17/02/2009

Slogiadur

Peth da di'r Blogiadur. Diolch iddo mae gan flogwyr Cymraeg dudalen feed sy'n dangos eu pyst diweddaraf fel mae nhw'n eu sgwennu, ac mae gan ddarllenwyr a dilynwyr blogiau Cymraeg dudalen y gallant fynd iddi i weld os oes rhywbeth diddorol wedi ei sgwennu, er mwyn mynd yno i ddarllen. Mae'r Blogiadur, felly, yn darparu gwasanaeth hwylus ac effeithiol iawn.

Neu, mae o yn pan mae o'n gweithio'n iawn. Yn anffodus, dydi o ddim yn ddiweddar. Dydi o ddim heddiw, er engraifft. Mae o'n uffernol o araf. Does ond un cofnod blog o heddiw wedi cyrraedd ei dudalennau, a mae hi wedi troi hanner awr wedi dau y prynhawn.

Be di'r broblem? Dw i ddim yn gwybod, achos dw i ddim yn dallt y petha 'ma. Ond os yw ei berfformiadau diweddar yn unrhyw beth i gymryd i ystyriaeth, yna dylid ei ailenwi fo yn 'Slogiadur'.

2 comments:

Emma Reese said...

Dw i braidd yn falch bod Blogiadur ddim yn dangos eu pyst yn syth. Fedra i ddim cofio faint o weithiau y cywires i fy ngwallau oriau ar ôl postio.

y prysgodyn said...

Pwynt da, Emma.

(dw innau wedi gweld hynny yn handi un neu ddau o wiethiau hefyd. :-)