17/02/2009

Hawliau dynol: Mary Robinson, Stella a fi!

Ers ychydig ddyddiau ar ôl erchylltra'r Twin Towers dw i wedi bod yn 'hefru' am y ffaith fod yr Unol Daleithiau a Phrydain yn defnyddio'r bygythiad o derfysgaeth fel esgus i'n dychryn i dderbyn cyfyngu sylweddol ar ein hawliau sifil a dynol sylfaenol, ac i'n arwain, yn cwsg-gerdded, i Police State.

Dros y blynyddoedd, dw i wedi traethu am y peth ar y radio a'r teledu, wedi sgwennu cerddi a'u darllen yn gyhoeddus ac ar y radio, wedi sgwennu caneuon (a'u perfformio a recordio) am y peth, dw i wedi sgwennu erthyglau ac eitemau ar fy hen flog, MadarchEithafol, am y peth, wedi sgwennu amdano ar Maes-e (heb fawr o ymateb), ac wedi paldaruo am y peth mewn tafarndai a digwyddiadau 'Cymraeg'.

Ond - heblaw am un cyfansoddwr a gweithredwr ieithyddol Cymraeg yr wy'n gwybod ei fod yn lledu ei ymwybyddiaeth gwleidyddol y tu hwnt i'r 'frwydr iaith' - un o'r teimladau cryfaf ydw i wedi ei gael ydi fy mod i wedi bod ar ben fy hun yn llwyr yn y 'sîn' ddiwylliannol/gyhoeddus/wleidyddol ('w' fach) Gymraeg.

Hyd y gwn i, doedd yr un bardd arall, yr un cerddor/cyfansoddwr arall, yr un ysgrifennwr arall - heb son am genedlaetholwr, ymgyrchydd iaith, gwleidydd na ffigwr amlwg celfyddydol - sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, hyd yn oed yn dangos unrhyw arwyddion eu bod hyd yn oed yn ymwybodol o'r mater, heb son am gefnogi'r achos yma yr ydw i wedi bod yn gyson 'rantio' amdano.

Hwyrach fod 'na ambell i artist cerddorol wedi dechrau sgwennu ambell i rap sydd yn cyffwrdd ar y materion yma yn ddiweddar (dwi'n siwr mod i wedi clywed rhywbeth ar Myspace, ond ddim yn cofio'n iawn), ond yn sicr ddigon, mi alla i ddweud â'm llaw ar fy nghalon mod i wedi bod ar ben fy hun, ar y 'sîn Gymraeg', efo fy rhybuddion. Oes, mae 'na bobol o'r gynulleidfa wedi cytuno ar ôl clywed cerdd mewn sioe dafarn, ac oes mae 'na gerddorion ar y sîn danddaearol wedi rhyw fath o gydnabod fod gen i bwynt. Ond does neb hyd y gwn i wedi meddwl am y peth am fwy nag am ychydig eiliadau, heb son am godi'r ffagl a lledu'r gair yn eu cynnyrch. Neb.

Ymddengys bellach fod yr International Commission of Jurists - a Stella Rimington, cyn-bennaeth MI5 (a dynes sydd mwyaf tebyg wedi gweld ffeil arnaf yn syllu arni o'i desg!) - wedi cwblhau adroddiad sydd - air am air, bron - yn datgan yr union yr un pryderon a chondemniadau â'r hyn ydw i wedi bod yn eu mynegi dros y blynyddoedd dwytha.

Yn benodol, dw i wedi sgwennu cerddi (a chân) am Jean Charles De Menezez, wedi sgwennu cerddi (a chynhyrchu bathodynnau yn erbyn) am gardiau ID, wedi sgwennu cerddi am ymgeisiau y llywodraeth i garcharu pobl am 3 mis cyn cael eu cyhuddo, dwi wedi sgwennu cerddi am gamerau cylch cyfyng, ac yn y blaen ac yn y blaen, heb son am sgwennu cerddi a llenyddiaeth mwy cyffredinol am yr holl gyfyngu ar hawliau dynol a sifil trwy ein dychryn am y bygythiad terfysgol. Dwi hefyd wedi sgwennu am rendition, Guantanamo a llofruddiaeth Dr Kelly, ac mi ydw i wedi sgwennu cerddi am y deddfau sy'n cyfyngu ar hawliau rhyddid barn a free speech, sy'n caniatau i brotestwyr, beirdd, artistiaid a llenorion gael eu carcharu (ac mae rhai wedi) am ysgrifennu unrhyw beth y mae'r wladwriaeth yn ei ddehongli fel 'annog trais a/neu derfysgaeth'.

Ac ynglyn â'r materion uchod i gyd, dwi wedi eu codi nhw ar fforymau wê Cymraeg, ar y radio Cymraeg, ar y teledu Cymraeg, mewn cyfarfodydd Cymraeg - a dw i hyd yn oed yn cyfeirio atyn nhw yn fy nofelau. Ond heblaw am leisiau o du mudiadau a beirdd radical 'Prydeinig' a/neu ryngwladol, yr ICJ dan gadeiryddiaeth cyn-lywydd Gweriniaeth Iwerddon Mary Robinson, a Stella R ydi'r unig leisiau eraill yr ydw i wedi eu clywed yn siarad allan yn gyhoeddus am yr union bethau hyn!

Cwmni llewyrchus, felly! Ond byddai'n lot gwell gennyf petai'r cwmni hwnnw yn rhai o fy nghyd-Gymry!

Boi cyffredin o Feirionnydd ydw i, jesd boi efo cydwybod cymdeithasol. Dw i'n chydig o fardd gwlad a meddyliwr, ac o'r herwydd dwi'n licio codi llais a rhoi sylw i faterion egwyddorol a moesol (ac yndw, dwi yn gweithio dros fy nghymuned yn lleol hefyd - cyn i unrhyw un adael sylw yn deud mai dyn dweud-nid-gwneud ydw i).

Ond dyn cyffredin ydw i, dyna ydi fy mhwynt. Felly lle mae'r ffigyrau amlwg Cymraeg? Lle mae'r bobol sy'n rhan o'r diwylliant cyhoeddus Cymraeg? Lle mae'r beirdd a llenorion sydd i fod i ddweud pethau? Lle mae'r wasg sydd i fod i ddweud rhywbeth? Y pethau hyn, y bobl hyn, ydi lleisiau pob goleuad a phob chwyldro - i fod. Ydy hi mor ddrwg ar y genedl Gymreig fel bod hyd yn oed ein annibyniaeth barn a'n radicaliaeth wedi ei wasgu - neu ei brynu - o'n diwylliant llenyddol?

A lle mae'r ymgyrchwyr gwleidyddol Cymraeg? Oes 'na ffasiwn beth, bellach? Neu dim ond ymgyrchwyr iaith a chenedlaetholdeb diwylliannol sydd ar ôl yn y Gymru Gymraeg? Ai dim ond hynny sy'n bwysig i (rai ohonom) ni?

Dwi'n gefnogol i Ddeddf Iaith newydd i orfodi cwmniau mawrion i weithredu'n ddwyieithog (er, tueddu i gytuno efo'r hyn y mae Dyfrig Jones yn ei ddweud yn ei erthygl olygyddol yn Barn ydw i, o ran yr LCO arfaethedig). Ond, pan mae'n dod i'r sector breifat mae fy nghefnogaeth i i'r mesur yn deillio o fy nghenedlaetholdeb gweriniaethol ac economaidd, a rôl ganolog yr iaith wrth gynnal huaniaeth genedlaethol, yn hytrach nag unrhyw ymdeimlad ei bod yn 'hawl dynol' i gael prynu pwys o datws trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi'n Gymro Cymraeg, felly'n berson dwyieithog. Tra'n ystyried derbyn gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng fy mamiath fel hawl sifil, tydw i ddim yn ei weld yn un o fy hawliau dynol i gael Facebook yn Gymraeg, er engraifft. Felly tydi o ddim yn taro cord efo fi pan dwi'n clywed a gweld rhai o'n hymgyrchwyr iaith cyfforddus-ddosbarth canol yn mynd ymlaen am "hawliau dynol Cymry Cymraeg" i gael prisiau tatws yn Gymraeg yn Tescos Caerdydd.

Mae hawliau dynol go iawn miliynnau o bobl dros y byd yn cael eu sathru yn gwbl agored (a does dim un o'r grwpiau gweithredu sy'n casglu arian a nwyddau i Gaza, a sefydlwyd dros y DU yn ddiweddar, yn dod o Gymru, gyda llaw). Ond yn berthnasol i'n bywydau ni - hawliau dynol ydi'r hawl i ryddid barn ac i leisio'r farn honno, rhyddid i symud o gwmpas y wlad a'r byd heb gyfyngiadau, hawl i drefnu digwyddiadau cerddorol yn y gymuned, hawl i brotestio, rhyddid i fodoli heb fod y wladwriaeth yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch a'ch gwylio drwy'r adeg, a'r hawl i fod yn ddi-euog nes profir fel arall ac yn y blaen. Ac os ydym ni'r Cymry yn credu yn yr hawliau dynol hyn, pam nad ydym yn codi'n llais i'w hamddiffyn?

3 comments:

Hywel said...

Shwmai Prysor?
Post diddorol iawn. O ran ymgyrchoedd iaith, dwi'n meddwl bod mwy o bobl na be ti'n meddwl yn eiugefnogi oherwydd egwyddorion cenedlaetholdeb gweriniaethol ac economaidd. Yn sicr dyna fy rhesymau i dros gyfrannu at yr ymgyrch, nid rhyw genedlaetholdeb ddiwylliannol nad yw'n berthnasol i drwch poblogaeth Cymru. Dwi'n cytuno da ti nad oes digon o feirdd a llenorion yn codi llais yn erbyn y police state yr yden ni'n symud tuag ato, ac er fy mod yn cwympo ar fy mai nad ydw i wedi gwneud cymaint ag y dylwn, dwi wedi trio codi ymwybyddiaeth o apathi gwleidyddol yr yr awdlau dwi wedi eu sgwennu a'r 'diwylliant ofn' mae'r llywodraeth yn ei greu mewn cerddi ar radio cymru. Elli di ddadlau nad oes unrhywun yn eu darllen wrth gwrs! Ond, hwyrach os yw'r syniadau yma yn cael eu cyflwyno mewn awdlau ayb, y byddant yn ymdreiddio'n ara' bach i'r meddylfryd cyffredinol fel rhyw fath o 'entryism.' Mae'n gwbwl wir i ddweud bod lle i feirdd Cymru godi eu golygon yn rhyngwladol.
Beth bynnag, dwi'n mwynhau'r blog.
Hwyl,
Hywel

Dyfrig said...

Difyr iawn, a defnyddiol dros ben - o ystyried mod i'n crafu fy mhen yn chwilio am bwnc ar gyfer colofn olygyddol mis Mawrth.....

y prysgodyn said...

Diolch i chi'ch dau am gymryd diddordeb ac ymateb.
Derbyniaf yr hyn wyt yn ddweud yn llawen, Hywel.
Efallai y dylwn i ddarllen mwy o farddoniaeth y to newydd!
Sy'n codi'r cwestiwn, yn lle? (Dw i wedi rhoi fyny i brynu Barddas oherwydd yr erthyglau arteithiol o ddiflas sy'n rhygnu mlaen, am dudalennau, rhwng y cerddi!)
Byddai'n dda cael cyfnodolyn i lenyddiaeth radical yn bydda? Tu Chwith efo edge, a llai clici.
Hmmm... *gwenoglun bylb yn goleuo*