18/02/2009

Manylion casglu sbwriel bob pythefnos wedi cyrraedd - mewn 'pot piso' bach brown

Fel y soniais yn y blog 'ma rai dyddiau yn ôl mae'n fwriad gan Gyngor Gwynedd i ddechrau casglu sbwriel bob pythefnos. Addewais y buaswn yn rhannu mwy o fanylion efo chi unwaith y byddwn yn derbyn mwy o wybodaeth. Wel, a minnau newydd orffen gwneud cyrri ar gyfer heno, ac wedi'i adael i stiwio ar y stôf, allan a fi i'r ardd am ffag. Be welis i, yn hongian ar giat agored yr ardd, ond rhyw fath o fwced bach plastig brown, efo caead arno. Rhywbeth tebyg i focs picnic, ond fod o'n llawer llai - dal bwyd i ddau berson, falla.

Yn meddwl fod plant wedi ei adael yno, dyma fi draw ato, a gweld fod 'na sgwennu, a logo Cyngor Gwynedd ar yr ochr arall iddo. 'Cadi Cegin/Kithcen Caddy Gwastraff Bwyd yn Unig/Food Waste Only' oedd y geiriau arno, felly dyma agor y caead a gweld fod 'na lythyr tu mewn - llythyr gan Gyngor Gwynedd. Ac wele, fe wawriodd be yn union oedd y bocs picnic bach brown...

Yn ôl y llythyr, dyma be fyddan ni'n ei ddefnyddio i gario wâst bwyd o'r gegin i'r biniau brown mwy, fydd yn cael eu dosbarthu cyn i'r drefn newydd ddechrau ym mis Mai. Gadewch i mi egluro be mae'r llythyr yn ei ddweud - a dim ond egluro wna i, yn hytrach na dechra diawlio, achos er gwaetha ambell broblem sy'n bosib y gellir codi efo'r biniau brown, mae'r cynllun arfaethedig i weld - ar hyn o bryd, beth bynnag - yn un sydd yn haeddu cyfle, o leiaf.

Cadarnhaodd y llythyr y bydd y casgliadau bins gwyrdd yn newid i bob pythefnos yn ystod mis Mai. Cadarnhaodd hefyd y bydd casgliadau ailgylchu (bocsus glas) yn digwydd yn wythnosol o hynny ymlaen, ac mi fyddan nhw'n derbyn poteli plastig a chardfwrdd, yn ogystal a'r deunyddiau presennol (papur, gwydr, tiniau bwyd a diod, aerosols, ffoil a batris tŷ). Mi fyddan nhw'n sdopio casglu dillad - sydd ddim yn ormod o broblem achos bydd siopau elusen yn elwa o hynny.

O ran y biniau brown newydd 'ma, byddwn yn gwagio'n wast bwyd i mewn iddyn nhw, yn ogystal â wast o'r ardd, er mwyn iddo gael ei gludo i ffwrdd i gael ei gompostio. Rhwng hynny â'r ailgylchu wythnosol, mae posib na fydd cymaint o broblem â hynny efo cael lle i bythefnos o sbwriel mewn bin olwyn gwyrdd. Cawn weld. Yr unig broblem dwi'n ragweld ar hyn o bryd ydi'r ffaith mai bob pythefnos y bydd y biniau mawr brown yma yn cael eu casglu. Mae hogla bwyd wedi sefyll am ddiwrnod yn gallu bod yn ddrwg (yn enwedig yn yr haf, pan mae pawb yn stryd ni yn byta mecryll!), heb son am bythefnos, a gan mai yn uniongyrchol i'r bin y bydd y bwyd yn mynd - fel bin slops cantîn ysgol, neu wersyll yr Urdd yn Glanllyn, ersdalwm - bydd yr arogleuon ar y stryd ddim y peth neisia i hitio trwyn rhywun wrth iddo ddod adra o'i waith, bron a llwgu, ar ddiwadd diwrnod calad o waith! Ond mi fydd o'n hogla fel hogla siop jips - neu'r cyrri 'ma sy'n hitio'n ffroena fi ar y funud - i lygod mawr...

Dwn i ddim sut mae nhw'n mynd i wneud yn siwr fod pobl ddim yn rhoi wâst bwyd yn eu bin bags du yn y biniau olwyn gwyrdd, chwaith. Fel o'n i'n ei ddweud, mae'r system yn haeddu cyfle i weld os y gweithith hi - er, dwi'm yn meddwl mai rhywbeth dros dro ydi hwn, achos does dim yn y llythyr i awgrymu mai arbrawf ydi o. Ond os na fydd pethau'n dderbyniol - o ran hogla a llygod mawr, yn bennaf - dwi'n gweld y Cadi Cegins bach 'ma'n cael eu defnyddio i bethau gwahanol iawn i'r hyn fwriadwyd. Bocs picnic, bocs sgota, bocs bara (mi ddalith dorth hanner) neu hyd yn oed bot piso (erbyn meddwl, mae o'n fy atgoffa o fwcad piso carchar Walton 'fyd!)!

Ta waeth, cawn weld, ia? Mae'n braf, ac mae'r adar bach yn canu nerth eu penna bach tlws. Dwi'n mynd am dro.

2 comments:

Dyfrig said...

Mae'r system yma wedi ei threialu yn Dwyfor yn barod, a'r adroddiad dwi wedi ei gael gan swyddogion Gwynedd yw bod pobl wedi ymateb yn dda i'r drefn newydd. Ond fe fydd hi'n ddiddorol gweld be ydi dy farn di - fel un o drigolion Arfon, mae 'na dro eto tan y bydda i'n cael bin brown.

Hogyn o Rachub said...

Ma'n ffain sti. Mae gen i un yng Nghaerdydd ers misoedd bellach - a dydyn nhw ddim hannar mor posh â rhai Gwynedd a Shir Fôn, lot mwy basic a byddai rhywun yn meddwl lot mwy drewllyd o weld pa mor tila a thena ydyn nhw.

Unwaith yr wythnos maen nhw'n dod i gasglu hwnnw ond unwaith bob pythefnos y bydda i'n ei wagio. O'n i'n ryw amau y bydda'r peth yn drewi 'fyd, ond dydi o ddim o gwbl cofia, waeth faint o bysgod a chig sy'n i mewn iddo.

A dwi'm hyd'noed yn licio'r blydi amgylchedd.