24/02/2009

Dwyn gan Jac i dalu Wil

Yn y newyddion yn ddiweddar bu'r cynlluniau i gau Ysgol Croesor ac Ysgol Rhydyclafdy - y ddwy heb ddisgyblion o gwbl bellach - yng Ngwynedd, a defnyddio'r pres a arbedir i gyflogi mwy o athrawon er mwyn lleihau niferoedd mewn dosbarthiadau mewn ysgolion ar draws y sir.

Mae hyn yn gwneud synnwyr, wrth gwrs. Ond be sydd ddim yn gwneud synnwyr ydi ymgais y cyngor i wneud i bob ysgol gynradd yn y sir (boed â dosbarthiadau rhy fawr neu beidio) gyfrannu £1,000 yr un tuag at ariannu'r strategaeth (cyflogi mwy o athrawon i leihau maint dosbarthiadau yn yr ysgolion hynny sydd gan ddosbarthiadau rhy fawr).

Mae gofyn i bob ysgol, waeth pa mor fach neu fawr a waeth be bynnag yw maint eu cyllid a'u balans banc, gyfrannu'r un faint o arian i'r pot, yn hytrach na chanran, yn afresymol. Mae cyllid a chyfrif banc ysgol sydd efo 400 o blant yn llawer llawer mwy na chyllid ysgol efo 50.

Mae ysgolion eisoes wedi cytuno i gyfrannu'r llogau ar eu cyfrifon banc i'r pot hwn - sydd yn system decach, fyddwn i'n teimlo, gan fod gan rai o'r ysgolion mwyaf symiau sylweddol o gyfalaf yn y banc - yn enwedig o'i gymharu â'r ychydig gannoedd sydd gan yr ysgolion bychan.

2 comments:

Cai Larsen said...

Prys - does yna ddim ymgais i wneud i neb wneud dim. Mae'r cynllun wedi ei gynnig i ysgolion fel rhan o ymgynghoriad.

Penaethiaid ysgolion cynradd o bob maint sydd yn gyfrifol am y cynllun - nid y Cyngor Sir.

Os nad ydi ysgolion yn cytuno, ni fydd y cynllun yn mynd rhagddo.

'Dwi'n hoff o dy flog - ond wir dduw mae'r cyfraniad yma'n un gwirion mae gen i ofn.

y prysgodyn said...

Defnydd anaddas, a dweud y lleiaf, o'r gair "gwirion" fyswn i'n ddeud.

Hyd y gwela i, yr oll sydd yma i ti anghytuno efo ydi o pa adran o'r Cyngor y daeth y cynnig, a'r pwynt hynod o bedantig am y dewis bras o'r gair 'ymgais'.

Mae'r cynllun wedi ei gynnig fel rhan o 'ymgynghoriad'. Onid 'ymgais' ydi hynny i gael y peth drwodd? Ar ddiwedd y dydd, cei alw'r peth yn ymgynghoriad - fel y galwyd y cynllun i gau'r holl ysgolion hynny yn 'ymgynghoriad' - ond mi alwn ni o'n 'gynllun/ymgais' neu 'gynllun/ymgais fel rhan o'r ymgynghoriad'. Tydi chwarae ar eiriau ddim yn gweithio ar lawr gwlad yli.

Ta waeth, dwi'n digwydd bod yn un o lywodraethwyr yr ysgol yma'n Llan (peidiwch a gofyn!), ac efallai mod i'n newydd ac amhrofiadol, a ddim mor 'clued up' a chi bwyllgorwyr profiadol eto. Ond daeth y cynnig o du'r cyngor (h.y. y sefydliad sy'n rhedeg holl adrannau a phwyllgorau'r sir, nid jesd y cynghorwyr yn y siambr) - sy'n gweinyddu'r 'ymgynghoriad'), waeth pa adran na phwyllgor oedd yn gyfrifol (ac yn sicr doedd pennaeth ein hysgol ni ddim yn un o'r rhai a gynnigiodd y peth, achos roedd o'n ddigon o newyddion iddi hi alw cyfarfod brys i drafod y mater). Penderfynom ei wrthod, yn y gobaith y dont yn ôl efo cynnig oedd yn gwneud mwy o synnwyr - fel cyfrannu canran o'r cyllid.

Ond tôn dy ymateb sy'n fy siomi fwyaf.

Deud y gwir, tra'n falch dy fod ti ac eraill yn cymeryd diddordeb yn y blog 'ma, dwi'n dechrau laru ar y politicos o'u politico-blogs yn dod yma i daflu'u pwysa o gwmpas.

Dwi'n sgwennu blog personol, cyffredinol ac anwleidyddol, fel awdur ac aelod o'r gymuned. Dwi'n digwydd bod yn un o gyhoedd Gwynedd, yn drethdalwr, yn denant tŷ cownsil, ac yn etholwr yn y sir. Mae hyn yn golygu ei bod yn anorfod fy mod i, ar brydiau, yn sgwennu am be mae bobol yn siarad amdano ar y stryd ac ar ein haelwydydd. Mae gen i blant yn yr ysgol leol, so mae'n anorfod hefyd mod i ar brydiau'n mynd i son am ddatblygiadau sy'n effeithio eu haddysg.

(gyda llaw, i fod yn onest dwi'n cael mwy o sens gan weithwyr y cyngor ar lawr gwlad nag ydw i gan unrhyw gynghorydd na swyddog, achos mae nhw'n actiwali gwybod be sy'n mynd ymlaen!)

Dwi'n digwydd bod yn lleygwr - felly'n defnyddio iaith lleygwr ac yn sgwennu fel lleygwr ar y blog 'ma. Dwi'm yn dewis fy ngeiriau'n ofalus fel chi boliticos, ond yn hytrach yn defnyddio'r geiriau cynta sy'n dod i'r pen, boed rheinni'n rhy gyffredinol ai peidio. Mae 99% o bobol yn dallt be dwi'n feddwl, dybiaf. A phan dwi'n anghywir, dwi'n ddigon parod i gydnabod hynny, fel dw i wedi ei wneud droeon ar y blog 'ma!

Ond fel pob person cyffredin arall yn y sir, dydi o ddim bwys pa adran na pha bwyllgor sy'n gyfrifol am ba bynnag bolisi, cynllun, 'ymgynghoriad' ta be - i ni drigolion cyffredin y sir, 'y Cownsil/Cyngor' sydd yn ei weinyddu a'i gynnig, gan mai'r cownsil/cyngor sy'n rhedeg y siop a'r cyngor/cownsil sy'n rhedeg yr agenda.

Gaiff rhai ohonoch wadu pob cyfrifoldeb os liciwch chi, a chwarae ar eiriau wrth amddiffyn eich pleidiau, posishiyns a pensiwns i'r eithaf un, ond peidiwch a sbio lawr y'ch ffycin trwyna ar gonsyrns cyffredin yr etholwyr.

A peidiwch a meddwl eich bod chi, oherwydd natur eich diddordebau gwleidyddol yn dewis eich geiriau'n ddoeth ar eich blogs gwleidyddol, yn gallu galw postiadau ar flogs bobol cyffredin yn 'wirion' oherwydd eu dewis cyffredinol a naturiol o eiriau a thermau, ac oherwydd eu bod yn cael eu sgwennu o safbwynt y mwyafrif sy'n cael eu cadw yn y tywyllwch am weinyddiad mewnol adrannau'r cyngor (ymysg pethau eraill).

Pwyntia allan os dwi'n rong, a chroeso. Ond paid a defnyddio geiriau fel 'gwirion' os dwyt ti ddim yn cytuno efo fi. Nid gwrthwynebydd gwleidyddol mewn dadl etholiadol ydw i. Cadw dy bolitics i chdi dy hun.