24/02/2009

'Hunger'

Gwyliais y ffilm Hunger neithiwr, ar DVD. Roeddwn wedi edrych ymlaen yn eiddgar i'w gweld hi, byth ers clywed yr adolygiad cyntaf ohoni pan oedd hi ar fin cael ei rhyddhau. Roedd hi'n ennill gwobrau sy'n cyfri go iawn (h.y. dim y ffycin Oscars a'r Baftas), ac roedd hi'n cael ei thipio i beidio ennill yr un o'r gwobrau mainstream hynny, er fod ei sinematograffi, sgrînple, prif actor, golygu a chyfarwyddo yn sicr yn haeddu enwebiadau. Roedd ei phortread cignoeth o ddioddefaint ac aberth Bobby Sands a gweddill carcharorion Long Kesh, a'i hymdriniaeth ddwys a phwerus o egwyddor a moesoldeb eu safiad eithaf yng ngoleuni eu sefyllfa, yn un oedd yn mynd i ypsetio'r awdurdodau Prydeinig (am ei fod o'n rhy agos at y gwir), felly roedd hi'n argoeli ac ymddangos fel ffilm oedd yn werth ei gwylio. Ches i ddim fy siomi.

Mae hi'n ffilm ysgytwol. Hollol, hollol ysgytwol. Hyd yn oed i'r sawl ohonom sy'n fwy cyfarwydd â'r stori nag eraill. Mae hi hefyd yn brydferth, gan fod gwir gelfyddyd a gwreiddioldeb ym mhob agwedd o'r cynhyrchiad - o'r tawelwch am rannau helaeth o'r hanner cyntaf, i'r golygu a chyfarwyddo a sgript effeithiol (gweler yr olygfa wefreiddiol rhwng Sands a'r offeiriad, yn enwedig), ac i'r sinematograffi sy'n rhoi naws arbennig i'r ffilm ac amlygu tywyllwch y portread i raddau celfyddydol gwefreiddiol. Ategir hyn i gyd gan berfformiadau swynol a phwerus gan y cast i gyd, yn enwedig Michael Fassbender fel Bobby Sands.

Ond nid yw'r clyfrwch yn gyfyngedig i hyn i gyd. Cyfrinach y ffilm ydi ei bod yn cadw i ffwrdd o'r gwleidyddiaeth bron yn gyfangwbl. O ganlyniad mae hi'n ddeg gwaith mwy pwerus.

Be sydd gennym yw'r darlun dynol. Ond nid o safbwynt arti-ffarti rhyddfrydol 'human interest' bondigrybwyll. Yn hytrach, mae'r darlun dynol yn dod o safbwynt athronyddol a moesol llawer llawer dyfnach wrth archwilio pa mor bell o normalrwydd y gall yr ysbryd ddynol ddadgysylltu ei hun wrth ddygymod â dioddefaint, creulondeb ac amodau erchyll. A sut mae protest yn gallu cynnal rhywun pan fo dim arall ar ôl heblaw corff ac ysbryd.

Rydan ni i gyd yn gyfarwydd i raddau gwahanol â'r gwleidyddiaeth a'r sefyllfa ar y tu allan yn ystod y brotest yn y Kesh, a'r ympryd enwog. Mae rhai ohonom hefyd wedi darllen llyfrau am yr hyn oedd yn digwydd ar y tu mewn, a rhai ohonom wedi cwrdd â rhai fu'n garcharorion yno. Ond dydan ni ddim wedi cael darlun mor gignoeth ac ysgytwol â hyn ar sgrin ffilm fawr o'r blaen. Mae'n erchyll, cwbl erchyll. A dyna ydi'r pwynt - mae'n darlunio'r brotest (y brotest flanced, y brotest fudr, yna'r ymrydio) a'r creulondeb corfforol, o safbwynt y carcharorion. Roedd eu safiad yn wleidyddol, oedd, ond roedd o hefyd yn eu cynnal nhw yn bersonol, fel pobl. Yno, yn eu byd cyfyngedig nhw, allan o olwg y byd, ynghanol creulondeb, budreddi a hunan-aberth, roedd yr ymgyrch weriniaethol wedi ei chodi i lefel llawer llawer mwy dwys. Roedd ymgyrch y carcharorion yn cymeryd drosodd eu holl reswm dros fodoli. Yn hytrach na bod yn estyniad o'r rhyfel, roedd y rhyfel ond yn gefndir i'w hymgyrch nhw. Dyna be mae'r ffilm yma yn archwilio, wrth adrodd rhan o stori'r carcharorion dewr hyn o'u safbwynt nhw - a nid y mudiad oeddan nhw'n rhan ohono - yn unig.

Mae'r ffilm hefyd yn dangos parodrwydd Sands, a'i strategaeth chwyldroadol, i aberthu popeth er mwyn dyfodol yr ymgyrch weriniaethol. Roedd y mudiad mewn cul de sac - yng ngeiriau'r offeiriad (portread gwych gan Liam Cunningham) yn "ofni troi at heddwch" am ei fod yn syniad diarth iddynt bellach) - yn troi mewn cylchoedd ac ar ei liniau yn wyneb gwrthwynebydd mor gadarn a phenderfynol â Thatcher. Gwyddai Sands y byddai eu marwolaeth (roeddynt yn gwybod mai marw fyddai canlyniad tebygol eu hympryd) yn ysgogi cenhedlaeth newydd i ymuno â'r ymgyrch chwyldroadol. Roedd hyn yn benderfyniad gwleidyddol strategol bwriadol gan y carcharorion (gwirfoddolodd 75 ohonynt i ymprydio) ac mae'n dangos fod eu hamgylchiadau nhw "ar y ffrynt lein" yn rhoi iddynt ffocws dyfnach a mwy treiddgar o'r strategaeth oedd ei angen ar yr ymgyrch.

I'r Arweinyddiaeth ar y tu allan (oedd yn gadarn yn erbyn yr ympryd), roedd y sefyllfa'n anobeithiol. Gwyddent nad oedd gobaith ennill statws gwleidyddol yn ôl, gan fod Thatcher yn amlwg yn mynd i adael i'r hogia farw. Roeddent hyd yn oed yn barod i gyfaddawdu er mwyn dod a'r brotest fudr i ben. Ond gwelai Sands a'i gyd-garcharorion ymhellach, oherwydd y meddylfryd a'r ffocws oeddent yn meddu arno o ganlyniad i'w protestio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Wedi eu stripio o bob urddas - a'u parodrwydd i ddioddef hynny a gwaeth - doedd dim byd ar ôl ond yr achos, a phrotest, a dim distracshiyns i bylu gweledigaeth chwyldroadol. "Out of the ashes," medda Sands, i edliw slogan y Provisionals. A Sands a'i gyd-ymprydwyr fyddai'r gwreichion i godi'r Ffenics gweriniaethol o'r lludw unwaith eto.

Byddai rhai yn galw hyn yn tunnel vision - eu bod yn ddall i'r sefyllfa ehangach ac anobeithdra'r ymgyrch ar y tu allan, oherwydd intensiti eu hymgyrch ar y tu mewn. Byddai eraill yn ei alw'n weledigaeth chwyldroadol dreiddgar iawn (roeddan nhw yn ymwybodol iawn o ddatblygiadau, os nad y mŵd). Roedd o'n sicr yn benderfyniad dewr. Roeddan nhw wedi trio ymprydio o'r blaen, a'r brotest heb lwyddo oherwydd eu bod i gyd wedi dechrau ymrydio ar yr un adeg, ac felly'n rhoi i fyny er mwyn atal dioddefaint y cyntaf ohonynt i droi'n beryglus o wael. Y tro yma, er mwyn sicrhau ympryd i'r ethaf, roeddan nhw pob un yn dechrau ymprydio bythefnos ar ôl ei gilydd. Roeddan nhw'n benderfynol o farw, os oedd rhaid. Ar ba bynnag ochr i'r ffens ydach chi'n sefyll, mae hunanaberth fel hyn wastad yn safiad clodwiw.

'Safiad ofer' oedd barn mewnol arweinyddiaeth y mudiad gweriniaethol, fodd bynnag. Colli bywydau aelodau yn ofer (er, buan y daeth llawer i weld nad oedd hynny'n wir yn yr hirdymor). Ond mae'r ffilm yn gwneud pwynt cryfach am oferedd yr holl sefyllfa. Drwy ddilyn un swyddog carchar (creulon yn y carchar, addfwyn tu allan) ar brydiau, cawn gipolwg ar fywydau'r pawns ar ochr yr awdurdodau i'r frwydr, ac mae hynny'n galluogi rhoi'r darlun crwn ar ddiwedd y ffilm, pan y datgelir y ffeithiau canlynol am yr ymgyrch dros statws gwleidyddol: bu farw 10 ymprydiwr, a lladdwyd 16 swyddog carchar gan yr IRA, ac ar ddiwedd y cwbl, cyfaddawdodd y llywodraeth Prydeinig a'r IRA a derbyn pob un elfen oddifewn i gais y dynion am ailsefydlu statws gwleidyddol (gwisgo dillad eu hunain, dim gorfodaeth i wneud gwaith carchar, cymdeithasu rhydd a.y.b) - ond heb y teitl swyddogol 'statws gwleidyddol'.

Ond o ran yr ymryson ehangach rhwng yr IRA a Phrydain ac o ran ymgyrch ehangach y mudiad gweriniaethol, profodd hanes mai gweledigaeth a strategaeth Sands yn wyneb diffyg gweledigaeth strategaeth styfnig a chalon galed Thatcher a enillodd y dydd. Ond doedd dim rhaid i'r ffilm ymdrin yn uniongyrchol â hynny. Roedd hynny'n dod drosodd yn naturiol, diolch i'w chlyfrwch. Ac mae ffilm sy'n ddigon deallus i ddeall fod gan wylwyr y gallu i feddwl, yn rhywbeth sydd i'w chroesawu llawer iawn mwy na 'llwyddiant' arwynebol a phlastig Kate Winslet yn Hollywood.

No comments: