25/02/2009

Trosglwyddo stoc dai cyngor Gwynedd - pryderon hirdymor

Dw i mewn tiroedd peryglus! Dw i wedi bod yn sgwennu am faterion sydd o bwys i drethdalwyr Gwynedd! O ganlyniad, mae'r blog 'ma wedi denu sylw awduron blogiau gwleidyddol trymion sy'n ymwneud â llywodraeth leol yn y sir! Och a gwae! Y peth olaf oeddwn eisiau oedd i'r blog 'ma fod yn llith mor ddiflas â'r adran Materion Cyfoes ar Maes-e! Felly, dwi am ymatal rhag son am faterion o bwys, a mynd yn ôl i son am bethau trifial fel y tywydd, fy hoff anifail anwes, a fy llenyddiaeth.

Cyn gwneud hynny, fodd bynnag, mae gen i rwbath arall sy'n berthnasol i Gyngor Gwynedd, yr ydw i isio ei wyntyllu. Sylwer y pwyslais ar y gair 'perthnasol' uchod - lle bod mwy o wleidyddion lleol yn neidio i mewn i amddiffyn y sefydliad rhag ymosodiad dan din arall! Dw i am ailadrodd hefyd, gan fy mod i'n ddyn amyneddgar(!), mai holl sefydliad ac adrannau a chyfrifoldebau, dyletswyddau, gweinyddiad, pwyllgorau a gweithredoedd Cyngor Gwynedd ydw i'n ei olygu wrth ddefnyddio'r geiriau 'y cyngor' neu 'Cyngor Gwynedd', nid y Siambr etholedig ar ben ei hun. A i ddim mor bell a defnyddio'r gair croendenau, ond dydw i ddim isio ypsetio unrhyw un drwy wneud iddyn nhw deimlo mod i'n cyfeirio'n uniongyrchol at ein cynghorwyr cydwybodol annwyl (er, mae'n dda o beth gweld rhai yn derbyn i'r fath raddau mai nhw sydd, ar ddiwedd y dydd, yn atebol am weithgaredd 'y Cyngor')!

Ailadroddaf hefyd, petae gennyf gyllell i'w thwistio yn ystlys Cyngor Gwynedd, y cwbwl fyddai rhaid i mi wneud fyddai cyhoeddi pob manylyn am fater personol diweddar ar y blog yma, ynghyd â'r fideos a'r ffotograffau i gyd. Ond dw i ddim yn berson maleisus. Contyn digon cegog, efallai, ond dim dyn maleisus!

Dw i isio rhannu efo chi fy marn, fel tenant i Gyngor Gwynedd, ar ambell agwedd o'r bwriad i drosgwlyddo'r stoc dai i gwmni Tai Cymunedol Gwynedd. Dwi'n dewis y gair 'bwriad' yn bwrpasol, er y gwn y bydd hynny'n ysgogi rhywun i ymateb trwy nodi mai 'ymgynghoriad' efo'r tenantiaid ynglyn â'r cynllun ydi'r gair swyddogol am y stêj yma o'r cynllun trosglwyddo arfaethedig. Ond, fel y gŵyr pawb, gobaith ac amcan y cyngor ydi trosglwyddo'r stoc dai, a bwriad y cyngor ydi perswadio'r tenantiaid mai da o beth fydd y symudiad, ac iddynt bleidleisio dros y trosglwyddo i'r cwmni preifat-elusennol hwn pan ddaw'r amser i fwrw'r bleidlais.

Tydw i ddim am eiliad yn beio'r cyngor am fod isio cael gwared o'r tai. Mae gwaith cannoedd o filiynnau o bunnoedd angen ei wneud arnyn nhw er mwyn eu cael i fyny i'r ansawdd safonnol a osodwyd gan y Cynulliad. Mewn geiriau plaen, mae golwg y ffwc ar y tai yn rhan fwyaf y stadau. Ond mae'r wasgfa ar gyllid llywodraeth leol yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn uffernol, fel y gwyddom - cymaint felly nes fod rhai cynghorau'n gorfod cymryd camau eithaf drastig, fel diffodd traean o'u goleuadau stryd, er mwyn arbed arian. Ond bwriad Cyngor Gwynedd ydi trosglwyddo'r stoc, achos mae nhw wedi gwario degau o filoedd (o leiaf, fyswn i'n ei ddweud) o bunnau ar eu hymgyrch i berswadio'r tenantiaid i bleidleisio 'ie'.

Dwn i ddim os ydi'r arian ar gyfer yr ymgyrch gyhoeddusrwydd hon wedi dod yn uniongyrchol o'r Cynulliad, ar ben cyllid normal y Cyngor. Ond be alla i ddweud ydi ein bod ni fel tenantiaid wedi derbyn chwech postiad efo gwybodaeth ar y mater. Un llythyr, un taflen fechan llawn lliw, un postiad taflen fawr mwy nag A4 llawn lliw pedair tudalen, un postiad o'r un daflen ond ei bod yn ddwy dudalen, un postiad o ddau (un i bob oedolyn yn y tŷ) lyfr 170 tudalen, maint A4, llawn lliw, ac un postiad o DVD efo'r un gwybodaeth arni. Yn ogystal, mae'r cyngor wedi cyflogi cwmni ymchwil Beaufort i ffonio pob un tenant i ofyn cwestiynnau am eu barn, ac mae nhw hefyd wedi gyrru pobl (un ai staff y cyngor neu gwmni allanol) i gnocio drws pob tenant efo holiadur. Wnaeth y pedair prif blaid wleidyddol efo'i gilydd ddim cymaint o ymdrech â hyn yn ystod yr etholiadau cyffredinol diwethaf!

Os nad yw hyn yn arwydd o beth yw barn a bwriad y cyngor, ystyriwch hefyd gynnwys y pamffledi. Does dim ynddynt ond propaganda - hynod effeithiol - yn hyrwyddo'r holl fanteision fydd yn dod i denantiaid yn sgil trosgwlyddo'r tai, ynghyd â manylion yr holl gannoedd o filynnau o bunnoedd fydd yn cael ei ryddhau i wella safon y tai, a hefyd y stadau eu hunain. Ac mae'r manteision hyn yn rhai anferth a hollol amlwg - mor anferth ac amlwg fel ei bod yn anorfod y bydd mwyafrif llethol yn pleidleisio tros y cynllun er gwaetha eu daliadau egwyddorol tros gadw'r stoc dai yn gadarn yn nwylo'r sector gyhoeddus. Yr unig beth nad yw'r 'pamffledi egluro' hyn yn ei wneud ydi datgan yn blwmp ac yn blaen 'Pleidleisiwch Ie'!

Mae'n debyg nad oes dewis ond dilyn y trywydd 'ie', achos ni fydd yr arian i wneud y gwelliannau angenrheidiol ar gael fel arall. Deud gwir, er nad oes gan y cyngor fawr o ddewis eu hunain chwaith, mae'r holl fater bron fel rhyw fath o flacmêl neu lwgrwobryo tenantiaid i bleidleisio dros y newid. Dwi'm yn deud mai dyna ydi'r bwriad canolog, ond yn sicr dyna ydi realaeth y sefyllfa. Ond dyna ni, mae'r cyngor mewn ffics ariannol, mae'r tai a'r stadau angen gwelliannau brys, ac mae tenantiaid angen gwell cartrefi ac amodau byw. Felly mae'r holl beth yn mynd i ddigwydd.

Iawn, mae'n mynd i ddigwydd, felly. Rydan ni i gyd yn mynd i gael tai safonnol, cynnes braf. Tydi'r cwmni newydd 'ma - Tai Cymunedol Gwynedd - ddim run fath â chwmni preifat go iawn. Mae o'n gwmni cyhoeddus-breifat-elusennol o ryw fath, na fydd yn gwneud elw, ac fe fydd yr arian rhent i gyd yn mynd i'r cwmni yn hytrach na bod 30% yn mynd i lywodraeth ganolog, fel sy'n digwydd ar y funud. Ac mae'r cyngor yn mynd i gael golchi ei ddwylo o'r pwysau i ffendio pres i ddarparu cartrefi safonnol i'w denantiaid - fydd yn rhyddhau arian iddyn nhw ddelio efo'r maes lle mae rhan fwyaf eu cyllid cymdeithasol yn mynd y dyddiau hyn - teuluoedd o stadau mawrion dinasoedd Lloegr sydd yn symud yma a dod â'u problemau cymdeithasol dybryd efo nhw.

Ennill, ennill, ennill, felly. Yn y tymor byr a chanol.

Ond tybed a yw hyn yn wir yn yr hirdymor? Cymerwch y rhenti. Mae nhw'n mynd i godi'n sylweddol, ac er nad yw'r codiadau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol agos yn rhan uniongyrchol o'r cynllun trosglwyddo, mae'n gwbl glir o le mae rhan sylweddol o'r cannoedd o filiynnau fydd yn cael ei ryddhau i wella'r tai yn dod o - o bocedi'r tenantiaid. Dyma'r ffigyrrau:-

Ar hyn o bryd, mae'n rhent ni yn £51.62 yr wythnos - oedd, pan gododd i'r ffigwr yma, yn godiad o dros 25% mewn pedair mlynedd (£40.48 y/w oedd o pan symudom i mewn yn mis Mawrth 2004).

Ym mis Ebrill, bydd y rhent wythnosol yn codi i £57.08 am y flwyddyn 2009/10.

Am 2010/11 bydd yn codi i £63.03

2011/12 - £69.28

2012/13 - £75.51

2013/14 - £78.18

Yn ôl geiriad y llythyr mae'r codiadau hyn oherwydd y "dynodwyd eich heiddo yn 3 llofft ar gyfer 5 person, 83.88 metr sgwar, tŷ par gyda tharged rhent newydd o £62.19 (ar y funud)." Dyma ffigyrrau oer, heb archwiliad corfforol, sydd ddim yn ystyried safon cywilyddus y tai. A cyn i neb ymateb i ddweud mai'r Cynulliad sydd wedi gorfodi hyn ar y Cyngor, yndi, mae hynny'n wir, ond y "Cyngor" sydd "wedi cwblhau adolygiad o'r rhenti ar gyfer pob math o dai Cyngor" a "cyfrifwyd rhagamcaniad eich rhent i'r dyfodol trwy ddefnyddio'r cynnydd a ddisgwylir yn y Canllaw Rhent a osodir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ogystal â'r fformiwla a gytunwyd gan y Cyngor, er mwyn i'ch rhent gyrraedd y targed rhent newydd."

Geiriau Cyngor Gwynedd, dim fi.

Dyna fo - er fod o ddim yn uniongyrchol i'w wneud efo'r cynllun trosglwyddo, cwmni newydd Tai Cymunedol Gwynedd fydd yn derbyn yr arian rhent yma i gyd, felly dyma o le fydd rhan mawr o'r 'miliynnau fydd yn cael ei ryddhau' i wario ar y tai yn dod.

Dyna ydi un pryder sydd gennyf am y trosglwyddiad arfaethedig. Yr ail ydi'r wybodaeth canlynol, sydd wedi dod gan Gynghorydd Sir ar Gyngor Gwynedd (Plaid Cymru, gyda llaw) a ddywedodd hefyd fod y cynghorwyr wedi cael gorchymun i beidio datgelu'r wybodaeth yn gyhoeddus: -

er y bydd cwmni Tai Cymunedol Gwynedd yn gwmni hanner-preifat elusennol, di-elw, does dim byd yn y cynllun trosglwyddo sydd yn rhwystro'r cwmni rhag gwerthu'r holl stoc dai i gwmni preifat - o Gymru neu Birmingham neu unrhyw le arall.

Felly dyna chi, fy sylw olaf am y tro ar faterion llywodraeth leol yng Ngwynedd. Sydd yn bechod, achos roedd gen i bethau positif i ddweud yn y ciw, hefyd, yn ogystal ag achosion o glymu dwylo'r Cyngor mewn achosion cynllunio, addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Ond dyna fo, fydda i'n nôl efo rhywbeth ysgafnach i chi yn go fuan. Dwi'n siwr fod 'na frid o lyffantod dan fygythiad yn rhywle heb fod ymhell. Yn y cyfamser, croeso i chi adael sylwadau - a mae hynny'n cynnwys Mistar Blogmanai, rwan mod i wedi maddau iddo am alw fy mhost dwytha yn 'wirion'! ;-)

5 comments:

Dyfrig said...

Prysor,
Dwi'n siomedig dy fod ti'n bwriadu gadael y pwnc, gan ei bod hi'n braf cael gwybod bod 'na rhywun tu allan i'r Cyngor ei hun yn cymeryd diddordeb yn y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Gobeithio doi di nol at y pwnc yn y man.
Dwi ddim yn denant i'r Cyngor, ond dwi yn derbyn yr holl daflenni drwy'r post, am fy mod i'n gynghorydd. Ydi, mae nhw'n syrffedus, a dwi'n credu ein bod ni'n gyrru gormod. Ond Y Cynulliad sydd yn talu am yr ymgyrch, nid Gwynedd. Ac mae'r ffaith dy fod di wedi deallt y broses drosglwyddo mor dda yn rhyw hanner awgrymu eu bod nhw'n gweithio.
O ran y codiad mewn cyfraddau rhent - mi fydd hyn yn digwydd boed y stoc tai yn cael ei throsglwyddo neu beidio. Mae'r Cynulliad wedi sefydlu be sy'n cael ei alw yn "Feincnod Rhent Cymdeithasol", sydd yn golygu y bydd pawb yn talu yr un faint erbyn 2012, boed nhw'n denant i'r Cyngor neu i Gymdeithas Dai.
Dwi'n amheus os yw'r pwynt olaf ti'n ei wneud yn gywir. Mae'r ddogfen drosglwyddo yn ei gwneud hi'n eglur bod holl denantiaid Gwynedd yn cadw yr un hawliau, boed y tai yn aros gyda'r Cyngor, neu yn cael eu trosglwyddo. Byddai'r hawliau hyn yn rhwystro'r tai rhag cael eu gwerthu heb ganiatad y Cyngor, fel dwi'n ei deallt hi.

y prysgodyn said...

Dwi'n gwybod y bydd y codiadau rhent yn digwydd, trosglwyddo neu beidio. Dwi'n nodi hynny yn y post - mae'n rhywbeth arwahan i'r trosglwyddo.

Fy mhwynt ydi, gan mai'n uniongyrchol i Tai Cymunedol Cymru fydd y rhenti yma'n cael eu talu, y codiadau yma fydd yn ariannu'r miliynnau o bunnoedd sydd yn addo cael ei ryddhau i wella'r tai. Felly yn y diwedd, y tenantiaid fydd yn talu am y gwellianau mawr 'ma mae nhw'n addo y bydd yn digwydd os wnawn ni bleisleisio dros y trosglwyddiad.

Dwi'n gwybod hefyd fel rhan o ba gynllun gan y Cynulliad y mae'r codiadau yn digwydd. Mae o'n syniad hollol, hollol wallgo gan meddling biwrocrats. Dim arall. A phobl incwm isel fydd yn dioddef.

O ran y pwynt olaf wyt yn gyfeirio ato, mae'n un a gododd fy aeliau innau pan ddywedwyd wrthyf. Ond gan mai cynghorydd profiadol a ddwedodd wrthyf, yna teimlwn fod rhaid i fi wyntyllu'r mater. O ddilyn yr hyn wyt ti'n awgrymu, mae'n debyg y bydd posibilrwydd i Tai Cymunedol Gwynedd werthu'r tai gyda chydsyniad y tenantiaid - yn union fel y mae'r Cyngor yn ei wneud rwan.

Felly, dywed, mewn 20 mlynedd y bydd Tai Cymunedol Gwynedd heb ddigon o gyllid i ariannu codi'r tai i safonnau newydd eto (egni gwyrdd, hwyrach), ac mai'r opsiwn orau iddyn nhw fyddai gwerthu i gwmni mawr preifat, yna mae'r cwmni mawr hwnnw yn mynd i addo i'r tenantiaid y byddan nhw'n gneud y gwelliannau ac yn rhoi egni solar a phwyntiau fibre optigcs i gyfrifiaduron organig (neu be bynnag fydd y dechnoleg ddiweddara!) ymhob tŷ. Ac o ganlyniad bydd y tenantiaid yn pleidleisio 'ie'. Dyna hi wedyn - bang - y stoc dai i gyd wedi mynd i ddwylo preifat (Seisnig neu Rwsiaidd, mwya tebyg!)

Mae ambell gynghorydd wedi pigo i fyny ar hyn ac wedi cael ordors i gadw'n dawel, yn ôl yr hyn a ddeallaf.

Hwyl am y tro.

Dyfrig said...

Prysor,
Fe wnes i godi'r pwynt ynglyn a pherchnogaeth yn siambr y Cyngor heddiw, ac fe gefais ateb cwbl ddi-amheuaeth gan y swyddog sy'n gyfrifol am y prosiect. Byddai'n rhaid i Dai Cymunedol Gwynedd gael cydsyniad Llywodraeth y Cynulliad cyn gallu gwerthu'r tai i unrhyw un ond y tenantiaid eu hunain. Felly does 'na ddim perygl yn y byd y bydd y corff newydd yma yn meddianu'r tai ac yn eu gwerthu i gwmni preifat NA chymdeithas dai estron. Gobeithio bod hyn yn tawelu rhywfaint ar dy byrderon.

y prysgodyn said...

Diolch Dyfs. Democratiaeth ar waith :-)
(Mae'n gneud i rywun feddwl, fodd bynnag, be ffwc mae rhai o'n cynghorwyr ni'n ei wneud yn dod allan efo straeon fel hyn...)

y prysgodyn said...

Cofia di... 'caniatad y Cynulliad'? hmmm...

Felly does dim rheol cyfansoddiadol wedi ei gosod yn statudol yn y cynllun, yn dweud nad yw hi'n bosib. Hynny yw, does dim angen deddf gwlad i ganiatau hynny, dim ond caniatad WAG yn y dyfodol?

Falla fod y cynghorydd yn cyfeirio at hynny, OND dwi'n gaddo i ti â llaw ar fy nghalon y gwnaeth y cynghorydd ei roi mewn termau llawer cliriach a chryfach (yn union, air am air fel yr adroddais yn y post 'ma) - gan ychwanegu yn ddiamheuaeth y cafodd orchymun i beidio son am y peth yn gyhoeddus.

Ta waeth... Diolch am fod mor gydwybodol a chodi'r mater.