Mae nhw'n deud fydd 'na 800 o swyddi yn cael eu creu wrth godi'r lle, a mil o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yn cael eu creu pan fydd o'n agored. Mi fydd y contractwyr uniongyrchol yn recriwtio gweithwyr drwy'r Jobcentre Plus lleol, ac mi fydd hefyd amod Gymraeg ynghlwm â'r swyddi oddi fewn i'r carchar, fydd yn help mawr wrth sicrhau swyddi i bobl lleol. Dipyn gwell goblygiadau cynnaliadwy-ddiwylliannol na'r cynlluniau fu ar un adeg i godi gwesty a thai moethus ar y safle.
Mae 'na alw mawr am garchar yng ngogledd Cymru, gan mai cosbi (ac ail-habiliteiddio - be di'r gair Cymraeg iawn 'dwch?) troseddwyr yw diben carchar, nid cosbi teuluoedd y troseddwyr. Gwn o brofiad faint o galed (o ran teithio ac arian) ydi i deuluoedd o ogledd Cymru - yn enwedig o Wynedd a Môn - fynd i ymweld â charcharorion yn ninasoedd Lloegr.
Dydi hi ond yn iawn, hefyd, i garcharorion gael eu carcharu yn eu gwlad eu hunain, gyda staff carchar sy'n siarad yr un iaith â nhw. Treuliais 14 mis yng Ngharchar Walton yn Lerpwl yn 1992 a 1993. Roedd y carchar wedi gwneud archwiliad o ethnigrwydd y carcharoion, a chael eu syfrdannu o weld mai'r Cymry oedd y lleiafrif mwyaf yn y carchar. Dwi'm yn cofio'r ffigwr yn iawn, ond roedd un ai 1,300 neu 1,500 o garcharorion yn y carchar. Ond dwi'n cofio fod traean ohonyn nhw'n Gymry, a thraean o'r rheiny wedyn yn Gymry Cymraeg.
Bu hynny'n sbardun i ni ddechrau ymgyrch a deiseb dros gael gwasanaeth teledu Cymraeg ar gyfer 'association' (pan oedd pawb yn cael gwylio ffilm ar y landing isaf), mwy o lyfrau Cymraeg i'r llyfrgell, a gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Wnaethom ni ddim ennill yr un o'r pethau yma, ond roedd o'n rwbath oedd yn helpu i basio'r amsar. Roedd o'n ddifyr hefyd, achos roedd y Sgowsars yn arwyddo'r ddeiseb hefyd - yn rhannol am eu bod nhw'n cytuno efo'r egwyddor, ac yn rhannol am eu bod isio gwylio Sgorio, ac y byddai modd iddyn nhw gael cyfnod 'association' ychwanegol os fyddan nhw'n deud eu bod nhw'n gallu siarad neu ddeall Cymraeg!).
Ond yn ôl at y carchar yng Nghaernarfon. Roedd y drafodaeth ar Taro'r Post ddydd Gwener ddwytha'n eithaf hilêriys, a deud y gwir. Mae'n eironig fod rhai o fy ebychiadau diweddara ar y blog 'ma yn amddiffyn y Cymry Cymraeg rhag y cyhuddiad eu bod i gyd yn gul, achos byddai gwrandawyr yn ei chael hi'n anodd credu nad haid o betha mewnblyg ydan ni i gyd, wrth wrando ar rai o'r dadleuon adweithiol, anwybodus a phlentynaidd a gyflwynwyd gan wrthwynebwyr.
Ond wrth gwrs, lleiafrif ydi'r rhain - ein fersiwn Cymraeg ni o ddarllenwyr y Daily Mail, yr un math o bobl dosbarth canol, cul a hunanbwysig sydd i'w clywed ar phone-ins Jeremy Vine ar Radio 2 yn cynrychioli 'moesau' y genedl. Achos fel y dywedodd perchennog siop gwallt yng Nghaernarfon ar y rhaglen, mae pawb o'r werin bobl yn y dref yn croesawu'r datblygiad.
Ac felly ydi hi ar lawr gwlad yma'n Stiniog a llefydd eraill hefyd. I bobl go iawn, sy'n stryglo ar gyflogau bychain mewn swyddi bregus ac yn poeni am y dyfodol, mae'r newyddion yma'n un sy'n dod a gobaith efo fo. Gaiff y bobl cyfforddus, canol oed a hŷn, sydd un ai mewn swyddi diogel neu wedi ymddeol a thalu am eu tai, draethu ymlaen am ddiwylliant, cyfraith a threfn, pris eiddo a'r olygfa, hynny lician nhw. Dio'n golygu affliw o ddim i deuluoedd ifanc Gwynedd pan mae gwaith a chartrefi - a dyfodol eu plant - yn y fantol.
Roedd y sgwarnogod a godwyd gan y gwrthwynebwyr yn rhai digri. Mi soniodd rhai am yr olygfa - y byddai carchar yn beth hyll i'w godi ar lannau'r Fenai. Ond anwybodaeth llwyr oedd hynny, gan bobl oedd yn gwybod dim am be oeddan nhw'n son am. Yn amlwg dydyn nhw heb weld unrhyw garchar cymharol newydd, ac mai eu syniad nhw o garchar yw'r carchardai Fictorianaidd uchel a hyll megis Walton, Strangeways a Caerdydd, a llwyth o rai eraill sy'n dal i fod mewn defnydd dros Brydain, y maen nhw wedi'u gweld ar y newyddion a ffilmiau arswyd tebyg dros y blynyddoedd.Dwi'm yn deud fod y carchardai newydd yn bethau del, ond mae nhw'n llawer iawn llai trawiadol i'r llygad, ac yn blendio i mewn i'r amgylchfyd o'u cwmpas yn weddol ddi-drafferth. Tydyn nhw ddim yn adeiladu hen Wings mawr tal efo pump landing ddim mwy, ond yn hytrach adeiladau un neu ddau lawr. Prin fo'r adeiladau yma i'w gweld o gwbl y tu ôl i'r waliau allanol - sydd eu hunain ddim mor uchel â waliau mawr hyll yr hen garchardai. Roedd un ddynes fach o Fôn yn ei chael hi mor anodd amgyffred y datblygiad fel fod y llun oedd ganddi yn ei phen yn un dryslyd iawn, iawn. Cwynodd am yr olygfa tuag at Eryri yn cael ei sbwylio gan 'hen beth hyll' (fel y gwnaeth aml i Fonwysyn ganrifoedd yn ôl wrth wylio Edward yn codi'i gastell wrth geg y Seiont, am wn i), a'r mynyddoedd yn cael eu cuddio gan y waliau uchel 'ma - cyn dweud yn y frawddeg nesaf un, y byddai'r carcharorion yn cael mwynhau'r olygfa fendigedig o Eryri o'u celloedd, tra fod golygfa pobl gall a gonest y tu allan yn cael ei sbwylio! Wel, Musus bach! Os di'r waliau mor uchel a hynny, 'da chi'm yn meddwl y bydda hi'n anodd i weld allan yn ogystal ag i mewn? Be ydyn nhw am fod, see through mirrors?
Ynghanol y rhethreg adweithiol am thygs yn denu thygs (am deuluoedd anffortunus yn ymweld â'u hannwyliaid!) roedd yr iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio fel esgus hefyd - un ffoniwr hyd yn oed yn honni y byddai'r carcharorion a'u teuluoedd yn setlo yma ar ôl gweld ardal mor braf, ac y byddai'n "ddiwedd ar yr iaith Gymraeg!" Ffyc mî, anghofwch am raglenni teledu fel Location, Location yn hybu'r mewnlifiad. Codwch garchar yng Nghaernarfon a fyddan nhw'i gyd isio symud 'ma! Dwi'n siwr fod Dafydd Hardy a Berresford Adams yn rhwbio'u dwylo'n awchus!
Ond roedd 'na sylwadau 'callach' - er yr un mor anwybodus - yn cael eu gwneud o ran y Gymraeg. Honnai rhai y byddai codi tai fforddiadwy ar y safle yn beth callach. Ond, i ddechrau, di'm yn bosib codi tai yno, gan fod 'na asbestos ar y safle, a'r unig ffordd i wneud asbestos yn ddiogel ydi un ai ei gario fo o'na - sydd yn amhosib yn yr achos hwn - neu ei adael yn lle mae o a'i selio fo i mewn. Achos wrth symud asbestos mae o'n malurio ac yn gollwng gronynnau mân i'r awyr - a dyna pryd mae asbestos yn lladd pobol, pan mae'n cael ei anadlu i mewn i'r ysgyfaint. Ac o ran 'tai fforddiadwy', gallwch godi hynny liciwch chi ohonyn nhw a fyddan nhw'n da i ddim byd os nad ydi'r gwaith ar gael i bobl lleol allu eu fforddio nhw! Dydio'm yn rocket science, nacdi?
Dim ond bobol gul, ddosbarth canol gyfforddus sydd mor allan o tytsh efo realiti i fethu gweld fod diffyg gwaith - yn enwedig gwaith efo cyflog a sefydlogrwydd digonnol - yn un o'r problemau mwyaf yn y Gymru wledig.
Ac ydi 'tai fforddiadwy' yn fforddiadwy go iawn? Wel, pe tae'r bobol 'ma'n tynnu'u sbectols tywyll am funud ac yn edrych ar y byd go iawn, mi fyddan nhw'n gweld fod 'tai fforddiadwy' yn cael eu gwerthu am £160,000, sydd yn bell o gyrraedd pobl leol - hyd yn oed rhai efo dau gyflog yn dod i mewn i'r cartref. Con llwyr ydi'r busnas 'tai fforddiadwy' 'ma, a dim arall. Canran bach o bob datblygiad sy'n cael ei osod fel tai fforddiadwy, a chael eu gwerthu i bobl o ffwrdd mae nhw yn y diwedd. Ffaith.
Ond dyna fo. Tydi teuluoedd ifanc a gwerin-bobl Cymraeg eu iaith ddim angen swyddi, siwr! Onid ydi pob Cymro Cymraeg yn berchen ei dŷ semi, tri llawr yn swbwrbia, yn yfad te a darllen Golwg, a mynd i capal ar y Sul - a gwrando ar Radio Cymru am weddill yr wythnos?
Lol! Y werin ydi trwch siaradwyr Cymraeg, a nhw ydi ei dyfodol. Er gwaetha ymdrechion clodwiw y werin ddiwylliedig i gynnal diwylliant cynhenid, ac er gwaetha rhagfarnau a snobyddiaeth y dosbarth canol proffesiynol a'u pwyslais rhagrithiol ar ddiwylliant-cyn-cymdeithas, y werin wyllt a'r werin datws achubith yr iaith Gymraeg drwy fyw a gweithio yn ei chadarnleoedd, yn yfad, cwffio a charu tra'n magu teuluoedd trwy gyfrwng y Gymraeg, a chadw'r ysgolion bach trefol i fynd. Dyna pam fod gwaith yn hanfodol bwysig i unrhyw barhad diwylliannol yng Ngwynedd. A dyna pam dwi'n croesawu'r newyddion o Gaernarfon.
2 comments:
Roedd 'mrawd yn Walton. Efallai dyna pam roedd ei wyneb yn gyfarwydd iti!
GyA
rehabilitate (prisoner): adsefydlu, ailsefydlu, ailhyfforddi, ailgymhwyso
rehabilitated (prisoner): ailhyfforddedig
Rehabilitation of Offenders Act: Deddf Ailsefydlu Troseddwyr
Post a Comment