11/01/2009

Dirgelwch y meini

Fuas i draw i'r ucheldir uwchben Harlech ddydd Sadwrn, i weld y meini hirion a'r cylchoedd cerrig sy'n sefyll yno ers pedair mil o flynyddoedd.

Mae sawl damcaniaeth am swyddogaeth y meini yma sy'n britho gorllewin Cymru, fel eu bod wedi eu gosod at ddibenion defodol, neu i farcio man claddu neu ddigwyddiad o bwys, ac eu bod yn arwyddfeini i farcio tiriogaeth neu lwybr tuag at rhyw fryngaer neu safle arbennig. Mae'n bosib fod mwy nag un o'r rhesymau yma'n wir i wahanol gerrig.

Arwyddfeini ydi cerrig Harlech yn ôl y farn arbennigol fwya gyffredin - ond derbynnir mai dim ond dyfalu ydi hynny, gan nad oes posib dweud i sicrwydd y naill ffordd na'r llall. Ond o grwydro yn eu mysg nhw ddoe, a nodi eu safleoedd mewn perthynas â'i gilydd, mae'n anodd gen i gredu mai dyna oedd swyddogaeth pob un.

Y peth cyntaf sy'n taro rhywun wrth feddwl am eu swyddogaeth fel arwyddfeini, ydi arwyddfeini be ydyn nhw? Be mae nhw'n farcio? Tiriogaeth, digwyddiad neu berson pwysig, neu ffordd neu lwybr i rywle?

Triogaeth?

Diau y defnyddiwyd cerrig o'r math yma i farcio tiriogaeth, o bryd i bryd, mewn ambell le yn yr Oes Efydd a chynt. Roedd y syniad o diriogaeth wedi hen gydio erbyn Oes y Cerrig Hwyrach, ymhell cyn codi'r meini yma. Wrth i ddulliau amaethu a thyfu cnydau newydd gyrraedd o Ewrop roedd angen cymunedau mwy sefydlog er mwyn trin y tir a thyfu'r cnydau hyn, ac mi ddechreuodd pobl oedd, cyn hynny, wedi bod yn symud o gwmpas a byw gan fwyaf ar hela, sefydlu eu hunain ar ddarnau o dir, a hyd yn oed adeiladu 'pentrefi' bychain ar ffurf enclosures ar ben bryniau - rhagflaenwyr bryngaerau'r Oes Efydd ac Oes Haearn. Dros y canrifoedd, tyfodd yr ymdeimlad o berthyn i ddarn o dir, wrth i bobl ddod yn ymwybodol fod eu cyndeidiaid - oedd yn bwysig iawn i hunaniaeth y tylwyth - wedi bod yn hela a gweithio'r union ddarn o dir hwnnw am genhedlaethau o'u blaenau.

Ond, o weld y ffordd mae meini hirion Harlech wedi eu gosod allan, fyswn i'n diystyrru'r gred eu bod yn arwyddfeini marcio tiriogaeth, yn syth. Mae 'na naw ohonynt yn sefyll mewn rhyw fath o linell syth (o ryw fath, fel y gwelwn isod), yn rhedeg o'r de i'r gogledd, ond dim ond milltir a chwartar sydd rhwng y garreg fwyaf deheuol a'r garreg ar y pen gogleddol. Dim llawer o diriogaeth, fyswn i'n ddweud! Ond yn fwy arwyddocaol, efallai, mae 'na fryniau rhwng y cerrig mwyaf deheuol â'r môr (sydd ond rhyw filltir i ffwrdd), ac mae'r meini mwyaf gogleddol un ai yn rhy fach, neu ychydig dros ael y llethr o olwg y môr, felly does yr un ohonynt yn bethau y gellir eu gweld wrth stryffaglio i fyny'r llethrau serth o gyfeiriad y traeth, i'r gorllewin. Ac os mai ffin dwyreiniol ydyn nhw, wel, tydi tamaid o fryn a rhipyn main o dir sy'n disgyn yn serth i'r môr ddim yn ddarn o dir digon mawr i rywun drafferthu ei farcio efo lympiau trwm o ithfaen!

Cofebau?

Ai arwyddfeini i nodi buddugoliaethau neu farwolaethau arweinyddion cynnar ydyn nhw? Neu i nodi lle y claddwyd rhywun o fri? Pam lai? Gyda sefydlu cymunedau mewn oes oedd yn gynyddol ddigon treisgar i orfod codi amddiffynfeydd o amgylch eu cytiau, mae'n bosib fod arweinyddion cryf yn cael eu parchu a'u cofio gyda cofebau eitha trawiadol. Ond mae hyn yn codi lot o gwestiynnau hefyd, a'r mwyaf ohonyn nhw, yn achos meini Harlech, ydi lleoliad y casgliad yma o feini hirion a safleoedd y cerrig unigol. Mae cylchoedd cerrig a chromlechi'r bobl, a'r cyfnod, yma (a chynharach) yn ymestyn dros Gymru gyfan, yn enwedig y gorllewin. Mae eu meini hirion i'w cael yma ac acw dros y wlad, er mai rhai unigol a allasai fod yn arwyddfeini marcio tiriogaeth neu lwybr ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Mae Harlech, fel ardaloedd eraill ar hyd y gorllewin, yn gartref i glwstwr ohonyn nhw. Iawn, Ardudwy ydi enw'r ardal hon - hen enw Brythonig a olyga Tir Duw, sy'n tystio fod gan yr ardal arwyddocad ysbrydol erbyn y cyfnod y dechreuodd y trigolion siarad iaith Geltaidd. Ond go brin fod brodorion Cymru yn yr Oes Efydd wedi bod yn cludo cyrff eu henwogion o bob cwr i gael eu claddu yn y llecynnau 'sanctaidd' hyn?

Mae 'na dystiolaeth i'w gael yn enwau llwythau iaith Geltaidd yr Oes Haearn, yn yr ardal, fod cysylltiad cryf rhwng yr ardal orllewinol hon â phobl Iwerddon, ond mae tystiolaeth genetaidd yn dangos fod 90% o'r Cymry a'r Gwyddelod (a'r Albanwyr a'r Basgwyr) i gyd yn rhannu'r un genynnau. Felly, tydi ceisio dweud mai arferiad llwythol lleol yn unig oedd codi'r meini yma i goffau digwyddiadau ac eiconau, ddim yn dal cymainr â hynny o ddŵr. A beth bynnag, mae'r amrywiaeth ym maint a layout y cerrig yn rhy eang i allu derbyn gant y cant eu bod i gyd wedi eu gosod i'r perwyl hwn. Pwy oedd i ddweud pa bwysigyn oedd i gael carreg bron i dair metr o uchder a phwy oedd i gael carreg cwta hanner medr o faint?

Arwyddfeini llwybrau?

Mae eu gwahanol faintioli a siapiau, a'r ffaith eu bod wedi eu gosod mewn (rhyw fath) o linell syth, yn arwain rhywun i dybio (yn ddiog a di-ddychymyg yn fy marn i) mai dangos y ffordd at leoliad, pentref neu lecyn arbennig y mae nhw. Ond eto, pan mae rhywun yn mynd draw i gerdded yr ardal, a sylwi ar eu safleoedd unigol, ac yn meddwl am hyn, mae mwy o gwestiynnau yn codi.

Dangos y ffordd? I lle? Wel, mae 'na fryngaer bychan ar ben Moel Goedog, ac mae'r meini yn dilyn ffordd gefn (fodern) cyn gwyro ar hyd llwybr troed ar hyd waelodion Moel Goedog. Ond pwy fyddai ddim yn gwybod y ffordd i fa'no? Mynydd bach tua 370 o fedrau uwchlaw'r môr ydi Moel Goedog, a tydi hynny ddim ond 70 o fedrau uwchben y cerrig gogleddol. Tydio'n fawr o fynydd. Mae o'n foel hefyd, ac yn ôl arbenigwyr, roedd uchelderau Cymru, uwchben mil o droedfeddi yn glir o goed yn yr Ies Efydd Gynnar. Byddai unrhyw deithiwr dieithr yn gallu gweld y gaer o bell wrth agosau o gyfeiriad y de, gan fod Moel Goedog i'w gweld yn glir yr holl ffordd i lawr yr arfordir at Bermo, ac yn wir yr holl ffordd i lawr Bae Ceredigion ar ddiwrnod clir. A chan gofio mai poblogaeth pitw oedd yn yr ardal bryd hynny, go brin bod llawer o bobl yn ddiethriaid a ddim yn adnabod yr ardal. Ond be sy'n ei gwneud yn bendant mai nid dangos y ffordd at fryngaer fechan Moel Goedog y mae'r meini hirion 'ma, yw'r ffaith fod dyddio carbon wedi dangos mai mil o flynyddoedd cyn Crist y defnyddiwyd y gaer. Mae hynny fil o flynyddoedd ar ôl gosod y cerrig.

Oes 'na rywle arall y gall y meini 'ma fod yn dangos y ffordd ato? Wel, mae darllenwyr rheolaidd y blog 'ma yn gyfarwydd â fy mhost isod am Bryn Cader Faner - safle cylch cerrig a chladdfa oedd o gryn bwys ar un adeg. Mae'r llwybr troed sy'n arwain dros waelodion Moel Goedog, ac y mae'r meini'n ymddangos fel eu bod yn ei ddilyn hyd hynny, yn gwyro i'r gogledd ddwyrain, ac yn arwain - heb fynd am gopa'r Foel o gwbl - am Bryn Cader Faner. Ai arwyddfeini at y safle yma ydynt? Efallai yn wir. Mae nhw yn dyddio o'r un cyfnod. Ond eto, rhaid gofyn cwestiynnau. Mae Bryn Cader Faner dair milltir a hanner i ffwrdd o'r maen hir gogleddol, mewn ucheldir corsiog sydd 400 medr uchlaw'r môr. Byddai rhywun yn meddwl, o weld lle mor anghysbell â hyn - lle nad oes modd ei weld hyd nes y dewch dros y bryncyn olaf cyn ei gyrraedd - y byddai meini hirion wedi eu gosod rhywle ar hyd y dair milltir a hanner yma. Ond does 'na ddim. Mae 'na gylch cerrig ar y ffordd (ger Llyn Eiddew Bach) rhyw chwarter milltir cyn cyrraedd Bryn Cader Faner, ond dim 'arwyddfaen' o unrhyw fath.

Gellid dadlau fod meini hirion Harlech yn sefyll dim ond ar y milltir a chwarter cyn cyrraedd Moel Goedog, a nunlle arall, oherwydd fod y darn hwnnw o dir, ar y pryd, yn goed trwchus drosto. Mae'r lle o gwmpas mil o droedfeddi, ac mae'n ddigon posib. Efallai fod angen meini i ddangos y ffordd drwy'r goedwig. Ond pwy fyddai ddim yn gwybod y ffordd trwy goedwig mor fach? Hefyd, mae'r tir yma yn uffernol o garregog. Mae'r graig yn brigo ymhobman yma, ac mae carneddi anferth o gerrig ymhob cae, yn ogystal â charneddi enfawr o gerrig maint meini hirion y mae ffermwyr diweddar wedi eu codi o'r tir. Dydi o ddim yn taro rhywun fel tirwedd coedwig.

Ond y clinshar i mi, o ran tueddu i ymwrthod â'r eglurhad arwyddfeini, ydi layout rhai ohonyn nhw. Wrth ddilyn y rhes o'r de i'r gogledd, mae pedair ohonyn nhw, tua 200 llath a llai oddiwrth ei gilydd, mewn llinell gweddol syth ar hyd y ffordd fodern. Mae rhain o wahanol faintioli - yn amrywio o bron i dair medr i hanner medr. Yna, mae'r 'llinnell' yn gwyro'n siarp i'r dde (gogledd-dwyrain) a dilyn y llwybr troed modern am Moel Goedog. Yna, o fewn ugain llath i'r garreg olaf yn y llinnell syth, ceir maen arall. Yna, ganllath yn nes ymlaen ar y llwybr, ceir maen go sylweddol arall eto, yna ganllath arall wedi honno, un arall. Ond be sydd ddim yn dilyn y patrwm ydi fod meini eraill wedi eu gosod lai na hanner canllath i'r chwith ac i'r dde oddiar y llwybr, ac heb fod ymhell o'r ddwy garreg sy'n cadw at y llwybr. Hynny yw, nid patrwm llinnell syth sydd yma erbyn hyn, ond rhywbeth hollol random - a be bynnag ydi o, tydi o ddim yn dangos y ffordd i unrhyw deithiwr.

Dangos y ffordd at rywbeth arall? Mae'n bosib bod ambell un o'r meini yma yn gweithio fel arwyddfaen, wrth gwrs. Cwestiynnu os mai dyna ydi swyddogaeth y casgliad efo'i gilydd ydw i. Ac os nad dyna oedd swyddogaeth y casgliad, yna rhaid dyfalu beth.

Saif y meini i gyd o fewn milltir a chwarter i'w gilydd, a llai na phum can llath i'r gogledd o'r garreg ogleddol - ar waelod Moel Goedog - saif dau gylch cerrig. Mae'r ddau yn dyddio o'r un cyfnod â'r meini hirion, ac yn sefyll o fewn 30 - 40 llath oddi wrth ei gilydd ar y llechwedd (gweler y lluniau, isod).

Tydyn nhw heb gloddio yn y cylch uchaf, ond yn yr isaf mae nhw wedi dod o hyd i weddillion esgyrn dynol wedi llosgi ar y safle, a llwch dynol mewn wrnau. Hefyd, canfuwyd yma, am y tro cyntaf ym Mhrydain dwi'n meddwl, weddillion oedd wedi eu claddu yn rhywle arall (mewn pridd tywodlyd, lan môr, yn yr achos yma) a'u symud yma i'w hail-gladdu. Canfuwyd mwy o engreifftiau o hyn dros y wlad, ers hynny, felly mae arwyddocad eitha phwysig i'r cylchoedd cerrig yma a gawn o amgylch y lle.

Mae'n sicr, felly, bod gan y cylchoedd yma ran bwysig i chwarae yn niwylliant cymdeithas y cyfnod. Fel y siambrau claddu yn y cromlechi, oedd yn cael eu defnyddio i gadw gweddillion cyndeidiau mewn modd yr oedd posib mynd atyn nhw pan fo'r galw, mae'n bosib fod yr hen bobl yn symud gweddillion eu cyndadau o le i le, fel oedd y llwyth yn symud pan fo'r galw. Roedd y cylchoedd cerrig yma hefyd yn chwarae rhan defodol pwysig, ac yn amlwg yn lefydd sanctaidd iddynt, gan eu bod yn eu defnyddio i gladdu gweddillion eu meirw yn ogystal â gweithredoedd defodol.

O fod yn crwydro'r ardal y dydd o'r blaen, felly, yr argraff yr ydw i'n ei gael ydi fod y meini hirion efallai yn arwain rhywun tuag at rywbeth, ond nad pentref ydi'r peth hynny. Digon gwir fod 'na nifer o olion hen gytiau crynion cyfagos, ym mhen gogleddol y 'rhes' o feini, ond mae 'na ddigon o rai eraill, hefyd, o gwmpas yr ardal, heb unrhyw 'res o feini' yn arwain tuag atyn nhw. Dw i'n tueddu i ddyfalu os oedd y meini 'ma fel rhyw fath o gamau seremonîol mewn ymdaith ddefodol. Efallai fod pob un yn cynrychioli rhyw elfen ddaerol a/neu ysbrydol, wrth ymdeithio tuag at y cylchoedd cerrig - boed hynny wrth gario corff i'w amlosgi neu ei gladdu (yn un o'r carneddi cerrig cyfagos i'r cylchoedd, neu yn y cylchoedd eu hunain). Pwy â ŵyr? Efallai fod y shaman yn aros wrth bob carreg ac yn llafarganu rhyw eiriau a chyflawni rhyw ddefod? Efallai bod pawb yn gorfod cyffwrdd y cerrig, neu phlygu pen i ryw dduw neu ysbryd, er mwyn sicrhau parhad yr enaid wedi claddu'r gweddillion corfforol? (Rhois innau fy nwylo ar ddwy o'nyn nhw, a myfyrio, ac yn y meicro-eiliad wrth dynnu fy nwylo i ffwrdd, roedd 'na drydan - trydan hynafiaeth efallai, gan mod i'n sensitif iawn i hynafiaeth).

Mae'n wir i ddweud fod cylchoedd cerrig eraill yn yr ardal ac nad oes rhesi o gerrig yn arwain atyn nhw, ond onid rhyw fangre sanctaidd fu'r llecyn hwn i'r hen bobl? 'Tir Duw'?

Dirgelwch fydd hyn am byth, mwn. Dyfalu'n unig ydw i, codi rhai o'r myrdd o gwestiynnau sy'n chwyrlio drwy'r meddwl pan fo rhywun yn sefyll ger y meini, nid cynnig atebion. Yn sicr, mae'r meini yn arwain at y cylchoedd, achos yn y pen gogleddol mae'r rhes 'syth', ar ôl gwyro am droed Foel Goedog, yn tyfu breichiau, fel pe tai'r cerrig yn dweud eich bod wedi cyrraedd pen y daith. Hynny yw, yn fras, wrth edrych o'r awyr, dychmygwch fathodyn CND, ond ar ben i lawr, ac heb y cylch allanol.

Llech Idris

Dyma pam dwi'n ei chael hi'n anodd i dderbyn yr eglurhad mai arwyddfeini hen lwybrau ydi pob maen hir yng Nghymru. Hyd yn oed pan fo'r eglurhad yn gwneud synnwyr, ar yr wyneb, mae 'na wastad rywbeth nad yw'n gorwedd yn esmwyth wrth resymu. Cymerwch faen hir enwocaf Meirionnydd, Llech Idris yng Nghwm Dolgain, Trawsfynydd. Arwyddfaen llwybr ydi'r eglurhad derbyniedig, a gallwn fod yn bendant fod y llecyn lle y saif yn un oedd yn goed trwchus hyd at y Canol Oesoedd - fyddai'n galw, o bosib, am arwyddfaen i ddangos y ffordd drwyddo.

Ond eto, llwybr i le oedd hwn? A pham fyddai rhywun angen gwybod y ffordd os oedd yn berson o'r ardal, oedd yn gyfarwydd â dilyn llwybrau trwy'r coed? Mae rhai yn ceisio dweud mai dangos y ffordd allan o'r cwm tuag at un o'r pedwar ffordd dros res o fynyddoedd y Rhinogau, i ochrau Harlech, y mae hi. Efallai - ond pa un o'r ffyrdd? Drws Ardudwy i Gwm Nantcol? Bwlch Tyddiad i Gwm Bychan? Llwybr Bwlch Gwilym heibio Graig Ddrwg, eto i Gwm Bychan? Neu lwybr Cwm Moch i... Bryn Cader Faner... (Tydi'r llecyn hwn yn dod i fyny'n aml wrth 'ganlyn y meini'?!)

Maen Llwyd

Gellir tynnu llinell syth o Lech Idris at Gwm Moch, ac yn y canol, mi gewch faen hir arall, sef y Maen Llwyd ar dir fferm Brynmaenllwyd, jesd tu allan Traws, felly mae'n eitha posib fod Llech Idris yn nodi llwybr - a hwnnw am Fryn Cader Faner, efallai. Ond be sy'n codi cwestiynnau i mi, ydi pwy fyddai'n dilyn y ffordd yma? Byddai teithwyr o'r dwyrain yn dod i lawr trwy Gwm Prysor - sydd dros y gefnen o Gwm Dolgain ac yn arwain drwy Drawsfynydd ac yn syth at Gwm Moch. Byddai teithwyr o'r de yn dod i fyny rhiw Gelli Goch o gyfeiriad Ganllwyd. Efallai bod rhai yn trafaelio o gyfeiriad de-ddwyreiniol, o gyfeiriad Abergeirw - ond eto, hawddach fyddai osgoi Cwm Dolgain yn y cyfnod yma, a mynd i lawr i Faesgwm, wrth droed rhiw Gelli Goch, ac ymlaen am Ddrws Ardudwy neu Fwlch Tyddiad. Am wn i. Pwy all ddweud? Dyfalu ydw i, fel hogyn lleol i'r ardal sy'n gyfarwydd â'r daearyddiaeth.

Mi all Llech Idris farcio tiriogaeth, wrth gwrs. Roedd gogledd Meirionnydd fel y gwyddom amdano heddiw, yn rhan o Ardudwy tan yn weddol ddiweddar. Ardudwy Uwch Artro yw enw'r rhanbarth yn y llysoedd barn hyd heddiw, ac Arglwydd Ardudwy oedd teitl Lleu Llaw Gyffes yn y Mabinogi, oedd â'i lys yn Nhomen y Mur ger Traws. Gellir dychmygu mai yma, ger Llech Idris oedd ffin dwyreiniol y llwyth oedd yn trigo yn 'Nhir Duw' - sydd yn estyn o'r môr, dros y mynyddoedd a thrwy Trawsfynydd ac am y dwyrain.

Cylch y Derwyddon

Rhywbeth arall sy'n codi'i ben yn aml wrth drafod meini hirion, ydi'r ffaith fod cylchoedd cerrig yn agos. Mae 'na un, rhyw chwarter milltir, os hynny, fel hed y fran o Lech Idris, i fyny ar ffridd Penystryd. Cylch y Derwyddon ydi ei enw, ac mae'n dyddio o'r un cyfnod â Llech Idris, y Maen Llwyd, Bryn Cader Faner a cherrig Harlech - dwy fileniwm cyn Crist. Oes cysylltiad, eto, rhwng y meini â chylch cyfagos? Ydi'r meini yn datgan i'r teithiwr eu bod yn nesu at fangre sanctaidd, yn yr un modd a mae 'arwyddion' yr Indiaid Cochion yn America yn ei wneud?

Efallai mai dyma oedd swyddogaeth cerrig Harlech, ond bod y fangre honno mor sanctaidd fod galw am sawl carreg i nodi'r lle? Efallai'n wir fod cerrig eraill rhwng Llech Idris â Chylch y Derwyddon, ond fod ffermwyr wedi eu tynnu i lawr a'u defnyddio fel pentannau giatiau ac ati.

Grymoedd anweledig

Neu ai meini'n nodi safleoedd ble mae grymoedd magnetaidd naturiol y ddaear yn 'brigo' ydynt i gyd - a bod yr hen bobl yn ymwybodol o hynny, trwy ryw reddf sydd wedi diflannu ynom ni erbyn heddiw? Byddai'n ddigon naturiol i safle ble mae ley lines yn cyfarfod gael ei gyfri'n sanctaidd i'r hen bobl - digon sanctaidd iddyn nhw godi cylchoedd cerrig yno i gladdu eu meirw a chynal defodau. Fel yn 'nhir duw'? Yn sicr, mae'r llu o gromlechi, cylchoedd a meini hirion sy'n estyn drwy ardal arfordir Ardudwy a thros y Rhinogau yn awgrymu fod yr ardal yn golygu rhywbeth dyfnach iddyn nhw.

Fuodd 'na fwy o gerrig yn sefyll uwchben Harlech? Mae'r pentyrrau enfawr - rhai sydd gymaint â rhesi o dai - o gerrig anferth sydd wedi eu codi o'r tir gan ffermwyr yr ardal dros y cenhedlaethau, yn codi'r posibilrwydd fod rhai o'r rhain, unwaith, yn sefyll fel meini hirion. Mae 'na ugeiniau wedi eu gosod i orwedd o boptu'r ffordd darmac fechan (gweler y llun isod) sy'n rhedeg trwy lecyn lle saif y meini hirion gogleddol yn y 'rhes'. Oedd rhain, ar un adeg, yn sefyll ymysg y meini sydd wedi goroesi?

Oes mwy na ellir ei weld?

Hoffwn weld llun o'r awyr o'r ardal, i ddeud y gwir. Achos, lle mae'r cerrig gogleddol yn 'tyfu breichiau' mae posib dychmygu - o weld eu safle a safle cerrig eraill sydd fel petaent wedi 'suddo' (o bosib, gan y gallent fod yn ddim mwy na cherrig mawr sydd yn brigo wrth i'r tir suddo), mae posib 'dychmygu' eu bod ar un adeg yn rhan o gylch anferth o gerrig. Neu, fe allai fod, ar un adeg, resi ohonyn nhw, rhywbeth yn debyg - ond nid ar yr un graddfa - i Karnag, yn ne Llydaw, lle mae dros dair mil o feini hirion o bob maint wedi eu gosod mewn rhesi trawiadol. Neu efallai fod yma, ar un adeg, debygrwydd i'r cannoedd o feini hirion sy'n sefyll ar Ynys Lewis, yn ynysoedd gorllewinol yr Alban?

Duw a ŵyr beth yw cyfrinach Ardudwy. Ac aros yn ddirgelwch wna hynodedd y meini. Dim fi ydi'r cyntaf i fynd drwy'r profiad hwn o chwilfrydedd a dyfalu, ac nid y fi fydd yr olaf. Efallai y daw rhyw dystiolaeth i'r fei, rywbryd, fydd yn rhoi ychydig mwy o oleuni ar y mater. Ond mae'n anodd iawn gweld sut. Mwyaf tebyg mai aros yn ddirgelwch - ac yn fwyd i'r dychymyg - wna cerrig ein hynafiaid, am byth.

Dyma luniau fwy o gerrig Harlech, y sonnir amdanynt uchod, gan gynnwys rhai o'r cerrig sydd yn gorwedd o bobtu'r ffordd.

2 comments:

Anonymous said...

Difyr dros ben!

Dwina wedi treulio ambell i b'nawn yn crafu fy locsyn ynglyn a hyn hefyd. Ond dwi'n dueddol o ddiystyru esboniadau mystig, sydd yn hangofyr o'r cyfnod rhamantaidd ddau can mlynedd yn ol yn fy marn i. Ac mae eu ffantasiau nhw yn dal i daflu pobol oddi ar y trywydd hyd heddiw. Mae'n well gen i ddamcaniaethau mwy dynoliaethol a pragmatig.

Dwi'n licio meddwl mai mannau cyfarfod aml-bwrpas oedd y llefydd hyn ble roedd pobol gwasgaredig yn ymgynnull o dro i dro am wahanol resymau. Ella eu bod nhw'n cynnal gwyl achlysurol hefo cystadleuthau marchogaeth, reslo, trin arfau a ballu. Ella bod y meini hirion yn dynodi cwrs rasio ceffylau!

y prysgodyn said...

Yndi, mae'n gwestiwn anodd i'w gael allan o'r pen, yn dydi?

Tueddu i fynd am esboniadau dynoliaethol a phragmatig ydw innau hefyd, ond heb ddiystyrru rhai mystig yn gyfangwbl oherwydd ni ellir diystyrru dim o'r oes yma, yn enwedig elfennau mystig oedd yn rhan annatod o bob diwylliant hyd at ddwy fileniwm a hanner ar ôl gosod y cerrig.

Cofia mai rhesymau dynoliaethol a phragmatig oedd crefydd, defodau a seremonîau yn y cyfnod yma. Fyswn i ddim yn cyfri'r rhain fel pethau 'mystig' na 'rhamantaidd' o gwbl. Ac archeoleg sydd wedi dangos i ni fod cylchoedd cerrig yn cael eu defnyddio at resymau defodol (ac mae nhw'n gylchoedd llawer rhy fach i fod at lawer o ddefnydd arall, beth bynnag). Ac archeoleg hefyd sydd yn dangos i ni fod defodau wedi eu cynnal ger rhai o'r meini hirion hefyd.

Nid rhywbeth mystig yw'r posibilrwydd fod ymwybyddiaeth cryfach o rymoedd magnetaidd y ddaear mewn cymdeithas oedd yn agos at natur a greddfau 'cyntefig', chwaith. Tydi'r grymoedd eu hunain yn sicr ddim yn fystig, ond yn hytrach yn ffaith wyddonol.

Dwi'n licio'r syniad o'r llefydd hyn fel mannau cyfarfod, fodd bynnag. Does dim dwywaith eu bod nhw. Eto, pam dewis y mannau hyn yn y lle cyntaf? Be oedd yn eu gwneud yn bwysig? Gall fod sawl rheswm wrth gwrs, ond ni ellir diystyrru'r 'mystig' chwaith. Mae'r 'goruwchnaturiol' wedi rheoli arferion cymdeithasol a bywydau pawb hyd nes dechrau'r Cyfnod Modern. Yr anweledig oedd y bygythiad mwyaf i gymunedau, ac anweledig oedd pob amddiffyniad hefyd - swynau a chrefydd, boed yn shamanaidd, 'derwyddol' neu Gristnogol. Heb wyddoniaeth roedd rhaid wrth rywbeth i'w hamddiffyn rhag yr ysbrydion drwg oedd yn difetha cnydau ac achosi newyn, ac ati. Dyma'r bygythiad mwyaf, nid ymosodiadau treisgar gan bobl eraill.

Mae dy syniad am rasus ceffylau fel diben y meini hirion yn un bendigedig! Alla i'n sicr ei 'weld' o, yn enwedig mewn oes diweddarach. Dwn im am ddwy fileniwm cyn Crist, fodd bynnag. Onid oedd ceffylau marchogaeth yn dal yn ei egindod yn ne orllewin 'Rwsia' a gogledd-orllewin Asia, ar y pryd? Dwi'n gobeithio mod i'n anghywir yn hynny o beth, achos mae'n uffarn o ddamcaniaeth ddiddorol.

Un peth nad wyf wedi ei ystyried yn y blog yma, ydi perthynas posib efo'r sêr. Mae'n wybyddus fod y bobl yma a'u cyndeidiau o Oes y Cerrig yn deall patrymau'r sêr, y lleuad a'r haul a'u perthynas â throad y rhod yn hynod o dda.

A wel! Mae'n debyg mai dyfalu fyddwn ni gyfaill! Diolch am ymateb. Dwi'n gobeithio rhoi mwy o hanes teithiau tebyg i fyny yn go fuan.