12/02/2009

Pŵl a pocer yn y Pafiliwn?

Mae'n bryd i geidwaid hunan-apwyntiedig ein diwylliant sylweddoli mai eu mewnblygrwydd unllygeidiog nhw yw'r bygythiad mwyaf, ar ôl y mewnlifiad, i'r iaith Gymraeg fel iaith fyw. Mae eu snobyddrwydd cymdeithasol ynghlwm yn eu snobyddrwydd diwylliannol, ac fel arall rownd. Mae nhw'n methu gweld na chydnabod diwylliant poblogaidd y mwyafrif fel diwylliant Cymraeg sy'n werth ei gynnal. Trwy hynny, mae nhw'n methu gweld bywydau, diddordebau a dyheadau y mwyafrif fel rhai Cymraeg gan 'bobl Cymraeg da'. Dydyn nhw ddim yn cyfri.

Be sydd yn cyfri iddyn nhw ydi'r diwylliant 'pur' capelaidd-eisteddfodol Cymraeg hwnnw sy'n marw ar ei draed oherwydd ei fethiant i gofleidio diwylliant poblogaidd (rhyngwladol a chynhenid) Cymraeg. Be sydd yn cyfri iddyn nhw, felly, ydi'r Gymru 'bur,' ramantus-wladaidd honno sy'n shrincio fel y sbotyn gwyn hwnnw ar yr hen setiau teledu, oherwydd ei amharodrwydd i wau elfennau mwy cyfoes, perthnasol a phoblogaidd i’r brethyn.

Y Cymry ceidwadol sy’n cyfri i’r ‘Daily Mailers’ Cymraeg 'ma – y bobol ‘neis’ sy’n anwybyddu’r barbariaid tu allan waliau’r winllan, tra’n coleddu esgyrn sychion ac yn cynnal y Drefn trwy eu bod-yn-neis-rwydd ffugbarchus, peidio-pechu-yn-gyhoeddus, cyllell-yn-y-cefn nhw. Ac er eu bod nhw'n lleiafrif tu fewn i leiafrif, a ddim hyd yn oed yn cynrychioli barn mwyafrif cefnogwyr selocaf eisteddfodau a thalyrnau llawr gwlad, a phethau eraill y mae nhw'n eu cyfrif yn 'wir ddiwylliant Gymraeg', mae nhw'n dal yn uchel eu cloch ac yn dal i gael eu gweld mewn swyddi dylanwadol, neu ar bwyllgorau a chynghorau, gan roi'r argraff mai rhyw ddosbarth diwylliannol 'diarth' ydi'r 'ruling class' Cymraeg, ac mai diwylliant diarth ac amherthnasol ydi'r diwylliant - ac, felly, yr iaith - Cymraeg.

Mae angen i'r Eisteddfod Gendlaethol roi arweiniad ar hyn, a denu cynulleidfa newydd trwy gofleidio cystadleuthau diwylliant poblogaidd – boed yn arferion cynhenid fel canu baledi, codi pwysau, tynnu rhaff, llifio coed, reslo, coits, cnapan, neu yn arferion rhyngwladol (ond cynhenid bellach) fel canu pop, hip hop, reggae, canu gwlad, ffilmiau byrion, barddoniaeth poblogaidd, llenyddiaeth boblogaidd, darts, snwcer, pel-droed.

Pam ddim? Pan mae'r Basgwyr yn trefnu gwyliau diwylliannol trwy gyfrwng y Fasgeg yn unig (ac yn denu torfeydd o 100,000 ar y diwrnod) mae nhw'n darparu rhywbeth i bawb. Waeth i neb drio deud wrtha fi fod yr Eisteddfod yn methu addasu. Mae hi wedi addasu gymaint ers dyddiau Iolo Morganwg, ac mae sgôp ei gweithgaredd mor bell o'r traddodiad eisteddfodol gwreiddiol ag ydi Apollo 9 i ap Iolo Goch. Felly be amdani? Pool a poker yn y pafiliwn, pawb? ;-)

7 comments:

Dyfrig said...

Dwi'n dueddol o gytuno efo chdi ynglyn a'r angen i gau'r gagendor rhwng diwylliant bob dydd y Cymry Cymraeg, a'r diwylliant "swyddogol". Ond dwn i ddim os mai ar faes y steddfod mae gneud hyn. Mi fyswn i'n licio gweld mwy o "fringe" yn tyfy o gwmpas y steddfod - digwyddiadau answyddogol, yn cael eu cynnal yn yr un dref, ac ar yr un wythnos - ond heb sel bendith yr un pwyllgor.
Wrth gwrs, mae hyn yn digwydd, a wedi digwydd ers blynyddoedd. Ond y tueddiad presennol ydi bod y steddfod yn trio tynnu bob dim i mewn i'r wyl swyddogol - er engrhaifft, drwy greu Maes B a Maes C, sydd wedi tanseilio'r traddodiad o gigs annibynnol.

Chris Cope said...

Dwi wedi meddwl ers sbel y dylai fod yna gystadleuaeth rygbi yn ystod Eisteddfod.

Alwyn ap Huw said...

1) Rwy'n cofio gweld gornest bocsio ym mhafiliwn y brifwyl dros 30 mlynedd yn ôl!

2) Trwy feio'r diwylliant pur capelaidd, rwyt yn dangos dy oed, Prys bach. Pobl Maes B '67 a Thwrw Tanllyd '73 yw hynafgwyr y Steddfod bellach - nid ieuenctid diwygiad '04.

3) Onid bai mwyaf y Steddfod yw ei duedd i ymddwyn fel anghenfil sy'n llyncu pob dim i un wythnos mewn Awst? Lle mae Ymryson y 50au, Talwrn y 70au, Stomp y 90au a Beirdd v Rapwyr y 90au?
Pob un wedi eu llyncu gan yr anghenfil!

Os oes angen gŵyl dartiau, snwcer, neu bŵl Cymreig (gemau'r canol oed bellach gyda llaw), pam na ellir eu cynnal fel gwyliau ar wahân yn hytrach na mynnu bod rhaid i bob gŵyl bod yn rhan o'r Genedlaethol?

y prysgodyn said...

1) briliant!

2) dwi'm yn beio'r "diwylliant pur capelaidd", ond y lleiafrif cul a cheidwadol oddi fewn iddo sydd ond yn cydnabod hwnnw fel diwylliant Cymraeg, ac sydd, ysywaeth, wedi eu gor-gynrychioli yn ein sefydliadau diwylliannol. Darllen eto, HRF, a rho dy sbectols ymlaen tro yma ;-)

3) dwi'm yn siwr be ti'n ddeud yn fan hyn, ond doedd dim Beirdd v Rapwyr yn bodoli yn y 90au

Yn olaf, pryd fuas di mewn noson darts neu pool ddwytha? Bobol ifanc ydi'r rhan fwya yn f'ardal i. Ond does wnelo hynny ddim a'r pwynt dwi'n ei wneud. Dwi'm yn son am ddarpariaeth i bobl ifanc yn benodol. Dwi'n son gydnabyddiaeth o ddiwylliant poblogaidd fel diwylliant Cymraeg. Fel prif sefydliad diwylliannol ein cenedl dylai'r Eisteddfod Gen ystyried darparu elfennau o ddiwylliant poblogaidd (fel oedd yn wneud yn y 19ed ganrif efo'r bandiau pres a chorau meibion - y y prif elfennau o ddiwylliant poblogaidd bryd hynny). Mae angen denu'r mwyafrif o Gymry Cymraeg i brif ffrwd diwylliannol Cymru. Mae'n hanfodol i berthnasedd diwylliannol-gymdeithasol yr iaith - a'i pharhad. Byddai arweiniad gan ein prif sefydliad diwylliannol yn gam pendant i'r cyfeiriad cywir.
Mae hunaniaeth y Gwyddelod wedi goroesi heb yr iaith, am fod ganddyn nhw elfennau eraill, fel gwrthryfel, annibyniaeth a DIWYLLIANT perthnasol i'w bywydau cyfoes (diolch i De Valera!).
Yr unig bethau sydd gennym ni Gymry ydy'r iaith, a'n diwylliant. Ac os nad yw'r ddau beth yn cael ei gysylltu, a'u bod yn ymddieithrio oddi wrth ei gilydd, mi farwith yr iaith (achos wnaiff diwylliant poblogaidd byth farw).

Ac ynglyn y pool, darts a poker yn y pafiliwn... Tafod, boch, yn.
???

Anonymous said...

Reslo!

Beth am rywbeth tebyg i hyn? Ie, ie a ie unwaith yn rhagor!

http://www.youtube.com/watch?v=3drnhlNZePU

;-)

y prysgodyn said...

Gwaedd uwch adlaedd, a oes heddwch!

Anonymous said...

Fuaswn i hoffi weld porno gyntaf yn yr iaith gymraeg - dwi o ddifri, rwyn fel Shay Hendrix, seren porno sy callu siarad rhywfaint o Gymraeg yn un enghraifft, dangos fod yr iaith yn perthyn i'r oed fodern go iawn. Siwr o codi gwrychyn rhai ar Taro Post agybl.