Fel cylchoedd cerrig Moel Goedog a'r meini hirion cyfagos y soniais amdanyn nhw eisoes ar y blog yma, pedair mil o flynyddoedd oed ydi'r cylch, ac mae'n sefyll lai na milltir, fel hed y fran, o'r cylchoedd a meini hynny - ar y ffordd dros y gefnen am Gwm Bychan.
Tra'n dal i ddyfalu am bwrpas y meini hirion sy'n frith yn yr ardal yma, fe'm trawyd unwaith eto am bosibilrwydd ysbrydol. Os ydych wedi darllen y cofnod blaenorol, a fy ateb i sylwadau difyr a adawyd gan ddarllenydd, mi fyddech yn gyfarwydd â'r ffaith nad ydw i'n diystyrru swyddogaeth a elwir yn 'mystig' gan rai. Tydi crefydd a chredoau yr Oes Efydd Gynnar ddim yn fwy 'mystig' nag ydi crefyddau a chredoau heddiw. Yn wir, mi fyddwn i'n dadlau fod llawer mwy o sail gwyddonol i'r credoau hynafol hyn na sydd i grefyddau cymharol newydd yr oes hon.
Mae dilynwyr derwyddiaeth, Natur a chrefyddau paganaidd fel wicca, a hefyd crefyddau sy'n gyfuniad o werthfawrogi neu addoli Natur ac un o'r crefyddau modern, yn rhoi pwyslais ar y Pedwar Elfen - daear, gwynt, tân a dŵr. Ok - o'r cyfnod ôl-Gristnogol y daw'r rhan fwyaf o'r credoau hyn, ac mae'r credoau New Age yn hyd yn oed iau (ac mae llawer ohonynt yn deillio o 'fystigrwydd' rhamantwyr y ddeunawfed ganrif). Ond mae 'na hen grefyddau ac athroniaethau ar draws y byd, sydd a'u gwreiddiau yng nghyn-hanes, sydd hefyd yn mawrygu'r Pedwar Elfen yma (neu o leiaf ddau ohonyn nhw, beth bynnag). Y mwyaf 'cyfarwydd' i ni, mwyaf tebyg, ydi cred brodorion America, neu'r 'Indiaid Cochion'.
Be am ein cyndeidiau ni'r Cymry, felly? Wel, gwyddom fod gan y gwareiddiad Celtaidd o leiaf 300 o dduwiau. Roedd y rhan fwyaf yn lleol (er yn cynrychioli yr un math o bethau), ond roedd llawer yn gyffredin i'r gwareiddiad cyfan, ar draws Ewrop (fel Lleu neu Lugh neu Lugos a roddodd ei enw i gymaint o drefi ar draws Prydain, Iwerddon ac Ewrop). Ymysg y duwiau cyffredinol yma roedd Beli Mawr (Belenos), y duw tân, oedd i bob pwrpas yn cynrychioli'r haul, a Dôn - duwies y Fam-Ddaear. Gwyddom fod y Celtiaid yn anrhydeddu'r duwiau yma i gyd, a gwyddom hefyd eu bod yn addoli rhai ohonyn nhw.
Chwaraeai tân ran ganolog mewn defodau - ee wrth nodi dyddiadau fel Samhain, y cyhydnosau, Imbolc, Lughnasa a Chalan Mai - Gwyl Beli Mawr. Derbynir gan bob hanesydd Celtaidd wyf wedi ei ddarllen a sgwrsio efo, mai un peth y gellir ei ddweud yn bendant, o ran crefydd(au) y Celtiaid yw eu bod nhw'n addoli ffynhonau. Roeddan nhw hefyd yn anrhydeddau afonydd ac yn cysylltu'r rhain â duwiesau, gyda'r prif afonydd yn cael eu cyfrif yn afonydd y fam-dduwies Dôn (Danu yn y Wyddeleg). Prif afon - yn wir, afon fwyaf sanctaidd y Celtiaid (fel y Ganges i Hindŵiaid) - oedd y Danube, sydd - fel llu o afonydd ym Mhrydain ac Iwerddon, wedi ei henwi ar ôl Dôn. Dŵr sy'n rhoi bywyd. Dŵr oedd rhodd y Ddaear. Roedd dŵr yn dod gan Dôn ei hun.
Fyswn i'n gallu mynd ymlaen ac ymlaen am hyn, ac am y duwiau a gŵyliau, derwyddiaeth ac arferion eraill, ond cadw at y Pedwar Elfen ydw i am wneud yn y cofnod brysiog yma. Mae dŵr yn un ohonynt. Mae tân hefyd, a'r ddaear a'r gwynt. Os derbyniwn fod y Celtiaid wedi etifeddu eu hathroniaeth oddiwrth bobl yr Oes Efydd Gynnar ac Oes y Cerrig Hwyr, yna gallwn ddyfalu fod y pobl a osododd y meini hirion, ac a gododd y cylchoedd cerrig, yn credu yn arwyddocad canolog y Pedwar Elfen hefyd.
Dyfalu, ia, wrth gwrs. Ond beth sydd mor anodd ei dderbyn? Meddyliwch am y peth - be oedd y prif elfennau oedd yn cynnal bywyd?
Daear - yr hon oedd yn rhoi pob cynhaliaeth, bwyd, adnoddau ac ati. Mae'n wirion i gredu na fyddai'r ddaear yn cael ei gwerthfawrogi i raddau duwiol gan bobl yr oes - mae hi'n dal i gael ei chyfrif felly gan frodorion America, Affrica, Asia ac Oceana. Os oedd pobl yn credu mewn rhoi eu meirw yn ôl i'r tir - yn gyrff neu yn llwch - yna roeddynt yn ymwybodol o arwyddocad y ddaear fel sail i fywyd, ac fel rhoddwraig bywyd, a bod ganndyn nhw ddealltwriaeth o gylchdro natur - fel cylchdro'r ser a'r haul a thymhorau - hefyd.
Dŵr - heb ddŵr doedd dim byd yn tyfu a doedd dim bywyd. Yn naturiol ddigon roedd dŵr yn ganolog bwysig. Sdim angen ymhelaethu, felly, dim ond atgoffa'n hunain o gred pobloedd eraill y byd yn y cyfnod, ac o gredoau'r Celtiaid yn ddiweddarach.
Tân - does dim posib gorbwysleisio'r rhan hollbwysig y chwaraeodd tân yn natblygiad dyn. Yn wir, mae'n rhywbeth arall sydd wedi bod yn hanfodol i gynnal bywyd. Gwres yn yr oesoedd oer, modd o goginio, golau, cadw anifeiliaid rheibus i ffwrdd, gwneud arfau, a chymdeithasu a chadw pobl yn ddiddig yn y gwersylloedd yn y nos.
Gwynt - ar yr wyneb, mae hwn yn un anodd i'w egluro, ond be oedd y prif rym arall oedd yn rheoli bywydau pobl yn yr oesoedd cyn-wyddonol 'ofergoelus' a fu? Rwyf eisoes wedi son amdano yn y cofnod am feini Moel Goedog - y goruwchnaturiol, yr anweledig, y byd ysbrydol, eneidiau hynafiaid, duwiau, diafoliaid - y grymoedd oedd yn gallu achosi sychder neu ddilyw fyddai'n lladd cnydau ac achosi newyn, y grymoedd allai achosi pla ac afiechyd, a thrychinebau megis llifogydd, llosgfynydd neu ddaeargryn, neu dân yn sgubo drwy'r pentref ac ati. Oni allai fod y gwynt yn cynrychioli'r grymoedd anweledig hyn oedd yn gallu rhoi neu gipio bywyd i ffwrdd? Onid yw gwynt yn anweledig ond eto'n rhywbeth y gallent ei deimlo ar eu bochau ac yn eu gwalltiau, a'i weld o'n ysgwyd coed a gyrru popeth i bedwar ban? Onid y gwynt a gariai'r stormydd tuag atynt, a'r cymylau glaw pan fo sychder? Onid y gwynt oedd yn gyrru'r tywydd? Onid y gwynt, felly oedd yn cynrychioli'r elfen 'oruwchnaturiol' oedd yr un mor ganolog i fodolaeth - yng ngolwg yr hen bobl - ag oedd daear, dŵr a thân?
Pan rydan ni'n meddwl am y peth, felly, tydi derbyn fod ein cyndeidiau Neolithig yn gwerthfawrogi - ac addoli efallai - y Pedwar Elfen, er gwaethaf diffyg tystiolaeth ysgrifenedig, ddim yn anodd o gwbl.
Felly be sydd gan hyn i gyd i'w wneud â meini hirion Ardudwy ('Tir Duw' y Brythoniaid), a fy ymweliad â Bedd Gurfal heddiw? Wel, beth bynnag oedd swyddogaethau'r meini (gweler y cofnod blaenorol) - llefydd addoli, seremoniol, claddu neu gymdeithasu, neu hyd yn oed arwyddfeini - y cwestiwn mawr sy'n aros yw pam y llecynnau arbennig hyn? Wel, o gofio fod y mannau hyn yn ddigon pwysig a chysegredig iddyn nhw losgi a chladdu eu meirwon yn y cylchoedd cerrig, ydi'r mannau hyn, felly, yn lefydd lle y credai'r hen bobl fod y Pedwar Elfen ar eu cryfaf?
Does 'na ddim prinder ffynhonnau yma yn Ardudwy, doedd dim prinder tir amaethyddol, corsydd mawn na choedwigoedd i hela - diolch i'r Ddaear - ac roedd hi ymhlith yr ardaloedd mwyaf diogel yn y wlad, diolch i'r cymoedd a bryniau, a'r mynyddoedd tu cefn a'r llechweddau serth o waelodion glannau'r môr, ar y blaen. Efallai fod grymoedd magnetaidd naturiol y ddaear yn gryf yma - fel y dyfalwyd eisoes yn y blog hwn - ac mae ymhlith y llefydd mwyaf gwyntog yn y wlad hefyd. A gall neb sydd wedi gweld y machlud dros y môr o fan hyn wadu na fyddai pobloedd ofergoelus neu ysbrydol y cyfnod, oedd i bob pwrpas yn addoli'r haul, yn tueddu i edrych ar y lle fel llecyn oedd yn 'agos at dduw'.
Mi fyddai haneswyr ac archeolegwyr yn dweud fy mod yn sefyll ar dir meddal yma! Ac i gelfyddydau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ffeithiau cadarnhaedig, mi ydw i. Ond be ydw i'n wneud ydi meddwl tu allan y bocs, a pheidio diystyrru unrhyw reswm posib dros osod y cerrig a'r cylchoedd yma. Dwi'n agored i resymau ysbrydol, ond yn defnyddio ffeithiau y gwyddom am yr oed ac am bobloedd y cyfnod fel sail i'r damcaniaethu ysbrydol. (Gyda llaw, rhag ofn nad ydych yn gwybod, mae gen i radd dosbarth cyntaf mewn Hanes a Hanes Cymru - sydd ddim yn fy ngwneud yn awdurdod ar unrhyw beth, ond mae o'n fy ngalluogi i roi pethau mewn contecst a phlannu fy nghoed mewn tir cadarnach na'r mwyafrif).
Bu digwydd i mi gael fy atgoffa o arwyddocad y Pedwar Elfen heddiw, gan y ffaith fod, nepell o gylch cerrig Bedd Gurfal, ffynnon sydd yn anghygoel o gryf ei ffrwd. Rheswm digon practical i rywun benderfynu byw yn ei hymyl, wrth gwrs. 'Blaw does 'na ddim 'pentref' neu 'settlement' yma - dim ond cylch cerrig. Oedd cysylltiad rhwng y cylch ag addoli'r ffynnon?
Mae'r dyfalu ynghylch pwrpas y meini yn parhau, felly! Disgwyliwch fwy am hyn gennyf maes o law!
7 comments:
Dôn - duwies y Fam-Ddaear
Does gan Dôn lawer o gysylltiad â'r Ddaear. Mae teulu Dôn i gyd yn bersonae nefol/wybrennol (hy 'celestial): Llys Dôn, Caer Gwydion, Caer Arianrhod i gyd yn gysylltiedig â'r sêr; Beli (gŵr Dôn) yn dduw haul, Lleu hefyd, Math yn feistr y gwyntoedd...nid yw'r ffaith fod Danu'r Gwyddelod yn cael ei chysylltu â'r Ddaear yn golygu bod gan Dôn yr un swyddogaeth.
Croeso'n ôl yr hen holltwr blew!
Ie, duw yr haul oedd Beli Mawr (Belenos), yn union fel dwi'n ei ddweud.
Lleu yn dduw goleuni, ymysg pethau eraill (arfau, gwaith metel etc).
Ond Dôn yw Danu, a hi yw y Fam-Dduwies i'r Gwyddelod ac i'r Brythoniaid. Hi yw mam Lleu/Lugh a duwiau eraill sy'n gyfystyr yn y ddwy wlad. Mae hi'n cynrychioli yn union yr un pethau, ac yn chwarae yn union yr un rôl yn symboliaeth a dehongliadau chwedloniaeth y ddwy wlad.
Hi yw y dduwies bwysicaf yn y diwylliant Celtaidd i gyd. Mae hi'n dduwies yr elfennau, dyfroedd, afonydd a ffynhonau, ymhlith pethau daearol eraill, yn Iwerddon a Phrydain.
Hi sy'n rhoi bywyd, a'i dyfroedd hi sy'n dod o'r Ddaear a rhoi bywyd, dyna pam y gelwir yr holl afonydd hynny ar ei hôl hi.
Yn yr Iwerddon, lle y bu byw'r traddodiad cyn-Gristnogol yn hwyrach, mae ei chysylltiad uniongyrchol â'r term 'Earth Goddess' yn fwy amlwg nag yng Nghymru. Ond dim ond pedant, neu rhywun sydd wedi dysgu am chwedloniaeth a chredoau Celtaidd drwy'r paganiaid 'New Age', fyddai'n dadlau nad duwies y Ddaear yw Dôn.
Mae credoau, crefydd, athroniaeth a chwedloniaeth cynnar a Gwyddelod a'r Brythoniaid cyn-Rufeinig mwy neu lai yr un peth yn union. Os mai Dôn yw Danu (ac mae hynny'n ffaith), yna yr un dduwies ydi hi, efo'r un swyddogaethau. Tydi colli'r term 'Duwies y Ddaear' yn y Gymru Gristonogol gynnar yn newid dim ar hynny!
Tydi'r ffaith fod ei hysbryd yn 'byw' yn yr awyr (h.y. o'n cwmpas ymhobman) neu yn y Bydysawd (sydd ynghlwm wrth rym bywyd a natur beth bynnag) ddim yn newid y ffaith mai enaid y Ddaear ydi hi.
Mae ysbryd y Ddaear o'n cwmpas ymhobman - yn y coed, yn yr afonydd, yn ein gwythiennau, yn ein pen.
Hefyd, Dôn oedd gwraig Beli Mawr - fel oedd Danu yn wraig i Belenos. Mae pob cred Indo-Ewropeaidd yn credu yn undod yr haul a'r ddaear - fod cyfathrach rhwng y ddau elfen wedi creu/cynnal bywyd (sy'n adlewyrchu, a cael ei adlewyrchu yn, gwyddoniaeth, wrth gwrs).
Lle, neu sut, wyt ti'n feddwl 'ddigwyddodd' y gyfathrach yma? Boed yn belydrau'r haul yn treiddio i'r Ddaear, neu ddyfroedd y Ddaear yn disgyn fel glaw, neu yn rym y Bydysawd sydd yn y Ddaear a'r elfennau o'n cwmpas, yr un peth yn union y mae'n gynrychioli.
Pa bynnag ffordd mae rhywun yn sbio arni, Dôn, y Fam-Dduwies, yw duwies y Ddaear.
Digon teg, OND does dim tystiolaeth hyd yn oed bod Danu/Dana ei hun yn dduwies y Ddaear. Do, roedd ganddi gysylltiad â dŵr, ond nid â Daear hyd y gwelaf i. Do, mae hi'n amlwg yn Fam-Dduwies, ond gellir edrych ar Nuit yr Aifft i weld nad oes rhaid i bob Mam-Dduwies fod yn Fam Ddaear.
Croeso'n ôl yr hen holltwr blew!
Diolch! :D
Mae'n bwnc diddorol dros ben.
yndi, hynod ddifyr
mae llu o dystiolaeth am Danu fel duwies y ddaear yn Iwerddon, ac nid ymysg neo-Geltigaeth a neo-baganiaeth yn unig, ond yn y diwylliant fernaciwlar.
Cymer waith Peter Berresford Ellis, er engraifft, sydd yn ymdrin â meysydd a ffynhonellau eang (yn cynnwys y fernaciwlar a chymhariaeth efo'r Vedas a'r Brahmins, Syriaid, Sumariaid ac Eifftiaid hefyd) i ddadansoddi cred y Celtiaid cyn-Gristnogol.
"Danu/Dôn yw'r Fam" + "Y Ddaear yw'r Fam". Felly mae'r fam-dduwies yn dduwies y ddaear. Felly Dôn yw'r Ddaear, sydd a'i hysbryd o'n cwmpas, ac ynddom o hyd, gan mai o'r ddaear y daw'r dŵr a'r bwyd ydan ni'n fyta, a'r holl nerth corfforol ynom.
Gwaed a chorff (ac felly ysbryd) Dôn yw dŵr, ac mae hyn yn sylfaen i'r Cymun Cristnogol yr ydym yn gyfarwydd ag o heddiw.
Un peth am grefydd y Celtiaid y mae haneswyr yn gytun arno, ac yn bendant ohono, yw fod y Celtiaid yn addoli ffynhonau - a hynny yn fwy nag unrhyw beth arall. Mae pwysigrwydd rhain mor amlwg fel ei bod yn anodd i unrhyw un allu cyplysu hyn efo dim arall ond duwies ofnadwy o bwysig, a duwies oedd yn gyffredin trwy'r gwareiddiad Celtaidd cyfan, o Galatia i Gâl, o Galisia i Gymru ac i Iwerddon.
Heb ddŵr does dim bywyd, gyfaill, ac o lle mae dŵr yn tarddu?
Diolch i Dôn ydw i pan dwi'n yfad dŵr ffynnon, ac efo hi ydw i'n cymuno a myfyrio pan dwi'n crwydro'r mynyddoedd, y gwynt ar fy moch a fy nhraed ar y tir. Ac mae hynny'n teimlo'n berffaith iawn i mi.
o ia - ac yn ôl i groth Dôn y mae pawb yn mynd ar ôl marw (y Ddaear).
Wel yn bersonol dw'i ddim yn rhoi lot o ffydd mewn damcaniaethau a dadansoddiadau, nac o ran hynny mewn cymhariaethau â diwylliannau eraill. Yn fy mhrofiad i mae dadansoddwyr (ac ambell ysgolhaig) yn amlach na dim yn euog o orsymleiddio pethau gan ddi-ystyru pethau eraill sy'n gwrthddweud eu dadansoddiadau. Erbyn hyn mae'n well gen i gymryd cymeriad ar face value a pheidio poeni am ddadansoddiadau ac yn y blaen.
Er enghraifft, os dw'i isio gweithio gyda Lleu yna dw'i'n gweithio gyda Lleu y Mabinogion, heb roi unrhyw ystyriaeth i'w gysylltiadau â Lugh, Lugos, a duwiau sydd â chysylltiadau â'r dderwen, yr eryr a'r dryw etc. Ond dyma fi'n crwydro oddi ar y pwnc, dw'i'n credu!
Post a Comment