01/02/2009

Y 'Welsh Not' newydd?

Siarad efo'r plant heddiw, a dyma nhw'n deud nad oedd 'na ffasiwn air a 'toddi'. Cadarnhaodd y wraig, sydd bellach yn gweithio fel support mewn ysgol gynradd, fod ysgolion yn dysgu plant i beidio dweud 'toddi', gan mai 'ymdoddi' ydi'r gair iawn!

Wel ffyc mi!

"Ond mae o yn y geiriadur!" medda fi. Ac mae o 'fyd! A dim jesd yn y geiriadur newydd, ond yn yr hen un! Dwi'n dallt mai o 'ymolchi' rydan ni'n cael y gair 'molchi' ar lafar, fel mae 'pincio' a 'gwrthod' wedi dod o 'ymbincio' ac 'ymwrthod'. Ond o leia mae 'ymolchi' yn dal i gael ei ddefnyddio fel gair byw mewn rhai ardaloedd, ac mewn barddoniaeth a llenyddiaeth. Ac mae 'molchi' yn fwy o amrywiad llafar nag ydi 'toddi', sydd bellach yn ran o'r Gymraeg dderbyniedig.

Ond tydi geiriau fel 'ymwisgo' ac 'ymsythu' ddim yn eiriau cyfarwydd i ni erbyn heddiw, achos mae nhw wedi esblygu - fel mae ieithoedd wedi esblygu drwy'r oesoedd - i 'gwisgo' a 'sythu', fel mae 'ateb' wedi dod o 'ymateb', sydd bellach yn cael ei ddenfyddio efo ystyr chydig yn wahanol (react) - oedd ar un adeg yn golygu 'ateb' yn ogystal â hynny, mwya tebyg.

Ymdreiddio, ymgilio, ymdeithio, ymwrthod, ymatal, ymweld, ymofyn, ymarfer, ymaros, ymestyn, ymsathru, ymroi, diymdroi, ymlâdd, ymgymeryd, ymgecru, ymrafael, ymollwng... Deud gwir, ma'n siwr fod posib rhoi 'ym' o flaen sawl berf a gweld ei fod, mwya thebyg, wedi bod yn cael ei ddefnyddio mewn oesoedd a fu. Ond ddim rwan - dim yn y rhan fwyaf o engreifftiau, beth bynnag. Dw i ddim yn gweld unrhyw bwynt mewn cadw at hen ffurfiau marw o eiriau'r Gymraeg fodern. Ac yn sicr, dw i ddim yn credu mewn trio atal plant rhag defnyddio'r Gymraeg lafar naturiol maen nhw'n ei ddefnyddio o ddydd i ddydd.

Iawn - mwya tebyg fod yr athrawon, yn ddigon diniwed, yn gwneud dim mwy na thrio egluro iddyn nhw be ydi Cymraeg cywir, a does 'na ddim llawer yn rong yn hynny(!). Ond mae o wedi gneud i mi feddwl, unwaith eto, am yr hyn dw i'n ei weld fel gorbwyslais ar Gymraeg 'cywir' yn y Gymru academaidd a'r sefydliad llenyddol Cymraeg. Dwi'n siwr fod rhai ohonoch chi'n gyfarwydd iawn â'r dadleuon ffyrnig a phedantig diweddar am safon iaith y Gymru gyfoes - o bobl ifanc yn siarad 'bratiaith', a 'llenyddiaeth amrwd ac ansafonnol' rhai o'n awduron mwyaf blaengar, i hyd yn oed yn drafodaeth anfarwol yn nhudalennau barn ac ar donfeddi Radio Cymru am y ffaith fod cyflwynydd radio profiadol yn galw ei westeion yn 'ti' yn hytrach na 'chi'! (Dim byd i gymharu a be fysa fo'n licio galw rhai ohonyn nhw, mae'n siwr!).

Beth bynnag, ro'n i'n darllan adolygiad Elin Llwyd Morgan o Y Maison du Soleil gan Mared Lewis, yn Barn, y dydd o'r blaen. Roedd hi wedi mwynhau'r nofel, ond roedd hi wedi ei chythruddo gymaint efo un mater ieithyddol fel y bu rhaid iddi gynnwys y canlynol, "Dyma nofel arbennig o rwydd i'w darllen, er i'r faux pas ieithyddol 'gwallt llwyd' godi 'ngwrychyn mewn un man. Gwallt brith ydi'r term Cymraeg cywir, nid llwyd!"

Hmmm...

Be sy'n gwneud 'term Cymraeg cywir'? Henadur academaidd a gafodd ei addysg yn hanner cyntaf y ganrif ddwytha, neu gynt? Rhyw eiriadur llychlyd â'i argraffiad cyntaf adeg y Rhyfel Mawr? Neu ai'r bobl sy'n siarad yr iaith heddiw?

Achos rhywbeth deinamig ydi iaith. Mae'n cael ei newid gan ei siaradwyr ymhob cenhedlaeth, wedi'i dylanwadu gan ddatblygiadau'r oes ac arferion cymdeithasol, o dechnoleg i dueddiadau diwylliannol. Dyna sut mae ieithoedd byw yn esblygu. Mae ystyron termau - a geiriau hyd yn oed - yn newid, ac mae dywediadau a ffurfiau newydd ar eiriau yn cael eu bathu, a thermau ac ymadroddion yn cael eu mabwysiadau o ieithoedd eraill. Ac mae'r cynnydd yn y gallu i ddarllen, a'r twf mewn addysg uwch yn golygu fod pobl yn llawer mwy hyderus a hyblyg yn y ffordd mae nhw'n siarad - sy'n cyflymu sgyrsiau a thalfyrru geiriau ar lafar ac, yn y pen draw, yn ysgrifenedig.

Dwi'n sgwennu llenyddiaeth sydd, ar y cyfan, yn llafar a 'hawdd ei ddarllen' (term ydw i'n gyfforddus efo, er y gall fod yn derm nawddoglyd wrth ddisgyn o'r gwefusau 'anghywir'), a dwi'n berffaith hapus i gynnwys termau estron a Gymreigiwyd, a'r ambell i air Saesneg sydd yn rhy gyffredin i adael i gymeriad arbennig beidio ei ddefnyddio. Ond mi ydw i'n trio cadw draw o idiomau Saesneg diangen sy'n treiddio i mewn i fy sgyrsiau heb i mi sylwi (a diweddu i fyny yn fy ngwaith sgwennu, fel sydd newydd ddigwydd yn y frawddeg yma rwan, er engraifft). Ond os ydi'r idiom yn un sydd wedi sefydlu ei hun yn ddiffael fel idiom mabwysiedig-Gymreig, ac yn idiom y byddai'r cymeriad yn bendant yn ei ddefnyddio yn yr achlysur hwnnw, mi wnaf ei gynnwys. Achos pobl sy'n bathu geiriau a thermau. Gan ddiystyrru bratiaith llwyr ambell gymeriad, be mae pobl yn ei ddefnyddio yn eang a naturiol, ar lafar, ydi 'Cymraeg cywir'.

Waeth i ni heb a rhoi bag plastig du dros ein pennau a gobeithio y gwnaiff bwgan mawr y diwylliant Anglo grymus, sy'n rhuo fel ffwrneisi Mordor dros y ffin, fynd i ffwrdd. Da ni'n sownd i'r lle yn ddaearyddol a chymdeithasol, yn anffodus, ac yn cyfathrachu efo'i drigolion a rhannu naw deg y cant o'n diwylliant poblogaidd efo nhw. Fel mae ieithoedd yn dylanwadu ar ei gilydd, felly, dydi o ddim yn syndod fod rhai idiomau ac ymadroddion Susnag yn mynd i gael eu mabwysiadu gan y Gymraeg. Tydi hynny ddim yn dweud na ddylem ymdrechu i gynnal ein ymadroddion ac idiomau ein hunain, yn enwedig os yw'r rhai newydd-fabwysiedig yn disodli rhai cynhenid. Ond yn yr ymdrech i gynnal difyrrwch unigryw ein iaith, dylid gochel rhag caniatau i'r bwlch rhwng y Gymraeg a realiti dyfu mor fawr fel y bydd yr iaith yn dieithrio ei hun oddi wrth ei siaradwyr ei hun (ac mae hyn wedi digwydd, yn fy nghenhedlaeth i). Yn yr ymdrech i gynnal 'purdeb ieithyddol' mae 'na linnell y mae'n beryg i ni ei chroesi. Ac o groesi'r llinnell honno fe gawn iaith fydd wedi ysgaru oddi wrth ei siaradwyr - iaith fydd yn cael ei gweld fel alltud ymysg ei phobl ei hun. Iaith sywddogol, iaith arwyddion, iaith ffurflenni, iaith awdyrdod, iaith deallusion, iaith academwyr, iaith cyfraith a threfn, iaith capal, iaith coleg, iaith y sefydliad, iaith llenyddiaeth, iaith barddoniaeth... iaith ysgol... ond dim ein "iaith ni."

Dim iaith ei siaradwyr cyffredin (er y byddwn yn defnyddio rhyw fersiwn answyddogol, israddol ohoni i gyfathrebu â'n gilydd) gan y bydd hi'n darllen, swnio ac ymddangos yn wahanol. Ac mae hynny'n rhywbeth ofnadwy o beryglus i iaith sydd mewn sefyllfa mor gymdeithasol fregus ag yw'r Gymraeg. Roedd llenyddiaeth Cymraeg i gyd mewn Cymraeg ramadegol gywir, safonnol 'ddiarth' pan oeddan ni yn yr ysgol uwchradd (1979-84), ac o'r herwydd, er ein bod ni'n teimlo'n deyrngar tuag at ein iaith yn wleidyddol a chymdeithasol, yn ddiwylliannol prin oedd ein diddordeb mewn unrhyw beth trwy gyfrwng y Gymraeg. O ran llenyddiaeth, wnes i ddim darllen nofel Gymraeg rhwng gadael yr ysgol ac i mi ddarllen Cyw Haul a Cyw Dôl, gan Twm Miall, tra yn y carchar yn 1992.

Cododd y naws lafar - fel yr hiwmor a phynciau cyfoes - yn y ddwy nofel yma flas am fwy o lenyddiaeth Cymraeg, ac mi ddarllenais a mwynheais nofel Geraint Vaughan Jones, Yn y Gwaed, oedd, er yn fwy safonnol, yn llawn acenion y medrwn eu clywed yn fy mhen, a'u hadnabod. Roedd 'na ddrws wedi cael ei agor gan y llenyddiaeth llafar ddarllenis i gan Twm Miall, a buan iawn ro'n i'n awchu am fwy, ac yn darllen gwaith llafar ei naws gan Eirug Wyn ac eraill. Roedd 'na berthnasedd newydd i'r Gymraeg i mi - oedd yn golygu y gallwn uniaethu â'r iaith ar lefel newydd, sef un diwylliannol, cyfoes. Mwya sydyn, roedd y Gymraeg yn fwy na chyfrwng cyfathrebu. Daeth mwy o werth iddi - a mwy fyth o achos i frwydro dros ei pharhad.

Mae na filoedd o bobol fel fi, cannoedd o'r un ysgol â fi yn nhref Gymreiciaf Gwynedd. Dwi wedi siarad efo llwyth sydd wedi dod ata i i son am hyn, ar ôl iddyn nhw ddarllen fy nofelau a chael yr un profiad ac a ges i wrth ddarllen Cyw Haul. Fel y peidiodd roc a rôl trwy gyfrwng y Gymraeg a bod yn ddiarth i ni, tydi llenyddiaeth Cymraeg ddim yn rhywbeth diarth rwan. Efallai bod y maes swyddogol Cymraeg yn dal i fod, ond o leia mae 'na wal arall wedi cael ei ddymchwel.

Mae 'na ddigon o ffactorau cymdeithasol a diwylliannol dychrynllyd o rymus yn tanseilio perthnasedd - a defnydd - y Gymraeg ymysg pobl ifanc a phlant y dyddiau hyn, felly dychmygwch y dinistr y gall gael ei achosi os y gwneir y Gymraeg ei hun ymddangos yn ddiarth i'w siaradwyr. A dyna lle dwi'n gweld y perygl posib os y parhair â'r duedd diymadferth tuag at snobyddiaeth ieithyddol ymysg y sefydliad academaidd a llenyddol. Os na fyddwn yn ofalus, gall gweithred mor bitw â beirniadu awdur am ddewis term cyfoes neu lafar am liw gwallt cymeriad mewn nofel, gyfrannu at broses o gwsg-gerdded yng nghysgod y snobs ieithyddol tuag at ynysu llenyddiaeth Cymraeg oddi wrth ei siaradwyr unwaith eto. Ac fe all doctrineiddio plant eu bod yn siarad Cymraeg anghywir wrth ddefnyddio'u geirfa Gymraeg naturiol - waeth pa mor ddiniwed y cymhellion - arwain at rhyw fath o 'Welsh Not' newydd, gwyrdroedig, ble mae iaith naturiol y plant yn cael ei stigmateiddio, a rhyw Gymraeg academaidd, 'hen ffasiwn' - diarth - yn cael ei 'stwffio i lawr eu gyddfau'.

Yn wyneb yr holl ffactorau allanol sy'n newid agweddau mewnol y genhedlaeth nesaf tuag at y Gymraeg, gall y math yma o ymgais ddiniwed-yr-olwg i gynnal 'purdeb ieithyddol' fod y gwelltyn fydd yn torri cefn yr iaith. Be sy'n drist o eironig yw mai o'r tu mewn, ac nid o'r tu allan, fydd y gwelltyn olaf hwn yn dod. Mae'r feddyginiaeth y mae'r Gymraeg ei hangen yn feddyginiaeth sydd angen y mesurau cywir a mwyaf gofalus. Gall fod yn beryglus iawn i iechyd y claf. Llwyaid yn ormod yn fan hyn, neu lwyaid yn y lle a'r amser anghywir, ac fe all ei chondemnio i farwolaeth poenus ac erchyll. Ac mae hyn i gyd yn dibynnu ar ddoethineb a phrofiad y doctor. Yn bersonol, byddai'n well gen i roi fy ffydd mewn doctoriaid sydd yn deall natur y claf, nid yn yr academwyr mewnblyg ac ynysig, sy'n methu'n lân a meddwl y tu allan i'r bocs.

6 comments:

Gwybedyn said...

On'd yw'r rhagddodiad ym- yn y rhan fwyaf o'r achosion hyn yn cyfleu fod y ferf yn atblygol (h.y. taw'r un sy'n gwneud y peth yw gwrthrych y ferf hefyd)?

H.y., byddet ti'n "gwisgo dy blentyn" ond yn "ymwisgo (dy hun)"? "Ymolchi (dy hun)" ond "golchi dy gar", etc.

Yn yr un modd on'd oes 'na wahaniaeth ystyr rhwng "ymwrthod" a "gwrthod"? - bydd rhywun yn "ymwrthod (rhag rhywbeth)" ond yn "gwrthod rhywbeth" yn uniongyrchol.

Yr un peth gyda "toddi" ac "ymdoddi", 'mwn i - on'd yw rhywbeth yn "ymdoddi" *i rywbeth arall*" tra gelli dithau a minnau *doddi* rhywbeth (megis menyn mewn padell)?

Mewn achosion eraill, bydd ym-, mae'n debyg, yn gilyddol (yn dynodi fod y weithred yn digwydd ar wrthrych *arall*: 'ymladd', 'ymryson', 'ymweld, 'ymosod'

Beth bynnag yw'r rheswm, peth od iawn i'w wneud ydy dweud bod "toddi" yn 'anghywir'. Nid menyn ond ymennydd rhywrai sy'n toddi, wedwn i!

Anonymous said...

Mae hefyd yn broblem i ddysgwyr, sy'n dysgu iaith swyddogol a darganfod wedyn nad oes neb sy'n ei siarad ar lafar.

y prysgodyn said...

llygad dy le, Szczeb!

Mae'n siwr mai'r rheolau wyt yn eu crybwyll sydd i fod i bennu hyn (tydw i ddim yn deall nag adnabod rheolau gramadeg, ond ti'n gwneud synnwyr perffaith i mi).

ond, fel ti'n dweud, y mwya ti'n meddwl am y peth y mwya ti'n sylwi fod y rheolau ddim yn cael eu dilyn bob tro. Canlyniad pobl yn defnyddio iaith lafar, a iaith yn esblygu efallai?

Dwi newydd gynnwys mwy o eiriau i'r rhestr ar y cofnod (daeth llu i fy meddwl yn y gwely ganol nos!). :-)

Anonymous said...

Diddorol iawn, Prys.

'Dw i'n siwr dy fod yn gyfarwydd â gwaith Cen Williams a'i lyfr Cymraeg Clir. Mae o'n defnyddio'r term cywair iaith i ddisgrifio'r math o iaith y byddwn yn ei siarad neu'n ei sgrifennu mewn gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae'n bwysig penderfynu ar y cywair mwya' addas ar gyfer sefyllfa, ac wedyn cadw'n gyson at y cywair hwnnw. Syniad reit syml, ond ydy? Mae'n bechod nad ydy llawer o athrawon ysgol yn ei ddallt o.

Yng Nghaernarfon, 'dw i'n nabod nifer o rieni sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, ond sy'n darllen y fersiwn Saesneg o unrhyw lythyr gan yr ysgol, oherweydd bod y fersiwn Cymraeg yn hollol annealladwy iddyn nhw.

Beth yw pwrpas llythyrau o'r fath? 'Dw i'n amau bod rhai'n defnyddio'r cywair mwya' furfiol fel arf cymdeithasol er mwyn cadw statws a rheolaeth. Ond hen Farcsydd ydw i!

Ti'n gywir. Y Welsh Not newydd yw hwn, ac yn fwy effeithiol na'r hen fersiwn.

Cer i Grafu said...

Ti'n gywir. Y Welsh Not newydd yw hwn, ac yn fwy effeithiol na'r hen fersiwn.
---------------------------------
Fyswn i ddim yn cytuno bod yr hen fersiwn yn fwy effeithiol na’r hen fersiwn.

Bai’r hen fersiwn sydd y tu ôl i’r ofan sydd gan gymaint o Gymry i ysgrifennu Cymraeg a dyna un o’r rhesymau pam bo nhw’n gwrthod pob fersiwn ysgrifenedig ohoni - ac mae ei dylanwad negyddol wedi ein llesteirio ers degawdau a rhagor.

Dyw puryddion iaith ddim yn derbyn cyweiriau – pob tro mae Cymro yn rhoi pin ar bapur mewn iaith lafar sy’n gwyro oddi wrth yr iaith lenyddol glasurol, mae’n agor y drysau i ymosodiad beirniadol eisteddfodol. Sdim syndod bod cynlleied o bobol yn folon mentro ysgrifennu yn y Gymraeg.

Yr iaith lafar ddylai fod yn sail i’r iaith lenyddol ond nid felly y mae yn y Gymraeg. Mae pawb yn dysgu siarad cyn dechrau ysgrifennu, wedi’r cwbwl, a dyw derbyn iaith annaturiol hen ffasiwn yn dda i ddim. Mae angen iaith safonol ond nid un na all ddatblygu a newid oherwydd rheolau sydd wedi ymgaregeiddio fel yn y Lladin Glasurol.

Mae pob iaith lafar a phob tafodiaith â gramadeg yn perthyn iddi. Mae pawb yn deall gramadeg wrth reddf – methu deall y termau technolegol sy’n disgrifio’r rheolau y maen nhw. Mae gan bawb hawl i roi barn ar dueddiadau ieithyddol.

Mae rhywun wedi dechrau blog sy’n ceisio trafodaeth ar y pwyntiau sy’n cal eu codi gan Dewi:

http://trafodiaith.blogspot.com/

Dylai pawb roi eu barn – mae iaith yn perthyn i bawb.

Huw said...

Er fy mod yn casáu aralleirio'r Gymraeg i'r Saesneg yn lle egluro'n y Gymraeg, ymdoddi buasai'n cyfleu'r weithred o 'disolve' a toddi newid rywbeth solid i ffurf mwy meddal neu hylifol - 'melt'.

Y broblem, yn fy marn i, yw fod y rhanfwyaf o blant o dwad o gartrefi di-Gymraeg ac o ganlyniad yn ffaelu clywed iaith lafar naturiol. Aent i'r ysgol a dim ond dysgu iaith ffurfiol gwerslyfraidd, mae neb yn ei siarad.

Dwi'n tueddu i weld pobol sy'n dweud fod dogfennau sy'n cynnwys Cymraeg ffurfiol a methu ei ddeall yn esgus i guddio eu diffyg o ddarllen llenyddiaeth.