai y rhan fwyaf o'r bobl oedd yn torri'r cyfreithiau anghyfiawn byth yn meiddio torri cyfreithiau eraill a herio'r drefn mewn unrhyw ffordd, dan amgylchiadau naturiol. Yn syml, roedd 'na rai cyfreithiau gwlad hynod anheg ac roedd pobl yn fodlon gwneud safiad, a chyn belled nad oedd neb diniwed yn cael niwed, doedd y gyfraith foesol heb ei thramgwyddo.

Os oes un peth sydd yn drech na chyfraith gwlad, felly, y gyfraith foesol yw honno. Yn hanesyddol, dilyn y gyfraith foesol a herio cyfraith gwlad oedd y terfysgwyr ŷd yn y 18ed a 19ed ganrif, wrth ymosod ar stordai ŷd oedd yn cadw'r ŷd oddi ar y bobl er mwyn ei werthu am grocbris, ar adegau o gynhaeafau sal a phrinder bwyd. Y gyfraith foesol oedd yn gyrru Rhyfel y Degwm yn erbyn hawl yr Eglwys i gymeryd degfed rhan o ennillion a chynnyrch ffermwyr a thenantiaid tlawd y tirfeddianwyr Anglicanaidd cefnog, er mai capelwyr Anghydffurfiol oeddynt. Y gyfraith foesol oedd yn arwain y terfysgoedd yn erbyn cau'r tiroedd comin. Y gyfraith foesol oedd yn cyfrif am y gefnogaeth - a chydweithrediad - poblogaidd i smyglo, oherwydd y trethi a thollau anghyfiawn o uchel oedd ar nwyddau fel tybaco, gwirod, tê, siwgr, sebon a sidan - a myrdd o bethau eraill.

Ac yn un o'r engraifftiau mwyaf amlwg yng Nghymru - y gyfraith foesol oedd sylfaen moesol Merched Beca wrth iddyn nhw dorri cyfraith gwlad wrth ymosod ar y tollbyrth noson ar ôl noson yn yr 1830au a 40au.

Yn rhyngwladol, edrychwch yn ôl i flynyddoedd Prohibition yn yr UDA, pryd oedd rhan fwyaf y genedl yn torri cyfraith gwlad yn ddyddiol oherwydd fod y gyfraith honno yn mynd yn groes i foesoldeb trwy wahardd arferiad mor naturiol â mwynhau ychydig bach o alcohol!

Yn y cyfnod modern, rydan ni wedi gweld miloedd o bobl yn ymwrthod â chyfraith gwlad anfoesol y Poll Tax trwy dorri cyfraith gwlad a pheidio ei dalu (neu gymeryd rhan mewn terfysgoedd yn ei erbyn). Rydym wedi gweld blynyddoedd o gefnogaeth boblogaidd i'r farchnad ddu mewn tybaco a gwirod duty free oherwydd fod pobl yn teimlo fod trethiant gormodol ar gwrw a ffags yn anghyfiawn. Does fawr neb yn edrych ar rywun sy'n gwerthu chydig o faco, neu dafarnwr sy'n gwerthu ambell botel o fodca diwti ffri, fel troseddwr y dylid ei lusgo o flaen ei well. Tydi pobl ddim yn edrych ar werthwyr copiau peirat o DVDs a CDs mor ddifridol a mae'r awdurdodau yn edrych arnynt. Yn llygaid y bobl, sydd yn gwybod beth yw pris cynhyrchu'r disgiau, maent yn gwneud cymwynas â nhw drwy ddarparu cynnyrch am bris rhad.

Does neb chwaith yn gweld unrhyw beth yn anfoesol mewn cadw arian rhag dwylo'r Dyn Treth Incwm! Mae'n iawn, yng ngolwg cymdeithas, i rywun werthu samons neu bysgod môr, neu goed tân, am arian parod, a does neb yn rhedeg at yr awdurdodau i grassio rhywun i fyny am wneud diwrnod o waith am arian parod ar benwythnos. Eto, mae'r gweithredoedd yma, yng ngolwg cyfraith gwlad, yn anghyfreithlon - fel y mae fandaliaeth, dwyn a llofruddiaeth yn anghyfreithlon. A fyddai neb yn fodlon troi llygad i ffwrdd o'r gweithgareddau hynny! Gwelwn yr un egwyddor ar waith gyda defnyddwyr cannabis. Yn eu barn nhw mae cyfraith gwlad ar y cyffur yn gwbl anghyfiawn, felly mae nhw'n fwy na pharod i dorri'r gyfraith honno er na fyddai'r rhan fwyaf ohonynt yn meiddio torri cyfreithiau eraill, ac ddim yn cyfri eu hunain yn 'criminals' mewn unrhyw ffurf.

Ac wrth gwrs, faint ohonom sydd yn credu fod gyrru car dros 60 milltir yr awr ar ffordd syth, agored heb draffig, yn rhywbeth drwg neu anfoesol i'w wneud?

Ydi, mae'r Gyfraith Foesol yn fyw o hyd, diolch byth. Ac engraifft arall o hynny - pobl yn fodlon torri cyfraith gwlad ar raddfa eang a phoblogaidd, a hollol dderbyniadwy yng ngolwg gweddill cymdeithas - ydi'r ffaith fod degau o filoedd o Gymry wedi bod yn gosod y dreigiau cochion ar eu platiau cofrestru dros y blynyddoedd dwytha 'ma.

Hir oes i'r gyfraith foesol!

No comments: