26/01/2009

Dan ddaear yn Chwarel Wrysgan

Fuoch chi rioed yn fforio? "Be 'di 'fforio'?" medda chi. Wel y term Cymraeg am grwydro ogofau a chwareli, mae'n debyg! A dyna be fuas i'n ei wneud ddydd Sadwrn dwytha. Chwarel Wrysgan oedd hi, ac i chi sydd ddim yn gwybod lle mae honno, wel uwchben Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog mae hi. Edrychwch i fyny am Gwmorthin, ac ar y dde, rhwng ceg y cwm a'r Moelwyn Mawr, mae 'na graig anferth o'r enw Graig Wrysgan, efo inclên (incline) yn arwain i fyny ei gwyneb at geg twnnel. Da chi'n gwybod hi rwan?

Beth bynnag, y ffordd ati ydi mynd i fyny i Gwmorthin a throi i'r chwith, a dilyn y llwybr i fyny at geg twnnel lefel isaf (Lefel 1) y chwarel, wedyn mynd i mewn i grombil y mynydd. Mae hi'n cael ei chyfrif yn chwarel cymharol saff, ac fe ganiateir i bobol efo cymhwyster 'Mine Leader' arwain tripiau o dan y ddaear ynddi - hyd yn oed i blant ysgol. Ewch yma i weld lluniau reit spectaciwlar o'n taith, yn ddwfn yng nghrombil y mynydd. Mae nhw'n werth eu gweld.

Does dim i sdopio unrhyw un fynd yno ar ei liwt ei hun, wrth gwrs, ond os nad ydach chi wedi bod o'r blaen, mae'n syniad da mynd efo rhywun sy'n gwybod ei ffordd o gwmpas. Mae na lot o hogia Blaenau wedi gneud hyn, ond fel mae'n digwydd bod, trefnwyd ein taith ni gan Antur Stiniog, dan arweiniad gŵr a gwraig - Saeson - sy'n cynnal gweithgareddau awyr agored yn yr ardal. Mae'r gŵr yn 'Mine Leader' sydd yn arwain tripiau dan ddaear o amgylch y byd. Daeth yr arian cyhoeddus i dalu am y trip oherwydd fod ymgyrch ar droed i gael Cymry Cymraeg i fynd ar gyrsiau 'Arweinyddion Mynydd' ac 'Arweinyddion Chwareli' ac ati, er mwyn trio cael mwy o Gymry Cymraeg yn y gwaith - gan fod mwyafrif llethol y gweithgareddau yma'n cael eu trefnu gan Saeson, er mwyn Saeson.

Ta waeth, i mewn â ni i'r chwarel hynod ddiddorol yma, a threulio 4 awr yn crwydro tu mewn y mynydd. I mewn i lefel 1, drwy'r twnneli ac agorydd, ac i fyny i lefel 2, yna 3, ac abseilio 80 troedfedd i'r tywyllwch - yn ôl i lawr i lefel 2, cyn dringo yn ôl i lefel 3, yna 4, 5 a 6 - sydd â'i agorydd yn llawn o gerrig anferth, run maint â thai, a mwy, wedi disgyn o'r to yn ystod daeargryn 1983.

Dyma'r tro cyntaf erioed i mi wneud gwaith dringo, heb son am abseilio. Ac mi wnes i fwynhau yn ofnadwy. Doed gen i ddim ofn wrth bwyso am yn ôl ar yr ymyl, fel sydd gan y rhan fwyaf o bobl y tro cyntaf mae nhw'n gwneud y peth. Wnes i fwynhau y peth gymaint fel mod i'n ysu am gael gwneud o eto, rwan.

Daethom allan i'r awyr iach ar lefel 6, ar dop Graig Wrysgan, lle mae'r llyn bach a gronnwyd i gael dŵr i'r chwarel, a cherdded yn ôl i lawr heibio siafftiau a chegau twnneli'r lefelau eraill. Diwrnod anhygoel o ddiddorol. Un o'r pethau mwyaf difyr ydw i erioed wedi'i wneud.

Fel y dudis i, mae'n cael ei chyfrif yn chwarel cymharol saff, ac enw felly oedd ganddi pan oedd hi'n gweithio hefyd (fe'i caewyd yn y 1940au, dwi'n meddwl). Dim fel chwarel Cwmorthin, dros ffordd iddi, sydd yn llawer mwy (cyflogai dros 200 o ddynion yn ei hanterth), ble y lladdwyd 25 o ddynion mewn 24 mlynedd. 'Y Lladd-dy' oedd enw'r chwarelwyr am y chwarel Cwmorthin.

Fodd bynnag, mae posib mynd i mewn i chwarel Cwmorthin hefyd. Yr unig reswm y mae'n amhosib cael yswiriant i deithiau trefniedig ydi oherwydd fod y mynedfeydd braidd yn beryglus. Roedd yr hen chwarelwyr yn gosod rêls y traciau trams i ddal y to i fyny, a thros y blynyddoedd bu lefelau uwchben yn dympio tomenni o wast ar y tir uwch eu pennau. Rwan, â'r rêls yn rhydu, mae nhw wedi plygu fel bwa saeth o dan y pwysau. Ond unwaith ydach chi i mewn yno, mae'r lle'n llawn o hen greiriau, meddan nhw - peiriannau y gwaith, ac ati - ac mae 'na hyd yn oed gaban yn dal i sefyll o dan y ddaear, efo cuttings papur newydd o 1942 ar hyd y waliau (er, mae un person wedi deud wrtha i fod y lle wedi'i wagio erbyn rwan). Gwerth mynd am dro, fyswn i'n ddeud, jesd i gael golwg. Ond rhaid mynd efo rhywun sy'n gwybod ei ffordd o gwmpas, cofiwch.

Mae gen i ffansi. Ar ôl bod yn chwarel Wrysgan, dw i wedi cael blas. Wir i chi, mae'r profiad yn anhygoel. Fuoch chi rioed yn fforio? Ewch i weld y lluniau a mi gewch chi awydd mawr i fynd.

1 comment:

Anonymous said...

Duw, mae gen ti flog newydd. Grêt!