01/03/2009

"Grrrrrrrrr!!!" - Mr Angry, Ffestiniog

Clywed mod i'n cael fy nisgrifio fel 'angry' yn yr Herald wsnos yma. Llun o'no fi hefyd. Basdads. Jysd bo nhw'n rhan o Trinity Mirror mae nhw'n bihafio fel tabloid.

Son am y bwriad i gasglu sbwriel bob pythefnos yng Ngwynedd mae'r erthygl. Ffoniodd riportar fi dros bythefnos yn ôl, yn chwilio am farn bobol yr ardal am y bwriad. "First I heard of it," medda fi. "Well what do you think people's reactions would be?" "Probably pissed off," medda fi, "and worried about rats," gan ychwanegu ei bod yn anodd rhoi sylw call hyd nes gwybod y manylion llawn.

Wythnos yn ddiweddarach daeth y manylion gan y Cyngor (gweler isod). Tydi'r cynllun ddim yn rhy ddrwg, yn enwedig o weld fod y ddarpariaeth ailgylchu'n cael ei ehangu. Fel dwi wedi ei ddweud eisoes, mae'r cynllun yn haeddu cyfle.

Ond wele, yr Herald yr wythnos hon yn gwneud erthygl allan o'r sylwad wnes i dros y ffon - fy mod i wedi gwylltio am y cynllun! Dwi ddim yn hapus. A dwi'n mynd i sgwennu llythyr cas. Os ydyn nhw isio 'angry' mi gawn nw ffycin 'angry'!

3 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Prys,
Dyna oedd union fy ymateb i ar y cychwyn pan ddoth yr eitem ar raglen Pwyllgor Ardal Meirionnydd mis Ionawr...roeddwn yn mynd yno gyda nifer o gwestiynau a llawer o amheuon. Pan gefais atebion i'r cwestiynau hynny a gweld sut all y cynllun cael ei weithredu, mae'r amheuon wedi ei lleihau rhywfaint.
Wedi dwedu hynny os fydd 'na broblemau yn codi efo'r cynlluniau newydd, gad i mi wybod ac mi wani eu codi gyda swyddogion perthnasol.
Mr Angry!!...chdi a fi felly...dwi'n flin ar y diawl am y ffordd ddaethpwyd at y penderfyniad i gau Bryn Llywelyn.
Dau rheswm arall i ti fod yn flin hefyd...Cymru a Lerpwl yn colli ar yr ry'n penwythnos! Grrrrrrrrr!

bed123 said...

Peth gorau i ddweud i unrhyw gohebydd o'r Herald, Daily Post, agyb ydi 'Dim Sylw - No Comment' a ffon i lawr. Mae pobol papurau o hyd yn twistio geiriau i creu stori! Basdads!

y prysgodyn said...

Ia, ti'n hollol iawn Bed. Dyna fydd hi o hyn ymlaen.