06/02/2009

Cyfryngau di-asgwrn cefn yn gadael Rhys Williams wingo oddi ar y bachyn

Teithiais i lawr i Lanfair-ym-Muallt ac yn ôl heddiw, a gwrando ar Radio Cymru yr holl ffordd. Adroddodd y bwletin 1 o'r gloch fod Rhys 'Coco y Clown' Williams, darpar ymgeisydd seneddol Llafur yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn cadw at yr hyn a ddywedodd mewn ymosodiad anhygoel ar y Cymry Cymraeg yng nghylchgrawn Barn. Yn ôl y bwletin, roedd yr erthygl yn honni fod rhai Cymry Cymraeg yn defnyddio'r iaith i wneud siaradwyr Saesneg yn ddinasyddion eilradd, ac yn beio pawb arall am dranc yr iaith tra mai'r Cymry Cymraeg eu hunain oedd yn peidio siarad yr iaith efo'u plant.

I ddechrau, dim 'rhai Cymry Cymraeg' oedd o dan ei lach, ond 'y Cymry Cymraeg.' Yn ail, wnaeth o ddim beirniadu'r Cymry Cymraeg am beidio traddodi'r iaith i'w plant o gwbl (a dim o safbwynt y broblem yma oedd ei erthygl yn dod). Yr unig grybwyll o'r duedd yma ymysg rhai rhieni oedd wrth ymosod ar Keith Davies, Cyfarwyddwr y Bagloriaeth Cymreig, am fynegi tristwch ynghylch y ffaith fod hynny'n digwydd yng Nghwm Gwendraeth. Yn wir, roedd Rhys Williams hefyd yn ffieiddio Cynog Dafis am fynegi yr un fath o ddryswch a siom ynghylch cwpwl o engreifftiau iddo ddod ar eu traws yn ystod ei fywyd. Ymfalchio oedd Rhys Williams fod pobl yn peidio siarad Cymraeg, a bychanu ac ymosod ar Gwynfor Evans am fynegi siom fod Cymro Cymraeg o'r Bala wedi gwrthod siarad Cymraeg ag o am nad oedd ganddo'r amynedd i helpu rhywun ymarfer ei iaith!

Ac yn drydydd, byrdwn ei lith - a theitl ei erthygl - oedd "Dwi'n casau'r Cymry Cymraeg..." Onid dyna be ddylai ein cyfryngau cachlud Cymreig ni fod yn ei adrodd/ganolbwyntio arno? Darpar wleidydd o blaid y llywodraeth yn bytheirio am ei gasineb tuag at y Cymry Cymraeg yn gyffredinol? Sut ar wyneb daear y llwyddodd i grynodeb o fyrdwn ei neges newid cyn gymaint erbyn cyrraedd y tonfeddi, felly?

Ychwanegodd y bwletin y byddai'r dyn ei hun yn cyfrannu i raglen 'Dau o'r Bae' "yn syth ar ol y newyddion." A be gafwyd? Trafodaeth oedd yn ymddangos fel petaent yn trafod erthygl hollol wahanol. Yn wir, roedd y rhaglen fel petai wedi cytuno i gydfynd â strategaeth Rhys Williams o roi fersiwn hollol wahanol o'r hyn oedd wedi ei sgwennu, ac i ehangu (wel, symud, a deud y gwir) y drafodaeth i drafod pwyntiau na wnaeth o yn yr erthygl o gwbl - a hynny mewn ffordd a roddai'r argraff mai'r pwyntiau newydd hyn a ddywedwyd - gan anwybyddu be ddudodd o go iawn, yn llwyr!

O ganlyniad, bu dim rhaid iddo ymateb i'w ddatganiad gwarthus ei fod yn "casau'r Cymry Cymraeg" ac yn "casau cefn gwlad" o'r herwydd. Bu dim rhaid iddo amddiffyn ei honiadau uniongyrchol fod y "Cymry Cymraeg yn gul", yn rhannu meddylfryd y "Seiri Rhyddion", na chynnig tystiolaeth i gefnogi'r honiadau hynny, ac eraill. A ni fu rhaid iddo amddiffyn ei honiadau fod y "Cymry Cymraeg" yn "gyfundrefnol hiliol." (Rhaid dweud yma, imi golli cwpwl o funudau cyntaf y drafodaeth, gan i mi stopio i dynnu chydig o luniau o Lyn Clywedog yn yr eira, felly mae'n bosib i un neu ddau o'r pwyntiau yma gael eu codi wrth agor y sgwrs - ond doedd hi ddim yn edrych yn debyg iawn i fi, o weld ynghylch be oedd y sgwrs yn tindroi o'i gwmpas am weddill y drafodaeth).

Yn hytrach na'r pwyntiau yma, roedd y panelwyr yn trafod honiadau newydd Rhys Williams am "dueddiadau asgell dde" y Cymry Cymraeg (rhywbeth oedd o ei hun yn rhoi'r argraff mai dyna oedd un o negeseuon ei erthygl - ond nad oedd, mewn gwirionedd, yn rhywbeth a ddywedodd o gwbl), a'r 'ffaith' eu bod nhw'n disgwyl i bob Cymro arall fod o'r un farn â nhw am bopeth Cymraeg a thu hwnt, a'r 'ffaith' eu bod nhw'n edrych i lawr ar bobl fel Rhys Williams fel "hanner Cymro" (am nad oedd o'n aelod o Blaid Cymru, ei fod yn dod o dde-ddwyrain Cymru ac wedi ei fagu ar aelwyd ddwyieithog a.y.y.b.).

Mae'n siwr fod 'na rai Cymry Cymraeg yn meddwl felly, fel y mae rhai Cymry di-Gymraeg yn meddwl fod unrhyw un sy'n siarad Cymraeg yn llai Cymro/Cymraes na nhw - a llai human hefyd, fel y mae sawl criw o Gymry Cymraeg sydd wedi eu bygwth am weiddi "Cymru" yn lle "Way-uls" mewn gêm rygbi, neu wedi dioddef trais am siarad Cymraeg yn nhrefi mawr arfordir y gogledd neu ddinasoedd y de - neu'r boi bach 'na gafodd ei lofruddio mewn siop jips yng Nghaerdydd rai blynyddoedd yn ôl, am siarad "that Welsh shit in our fuckin town." I raddau llai eithafol na hynny, onid oes 'na unigolion, o unrhyw garfan, sy'n credu i raddau eidiolegol mewn achos penodol yn tueddu i gyfri rhai sydd ddim o'r un farn â nhw, fel 'pobl rhyfedd', neu 'elynion' hyd yn oed?

Ond nid dilysrwydd, ai peidio, y ddadl orddeallusol a selff-indyljent hon sy'n bwysig. Be sy'n bwysig ydi mai nid dyma oedd Rhys Williams yn ddweud yn ei erthygl o gwbl, waeth sut mae o'n trio sleifio allan ohoni erbyn hyn! (gyda llaw, mae teitl yr erthygl arlein ychydig yn wahanol i'r un yn y cylchgrawn, am rhyw reswm rhyfedd). Yr hyn ddwedodd o oedd ei fod yn casau'r Cymry Cymraeg am eu bod nhw'n gul, yn byw yng nghefn gwlad, yn defnyddio'r Gymraeg i gadw pobl allan ac i droi eraill yn ddinasyddion eilradd, yn Seiri Rhyddion, ac yn gyfundrefnol hiliol.

Pam fod golygyddion rhaglenni materion cyfoes y BBC - sy'n darparu bron pob rhaglen newyddion a gwleidyddiaeth - wastad yn anwybyddu'r gwir yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac yn mynnu glynnu at agenda eu meistri Brit-Welsh yng Nhaerdydd a Llundain? Gafodd sylwadau Seimon Glyn am y mewnlifiad Seisnig sy'n trawsnewid diwylliant a hunaniaeth ardaloedd Cymraeg eu iaith, rhyw saith mlynedd yn ôl, ddim eu trin mor ysgafn na'u sgubo o dan y carped - a fydden nhw ddim heddiw chwaith.

Does 'na ddim gwasg na chyfryngau rhydd yng Nghymru. Mae holl staff y BBC yn gorfod arwyddo rhyw gytundeb i beidio tynnu'n groes i'r lein olygyddol, ac adloniant a rhaglenni human interest arwynebol ydi blaenoriaeth y cwmniau annibynnol. O ran y papurau newydd, does 'na ddim newyddiadurwr na newyddiadurwraig sydd yn edrych y tu hwnt i'w pacad pae ar ddiwedd y mis, ac os fysan nhw'n troi eu trwynau tuag at y gwir straeon a sgandalu melltigedig sy'n mynd ymlaen ar lawr gwlad y dyddiau hyn, buan iawn y byddai'r pacad pae hwnnw yr un olaf iddyn nhw'i agor.

A'r cylchgronnau Cymraeg? Mae nhw'n dibynnu ar grantiau gan y gwleidyddion, felly maen nhw o dan anfantais cyn dechrau, ac yn tueddu i gadw at ddarpariaeth uchelael a diogel (Barn), neu, yn achos Golwg, yn amrywio o sebon sunday-supplementaidd ac ailadroddiadau arwynebol o ddatganiadau gwasg y pleidiau a'r cynghorau, i dross gwirioneddol echrydus gan unigolion diddychymyg sydd o leiaf - hyd yn hyn - efo digon o ostyngeiddrwydd i beidio galw'u hunain yn ysgrifennwyr, ond sydd dal efo'r hyfdra i ddigrifio'u hunain fel colofnwyr. (Ac, yn rhyfedd reit - ac yn eironig ar ben hynny - yr un rhai yw'r rhain sydd mor uchel eu cloch yn ei condemniad o'r syniad o sefydlu papur dyddiol safonnol Cymraeg!)

Mae'r hen ystrydeb honno am fadarch - cadwch nhw yn y twllwch a bwydwch gachu iddyn nhw, a mi dyfant yn fadarch bach da - mor ffycin wir!

A son am hynny, edrychwch mewn difri calon ar y cachu mae pobol fel Rhys Williams ac eraill tebyg iddo fo yn y Blaid Lafur Gymreig yn ei fwydo i'w dilynnwyr bach ufudd! A'r cwbl er mwyn mantais gwleidyddol. Achos bwydo'r 'madarch' efo'r cachu yma fod y boblogaeth Gymraeg ei iaith yn ganlyniad prosiect gennynol gan natsis, mewn ogof o dan yr Wyddfa, i gynhyrchu byddinoedd cenedlaetholgar fydd yn byrstio i mewn i gartrefi pob Cymro di-Gymraeg a stwffio copiau o Feibl yr Esgob William Morgan i lawr corn cwac pob un, cyn eu martsio i ffwrdd i'r brainwash camps mewn hen bentrefi meirwon ym Mhen Llŷn, yw'r unig ffordd y mae nhw'n mynd i gadw gwladgarwch greddfol a hunaniaeth cenedlaethol Cymreig y Cymoedd rhag mynegi ei hun yn wleidyddol (fel y gwelwyd yn y Rhondda yn 1999).

Pam da chi'n meddwl fod Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant, mor ffiaidd o wrth-Gymraeg ei fod o'n colli cwsg dros gyhoeddiadau Cymraeg ar blatfforms gorsafoedd trên? Pam da chi'n meddwl fod yr AC, Leighton Andrews, yn hoff o ymosod ar "grachach y Taffia Cymraeg eu iaith" sy'n "gorfodi Cymraeg ar y mwyafrif di-Gymraeg", er ei fod o, mewn gwirionedd, yn briod â'r arch-Taffia-Cymraeg-ei-hiaith, Ann Beynon, ac mor gefnogol i'r Gymraeg fel ei fod o wedi ei dysgu yn ddigon da i fod yn rhugl.

Rhethreg a thactegau gwleidyddol ydi o i gyd. Tydyn nhw'u hunain ddim yn coelio'r rwtsh sy'n dod o'u cegau, ond mae o'n ddigon da i'r 'plebs' mae nhw'n ei fwydo fo iddyn nhw.

"Independence? No, wouldn't work, I mean, look at the place, there's nothing here is there?"

Dyna oedd ymateb person o Bontypridd i gwestiwn gan ohebydd newyddion, ar y teledu. Dyma'r math o feddylfryd mae 'The Party' wedi ei feithrin. Dim annibyniaeth barn o gwbl. Ddaru'r person yma ddim meddwl, am eiliad, pam nad oedd 'na ddim byd yma. Ddaru nhw ddim meddwl, 'hold on - canlyniad canrifoedd o ecsploetio Prydeinig ydi fod dim byd yma'.

Cynnal y caethiwed dall yma yw diben Llafur. Politics budr ydi o. Troi Cymry yn erbyn eu cyd-Gymry, er mwyn cadw'r genedl yn rhanedig, a chadw 'bwgan mawr' cenedlaetholdeb rhag agor llygadau a deffro'r werin. Achos mae unrhyw beth y mae'r "Nationalists" yn ei ddweud yn "evil".

Cynnal y status quo yw nod y gwleidyddion Llafur - sydd wedi taflu eu hegwyddorion sosialaidd a dyngarol o'r neilltu er mwyn hunanoneldeb - achos o dan y status quo mae gan y gwleidyddion 'ma yrfa ddiogel a sicrwydd economaidd iddyn nhw eu hunain. Stwffio pawb arall. Dim bwys os ydi Prydain wedi rheibio Cymru o adnoddau cyn dympio'i gweithwyr ar y domen sgrap. Dim bwys os ydi Prydeindod wedi cipio pob gronyn o hunanbarch ac urddas oddi arnom. Ein amddifadu o wybodaeth - dydan ni ddim yn cael dysgu ein hanes, a ddim yn cael y gwirionedd gan y cyfryngau. Yn hytrach, rydan ni'n cael ein bwydo efo propaganda am y Teulu Brenhinol a'n 'hogia ni' yn y rhyfel - yr unig ddau beth sy'n cynnal Prydeindod: y Roials a rhyfel.

Y broblem i'r Llafuriaid gwrth-hunaniaeth Gymreig 'ma ydi fod 'na Gymry sydd o hyd yn gallu meddwl dros eu hunain a gweld trwy'r smocsgrîn. Ac mae gan y neges y gallen nhw'i gyfleu - o'i gyfleu yn effeithiol - y potensial i ryddhau meddyliau'r masses sydd wedi eu indoctrineiddio efo propaganda'r unoliaethwyr. A'r unig ffordd o stopio'r neges honno mewn gwladwriaeth ddemocrataidd ydi trwy bardduo, enllibio, codi bwganod a chreu rhaniadau - ynysu'r neges a'i chadw mor bell â phosib o galonnau'r mwyafrif. Gwneud i'r syniad ymddangos mor ffiaidd a phosib, ac yn fygythiad i fodolaeth - i Gymreictod - y mwyafrif di-Gymraeg.

Yr unig bobl sy'n defnyddio'r iaith fel arf, felly, yw'r gwleidyddion budr yma. Yr unig bobl sy'n ei defnyddio i gadw pobl yn eu lle, yw'r gwleidyddion yma - a chadw eu pobl eu hunain yn eu lle! Yr unig bobl sy'n defnyddio'r iaith i greu dinasyddion eilradd yw'r gwleidyddion yma. Dinasyddion eilradd o'r Cymry Cymraeg (chaiff yr ardaloedd Cymraeg eu iaith ddim yr hawl i osod rhywfaint o'r farchnad dai newydd i bobl sydd wedi byw yn yr ardal am hyn a hyn o flynyddoedd, fel mae nhw'n ei wneud mewn rhannau o Loegr, a hynny oherwydd ein bod yn siarad iaith wahanol - sydd yn handi i Llafur ddefnyddio'r cerdyn ieithyddol i waldio Plaid Cymru efo hi yn y maes cynllunio a thai - felly rhaid i ni'r Cymry Cymraeg jysd symud allan neu sticio i'n hofeli bach tamp a thywyll) a'r di-Gymraeg gan mai cadw'r di-Gymraeg yn pleidleisio dros gadw'r status quo fydd yn eu cadw nhw mewn cylchdro ffiaidd o dlodi ac anobaith ar waelod y domen sgrap Brydeinig yw eu nod. Dinasyddion eilradd yw'r Cymry i gyd.

Dydi hi ddim yn gyd-ddigwyddiad fod Rhys Williams wedi codi hyn rwan, fel mae cynnwys yr LCO Iaith yn cael ei drafod. Mae nhw'n gwybod fod 'na garfan helaeth o bobl y Cymoedd sydd wedi byw eu bywydau yn 'The Party' ac sy'n mynd i lyncu popeth mae 'The Party' yn ddweud wrthyn nhw. Os yw Rhys Williams yn credu fod Cymry Cymraeg y Gymru Wledig yn gul ac unllygeidiog, o leia mae gennym ni annibyniaeth barn. Wedi'r cwbl, yng nhefn gwlad mae pobl yn dweud wrth y mul be i wneud a mae o'n ei wneud o, tra yn y cadarnleoedd Llafur ymddengys mai'r mulod sy'n rhoi yr ordors.

Achos mewn difri calon, petai unrhyw un yn meddwl yn rhesymegol am y peth, fyddai unrhyw un yn credu'r holl ofergoeliaeth sy'n cael ei bedlo gan y mulod 'ma? Jysd fod pobol yn digwydd bod yn siarad iaith wahanol, mae nhw'n rhyw fath o fygythiad, yn elitists, ac i fyny i bob math o ddichell a chynllwyn i ddwyn swyddi ac eneidiau pawb yn y wlad. Ond dyna fo, mae unrhyw beth yn bosib pan da chi wedi amddifadu pobl o'u hanes, ac yn rheoli'r newyddion mae nhw'n ei dderbyn.

Fel mae'r Unoliaethwyr yn chwe sir gogledd Iwerddon yn fwy Prydeinig na fu'r Saeson erioed, yma yng Nghymru mae gennym garfan fawr o'r boblogaeth sy'n fwy imperialaidd, anoddefgar a 'Seisnig', tuag at ddiwylliant lleiafrifol na fu'r rhan fwyaf o Saeson ers amser maith bellach. Does 'na ddim lleiafrif yn y D.U. sy'n cael ei drin fel cocyn hitio heb unrhyw reswm cyfiawn gan wleidyddion ac aelodau blaenllaw eraill o'r Sefydliad, na'r lleiafrif Cymraeg ei iaith. Mae'r gormes yn llai eithafol, ond mae'r tactegau a rhethreg gwleidyddol yn debyg iawn i'r rhai ddefnyddiwyd yn erbyn y mudiad hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau yn y 60au. Cyhuddo, pardduo, lledu celwyddau a sibrydion er mwyn bwydo rhagfarnau a chynnal rhwygiadau cymdeithasol, lledu casineb ac anoddefgarwch er mwyn troi'r mwyafrif yn erbyn y lleiafrif - a thrwy hynny dwyn llais democrataidd y lleiafrif - er mwyn eu hynysu ddigon i allu eu trin nhw fel y mynnent heb wich o gondemniad gan y mwyafrif.

Mae'n anhygoel credu, a ninnau yn cyrraedd diwedd degawd gyntaf yr unfed ganrif ar hugain, mewn oes o gyfryngau torfol sy'n ein rhoi mewn cysylltiad â phob math o ddiwylliannau o dros y byd, fod y ffaith fod 'na gymunedau Cymraeg naturiol - dwyieithog a chynhenid - yng Nghymru, yn achosi'r ffasiwn ddrama!

8 comments:

blogmenai said...

Wel - y broblem sylfaenol ydi nad ydi'r sawl sy'n cyflwyno rhagleni'r Bib (at ei gilydd) byth yn darllen dim yn Gymraeg, heb son am Barn. Felly doedd ganddyn nhw fawr o syniad am yr hyn yr oeddynt yn dadlau ynglyn a fo.

y prysgodyn said...

Roedd hynny hefyd yn amlwg, yn anffodus

Hedd said...

Dyna'n union wnes i sylwi hefyd Dewi. Roedd yr hyn wnaeth y BBC adrodd yn hollol wahanol i gynnwys erthygl Rhys. DWI'N CASAU CYMRY CYMRAEG ddywedodd e, nid rhai Cymry Cymraeg, ond y Cymry Cymraeg yn gyffredinol. Sylwadau hollol warthus. Dwi'n credu ei fod yn bwysig iawn danfon cwyn at y BBC ynglyn a chynnwys y drafodaeth ar Dau o'r Bae ac ar bwletinau newyddion y BBC -newyddion@bbc.co.uk - dwi am wneud ac yn annog pawb arall i wneud hefyd.

Dyfrig said...

Cofnod difyr iawn, Prysor. Ond mae'n rhaid i mi herio dy ddatganiad bod Barn yn uchelael a diogel. Efallai fod rhai erthyglau yn tuedddu at yr uchelael, ond os nad yw Barn yn rhoi llwyfan i ysgrifennu "uchelael" yna pwy wnaiff? A heb yr erthyglau "uchelael" oni fyddai Barn yn cael ei feirniadu am fod yn rhy debyg i Golwg? Dwi'n gobeithio bod 'na ddigon yn Barn sydd yn ddarllenadwy ac yn ddifyr, heb fod yn rhy uchelael i'r darllenydd cyffredin.
Dwi'n credu bod 'na lai o sylwedd i dy haeriad di bod Barn yn "ddiogel". Efallai bod yr erthyglau sydd yn ymddangos yn arddel safbwyntiau llai radical nac yr hoffet ti eu gweld. Ond y gwir yw ein bod ni'n ceisio cynnwys ystod eang o safbwyntiau, ond yn bwysicach, ein bod ni'n ceisio herio y status quo. Dwi'n credu ein bod ni wedi llwyddo i gynnal lein olygyddol sydd yn annibynnol ac yn anuniongred, tra'n aros yn berthnasol. Ond os wyt ti o'r farn ein bod ni'n "ddiogel", yna efallai bod lle i ni weithio yn galetach. Fe gymerwn ni sylw o dy neges - bod angen i Barn fod yn beryclach. A cofia bod croeso i chdi gyfrannu i'r cylchgrawn unrhyw dro.

Dic Dyffryn said...

Mae adroddiad yn y 'Carmarthen Journal' wythnos 'ma, "Would-be MP in tirade against Welsh speakers". Yn ol y Journal, "A prospective MP for one of the most Welsh-speaking parts of Wales has declared his hatred for the Welsh-speaking community."

Dyna ddiwedd ar yrfa wleidyddol Rhys Williams.

y prysgodyn said...

Gwych Dic Dyffryn!

Dyfrig - dwi'n derbyn be wyt ti'n ddweud yn llwyr. Tydi fy mlog yn ddim mwy na llif meddyliau. Nid yw'n gyfres o erthyglau wedi ei hymchwilio a'u drafftio. O ganlyniad mae o'n cael ei sgwennu o berspectif personol ac o natur ffwrdd-a-hi a chyffredinol - yn enwedig wrth ddewis ansoddeiriau (rhai lliwgar yn ôl fy arfer, yn anffodus!).
Dwi'n hollol ymwybodol fod yr hyn dwi'n ei ddweud, o gael ei ystyried yn ddyfnach, yn hollol agored i gael ei ddadansoddi, ei herio a'i racsio. A teg a da o beth hynny.
Efallai nad yw 'uchelael' a 'diogel' y dewis mwyaf cywir yn yr achos yma, ac o ran fy safbwynt personol, tueddu i beidio cydio fy niddordeb o gwbl oedd rhan fwyaf yr erthyglau dros y flwyddyn diwethaf. O drosgwlyddo hynny i'r ffaith mod i'n cyfri fy hun yn berson sydd yn rhannu'r un diddordebau â'r werin yn ogystal â thalp helaeth o ddiddordebau llengarwyr ac academwyr, tueddu i ddenfyddio hynny fel ffon fesur o gynnwys y cylchgrawn ydw i. Ond dwi'n derbyn nad uchelael yw'r term cywiraf i ddisgrifio cylchgrawn sydd ddim yn ennyn diddordeb y werin. Ac yn sicr ddim y term cywir i ddigrifio un sydd ddim yn ennyn diddordeb brwd DewiPrysor!

Y Curad said...

'Barn' yn uchelael? Braidd yn uchelgeisiol. Mae 'Barn' yn gylchgrawn yn yr un ffordd ag y mae Ex-Lax yn siocled.

y Bioden 'gwsg' said...

dyfynnod: Wedi'r cwbl, yng nhefn gwlad mae pobl yn dweud wrth y mul be i wneud a mae o'n ei wneud o,

When an opponent declares, 'I will not come over to your side,' I camly say, 'Your child belongs to us already...What are you? You will pass on. Your descendants, however, now stand in the new camp. In a short time they will know nothing else but this new community.'
Adolf Hitler, 1933