Ond mae rhaid i mi ddweud mod i wedi synnu i gael ar ddallt y dydd o'r blaen, fod Cyngor Gwynedd wedi penderfynu y bydd unrhyw gontract adeiladu/peirianneg sifil sy'n werth mwy na hanner miliwn o bunnau yn mynd, yn awtomatig, i gwmniau mawr (fel, er engraifft, Carillion). Mae hyn yn golygu fod cwmniau adeiladu bach a chanolig, lleol - gan gynnwys rhai sydd wedi bod yn gwneud gwaith safonnol i'r cyngor ers blynyddoedd lawer - yn colli allan ar lot fawr o gytundebau prosiectau adeiladu a chynnal ffyrdd fu'n fara menyn iddyn nhw a'u gweithlu dros y blynyddoedd.
Gwn am un cwmni tebyg, o Drawsfynydd, sydd wedi gorfod diswyddo nifer o weithwyr yn ddiweddar oherwydd hyn. Cwmni fu'n cyflogi criw o ddynion lleol, oedd yn galluogi i deuluoedd Cymraeg aros ym mro eu mebyd. Mae'r cwmni wedi ceisio cymorth gan nifer o lefydd, gan gynnwys yr Aelod Seneddol dros Feirionnydd Nant Conwy, Elfyn Llwyd, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, does dim byd y gellir ei wneud i wyrdroi y penderfyniad hwn - sydd yn achosi colli swyddi yng Ngwynedd, achosi caledi ychwanegol diangen mewn cyfnod o ddirwasgiad economaidd, ac sydd hefyd yn tanseilio hyfywedd yr iaith Gymraeg yn ei chadarnle eithaf.
A hyn gan Gyngor sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru, gydag ail blaid (llawn cenedlaetholwyr amlwg) sydd i fod i gynrychioli 'llais pobl y sir'! Rhyfedd o fyd - neu, rhyfedd o sir!
8 comments:
Wnaeth Niccolò Machiavelli dweud, yn ôl y son, 'Trust not in Princes' felly i ddiweddaru ei ymadrodd, 'Peidiwch rhowch eich ymddiriedaeth i gynghorwyr!'
Dwi'n credu dy fod yn rhoi'r bai ar gam i Gyngor Gwynedd yn y fan hyn. Cyfraith Ewrop sydd yn dweud bod yn rhaid i unrhyw gytundeb cyhoeddus sydd werth dros £1/2 miliwn fynd allan i dender cyhoeddus, gyda'r bid mwyaf cystadleuol yn cael y gwaith. Does gan Gyngor Gwynedd ddim dewis yn y mater felly - os yw cwmniau lleol am ennill contractau mawrion, mae'n rhaid iddyn nhw ddangos eu bod yn gallu gwneud y gwaith am bris is na cwmniau o'r tu allan.
Fel mae'n digwydd, mae Llywodraeth y Cynulliad (sydd yn cynnwys Plaid Cymru) newydd gyhoeddi grant o £25 miliwn, er mwyn i gwmniau Cymreig allu ffurfio consortia lleol a fydd yn ei gwneud hi'n haws iddyn nhw gystadlu yn effeithiol am gontractau mawr cyhoeddus. Felly yn yr achos yma, ceisio gwneud y gorau o sefyllfa anodd mae Plaid Cymru, a nid sathru ar fusnesau bychain.
Nes i ofyn os mai deddfwriaeth Ewrop oedd wrth wraidd hyn, ond yr ateb ges i oedd na, penderfyniad Gwynedd oedd o. Falch o weld mod i'n rong yn hynny o beth.
Ond dwi'n iawn i adrodd fod y cyngor wedi gollwng cwmniau lleol oddi ar eu rhestr dendro, er eu bod nhw wedi bod yn gwneud gwaith gwerth dros hanner miliwn o bunnau i'r cyngor yn y gorffennol. Mae nhw bellach yn cynnig y tendrau i bwll o gwmniay mawrion allanol sydd wedi eu dethol fel cwmniau sy'n cyrraedd rhyw safonnau gosodedig gan y biwrocrats.
Roeddwn i yn Traws y dydd o'r blaen. Wnes i ddim dychmygu na breuddwydio hyn. Mae'r cwmni yn Nhrawsfynydd yn diswyddo gweithwyr oherwydd y penderfyniad yma i beidio ei gontractio i wneud y gweithiau fu yn ei wneud iddyn nhw gynt.
Dim ond un cwmni (o Gaernarfon) sydd wedi codi'r mater yma gyda mi (yn ol yn mis Rhagfyr)ac dwi'n dal yn ceisio cael atebion i sawl cwestiwn dwi wedi ei godi yn sgil be sydd yn mynd yn ei flaen. Mae Dyfrig yn rhanol iawn yn be mae o yn ei ddweud ynglyn a Ewrop ond mae rhai penderfyniadau lleol ar lefel Gwynedd hefyd yn di-ystyru ac yn wir yn eithrio cwmniiau lleol sydd yn wrthyn o gofio sefyllfa economiadd presennol o fewn y Sir.
Os oes cwmni o Drawsfynydd yn cael trafferthion, ydyn nhw wedi siarad efo'i cynghorydd lleol? Hawdd ydi beirniadu yma, ac yn aml mae'r feirniadaeth hynny yn deg...ond fe wyddost yn iawn Prys dwi yn dilyn pob cwyn...fel yn achos y cwmni yng Nghaernarfon ac etholwyr yma yn lleol...amhosib ydi gwneud dim am broblem ios nad wyt yn gwybod ei bod yn bodoli. Falch o glywed fod materion acw wedi ei sortio'n foddhaol o'r diwedd.
Dwi'n meddwl fod y ddau ohonach chi'n rhoi gormod o bwyslais ar fy sylwad olaf yn y post yma.
Dim taflu beiau ar un blaid neu'r llall ydw i, ond pwyntio allan yr eironi fod Cyngor Gwynedd yn gyngor sydd â mwyafrif llethol o genedlaetholwyr yn eistedd arno (rhai o blaid y 'Cymry' a rhai o blaid y 'Gwyneddigion') ond eto mae rhai o'r polisiau sydd mewn grym - waeth yn dod o Ewrop, fel yr eglurwyd imi ganddoch, neu gan y cyngor ei hun - yn rhai sydd yn andwyol i les y sir.
Dwi'n gwybod cystal â neb, yng ngoleuni fy mhrofiadau diweddar pryd y bu cynghorwyr o'r ddwy blaid o gymorth mawr (rhai wrth gael y bel i rowlio, eraill wrth gael y maen i'r wal) fod cryn wahaniaeth rhwng egwyddorion craidd y cynrychiolwyr etholedig a'r swyddogion sy'n gweinyddu polisiau gwahanol adrannau'r cyngor.
Y gwir amdani ydi fod Cyngor Gwynedd, ar hyn o bryd, mewn taer angen sortio'i hun allan - er lles trigolion y Sir. Sdim byd partisan yn y sentiment yna, dim ond sylwad cynrychiolgar o farn y cyhoedd.
Cytuno yn llwyr nad oes unrhywbeth partisan ynglyn a cheisio cael contractau cyhoeddus i gwmniau lleol. A dwi'n ategu sylw Gwilym Euros - fe ddylai'r cwmni o Drawsfynydd fod yn cysylltu efo'u cynghorydd, er mwyn trio cael at wraidd be sydd wedi digwydd.
Fel o'n i'n dweud, mae'r cwmni o Traws eisoes wedi bod drwy'r sianeli i gyd, gan gynnwys yr Aelod Seneddol.
Ta waeth...
Post a Comment