03/03/2009

Y Rhufeiniaid ar S4C. Ond......

Digwydd clywed darn o sgwrs rhwng Nia Roberts a Rhun ap Iorwerth ar y radio funud yn ôl. Bydd Rhun yn cyflwyno tair rhaglen ar hanes y Rhufeiniaid yng Nghymru, ar S4C, fydd yn dechrau ar y 10ed o'r mis yma.

Mae'n swnio'n gyfres gyffrous, ond mae gen i un pryder yn barod! Soniodd Rhun ap Iorwerth am deithio ar y ffordd (yr A470) heibio Trawsfynydd, a chanmol y Rhufeiniaid am ei gwneud hi mor syth, gan ofyn, yn ysgafn, pam na fysan nhw wedi gwneud rhai o ffyrdd y de mor syth â hon.

Y broblem sydd gen i ydi, nad y Rhufeiniaid adeiladodd y ffordd yma rhwng Trawsfynydd a Dolgellau (hynny yw, nid ar lwybr ffordd Rufeinig yr adeiladwyd yr A470 yn fan hyn)! Mae'r ffordd Rufeinig o Domen y Mur (i'r gogledd o Drawsfynydd) i Brithdir, yn rhedeg chwarter milltir i'r dwyrain o'r ffordd fodern yma, yn esgyn rai cannoedd o droedfeddi i fyny'r bryniau wrth fynd am y de o Drawsfynydd! Dyma Sarn Helen - ffaith sydd wedi ei gadarnhau gan archeolegwyr a haneswyr (fe'i gelwir hynny ar y mapiau), ac mae hi'n rhedeg yn ei blaen o Domen y Mur, ar draws Cwm Cynfal ac yn ei blaen i Gaerhun.

Deud y gwir, tydi'r ffordd Rufeinig ddim yn cyffwrdd â'r A470 yn unlle ym mhlwyf Traws - er ei bod yn dod o fewn canllath iddi rhwng y pentref a'r Atomfa. Yng nghyfnod y Rhufeiniaid roedd y tir y mae'r A470 syth, i'r de o Traws, yn goedwig ar ymyl tir corsiog go eang.

Tydi'r ffordd fawr rhwng Traws a Dolgellau (yr A470 bellach) ddim yn hen iawn. Roedd yr hen ffordd yn rhedeg yn weddol gyfochrog â Sarn Helen i Benstryd (uwchben Rhiwgoch, Bronaber), cyn ymuno â'r Sarn ar Ffridd Tyddyn Du ger Craig Penmaen, ac yn ei blaen am Ddolgellau wedyn. Mae'r hen gerrig milltir yn dal i sefyll ar ei hydddi - rhai wedi eu hailgodi yn ddiweddar, fel rhan o brosiect lleol.

Digwydd bod - os y gwelwch fy nhweets ar Twitter - mi fuas i'n cerdded Sarn Helen ddydd Sadwrn a ddydd Sul dwytha, ac mi fydda i'n postio'r hanes a'r lluniau i fyny ar y blog 'ma cyn hir. Mae posib dilyn y Sarn yr holl ffordd o ardal pont Dolgefeiliau (rhwng Ganllwyd a Thrawsfynydd) i Tomen y Mur, ble mae ffyrdd Rhufeinig eraill yn cyfarfod - un o Segontiwm, un arall o Gaergai (Llanuwchllyn) via Cwm Prysor a gwersylloedd Hiraethlyn, Dolddinas a Dolbelydr, ac un arall nas gŵyr neb yn union lle mae hi'n mynd. Mae posib dilyn y Sarn o Domen y Mur i lawr i Gwm Cynfal, ac i fyny heibio hen gaer Frythonig Bryn Castell uwchben Llan Ffestiniog, ac ymlaen i Gaerhun.

Dwi'n gobeithio nad yw faux pas Rhun ap Iorwerth yn rhan o ymchwil y rhaglen, ond yn hytrach yn gamgymeriad o'i ben ei hun wrth sgwrsio ar y radio heddiw. Byddai camgymeriadau o'r fath yn tanseilio hygrededd yr holl gyfres, ac yn sbwylio fy mwynhad ohoni wedyn.

No comments: